Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR 0 INDIA. ODDIWRTH…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR 0 INDIA. ODDIWRTH Y PARCH MORRIS THOMAS. ANWYL GYFEILLION,—Wedi hir oedi, credaf.y bydd gair oddivvrthytn yn dderbyniol. Rhaid dechreu trwy gydnabod caredigrwydd cyfeillion caredig sydd wedi ein cynorthwyo yn y gwaith da yn ystod y flwyddyn. Teimlwn yn wir ddiolcbgar i Miss Jenkins a Miss Edwards, Abermorlais Schools, Merthyr Tydfil, am drafferthn i gasglu calico prints, edau, nodwyddau, slates, pencils, copy-books, &c., &c., cynwysiad y box gwir ddef- nyddiol a gwerthfawr anfonasant at wasanaeth y Genadaeth yn neillduol ysgol y merched bychain Hindwaidd. Teimlwn yr un mor ddiolchgar i bob un yn unigol yn neillduol i'r plant gyfranasant eu rhoddion gwerthfawr at wneyd i fynYI cy- nwysiad. Mae eu henwau oil genym on rhy faith yw y list i gydnabod rhodd pob un wrth ei enw. Diolch yn fawr i chwi oil. Cafodd eich rhoddion yn fawr a bach eu gwerthfawrogi a'n defnyddio at yr hyn y bwriadwyd hwynt. Teimlaf yn ddiolchgar i Mr E. H. James, Y.H., Panty- gafel, Glandwr, am y TYST A'R DYDD yn gyson trwy y flwyddyn, ac hefyd i fy mrawd Walter Thomas am y Cenad Hedel, yr un modd. Byddwn yn dysgwyl yn awyddus am ddyfodiad yr English Mail; cant eu darllen yn llwyrach yn awr nac erioed. Fel dyfroedd oerion i enaid sychedig ydynt, a blasus-fwyd ydynt pan ddeuant i law. Dechreuwyd gwaith y flwyddyn gyda'r arholiad (examination) diweddaf o'r tair yn iaith y brodor- ion (Telugu yma) y dysgwylir i bob cenadwr fyned drwyddynt. Bellach dyna ddiwedd ar arholiadau am fy oes. Ond nid diwedd ar astudio. Gobeithiaf allu codi rhai ereill o'r ieithoedd yma Os Duw a'i myn." Yn mis Mawrtb, 1882, pan ymneillduodd Dr Hay, yr bwn fu ar y maea tua dwy a deugain o flynyddoedd i gyflwyno gweddill ei oes i gyfieithu, reviso, a pherffeithio y Beibl yn iaith y Telugu, y cyflwynwyd i'm gofal y maes a'r holl waith yn y Telugu. Yr oeddwn erbyn hyn wedi bod tua thair blynedd ar y maes, ond yn herwydd amgylchiadau anesboniadwy, mewn sef- yllfa ansefydlog ac annymunol. Y maes a'i sefyllfa. Mae district Vizagapatam o fewn y torfynau y dysgwylir i mi weithio, heb gyfrif y mynyddoedd a'u trigolion sydd ar y ter- fynau, yn mesur tua phedair mil (4,000) o filltir- oedd ysgwar, yn cynwys poblogaeth o tua miliwn, neu agos i ddwy ran o dair o boblogaeth Cymru i gyd, a chynwys sir Fynwy yn y cyfrif. Tebyg y bydd rhywun yn barod i ddyweyd fod yna ddigon o bobl, a maes digon eang i weithio. Gwir. Teimlaf yn barod i ateb y cyfryw fel y clywais fyfyriwr yn ateb athraw ryw dro. Methodd y myfyriwr conjugatio Latin verb yn iawn. Meddai'r athraw, Ni raid i chwi goinio verb newydd; Mae digon o eiriau yn y Lladin yn barod." "Oes, a dyna/r gwaethaf ohoni," oedd yr atebiad. Dyna'r drwg yma yw fod y maes mor eang, a'r boblog- aeth mor fawr, a'r gweithwyr yn anaml. Hawdd iawn gofyn, Pwy sydd ddigonol at y gwaith hwn ? Hwyrach y cynbyrfai cywreinrwydd rhywun i ofyn Pa nifer o bregethwyr sydd yna? Yn perthyn i'r Gymdeithas Genadol Llundain, mae dau yma. Nifer y cynorthwywyr brodorol yw pedwar. Am y pymtheg mlynedd diweddaf, hyd tua chanol y flwyddyn ddiweddaf, dau oedd nifer y cynorthwy- wyr brodorol. Mae y Pabyddion yma a chanddynt aehos cryf, a meddianau