Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ba farw dynes yn nhlotdy Gwrecsam, yr hon, meddir, a gafodd werth.8240 (60 galwyn) o laudanum yn ystod y pum' mlynedd ar bugain diweddaf. Bwriada Llew Llwyfo draddodi darlith yn y Guild Hall, Caernarfon, ar y 25ain cyfisol, ar y Bardd a'r Cerddor." Nos Fawrth diweddaf, traddododd Doon Bangor an- erchiad agoriadol i aelodau Cymdeithas Gwyr Ieuainc Bangor. Yn IIvs ynadol Birmingham, ddydd Gwener, traddod. wyd y Parch Thomas Morris Hughes, gynt yn gurad yn Llanddaniel, Mon, i gymeryd ei dreial ar y cyhudd- iad o amlwreiciaeth, yr hyn a gyfaddefodd. Dydd Sadwrn, Medi 29a;n, cynaliodd eglwysi y Metbodistiaid haner isaf dosbarth Afon Dyfi eu cylch- wyl flynyddol yn Nghapel y Tabernacl, Aberdyfi, o dan arweinyddiaeth Mr D. Jenkins, Mns. Bac., Aberys- twvth. Y mae deiseb wedi ei harwyddo gan 500 o bersonau yn Dolgellau a'r cyffiniau i gapl ei chyflwyno i'r Ar- glwydd Ganghellydd dros symud Mr Homersham Coz. Nifer y myfyrwyr yn Mhrifysgol Aberystwyth yn bresenol ydyw 65. Cynygir dwy ysgoloriaeth ychwan- egol o £ 25 yr un, y Nadolig nesaf, gan Mr L. P. Pngh, A.S., a'r Anrhyd. G. H. P. Evans, Lovesgrove hefyd, rhoddir exhibitions, Dirwywvd tad annynol o'r enw David Davies, Towyn, i £478 (yn cynwys costau), am droi ei wraig a'i phlentyn, yr hwn oedd dan y frech goch, dros y drws. Y dydd o'r blaen rhoddodd Mrs Rathbone, priod Mr W. Rathbone, A.S., wledd ragorol i blant Ysgolion Sabbothol a dyddiol Llanbedrog, Lleyn. Dydd Ian yr wythnos ddiweddaf, cynaiiodd Anni- bynwyr Bethesda en cymanfa gerddorol yn Nghapel Bethesda, o dan arweiniad y Parch W. Emlyn Jones, Treforsis. Llywyddid yn nghyfarfod y prydnawn gan Mr W. J. Parry, Maesygroes, ac yn yr hwyr gan y Parch R. Rowlands, Treflys. Mewn pwyllgor a gynaliwyd y dydd o'r blaen yn ngtyn A'r Coleg i Ogledd Cymru, yn Nghaernarfon, pasiwyd diolchgarwoh mwyaf diffuant y dref i'r Parch E. H. Evans am y dull dehenig a meistrolgar y cyn- rychiolodd hawlian Caernarfon o flaen y cyflafaredd- wvr. Fel yr oedd merch fechan chwech oed o'r enw Mary Brown, merch John Brown, mwner, Llanidloes, y dydd o'r blaen, yn chwarou ar lan yr afon, llifchrodd ei throed i'r dwfr, a chan fod Ilif yn yr afon oherwydd y gwlaw- ogydd diweddar, cariwyd hi i lawr yr afon cyn y gall. esid rhoddi iddi nn cvnorthwy. Rhoddodd Mr S. Pope, Q.C., Hafodyb^yn, treat i blant ysgolion Dyffryn a Llanbedr, sir Feirionydd, dydd Gwener yr wythnos ddiweddaf, i dref Caernarfon. Cafodd y plant eu gwala o de a theisen, &c., wedi cyr- haedd y dref, a thrwy garedigrwydd Mr Pope, darpar- wyd ciniaw i'r pwyllgor, yn rhifo 22, yn y Sportsman Hotel. Cynaliwyd cyfarfod ymadawol y Parch D. S. Jones, Cann, ar ei ymadawiad &'r He i gymeryd gofal eslwysi A bererch a Chwilog, nos Lnn yr wythnos ddiweddaf. Cyflwynwyd iddo anrhegion gwerthfawr yn nghydag anerchiad goreuredig. Mae arddangosiad Ceidwadol rhwysgfawr i'w gynal yn Mhavilion Caernarfon, dydd LIlIn, Hydref 22ain, pryd y traddodir areithiau gan Syr Stafford Northcote, A.S., yr Anrhyd. H. C. Raikes, A.S., ac ereill. Cy- merir y gadair gan yr Anrhyd. G. S. Douglas Pennant, y cyn-aelod Ceidwadol dros sir Gaernarfon, a mab Arglwydd Penrhyn. Cynaliwyd cyngerdd lleisiol ac offerynol yn Nghapel y Cynulleidfaolwyr Seisonig, Upper Bangor, nos Fawrth yr wvthnos ddiweddaf. Llywyddai y Parch H. S. Griffiths, y gweinidog. Y datgeiniaid oeddynt y Misses Jones (Mair Meiai), Jennie Jones, M. Davies, ac A. Davies, a'r Mri Wardell, W. Broom, T. Mills, J. Broom, R. Smith, J. Dayies. J. Mitton, y Normal College Glee Party, ac ereill. Deallwn fod chwarel Abercwmeiddaw, Corris, yn cy- meryd i mewn yr oil o'r dynion drowyd allan rlti wyth- nosnn yn ol. Mae chwarel Cwmodyn yn cymeryd i mewn bob wythnos, a thebyg y bydd amryw yn cyrchu yno. Mae'r gair allan fod Ty'nyberth wedi ei gwerthn, ar ol bod yn ngbauad am ngain mlynedd. Ar agoriad Cymdeithas Lenyddol Engedi, Caernarfon, traddododdy cadoirydd, Mr John Davies (Gwyneddon), ddarlith ar Newyddiaduron—eu hanes a'u lie yn llen- yddiaeth y Cymry." Nis geilid cael odid neb mwy profiadol i draethn ar y pwnc. Bwrjada y Milwriad T. L. Hampton-Lewis, Cadben Pritchard Rayner, a Mr W. M. Preston ymgymeryd ag antnriaeth bwvsig, sef myDed a holl ddwylawy byw- ydfadau yn siroedd Mon ac Arfon, a chymaint ag sydd bosibl o'r pysgotwyr, i fyny i'r Arddangosfa Bysgod yn Llundain yn ystod y mis hwn. I? Cynaliwyd cyfarfod Cenadol yn Nghapel Twrgwyn (M.C.), Bangor, y noson o'r blaen. Cymerwyd y gad- air gan Mr T. Lewis, Market-place, ac anerchwyd y gvnulleidfa gan y Parch John Thomas (y gwr ieuane o Rostryfan sydd ar gychwyn i'r maes Cpnadol i Fryn- inn Cassia), D. Charles Davies, M.A., D. Rowlands, M.A., ac ereill. Cynaliwyd y chweched Gynadledd flynyddol o Warcheidwaid y Tlodion Dosbarth Gogledd Cymru yn Wrexham, dydd Gwener yr wythnos ddiweddaf, o dan lvwyddiaeth Mr B. T. Griffith-Boscawen, cadeirydd Undeb Wrexham. Yn ystod elanercbiad.-dywododd y Cadeirydd fod mwy o bodair gwaith o bersonau yn mhob cant yn derbyn tal plwyfol mewn rhai undebau rnagor nag ereill.

[No title]

[No title]