Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

YR YSGOL SABBOTHOL. -

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

YR YSGOL SABBOTHOL. Y WERS EHYffGWLADWKIAETHOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH. D. OLIVER, TREFFYNON. HTDRpp 7.-Marwolaeth Eli.-l Sam. iv. 1-18. Testyn Euraidd.—" A hi a ddywedodd, Y erogon- iant a ymadawodd o Israel canys arch Daw a ddal- iwyd."—Adnod 22. RHAGARWEINIOL. Y MAE y rhagddywediadan am ddinýstr t$Eli yn de- chren cael eu cyfiawni, Yr oedd Samuel eisoes yn cael ei gydnabod fel proffwyd yn Israel, ond nid oedd eto yn ddigon hen i gymeryd yr awenau yn ei law fel bamwr. Yr oedd Eli ynfyw, adiau nafynasai Samuel wneyd dim a fnasai yn ymddangos yn sarhad ar Eli. Yr oedd ei serch ato yn gryf, a'i barch iddo yn ddwfn. Rbaid fod Samuel yn teimlo oddiwrth wendidau Eli gymaint a neb, ond nid oedd yr amser wedi dyfod eto iddo weithreda. Parhaai Hophni a Phinees, dau fab Eli, i gyflawni en gweithradoedd anfad, a hyny yn liglf n A gwasanaeth cysegr yr Arglwydd. Suddai y genedl yn raddol i eilnnaddoliaeth a llygredigaeth. Oedwyd y cyflawniad o'r bygythion yn erbyn t £ Eli am beth amser. Ond o'r diwedd disgynodd y ddyrnod gyda sydynrwydd. Torodd rhyfel allan rhwng y Philistiaid ac Israel. Rhuthrodd meibion Eli i'r gad. Cyrchaaant arch Daw i'r gwersyll. Rhoddwyd yr oruehafiaeth i fyddin y Philistiaid, Lladdwyd meibion annuwiol Eli, daliwyd arch Daw, a threngodd Eli yn ddisyfyd pan glybu y newydd. Esboniadol. Adnod 1.—" A daeth gair Samuel i holl Israel. Ac Israel a aeth yn erbyn y Philistiaid i ry fel a gwersyll- asant ger llaw Ebenezer a'r Philistiaid a wersyllas- ant yn Aphec." Y mae yr adran gyntaf o'r adnod yn perthyn i'rbenod flaenorol. Am fod Samuel yn bro- ffwyd daeth ei air i holl Israel. Cydnabyddai holl Israel awdurdnd ei eiriau. Nid oes un cyfeiriad yn y geiriau at yr hanes yn y benod hon, fel pe baasai Samuel wedi rhoddi gorchymyn i Israel i fyned i ryfel yn erbyn y Philistiaid. Yo nyddian olaf Eli y mae yn ymddangos fod Israel yn teimlo fod iau y Philistiaid yn rhy drom i'w dal. Penderfynasant fyned allan i ryfel yn erbyn en gel yn ion. Tybir iddynt gael en cymhell i hyn gan y dinystra ddisgynodd ar y Philistiaid trwy offerynoliaeth Samson yn ei farwolaeth. Gweisyllodd y Philistiald yn Aphec, ac Israel yn Ebenezer. Ystyr y gair Aphee ydyw" amdliffynfa." Yr oedd amryw leoedd o'r enw hwn; ond gan y rhaid ei fod yn agos i Ebenezer, tybir mai at Apheo yn Judah y eyfeirir (Jos. xii. 18). Ebenezer. Lie adnabyddus dan yr enw hwn pan ysgrifenid yr hanes; ond y mae yn ddiau ei bod yn ddyledus am yr enw hwn i awgylchiarl a gymerodd le yno yn ddiweddarach na'r frwydr a grybwyllir yma- gwAI pen. rii. 12. Adnod 2.