Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

GWEITHFEYDD MORGANWG A MYNWY.

LIVERPOOL.

YSGOLORIAETH GERDDOROL MR…

CAERDYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CAERDYDD. Dydd Llun, Medi 17eg, gwnaeth yr agerlong newydd Anne Thomas ei phrawf-fordaitb, yr hen a drodd allan yn hollol foddhaol. Adeiladwyd hi gan Meistri Palmer, Jarrow-on-Tyne, i orders y Meistri Thomas a Radcliffe, Caerdydd. Perthyn i'r dosbarth ucbaf o longau yn Lloyd's, 100 Al, a chluda 2,100 tunell dead weight. Y mae wedi ei chyflenwi a. phob gwelliantau diweddar, a'i chymhwyso yn mhob modd dichonadwy ar gyfer trafnidaeth yr oes. Llwythwyd hi yn Jarrow, a chychwynodd ar unwaith ar ei mordaith i Cork, o ba le y dychwel i Gaerdydd i gychwyn ar fordaith i for yr Azoff. Y mae yr un firm enwog o long-adeiladwyr yn adeiladu amryw o longau ereill i'r ddau Gymro parchus ac anturiaethus y Meistri Thomas a Radcliffe, o Gaerdydd. Da genym weled cyd- wladwyr i ni yn dyfod yn mlaen i rwystro holl gyfoeth Cymru i fyned i law estroniaid, a da ¡ genym weled fod eu cydgenedl yn eu cefnogi mor galonog. Os yw Cymru i ymddyrchafu yn y byd, rhaid i'r brodorion gynorthwyo eu hunain a chynorthwyo eu gilydd, yn lie rbedeg yn wyllt, er gofid iddynt yn y diwedd, i ddwylaw anturiaeth- wyr estronol, y rhai a ddeuant i Gymru mor dlawd a chardotwyr, ac a ant oddiyma mor gyfoethog a thywysogion. Dymunwn lwyddiant o'n calon i boh firm onest Gymreig sydd yn ymdrechu gwneyd i ffrwd masnach Gymreig i droi yn fantais a budd i'r brodorion. GOHEBYDD.

CAERPHILI.

Advertising

Newyddion Cyffredinol.

Advertising