Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

I-LLANDILO.!

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANDILO. Y Bazaar.-Rhoddodd Arglwydd ac Arglwyddes Dinefwr esiampl dda i fawrion ein gwlad trwy agor eu palas i gynal y bazaar ardderchog yno ar Medi 5ed a'r 6ed, elw pa un oedd i'w drosglwyddo i glirio'r ddyled yn nglyn Ag adgyweirio clochdy y LIan a'r Ysgoldy Genedlaethol. Telid swllt yr un am fyn'd i'r palas, ac yr oedd yr Uchel Eglwyswyr wedi casglu rhyw doraeth o nwyddau amrywiol anghymharol yno. 0 fewn y palas yr oedd dwy babell, y naill yn cynwys man greadur- iaid, a'r llall yn orlawn o flodau a llysiau amrywiol mewn llestri, a'r cwbl wedi eu prisio yn barod. Ymwelwyd a'r palas y ddau ddiwrnod gan nifer luosog o bob gradd, ac yr oedd y cymhelliadau i brynu ar bob llaw, o'r geiniogwerth i fyny, yn neillduol gyda'r boneddigesau, yn ddigon i ddotio dyn cyffredin, ac yn gymhelliad iddo fod yn daer a gwynebagored yn ei fasnach, bydded fach neu fawr. Yr oedd lluniaeth a gwinoedd hefyd ar werth yn y palas, fel y gallai yr ymwelwyr fwynhau eu hunain; ond am yr art gallery oedd yno, gwell peidio dyweyd dim. Ar y pare ger llaw yr oedd dwy babell gan y Carmarthenshire Bee Association, yn mha rai yr arddangosid gwenyn, mel, &c., ac y rhoddid gwobrwyon am y goreuon. Yr oedd y gerddi a'r castell hefyd yn agored am dal o chwecheiniog yr un. Deallwn fod yr elw wedi cyrhaedd uwchlaw £400. Dirwest.-Ni chafwyd erioed well darlith ar y testyn hwn yn y Llan yma nag a gafwyd gan Plenydd y nos o'r blaen yn hen gapel y Method- istiaid, pryd y cadeiriwyd gan y Parch D. Morgan (T.C). Yn anffodus, yn herwydd arwerthiant y "Cheap John," a'r canoedd pleserdeithwyr oedd o Abertawy yn y dref y noson hono, nid oedd y cynulliad yn fawr; ond yr oedd yno fwy o ddystawrwydd, ddigon tebyg trwy hyny, a'r gwrandawyr yn fwy astud ac effeithiol i godi hwyl y darlithydd. Holl ieuenctyd hardd ein broydd, Mynweh gyfle i wrando Plenydd. Arwerthiant.-Deehreu y mis diweddaf, am y waith gyntaf, gwnaeth Mr Pugh, Green Hill, arwerthiant ar ran o'r stoc sydd ganddo ar fferm Manoravon. Yr oedd boneddigion a ffermwyr wedi casglu yno o bob rhan o'r wlad, a chawsant eu synu yn fawr i wel'd y fath gyfienwad belaeth o anifeiliaid o'r rhywogaeth oreu, ac hefyd at y lie pwrpasol a'r modd glan y cedwid hwy. Yr oedd yno rai yn sisial ei fod bron bod i fyny ag Arglwydd Tredegar yn ei fferm. Yr oedd y prisoedd yn cyrhaedd yn ucbel am y da, y ceffylau, a'r defaid. Prynwyd un aner dew yno gan Mr D. Stephen, cigydd, Llandilo, am < £ 67. Y Tabernacl.- Y Parch B. Williams, Canaan, oedd yn pregethu gyda'r Parch D. Jones, B.A., Abertawy, yn nghyfarfod blynyddol y Tabernacl eleni, sef y trydydd Sabboth yn Medi, a'r noson ganlynol. Yr Arddangosfa.—Yr oedd yr Arddangosfa Amaethyddol eleni, pa un a gynaliwyd Medi 26ain, yn rhagori mewn llawer ystyr, heblaw ei bod yn llawer mwy lluosog o anifeiliaid na'r un ar- ddangosfa flaenorol. Yr oedd amryw foneddigion o Loegr yn bresenol, a chawsant eu synu i weled cystal anifeiliaid, yn neillduol ceffylau gwedd a da duon a ddangoswyd. Golygfa ddymunol oedd yr un oedd yn nhy'l' farchnad hefyd, sef amrywiol ffrwythau a llysiau gerddi. Ymddangosodd enwau y gwobrwyedig yn y papyrau dyddiol tranoeth, fel na ddysgwylir eu cyhoeddi yma. Yn y prydnawn yr oedd y giniaw flynyddol yn y Cawdor Arms, a siaradwyd ar y diwedd gan Arglwydd Dinefwr, Arglwydd Emlyn, A.S., Mr D. Pugh, Milwriad Morgan, ac ereill. Ewyllys Syr John Mansal.—Medi 17eg, profwyd ewyllys y diweddar Farwnig o Maesdilo, pa un a wnaed ganddo ar yr 2il o Chwefror diweddaf, tua. deg wythnos cyn ei farwolaeth. Mae ei ystad yn siroedd Caint a Chaerfyrddin yn werth dros £ 9 000, a gadawodd ei eiddo yn y blaenaf, yn cynwys ei balas (Wrotham Heath) a phobpeth cysylltiedig ag ef, yn nghyda .£5,000, i'w weddw, Maria Georgina Mansel, tra byddo hi byw, ac yna bydd yr oil i'w merch Elizabeth, ar yr amod ei bod i dalu X5,000 i'w chwaer, Mrs Maria Medlycot. Cyflwynodd ei ystad, &c., yn yr olaf (Maesdilo) i'w ferched, Elizabeth a Mary Jane Mansel, a. rhoddodd y swm o X200 yr un i'w gymyn- weinyddwyr (executors), sef Mri Frederick Henry Cator a Edward Banister. IVOR ABERCENEN.

ABERTEIFI.

YR YD.

YR YMBORTH.

YR ANIFEILIAID.

OENADON MADAGASCAR. -