lawer mewn tai a thir- oedd, a Iluaws o ddysgyblion y torthau. Triugain milltir i'r De mae gorsaf a chenadwr Cymdeithas Bedyddwyr Caeth-Gymun, Canada ac un arall ugain milltir i'r Gogledd. Cenadaeth newydd a diweddar yma yw hon, a theimlir eisoes nad yw ijolygiadau cul a rheolau caeth y caeth-gymun yn fanteisiol i amcan ein dyfodiad i wlad fel hon. Dosrenir y gwaith fel y canlyn. Cyfynga fy nghydlafurwr y Parch G. H. Macfarlane, dyn iouanc ddaeth allan tua blwyddyn a haner yn ol, ei hun i ofalu ac i weithio yn y Mission High School sydd yn y dref hon. Mae ganddo hefyd i ofalu am eglwys Seisonig fechan sydd yma. Rhif yr ysgolheigion am y flwyddyn ddiweddaf oedd tua 300 ar gyfartaledd. Pasiodd wyth ohonynt y flwyddyn ddiweddaf y Madras matriculation examination. Erbyn hyn bydd rhywun eisieu gwybod pa fath ysgol yw, a pha oedran yw yr ysgolheigion ? Peth cyllredin iawn yw gweled schools boys fel eu gelwir, a barfau ar y wyneb, ac yn benau teuluoedd, a gwragedd a phlant gan- ddynt, o'r deunaw i'r tair ar hugain oed yn d'od allan o'r ysgolion felly blith draphlith a phlant o'r chwech oed i fyny-y rban amlaf ohonynt yn Frahminiaid ucbelgeisiol, ffroenuchel, a Pharise- aidd. Gellwch gael syniad o'u golygiadau am fywyd a byw, pan ddywedwn mai ami y deuant atom i ofyn cymhorth arianol i briodi, tra yn bwriadu parhau eu hefrydiaeth, ac ar yr un pryd yn derbyu cymhorth i dalu treuliau'r ysgol. Cloddio nis gall y Brahmin, ond cardota sydd alwedigaeth gyfiawn a chydweddol a'i natur. Mae ei ewyllys ef fel y bedd, bwriwch iddo yn ddidrai. Moes, moes, fydd ei gri, ond peidiwch dysgwyl na gofyn dim oddiwrtho. Prif iaith yr ysgol yw Saesoneg, a phrif nod yr ysgol yw matriculation, a nod penaf yr ysgolhcigion yw Government service, fel clercod, &c., yr hyn olyga, er gwaethaf cyflog fechan, fywioliaeth fras, a chyn diwedd logell lawn, a phension hyd diwedd oes. Y prif amean fel ysgol genadol yw arwain at Iesu Grist. Ymdrechir yn galed gyda'r cyntaf, a llwyddir i raddau i gyrbaedd y nod. Ond hyd yn hyn, mewn ystyr rhifyddol methiant yw gyda'r prif amcan. Rhoddir pum' awr y dydd at efrydu, yr hyn sydd yn canolbwyntio yn y matriculation, a thua phedair neu bum' awr yr wythnos ac un awr boreu Sabboth at efrydu y Llyfr goreu, sef y Beibl. Mae yma un a ordeiniwyd fel cenadwr brodorol. Cyfynga ef ei lafur i'r ysgol ucbod yn nghyda gofalu am yr eglwys fechan Telugu sydd yny dref. Am flynyddau lawer cyfyngwyd sylw a'r holl allu Cenadol yn y lie hwn i'r ysgol uchod, tra nad oedd yr un ddarpariaeth ar gyfer, nac ymdrech at efengyleiddio yr holl wlad y tuallan i'r dref. Tua dechreu y flwyddyn ddiweddaf, gorchymynwyd fi i gymeryd gofal yr holl waith yn iaith Telugu, a dymunwyd arnaf dreulio eymaint a fedrwn o amser i deithio y wlad i bregethu o bentref i ben- tref, a thref i dref. Wrth ystyried eangdor y maes yn agored o fy mlaen, lluosogrwydd y bobl- ogaeth, a phwysigrwydd y gwaith ynddo ei hun, onid hawdd oedd gofyn, Pwy sydd ddigonol i'r pethau hyn P" Yn mis Mebefin cefais gynorth- wywydd, ac un arall yn Gorphenaf-dau newydd mewn ystyr-dau annysgedig ydynt, medrant ddarllen ac ysgrifenu yn eu hiaith eu hunain, a dyna'r oil, ni chawsant un awr o ysgol na choleg i'w cyfaddasu at y gwaith pwysig o bregethu yr Efengyl yn mhlith eu cyd-ddynion. Math