Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Cynwysiad. I
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Cynwysiad. I Hysbysiadan 1, 2 Ymylon y Ffordd—Ymwelhd & Llanwddyn 3 CyfarfodyddChwarterol 4 Cyfarfod Mawry Gfowyr yn Merthyr 5 Llytbyr o India oddiwrth y Parch Morris Thomas 6 Newydr)ion Cyffredinol, &c 7 At ein Gohebwyr-Yr Wythoos 8 Gwyliam yr Hydref 9 Efflwysi Gweigion—GwaeIod Gw!ad Myrddin 10 Cyfarfodydd 11 Y Wei's Rhyngwladwriaethol 12 Hysbysiadan 13, 14, 15, 16
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Jonathan Edwards.-—1$i theimlasom fod yr hwn y cvfeiriwch n.to wcdi gwneyd hyny yn ein colofnau. Os gwnaeth byny yn rhywle arall, yno y dylech gymhwvso y ffrewyll a haeddai ato. Gwyddom rbyw g-vmaint am dano, a chredwn ei fod wedi gwneyd mwv yn y cyfeiriad a nodwch naar a fwriadai. Eivyllysiior Da.-Cafodd arall v blaen a, noch. er nad ymddeugys hwnw cyn ein rhifyn nesaf. Diolch i chwi yn garedier am anion. Mewn Llaw.-Cyfarfod Ymadawol y Parch D. S. Jones, Cana-Cymru a'r Swyddogaethau o dan y Llywodraeth—O Ororau'r Eryri—Oyfarfodydd, &c. -Cyfarfod Cbwarterol Malrlwyn-Rhos a'r Cylch- oQdd-Cyfarfod Chwarterol Meirion, &c., &c. Newydd ei gyhoeddi, Pris 6c, YR EGLWYS A'R OES YR YDYM YN BYW" YNDDI. ANERCHIAD Y GADAIR. GAN Y PARCH W. EDWARDS, ABERDAH. ADR4DDODWYD yn N^hyfarfod Blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymrei<{ yn Ffestiniog, Awst, 1883. At yr hyii yr ychwanegwyd "Swper yr Arglwydd yn oi natnr a'i weinyddiad." Papyr a ddar- Jlenwyd yn Nghyfarfod yr Undeb yn Nhreffynon. Yr e rchion i'w hanfon at yr Awdwr. T H E*TTESSENTIALS LETTS'S DIARIES. Endless Varieties. Prices C<1. to 14s. LETTS'S HOUSEHOLD MAGAZINE. Amusing, Instructive, Useful, nnd Artistic. For Young and Ola. Blale or Female, Week-day or Sunday. The Best Magazine for the Family. Monthly, 7d. LETTS'S COMPLETE POPULAR ATLAS. Absolutely Unrivalled, says the entire Press. Prices from £ 22i tarticluars of Boolut&Us; or Idtzxs, Liiimiu, Loudon Bridge CARDIFF GRAMMAR SCHOOL. A BOARDING AND DAY SCHOOL. DUTIES will be resumed on MONDAY, JULY 30th, 1883. For Terms, &c., apply to the Head Master, R. G. LEVI, 13, Fitzalan Place, Cardiff. Telerau y Tyst a'r Dydd. Anfonir ef Irwy ?/ Post am Chtual-lei- iin olll telerau canlynol:—1 (os telir yn mlacn) am 2s; 2 am 3s 4c; 3 am 4s. 6c. Os net thclii- un mlaen, 1 am 2s. 3c.; 2 am 3s. 9c.; a 3 am 4s He.
