Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

GWEITHFEYDD MORGANWG A MYNWY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWEITHFEYDD MORGANWG A MYNWY. Ar y laf o fis Medi, rhoddwyd rhybuddion allan yn Ngweithiau Haiarn a Dur Dowlais, Rhymni, Tredegar, Ebbw Vale, Blaenafon, &c., y buasai pob contract yD terfynn yn mlien. mis. Yr oedd pawb yn deall mai gostyngiad pris a olygid wrth y rhybudd, ac erbyn dydd Sadwrn diweddaf cafwyd ar ddeall yn y gwahanol weithfeydd y buasid yn gostwng deg y cant yn yf adran gyffredinol, a pump y cant i'r mechanics. Yr oedd y rhan fwyaf o'r gweith- feydd uchod yn segur dydd Llun, a chynaliwyd cyfarfod yn y prydnawn yn Nantybwch, yn agos i Tredegar, fel man canolog, er mwyn cymeryd i yatyriaeth sefyllfa pethau, a phenderfynu pa lwybr i gymeryd. Yr oedd yno unoliaeth lied gyffredinol i sefyll yn erbyn y gostyngiad o ddeg y cant, ond yn foddlon i dderbyn y pump, a nodwyd cynrychiolwyr i ymweled a'r meistri. Yn Dowlais, teimlad cyffredinol y gweithwyr yw derbyn y gostyngiad, gyda'r eithriad o bobl y ffwrneisiau. Maent hwy yn dal yn gyndyn, ae yn gwrthod gweithio ar y gostyngiad. Mae sefyllfa pethau yn edrych ar hyn o bryd yn wgus a thorcalonus. Hyderwn y daw y meistr- iaid a'r gweithwyr i ddealltwriaeth boddhaol cyn diwedd yr wythnos, ac na welir byth eto yn Ngwent na Morganwg na sefyll allan na chauad allan.

LIVERPOOL.

YSGOLORIAETH GERDDOROL MR…

CAERDYDD.

CAERPHILI.

Advertising

Newyddion Cyffredinol.

Advertising