o bre- gethwyr cynorthwyol ydynt-gelwir hwy Catichists Nid pregethu'n acblysurol mewn capel a phwlpud ar y Sabboth yw eu gwaith, ond bod bob dydd allan yn y prif ffyrdd, a chonglau'r heolydd yn cyhoeddi Crist. Oherwydd hyny mae eu bod yn annysgedig yn anfantais fawr iddynt. Gwrthwyn- ebir a phoenir hwy gan gwestiynau y tuhwnt i'w amgyffred hwy. Poena dysgedigion mewn Hin- dwaeth hwy a'u hathroniaeth tryblith, cwestiynau yn nghylch yr enaid, haniad yr enaid, ei leoliad, defnydd cyfansoddiad yr enaid, cyflwr ei fodolaeth yn yr amser rhwng marwolaeth un corff a'i fyned- iad i gorff arall. Y meddwl, beth yw y eysylltiad rhwng y meddwl a'r enaid, &c. Poenir hwy gan ddysgedigion ysgolheigiol A chwestiynau gwydd- onol. Dro yn ol daeth un ohonynt a chwyn ataf fod ysgolfeistr bostfawr wedi ei ddystewi A, chwestiynau gwyddonol, honai ei fod wedi darllen science a philosophy, a gweithiau Bradlaugh. Meddai, Dywedai fod physical geography yn profi nad oedd gwahaniaeth rhwng ymenydd dyn ac ymenydd ci.' Physiology yn ddiau oedd y gair ddefnyddiodd yr ysgolfeistr, ond nis gwyddai y Catichist, ac ni chafodd erioed fantais i wybodfod gwahaniaeth rhwng y ddwy Ology. Heblaw hyn, nid oes llyfrau duwinyddol nac athronyddol, na chymaint ag Esboniad ar y Testament Newydd wedi eu cyfieithu i iaith Telugu, felly anhawdd i'w hunanddiwylliad. Onid rhaid iddynt wrth amynedd a ffydd yn eu gwaith? Ac onid teilwng ydynt o ran yn eich gweddiau chwi ? Ymdaraw- ant yn dda iawn yn y pentrefi gwledig, ac yn mhlith pobl syml a pharod i wrando efengyl syml a iaehus eiriau iechydwriaetb. Pan yn teithio bydd un neu ddau ohonynt genyf i'm cynorthwyo. Mae tri o'r fath gynorthwywyr gyda fi yn y district hwn. Nid wyf yn meddwl fod yr un maes arall yn Neheudir India a chyn lleied o nifer ac sydd yn hwn. Meddyliwch pe bai sir Forganwg i gyd a'i phoblogaeth presenol, a dim ond un gweinidog a tbri phregethwr cynorthwyol i was- anaethu iddynt. Sut y byddai pethau ? Ystyr- iwch hyn Cyflogir y rhai byn gan y Gymdeithas. Derbynia yr henaf obonynt ddeunaw rupee (rupees 18) y mis o dal tua (Xi ils.) un bunt ag-un swllt ar ddeg o'ch arian chwi yna. Telir i'r ail bymtbeg rupee, tua un bunt a chwech swllt (£1 6s.) y mis. Telir i'r trydydd ddeuddeg rupee, tuag un bunt ag un swllt (£1 Is.). Cyfrifir y rupee yn werth ar gyfartaledd tuag nn swllt ag wyth geiniog o arian Prydain. Mewn llawer o districts ereill dan yr un Gymdeithas cynelir amryw o'r pregetbwyr cy- northwyol a defnyddiol hyn gan roddion gwir- foddol personau unigol, ac Ysgolion Sabbothol uhiongyrchol i'r cenadwr yna. Buasai yn dda genyf pe cawn wasanaeth tua haner dwsin yn rhagor or fath gynorthwywyr yn gyflawn o gar- iad Crist, a than ddylanwad ac arweiniad Ysbryd Duw yna teimlwn yn sicr am gnwd toreithiog i ogoniant ac anrbydedd ein Hiachawdwr bendi- gedig. Credaf mai offerynau anhebgorol, a'r ffordd fwyaf effeithiol, mewn ystyr ddynol, i ledaenu'r efengyl, ac i argyhoeddi poblogaeth gwlad estronol yw drwy frodorion y wlad yn cael eu cefnogi a'u cyfarwyddo gan genadwr Ewrop- eaidd. Y Cenadwr yn ei gysylltiad ag, a'i ddylanwad ar y cynorthwywyr uchod, a'r dychweledigion yn gyffredinol. — Sefyllfa i raddau annymunol yw, oblegid y gwyr y gall ei ddylanwad drwyddynt hwy ei rwystro yn ei brif amcan. Mae