YR- WYTHNOS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR- WYTHNOS. Mae Mr Gladstone, Mrs, a Miss Glad- stone yn treulio yr wythnos hon yn Knowsley, ar ymweliad a Iarll Derby. Dydd Mawrth diweddaf, glaniodd Mri Moody a Sankey, y diwygwyr Americanaidd, yn Cork. Ymddengys fod y teimlad gwrth-Iuddewig yn cynyddu yn Bohemia. Mewn amryw fanau gwelir papyrau ar y muriau a'u hamcan i gyffroi teimlad y lluaws yn erbyn yr Iuddewon. Mae y Marquis Conyingham yn gorwedd yn glaf iawn o'r typkoÙl fever yn y Bifrons, Canterbury. Hefyd, y mae ei frawd-yn- nghyfraifch a'i gefnder yn glaf o'r un afiechyd, trwy iddynt yfed dwfr sefydlog pan allan yn saethu ill tri. Cyflwynodd M. Grevy, Arlywydd Ffrainc, ymddiheurad i Frenin Ysbaen am y sarhad a daflwyd arno pan ar ymweliad a Paris. Nid yw y mater wedi ei lwyr derfynu rliwng y ddwy Lywodraeth, ond y mae y teimlad eyboeddus wedi oeri cryn lawer, a dysgwylir y terfynir pobpeth yn foddhaol a heddycbol. Yn Nghynadledd yr Eglwys yn Reading, y dydd arall, cafwyd dadl frwd ar bwnc y Llysoedd Eglwysig. Condemnia rhai y Llys Cyffredin (secular) fel ymyriad angbyf- reitblon a hawliau hanfodol yr Eglwys. Gwell gan ereill fuasai ymddiried i lys ynadon diragfarn nag i lys yr esgob allasai fod wedi ei feddianu a rhagfarn ac a drwg- deimlad. Nid oedd heddweh o fewn magwyrydd yr hen Eglwys, beth bynag am ffyniant yn ei phalasau, ond mewn ystyr dymhorol ac arianol. Yn mysg y gwahanol Gynadleddau, Undebau, &c., a gynelir y dyddiau hyn mewn gwahanol fanau yn y wlad, y mae cynadledd o gymeriad newydd yn cael ei chynal yn Llundain. Gelwir hi Cynad- ledd Genedlaethol Afalau" (National Apple Congress). Amcan y gymdeithas newydd hon ydyw cymeryd mantais ar y cnwd anarferol o doreithiog o afalau a gafwyd y flwyddyn hon, i geisio gwella gwrteithiad y gwabanol rywiogaethau o'r afalau. Mae ganddynt arddangosfa o 8,000 o ddysgleidiau o afalau, gyda phedwar neu chwech math o afalau ar bob dysgl. O'r rhai hyn, y mae dros 1,000 wedi dyfod o Ysgotland. Mewn colofn arall, gwelir adroddiad o'r cyfarfod mawr a gynaliwyd yn Merthyr, ddydd Llun diweddaf, pan yr anerchwyd gweithwyr y parthau poblog hyny gan ein cydwladwyr enwog Mr Henry Richard a Mr C. H. James, yr aelodau dros Ferthyr ac Aberdar. Yr oedd y materion yn rhai perthynasol, amserol, a phwysig i'r gweith- wyr fel dosbarth pwysig yn y wladwriaeth, a thraethodd yr aelodau anrhydeddus arnynt yn glir, grymus, a didderbyn-wyneb, fel rhai wedi meddwl yn fanwl, a theimlo yn ddwys bwysigrwydd yr hyn a lefarent; a hawdd oedd deall wrthynt mai nid eu hamcan oedd boddloni y gweithwyr, ond eu llesoli, a bod y cydymdeimlad dyfnaf rhyngddynt a hwy. Gwasgai Mr Richard arnynt yn ddifrifol y pwysigrwydd o sefydlu Byrddau Cyflafareddol a Byrddau Hedd- ychiadol, mewn trefn i benderfynu dadleuon ac ysgoi strike ar y naill law, a lock-out ar y llaw arall. Pan ddaetb at ei hoff bwnc heddweh, yr oedd, fel arfer, yn ei ogoniant. Dywedodd ffaith gwerth i'w chofio, a meddwl am dani yn ystyriol, sef fod 2,180,000 o ddynion wedi eu lladd gan ryfeloedd rhwng gwledydd Cristionogol o'r flwyddyn 1835 hyd y flwyddyn 1880 a'r arian a wariwyd yn y rhyfeloedd hyny oedd ■ £ 2,653,000,000! Onid yw yn bryd gwaeddi am heddwch? Mae Bwrdd Masnach newydd