Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

GWEITHFEYDD MORGANWG A MYNWY.

LIVERPOOL.

YSGOLORIAETH GERDDOROL MR…

CAERDYDD.

CAERPHILI.

Advertising

Newyddion Cyffredinol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Newyddion Cyffredinol. Mae y gas works yn Manchester yn eiddo y Gorffor- aeth, ac yr oedd yr enill yn y denddeng mis diweddaf, ar ol talu pob treuliau, a'r yn ^699,489. Traddodwyd dyn o'r enw McDermott yn Manchester, y dydd arall, i sefyll ei brawf am ladd ei fab mewn ym- rafael feddwol. Torodd tan allan mewn rhan o Constantinople, dydd MArcher diweddaf, ac ymledodd nes llwyr ddinystrio dros 300 o dai. Fel yroeddd y chwareu yn myned yn miaen y nos o'r blaen mewn chwareudy yn Vienna, syrthiodd yr oriel, gan daflu pawb oedd arni ar benau y rhai oeddynt ar y llawr. Y syndod yw na laddwyd neb, ac na chaf- odd neb niwed neillduol. Trowyd dyn meddw allan o dafarn yn Wigston y nos arall, a boreu tranoeth cafwyd ei gorff mewn cam- las ger Haw. Aeth dyn i ariandy yn Liverpool i dderbyn JJ40 oedd yn dyfod iddo. Mewn camgymeriad rhoddwyd iddo 4 note am £100, yn lie ZCIO yr un. Aeth ar ei union am drip i'r Isle of Man, ond yn anffodus iddo gosododd heddgeidwad ei law ar ei ysgwydd tra yn mwynhau ffrwyth y camgymeriad. Ar un o ddyddiau yr wythnos ddiweddaf, aeth Gwyddel i mewn i Swyddfa y Consul- Prydeinig yn New York, a gollyngodd ato ddan ergyd o lawddryll, yna rhedodd allan, ond daliwyd efyn fuan. Dywedodd mai ei enw oedd John A. Feeney, ei fod yn dyfod o Canada gyda'r bwriad o saethu y Consul am gabldraeth arno. Bernir ei fod yn wallffofddyn ffoedig. Ni dder- byniodd y Consul niwed uwchlaw y braw a gafodd. Ganwyd plentyn i wraig digartref ar yr heol yn Nghaerdydd yr wythnos ddiweddaf. Cymerwyd y ddau i'r tlotdy. Adwaenem un a anwyd ar ben y coach mawr rhwng Abergafeni a Dowlais, flynyddau yn 01. Ymwelodd ystorm gref a Dublin dydd Mercher di- weddaf, gan yr hon y diwreiddiwyd coedydd mawrion, ac y dymchwelwyd Hawer o dai, gan beri colledion mawrion. Yn llys mln-ddyledion Caer, dygwyd cwyn gan un Mr Fleet yn erbyn y Salvation Army am aflonyddn arno yn ei d;t, a hawliai £50 o iawn. Ymddengys fod yr adran hon o'r Fyddin wedi Ilogi llofft ysgubor yn ymyl ty y boneddwr, a bod en rhialtwch a'u twrw Rvda'u hofiferynau cerdd yn aflonyddu ar y tenia. Barnodd y barnwr fod yr aflonyddwch yn anghyfreith- lon, a dirwywyd y Fyddin i dalu swllt o iawn, gan mai amean Mr Fleet oedd yn unig cael profi yr achos fel test case. Felly nid oes gan y Fyddin ystwrllyd hawl i aflonyddu ar deuluoedd wrth addoli yn en ffordd drystfawr. Bu tri o swyddogion Byddin lachawdwriaeth Cwm Rhondda yn ngharchar Caerdydd am wythnos yn ddi. weddar, am nad ymostyngent i'r awdurdodan gornchel i dalu swllt yr un o ddirwy am gymeryd mwy na'u rhan deg o'r ffordd fawr. Er eu bod yn addoli af y ffordd fawr, rhaid iddynt ganiatan lie i ereill hefyd i ddefnyddio ffordd y brenin. Mae awdurdodan lIeol Chamberg, Ffraihe, wedi der- byn gorchymyn oddiwrth y Llywodraeth i fwrw y Salvation Army allan o'r lie, os bydd iddynt drwy en hymarferion beryglu yr heddwch cyhoeddna. Bu farw Syr Henry Darvill, clero trefol Windsor, nos Snl.-Tra.ddodir anerchiad i'r Birmingham Junior Liberal Association gan Syr Charles Dilke, ar y 7fed o Ragfyr. Bydd Mr Chamberlain yn siarad hefyd.- Aeth dyn o'r enw Davies yn wallgof mewn cyfarfod Byddin Iachawdwriaeth yn Hanley, dydd Sadwrn. Cymerwyd ef i'r gwallgofdy. Mae canoedd o aceri o lafnr o dan ddwfr rhwng Boston a Lincoln, oherwydd y gwlawogydd mawrion dyddiau Sadwrn a Sul.-Yo llys Edinburgh, dydd Llun, eyhuddwyd cigydd o'r enw George Farquhar, am osod ar werth 82 pwys o sauages wedi en gwnenthur o hen geffyl. Gosodwyd arno dalu .£20, nen 60 diwrnod o garchar. Mae Miss Charlesworth a Miss Booth, a rhai ereill sy'n perthyn i Fyddin Iachawdwriaeth, ar eu prawf yn Geneva am gynal cyfarfodydd yno ar ol cael rhybudd i beidio.—Yn Dublin, mae merch 18 oed ar ei phrawf am bigamy. Mae yr Ymherawdwr Germanaidd yn 87 mlwydd oed.-Bydd Syr Moses Montefiore yn gan' mlwydd oed mewn ychydig wythnosau. Maeyn byw yn Rams- gate, ac yn mwynhau iechyd rhagorol.—Mae benyw yn byw yn y Dauphine yn 123 mlwydd oed. Ychydig yn ol dathlwyd ei phriodas gan'mlwyddol. Cyhoeddir fod agoriad y Coleg Gogleddol i gymeryd Ile yn Ionawr nesaf.—Nos Sadwrn diweddaf, yn ngor- saf Coolidge, Kansas, America, tra yr oedd y tren yn aros i'r peiriant gymeryd dwfr i mewn, ymosodwyd ar y tren gan ysbeilwyr. Am i'r gyrwr wrthod rhoddi i fyny y peiriant iddynt, saethwyd ef i farwolaeth, ac mae y tanwr wedi ei saethu yn ofnadwy o beryglus. Diiiunwyd y teithwyr o'u cwsg, a daethant aDan; ond ffodd yr ysbeilwyr heb gael dim o'r trysor. Mae mil- ffodd yr ysbeilwyr heb gael dim o'r trysor. Mae mil- oedd o wirfoddolwyr ar ea hol, ond y mae yn ofnns y bydd y lladron wedi dianc i fynyddoedd Colorado.

Advertising