—" A'r Philistiaid a ymfyddinasant yn er. byn Israel: a'r gftd a ymgyfaru a lladdwyd Israel o flaen y Philistiaid a hwy a laddasant o'r fyddin yn y maes yn nghylch pedair mil o wfr." Daeth y ddwy fyddin allan o'n gwahanol wersyllfaoedd, ac ymladdas- ant frwydr yn y maes. Gorchfygwyd Israel. Dychwel- wasant i'w hamddiffynfeydd. Adnod 3.—" A phan ddaeth y bobl i'r gwersyll, hen- uriaid Israel a ddywedasant, Paham ytarawodd yr Ar- glwydd ni heddyw o flaen y Philistiaid P Cymerwn atom o Siloh arch cyfamod yr Arglwydd, a deled i'n roysg ni, fel y cadwo hi ni o law ein gelynion." Y mae yr hennriaid yn synu fod Israel wedi eu gorcVifygu. Cydnabyddant law yr Arglwydd. Penderfynasant gyrchu yr arch i'w mysg. Y maent yn gweithredu o'n bewyllys en hunaih, heb ymgynghori a'r Arglwydd o gwbl. Yr oedd yr arch yn arwydd gweledig iddynt o bresenoldeb Daw. Tybient ond iddynt gaelyr arch i'w mysg y bnasai yn rhaid i Ddaw ymladd o'n plaid. Ymddiriedant mewn arwydd allanol, yn lIe ceisio yr Arglwydd ei hun mewn ymostynsriad edifeiriol. Ar- ferai y paganiaid gludo eu heilunod gyda hwy i'w brwydran, gan feddwl y byddent yn debycach o'u cy- northwyo. Rhaid fod rhyw dybiaeth tebyg i hyn yn meddwl yr Israeliaid wrth gludo yr arch. 0 Siloh. Tybir fod Siloh taa dwy filldir a dengain o Ebrnezer. Adnod 4—"Felly y bobl a anfonodd i Siloh, ac a ddygasant oddiyno arch cyfamod Arglwydd y lluoedd, yr hwn syddyn aros rhwng y cerubiaid ac yno yr oedd dan fab Eli, Hopni a Phinees, gydag arch cyfam- od Daw." Enwir meibion Eli fel yr offeiriaid oedd yn gofalu am yr arch. Pa fodd y gallasent ddysgwyl ben- dith gyda'r fath ddynion? Nid oedd ganddynt ychwaith awdurdod i symnd yr arch o'i lIe yn Siloh. Adnod 5-—" A phan ddaeth arch cyfamod yr Ar- glwydd i'r gwersyll, holl Israel a floeddiasant â bloedd fawr, fel y dadseiniodd y ddaear." Wedi dyfod yr arch o'r gwersyll, lIanwyd Israel a gorfo'edd. Gwaedd. asant gan lawenydd, gan deimlo yn sicr fod bnddugol- iaeth yn en haros. Adnod 6.—" A phan glybu y Philistiaid lais y floedd, hwy a ddywedasant, Pa beth yw Dais y flocdd fawr hon yn ngwersyll yr Hebreaid? A gwybuasant mai arch yr Arglwydd a ddaethai i'r gwersyll." Yr oedd y ddwy fyddin yn gwergylla moragos at eu gilydd fel y clywodd y Philistiaid floedd yr Israeliaid. Yn faan deallasantyr achos. Hebreaid. Ystyr y gair ydyw, rhai yn myned drosodd." Ar yr enw hwn y gelwid yr Israeliaid gan eu gelynion i ddynodi mai dyeithriaid oeddynt yn y w!ad,ac nad oedd ganddynt hawl iddi. Adnod 7. A'r Philistiaid a ofnasdiu ohcrwydd hwy a ddywedasant, Daeth Daw i'r gwersyll. Dywed- Ilsant hefyd. Gwae ni! canys ni buy fatli beth o flaen hyn." Daliwyd y Philistiaid gan ofn wedi elywed am ddyfodiad arch yr Arglwydd i wersyll Israel. Fel rhai oedd yn cydnabod ami dduwian, cydnabyddant allu Duw Israel.. Credant yn sicr fod rhyw charm, rhyw swyn yn yr arch, ac y buasai yn anhawddach gwrthsefyll ymosodiad byddin Israel. Nid oadd yr arch o'r blaen wedi bod gyda hwy yn y gwersyll. Adnod 8.