Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYFUNDEB GOGLEDDOL MORGANWG.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

CYFUNDEB GOGLEDDOL MORGANWG. Cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yn Nelson, nos Lun a dydd Mawrth, Hydref laf a'r 2il. Pregethwyd y nos gyntaf gan y Parchn D. S. Evans, Aberdar, a E. Davies, Cwmaman. Boreu dydd Mawrth, am 10.30, cynaliwyd y Gynadledd, pryd yr oedd y frawdoliaeth yn bur gryno yn bresenol. Wedi i Mr Davies, Maesyffynon, gymeryd y gadair, darllenodd Mr Williams, Hirwaun, ychydig ad- nodau, a gweddiodd ef a Mr Evans, Siloa, Aberdar, yn dyner a gafaelgar iawn. Yna aethpwyd yn mlaen at waith priodol y Gyn- adledd. 1. Darllenodd yr Ysgrifenydd gofnodion y cyf- arfod o'r blaen, a chadarnhawyd hwynt gan y cyf- arfod. 2. Penderfynwyd fod y Cadeirydd, yr Ysgrifen- ydd, a Mr Beddoe, Nelson, i gynrychioli y Cyfun- deb yn y Gynadledd a fwriedir gynal yn fuan yn Abertawy ar fater y Dadgysylltiad i Gymru. 3. Penderfynwyd fod pwyllgor i gael ei ffurfio i gymeryd i ystyriaeth beth ellir wneyd yn y Cyf- undeb ar ran Cymdeithas yr Hen Weinidogion, a'r pwyllgor hwnw, os gall, i reportio i'r Cyfarfod Chwarterol nesaf. Y pwyllgor i gael ei wneyd. i fyny o'r personau canlynol: Mri Williams, Gwaelodygarth; Beddoe, Nelson; Jones, Beth- esda; Morris, Brynseion; Williams, Bethania; Edwards, Ebenezer; Williams, Hirwaun; Evans, Siloa; Rowlands, Aberaman; a Davies, Cwm- aman. 4. Darllenodd Mr Davies, Llwydcoed, adroddiad o gasgliadau eglwysi y Cyfundeb aty Gymdeithas Genadol yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, yr hwn a ddangosai gynydd dymunol iawn yn y eyfran- iadau yn nglyn a hyny, cynygiwyd a phasiwyd pleidlais o ddioleligarweh i Mr Davies am ei ym- drech cguïül dtos y Geiutdaeth yn ystod y flwydd- yn y bu yn ymweled a'r eglwysi ar ei rhan. 5. Trefnwyd fod y gwaith o gymeradwyo un i ymweled a'r eglwysi ar ran y Genadaeth am y flwyddyn ddyfodol i gael ei ymddiried i is-bwyll- gor, cynwysedig o'r personau canlynol:—Mri Edwards, Aberdar; Williams, Gwaelodygarth; Rowlands, Aberaman; Williams, Hirwaun; Williams, Dowlais; a Morris, Dowlais. Cyfarfu y pwyllgor yna yn union ar ol y Gynadledd, ac ar giniaw niynegasant eu bod yn unfrydol yn cy- meradwyo Mr Evans, Troedyrhiw, fel person cymhwys i'r gwaith. Cadarnhaodd y frawdoliaeth y dewisiad gyda pharodrwydd a phleser. 6. Ymddyddanwyd cryn dipyn ar y mater o gy- meradwyo gwyr ieuaine i'r colegau gan gynadledd- au ein Cyfarfod Chwarterol, a phasiwyd y pender- fyniad canlynol ar hyny, sef-" Fod y Cyfarfod Chwarterol yma yn ymwrthod o hyn allan i'r cyf- rifoldeb o gymeradwyo dynion ieuainc i'r colegau." 7. Codwyd i sylw y Gynadledd yr ymdrech a wneir mewn llawer man i ddifuddio Mesur Cau y Tafarndai ar y Sabboth, a chydunwyd ar y pen- derfyniad canlynol Fod y Gynadledd hon yn gofidio yn fawr iawn fod ffug-glybiau, er gwerthu diodydd meddwol ar y Sabboth yn cael eu sefydlu mewn rhai o'n trefydd, a darpariadau daionus- Deddf Cau y Tafarndai ar y Sabboth drwy byny yn cael eu rhanol orchfygu, ac yn dymuno galw sylw holl gyfeillion sobrwydd drwy ein gwlad at y ffaitb, a'u hanog i wneyd a allont yn erbyn yr arferiad." 8. Cyfeiriwyd at gystudd Mr Griffiths, Cwmdar, a phendcrfynwyd-" Fod yr Ysgrifenydd i yru llythyr at ein hanwyl frawd, ynenw y Gynadledd, i amlygu ein cydymdeimlad ag ef yn ei gystudd blin." Yn nglyn a hyn, darllenodd Mr Davies, Llwydcoed, lythyr a dderbyniasai oddirth y Parchn O. Evans ac R. L. Thomas, Llundain, yn hysbysu fod Mr Griffiths ychydig yn well y dyddiau diweddaf, ac fod arwyddiou cryfion am ei adfer- iad. 9. Galwodd Mr Hongh, Merthyr, sylw y Gyn- adledd at y dymunoldeb o gael ychydig yn ych- waneg o amser yn nglyn a'r Cyfarfod Chwarter i ymddyddan ar bethau crefyddol. Yr oedd cryn deimlad i'r un cyfeiriad mewn ereill, ond gadawyd y mater heb un penderfyniacl ffurfiol arno. 10. Siaradodd ymwelwyr o eglwys Gvvmdar ar gystudd eu gweinidog, gan daer erfyn am gydym- deimlad gweinidogion y cylch tra parhao ei gys- tudd. Amlygodd amryw eu parodrwydd i roi Sul- iau yn ystod y misoedd dyfodol. 11. Trefnwyd fod y cyfarfcd nesaf i'w gynal yn y Tabernacl, Hirwaun, yn ol y gylchres, ac fod Mr Evans, Nelson, i bregethu yno ar Ddyledswydd aelodau'eglwysig at yr Ysgol Sul." Yr oedd y mater yna wedi ei roddi i Mr Griffiths, Cwmdar, i bregethu arno yn Nelson ond oblegid ei gystudd ef, penderfynwyd gofyn i Mr Evans bregethu arno. Dyna yr oil o weithrediadau y Gynadledd. Yn y prydnawn a'r hwyr pregethwyd gan Mri Jones, Plasmarl, a Mr Evans, Bodringallt (y rhai yr oedd yn dda genym oil gael eu pres- enol deb ar ddamwain felly); Mr Rees, Salem, Aberdar; a Mr Williams, Bethania, Dowlais. Cafwyd cyfarfod dymunol dros ben, a chroes- aw o'r fath oreu. Rhoddwyd ciniaw i'r gwein- idogion a'r ymwelwyr i gyd, o ba rai yr oedd yn agos i ddeugain, gan Mr Edward Beddoe, mab Mr Beddoe, Nelson. Yr oedd y ddarpariaeth yn ardderchog, a chyflwynwyd diolchgarwch iddo am ei garedigrwydd drwy i Mr Davis, Maesyffynon, gynyg, ac i Mr Williams, Gwaelodygarth, eilio. Dymunwyd hir oes a llwyddiant mawr iddo i ddilyn yn nghamrau ei rieni. Yr oedd yn hyfrydwch genym weled agwedd mor gysurus ar bethau yn Nelson ar gychwyniad gweinidogaeth ein hanwyl frawd Mr Evans. J. Thoma.8, Ysg.

CYFUNDEB SIR DDINBYCH.

Advertising

YMWELIAD A LLANWDDYN.