perygl iddynt ei efelychu yn ffurf ei wisg, dodrefn ei dy, bwydydd, a'r dull o fwyta. Fy hun nid wyf yn credu mewn trawsff urfior Hindw i Ewropead. Mae chwedl yn eu plith am frenin unwaith a ewyllysiai ddangos ei edmygedd o gyfaill iddo. Sudra, un o'r pedwarydd caste oedd. Gorchym- ynodd ei drawsffurfio ar unwaith o Sudra i fod yn Brahmin. Y ffordd reolaidd yw trawsfudiad yr enaid o gorff i gorff, ac y mae esgyniad yn y graddau yn dibynu ar haeddiant a rhinwedd gweithredoedd yn y corff o'r blaen. I brofi an- hawsder y wyrthynymarferol, cymerodd y Bramin gafodd y gorchymyn gi du i lan llyn a rhwbiodd a golchodd ef yno, nes y gofynwyd iddo beth oedd am wneyd. Meddai, "ceisio gwneyd ci du yn gi gwyn." It Y dyn ffol," meddai'r brenin, "Pwy glywodd am y fath beth erioed." "Yr un an- hawsder yn gywir," meddai yntau, sydd i geisio tiawsffurfio Sudra i fod yn Brahmin." Nid oes dim yn gweddu yr Hindw cystal a'i ddillad ei hun yn ei wlad ei hun. Ei wisg naturiol yw darn o liain gwyn llathen a haner o led a thua phump i chwech llathen o by-d, os caniata amgylchiadau bydd gold lace ynddo, rhwymir y rhan uchaf yn dyn o gylch y lwynau, yna codir y cornelau blaen i fyny rhwng y ddwy clin, a chysylltir yn rhwym- iad y gwregys y tu ol. Cnddir y rhan uchaf o'r corff A math o siaced, neu ddarn o liain tebyg i'r llall. Plethir darn arall tebyg o gylch y pen, a elwir turban, a gwisgir irath o slippers guddiant flaen y droed yn unig a'r blaen yn troi i fyny fel pe am gyfarch gwell i'r trwyn. I fwyta bwyd, eistedda ar lawr a gesyd y bwyd yn ei enau a'i law heb ddefnyddio llwy, na cbyllell a fforch. Yn ei wisg ac yn dilyn arferion naturiol ei wlad, mae mor respectable a boneddigaidd yr olwg arno a'r un Cymro neu Sais yn ei fretbyn du. Mae mwyaf- rif ein Cristionogion o'r bobl dlotaf a'r castes iselaf. Wedi iddynt gael eu bedyddio, yn meddwl eu bod yn fwy respectable, newidiant y wisg fro- dorol am y trowsers, y socks, a'r esgidiau, &c., ac yn ami bydd yr un wisg yn cynwys haner lliwiau'r enfys. Golwg glogyrnog a chomical yw. Nid oes dim yn fwy gwrthun ac annerbyniol gan y bobl yn gyffredin, ac felly yn niweidiol i'w dylanwad os pregethwyr fyddant. Gelwir hwy gan y brodor- ion yn Malas neu Pariahs outcasts, pobl i osgoi cyffyrddiad a hwy fel peth aflan. Ami y tetlir hyn i'n gwynebau. Yn ddiweddar addefai Brahmin ragoriaeth Cristionogaeth a'r Beibl or Hindwaeth, ond,' meddai, 'os deuaf yn Gristion, bydd dysgwyliad i mi wisgo trowsers, socks, ac esgidiau, a defnyddio cyllell, fforcb, a llwy.' Sicr- heais ef nad oedd a fyno crefydd y Beibl a'r fath arferion, mae ymwneyd a'i enaid a'i galon lygredig oedd ei hamcan. Good for trade fyddai iddynt, pe bai amgylchiadau yn caniatau adeiladu gwell tai, a'u dodrefnu, &c., a chyfnewiad arferion ereill, Ond nid yw eu eyflogau yn caniatau byny, y canlyniad yw, myn'd i ddyled wnant er cadw'r arferion i fyny. Pan ystyriom mae nid gwlad farbaraidd ac anwaraidd yw India, fod iddi ei hanesiaeth, ei hathroniaeth, a'i chrefydd, a'i har- ferion henafol sydd ya eyfateb i sefyllfa'r bob!, ac hinsawdd y w!ad, gwelwn nad oes angen gosod pwys ar y eyfnewidiadau uchod. Gosodaf bob amser fy wyneb yn erbyn y cyfnewidiad, ac eisoes yr wyf wedi cael prawf o'r effaith er gwell. (I'w barhau.)

ABERTEIFI.

Advertising