—" Gwae ni! pwy a'n gwared ni o law y Dawiau nerthol hyn ? Dyma y Duwian a darawsant yr Aiphtiaid &'r holl blaau yn yr anialwch." Siarad- ant fel rhai yn credn mewn aml-dduwian. Nid oedd ganddynt syniad am un gwir Dduw, ond fod gan bob cenedl nifor o dduwiau amddiffynol. Daw eu hanwyb- oHaeth hrfyd i'r golwg yn y modd y cyfeiriant at y pläau. Tybiant iddynt gael en gwneuthur yn yr anial. weh. Y maent yn cymysgu y plaau a'r gwyrthiau yn yr anialwch. Ond er nad oedd ganddynt wybodaeth gywir am Dduw Israel, credent yn ei aUn ac arswyd- ent. Adnod 9. Ymgryfhewch, a byddwch wyr, 0 Philistiaid rhag i chwi wasanaetha yr Hebreaid, fel y gwasanaethasant hwy chwi: byddwch wyr, ac ymledd- wch." Effeithiodd en hofn i'w symbyla i fwy o ben- derfyniad i ymladd yn erbyn Israel. Byddwch wyr, ac ymleddwch," meddent. Os collweh y dydd, bydd yn rhaid i chwi fod yn gaethion i'r Hebreaid. Y fath flinder a gwarth fyddai iddynt orfod gwasanaethn yr Hebreaid. Adnod LO. A'r Philistiaid a ymladdasatit; a lIadd. wyd Israel, a ffodd pawb i'w babell: a bu lladdfa fawr iawn canys syrthiodd o Israel ddeng mil ar hngain o wyr t-aed." Cawn yma hanes yr ymdrecb. Gorch- fygwyd Israel'eto gan y Philistiaid. Yr oeddent yn ddiau yn fwy dewr a phendorfynol nag Israel. Ym- ddiriedai Israel i swynion yr arch. Ond nid oedd yr arch yn werth dim heb Dduw. A ffocld pawb i'w babell. Mor llwyr oedd yr oruchafiaeth fel y dinystr- iwyd eu gwersyllfa. Ffodd pawb i'w babell, hyny yw, i'w gartref. Yr oeddent wedi syrthio i anhrefn hollol, a gwnai pob un ei oren i gyrhaedd gartref. Lladdwyd deng mil ar hngain ohonynt, er fod arch Dnw ganddynt. "Niddyogeia rhagorfreintiau allanol neb ag a'u camddefnyddiant. Ni wna yr arch yn y gwersyll chwanegu dim at eu nerth pan y mae Achan ynddo." Adnod 11.—" Ac arch Duw a ddaliwyd a dau fab Eli, Hopni a Phinees, a fuant feirw." Cymerwyd yr arch ei hun gan y gelynion. Y mae yn debygol fod yr ymdrech olaf wedi bod o gwmpas yr arch. Pan welodd meibion Eli ei bod mewn perygl, anturiasant i'w ham- ddiffyn. Yn yr ymnrechfa lladdwyd" hwy. Cyflawn- wyd y gair ag oedd Duw wedi ei lefarn (ii. 33). Mae yn wir fod y cleddyf yn difa y naill yn gystal a'r llall, ond yr oedd y cleddyf megys yn dysgwyl am y rhai hyn, ac yr oeddent weii en nodi i ddialedd. Yr oeddent allan o'u lie pa beth a wnelent hwy yn y camp ? Pan y mae dynion yn gadaed ffordd