Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

GWEITHFEYDD MORGANWG A MYNWY.

LIVERPOOL.

YSGOLORIAETH GERDDOROL MR…

CAERDYDD.

CAERPHILI.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CAERPHILI. Tref Henafol Caerphili.—Bernir fod y dref hon yn un o'r henaf yn Nghymru, ond ei bod wedi ei helaethu yn fawr yn ddiweddar—Uuosogi yn ei thai ac yn ei thrigolion. Y mae yma chwech o addoldai hardd a phrydfertb, cynulleidfaoedd lluosog, ac Ysgolion Sabbothol llewyrchus, a chrefydd a moes ar y cyfan yn uchel yn y lie. Mae y Sunday Closing wedi gwneyd lies mawr eisoes yma. Y mae ychydig bersonau, er hyny, gwancus am gwrw yn ymlvvybro i'r Bedwas, yn sir Fynwy, ambell Sabboth i ddylenwi eu hunain a'r drwyth feddwol, ac y maent ar amserau am fod yn fwy cyhdeddus nag sydd weddus iddynt wrth ddychwelyd. Capel Bethel.-Y mae'r addoldy hwn wedi myn'd dan adgyweiriad yn ddiweddar. Cafodd ei adgyweirio, ei baentio, a'i lanhau, a myn rhai ei fod yn harddach nag y bu erioed, yn enwedig oddiallan. Y mae'r crefftwyr, Daniel Gibbon a'i Fab, wedi gwneyd eu gwaith yn. rhagorol, a Mri H. Anthony ac E. Jones, wedi arolygu yr oil yn wir foddhaol. Rhoddwyd yr addurniadau yn ac ar y pwlpud gan Mrs Anthony, Bryn Canydd, yn rhad ac am ddirn. Cawsom y fraint o ddychwelyd i'n capel y Sabboth cyn y diweddaf, a phawb yn barod i ddywedyd, Da yw i ni fod yma." Y nos Fawrth a'r dydd Mercher canlynol, cynaliwyd ein cyfarfod blynyddol, pryd y pregethwyd gan y Parchn D. Jones, B.A., Abertawy; T. Evans, Roath, Caerdydd; a J. Volander Jones, New Tredegar. Yr oedd y cenadan wedi eu gwisgo A nerth o'r uchelder; yt* oedd y cynulleidfaoedd yn lluosog iawn yn mhob cyfarfod, a'r noson olaf yn boenus o lawn. Y Cynhauaf.—Y mae arwyddion rhagorol ar y cynhauaf yn y gymydogaeth hon. Y tebygol- rwydd yw y caiff yr amaethwyr yr oil i mewn yn fuan i ddiddosrwydd, a byny mewn tymher hyfryd. "Beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau i mi ? GOHEBYDD.

Advertising

Newyddion Cyffredinol.

Advertising