Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

GWEITHFEYDD MORGANWG A MYNWY.

LIVERPOOL.

YSGOLORIAETH GERDDOROL MR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YSGOLORIAETH GERDDOROL MR JOHN THOMAS (PENCERDD GWALIA). Mae'n wybyddus i'n darllenwyr fod ein cyd- wladwr enwog Pencerdd Gwalia wedi bod wrthi yn galed er's blynyddau, ac o'r diwedd wedi llwyddo i gasglu mil o bunau er sefydlu yigoloriaeth gerddorol rad yn y Royal Academy of Music, Llundain, i fechgyn a merched Cymreig. Mae'r ysgoloriaeth i'w dal am dair blynedd, ac i fod bob yn ail yn lleisiol ac offer- ynol. Penderfynwyd fod y cynyg cyntaf yn cael ei roddi i'r merched (lleisiol), a chymerodd yr arholiad le dydd Sadwrn diweddaf yn Llun- dain. Nodwyd Pencerdd Gwaiia, Syr George Macfarren, Signor Garcia, Signor Randegger, a Mr Cox, yn arholwyr. Anfonodd pump o fon- eddigesau eu henwau i mewn, ond dim ond pedair ddaeth yn mlaen i sefyll arholiad ac enw y foneddiges fuddugol yw Miss Annie Elizabeth Griffiths, o Pont Menai. Dywedir ei bod yn feddianol ar lais contralto: ardderchog. Deallwn ei bod yn aelod o Gor y Penrhyn, yr hwn a gipiodd y brif wobr yn Eisteddfod Caer- dydd. Yr oeddem yn dysgwyl y buasai nifer lluos- ocach na phump wedi dyfod i'r maes ond pan gofiom fod yr holl ferched Cymreig sydd yn derbyn addysg yn bresenol yn y Royal Aca- I demy a'r Metropolitan School of Music wedi eu can allan o'r gystadleuaeth gyda'r amcan o roddi cyfleustra i ddwyn rhyw dalent newydd o'r Dywysogaeth; a phan gofiom hefyd fod yn rhaid i'r foneddiges a enillai yr ysgoloriaeth gynal ei hun tra yn derbyn ei haddysg, ac mai hon oedd y gystadleuaeth gyntaf; wrth gymer- yd y gwahanol bethau yna i ystyriaeth, diau fod y nifer yn llawn cymaint ag a allesid ddys- gwyl o dan yr amgylchiadau. Hyderwn y bydd llwyddiant Miss Griffiths yn gyfryw ag a rydd symbyliad i nifer lluosocach i barotoi er- byn y gystadleuaeth nesaf.

CAERDYDD.

CAERPHILI.

Advertising

Newyddion Cyffredinol.

Advertising