en dyledswydd, y maent yn cau eu hunain allan o amddiffyniad Daw. Eithr nid hyn oedd y ewbl; yr oeddent wedi bradychu yr arch, trwy ei dwyn i berygl, heb awdurdod oddiwrth Ddaw, a chyflawnodd hyn fesur en hanwireddan." Adnod 12. A gwr o Benjamin a redodd o'r fyddin, ac a ddaeth i Siloh y diwrnod hwnw, a'i ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben." Yr oedd rhedegwyr buain yn perthyn i'r fyddin i gludo y newyddion. Gwr o Benjamin oedd hwn, ond nid oes gwybodaeth pellach pwy ydoe ld. Gwisga arwyddion o alar a gofid-ei ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben (Jos. vii. 6). Pwy bynag a'i gwelai a wyddai ar unwaith mai newydd annymunol oedd ganddo. Daeth i Siloh y diwrnod hwnw. Rhaid ei fod wedi teithio yn gyflym. Adnod 13.—"A phan ddaeth efe, wele Eli yn eistedd ger llaw y ffordd, yn dysgwyl; canys yr oedd ei galon ef yn ofni am arch Duw. A phan ddaeth y gwr i'r ddinas, a mynegi hyn, yr holl ddinas a waeddodd." Eisteddfa-yn llythyrenol, gorsedd. Golyga sedd swyddogol Eli, yr hon oedd wedi ei symnd ger llaw y ffordd er mwyn iddo ylywed y newydd. Yr oedd ei bryder yn fawr am yr arch. Gallwn benderfynn mai o'i anfodd y gradawodd iddi fyned o'r gwersyll. "A pban ddaeth y gwr o'r ddinas." Yn llythyrenol, A'r g^rr a ddaeth i'w hysbysu yn y ddinas." Nid ydyw yn debysrol y buasai yn pasio Eli heb ei hysbysa a myned i'r ddinas yn gyntaf. Eisteddai yno mewn lie man- teisiol i glywed, a diau fod yno creill gydag ef. Wrth weled y rheiea-wr yn dyfod a'i ddillad wedi rhwygo, a phridd ar ei ben, deallodd y Lefiaid a'r swyddogion oedd gydag Eli mai newydd galarus oedd ganddo i fyn- egi, gwaeddasant, ac adseiniwyd y waedd yn y ddinas. Yr holl ddinas a waeddodd—a iawn y gallasent, canys heblaw fod hyn yn adfyd i holl Israel, yr oedd yn golled neillduol i Siloh, ac yn ddinystr y lie hwnw. Canys er i'r arch gaelei gwaredn yn fuan o law y Philistiaid, eto ni ddychwelodd byth i'r lie hwnw drachefa-diaanodd eu dinas, a daeth i'r dim." Adnod 14.—"A phan glywodd Eli lais y waedd, efe a ddywedodd, Beth y.? llaia y cynhwrf yma P A'r gwr a ddaeth i mewn ar frys, ac a fynegodd i Eli." Wedi clywed Ilais y waedd, y mae Eli yn gofyn i'r rhai oedd o'i gwmpas am yr achos o hyn. A'r g\vr a ddaeth i mewn." Yn llythyrenol, "a ddaeth." Mynegodd i Eli yr holl amgylcbiadau. Adnod 15.—" Ac Eli oedd f;ib tair blwydd ar bym- theg a phedwar ugain; a phallasai ei lyaaid ef, fel na allai efe weled." Nis gallasai Eli weled y gwr, ac felly nid oedd ganddo ond barnu oddiwrth y waedd. Yr oedd Eli yn awr yn hollol ddall. Y mae y gair yn golygu hyny. Gair gwahanol i pen. iii. 2. Adnod 16.