Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

YMYLON Y FFORDD. -

YMWELIAD A LLANWDDYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMWELIAD A LLANWDDYN. ODDIAU YB EINGION. EFALLAI nad annyddorol gan ddarllenwyr y TYST Â'R DYDD fyddai ychydig o hanes y lie hwn, sydd erbyn hyn wedi dyfod yn un o'r lle- oedd hynotaf yn y deyrnas, drwy fod pobl Liverpool wrthi yn brysur wneyd dwfr.lestr ohono. Y mae safie y plwyf yn ngh\vr eithafol sir Drefaldwyn, dan gesail y Berwyn o gyfeiriad y Bala. Y mae y ffordd iddo o'r dref hono yn arddunol a rhamantus dros bon, a byddai yn werth i rywun sydd eisieu gwel'd /mynydd i bwrpas wneyd y gymwynas ag ef ei hun o'fyned drosto, a bydd yn ddigon iddo am ei oes. Y mae gan y Llerpwlliaid ganoedd lawer o ddyn- ion yn gweithio yno er's 8 blyncdd, a dywedir y byddant wrthi am o 7 i 9 mlynedd eto, cyn y gorchuddir y dyffryn prydferth a dwfr. Y mae y gwaith i gostio wyth miliwn o bunau, faint bynag yn ychwaneg,. ac y mae un filiwn eisoes wedi ei gwario Ehydd hynyna ryw ddrych- feddwl egwan i'r darllenydd o fawredd yr art. turiaeth. Y mae ganddynt y peirianau di- weddaraf at bob math o waith, o'r American devil-y daearfwytawr anferth, i lawr at yr offeryn distadlaf, a phan y dywedaf eu bod yn gweithio y noa wrth oleuni yr electric light yn gystal a'r dydd, gall y darllenydd eilwaitli welod fod pobl Liverpool o ddifrif am ddwfr glan. Yr hyn am tarawodd i a gradd o resyndod oedd fod yr hen ddyffryn henafol a thawel i gael ei golli! Fod yr hen bentret diymhongar, yr hen Eglwys henafol a'i mynwent gysogrellig, eu haddoldai Ymneillduol, a'r aneddau pryd- ferth dryfritha y dyffryn-oll i gael euhabertlm ar allor cysur trigolion y brifddinas Gymreir,