—" A'r gwr a ddywedodd wrth Eli, Myfi sydd yn dyfod o'r fyddin, myfi hefyd a ffoais heddyw o'r fyddin. A dywedodd yntau, Pa beth a ddygwydd- odd, fy mab P" Dywedy genad o ba le y mae yn dyfod, ac ar arch Eli rhydd adroddiad manwl o'r holl amgylchiadau. Adnod 17. A't' genad a atebodd ac a ddywedodd, Israel a ffodd o flaen y Philistiaid a bu hefyd laddfa fawr yn mysg y bobl; a'thddan fab, hefyd, Hophni a Phinees, a fnant feirw, ac arch Dnw a ddaliwyd." Yr oedd hanes dymchweliad y fyddin, a lladdiad rhifedi mawr o'r milwyr, yn drallodus iawn iddo ef fel barnwr; y newyddion am ei ddan fab a'i cyffyrddodd mewn lie tyner megys tad; eto nid am y rhai hyn yr ofnodd ei Ralon-y mae baich trymach ar ei ysbryd. Pan glyw- odd fod arch Duw wedi ei dal, cafodd ei daro i'r galon. Adnod 18.—" A phan grybwyllodd efe am arch Duw, yntau a syrthiodd oddiar yr eisteddle yn wysg ei gefn ger Ilaw y porth a'i wddf a dorodd, ac efe a fu farw: canys y gftr oedd hen a thrwm. Ac efe a farnasai Israel ddeugain mlynedd." Terodd ei galon, a bu farw. Torodd ei galon yn gyntaf, ac yna ei wddf, wrth syrthio oddiar ei eisteddle. Yr oedd eiofid yn fwy nas gallasai ddal. GWERSI. Mor ffol ydyw i ddyn ymddiried mewn ffnrf o gref- ydd, os na fydd yn feddianol ar ysbryd crefydd. Gof- yna Dnw y galon mewn edifeirwch a ffydd, ac nid seremon'ian a defodan. Nid ydyw yr arch heb Dduw yn werth dim er dyogelu Israel. Y mae calon lygredig yn arwain dyn i ddefnyddio ordinhadau crefydd i fod yn foddion iddo ef gyrhaedd ei ameanion personol, tie nid i addoli Duw. Dan gysgod crefydd gwneir rhai o'r gweithredoedd mwyaf anfad yn ami. Y mae barnedigaeth Duw yn sicr o ddisgyn ar j rhai sydd yn halogi y cysegr, ac yn camddefnyddio or- dinhlldau tt Dduw. Nid oes dim yn achosi mwy o bryder i ddynion duw- iol na gweled fod crefydd yn colli ei dylanwad trwy fod dynion yn ymddiried i'r allanol, ac heb wybod dim am yr ysbrydol. GOFYNIADAU AR Y WEBS. 1. Beth arweiniodd Israel i fyned allan yn erbyn y Philistiaid yr adeg yma ? 2. Pa le yr oedd Aphec ao Ebenezer, a beth fa can. lyniad y frwydr a ymladdwyd ? 3. Beth arweiniodd Israel i feddwl am gyrchu yr arch i faes y frwydr P 4. Paham yr enwir meibiou Eli mewn cysylltiad A dyfodiad yr arch i wersyll Israel ? 5. Paham y brawychodd y Philistiaid gymaint wedi clywed am ddyfodiad yr arch i wersyll Israel P 6. Paham y gelwir Israel yn Hebreaid gan y Philist- iaid ? 7. Wedi dyfodiad yr arch, beth fu canlyniady frwydr rhwng Israel a'r Philistiaid ? Esboniwch ystyr yr ym- adrodd, A ffodd pawb i'w babell." 8. Beth oedd agwedd a theimlad Eli wedi i'r arch gael ei chymeryd o Siloh ? 9. Beth fu canlyniad y newydd o ornchafiaeth y Philistiaid ar Israel i Eli, a phaham yr effeithiodd mor ddwys arno ? #

Galwadau.

MENAI BRIDGE.