gyhoeddi Adroddiad Swyddogol o'r holl ddamweiniau ar y rheilffyrdd am y chwe' mis diweddaf. Yn y dyddiau hyn pan y mae cynifer o ddynion yn gorfod teithio llawer wrth ddilyn eu galw- edigaethau, a'r fath nifer dirfawr yn cymeryd pleserdeithiau, y mae Adroddiad o'r natnr hwn yn un dyddorol a pfrwysig i bob dos- barth yn y wlad. Yn ysbaid y chwe' mis, cafodd 584 o bersonau eu lladd, a 4,021 eu niweidio ar wahanol linellau y deyrnas ond o'r rhai hyn dim ond 17 a laddwyd, a aS4 a niweidiwyd gan gerbydresi tra yn rhedeg. Tra yn ystyried nifer y damweiniau a gymer- asant le, y mae y canlyniadau yn fychain iawn. Cymerodd 1,316 o ddamweiniau Ie, felly dim ond un teithiwr yn mhob cant a haner o ddamweiniau a laddwyd. Dosberthir y damweiniau i wahanol ddosbeirth, a nodir allan achosion y damweiniau angeuol. Yna ceir fod y rhan fwyaf ohonynt i'w priodoli i ddiofalwch dynion yn cerdded ar y rheilffyrdd tua'r gorsafoedd heb gadw eu golwg ar y trains fyddo mewn mudiad i waith dynion yn croesi y llinellau ar ddynesiad y trains; ac i ryfyg dynion yn neidio i mewn i'r cerbydau ar ol iddynt gychwyn, neu ddisgyn ohonynt cyn iddynt sefyll, a thrwy hyny yn syrthio rhwng yr esgynlawr a'r cerbyd, ac o dan yr olwynion. Cafwyd hefyd fod 32 o'r rhai a laddwyd wedi cyflawni hunan- laddiadau trwy daflu eu hunain o dan y trains. Yn mysg y lladdedigion yr oedd yn agos i ddau cant a haner o weis- ion y cwmpeini, a'r rhan fwyaf ohonynt wedi en lladd yn herwyddeu diofalwch a'u rhyfyg, yr un fath a'r lleill. Er fod y nifer yn fychan wrth ystyried y miliynau a deithiant yn y ffordd hon mewn haner blwyddyn, rhaid cydnabod ei fod yn fwy nag y dylasai fod, a'i bod yn gorphwys mewn rhan ar y teithwyr eu hunain i'w leihau, trwy arfer mwy o ofal wrth fyned i mewn ac allan o'r cerbydau. Ac os na chymer y gweision fwy o ofal ohonynt eu hunain, dylai yr awdurdodau osod rheolau caethach am danynt, a'i wneyd yn drosedd cosbadwy i groesi o'r naill esgynlawr i'r llall pan y byddo y peir- iant o fewn ychydig latheni iddynt. Dylid gosod terfyn ar yr arferiad beryglus o fyned rhwng cerbydau a thryciau i'w cysylltu neu eu dadgysylltu pan y byddant mewn mudiad (motioit). Nis gall na ddygwydd damwein- iau, ond gyda gofal gellid yn hawdd leihau eu nifer.
GWYLIAU YR IIYDREF. -
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWYLIAU YR IIYDREF. YR ydym yn arfer son am uchelwyliau crefyddol Mai, ond y mae yr Hydref yn dyfod bron mor nodedig a Mai am ei wyliau arbenig; ond yn unig mai yn Llundain y cynelir gwyliau Mai, ond cynelir gwyliau Hydref ar gylch yn mhrif drefi y deyrnas. Yr wythnos ddiweddaf y cynaliwyd Cyfarfod Hydrefol UNDEB *Y BEDYDDWYR yn Leicester. Mae Leicester yn lie nodedig yn hanes y Bedyddwyr, ac yn wir yn hanex Ymneillduaeth, ac oblegid hyny yr oedd llawer o briodoldeb yn ngwaith y Cadeirydd, y Parch J. P. CHOWN, yn dewis Gwersi o Leicester yn destyn ei anerchiad. Dichon y tybia rhai fod y penawd yn syml i fod yn destyn anerchiad o gadair yr Undeb; ond nid oddiar y testynau mwyaf uchelseiniol y ceir yr anerchiadau goreu bob amser, a hwvrach mai perygl llawer ydyw amcanu at bethau rhy fawr a rhy uchel iddynt. Leicester ydyw gorseddfa y Bedyddwyr- hwy ydyw yr Enwad cryfaf yno o lawer, ac y mae enwau llawer o'u henwogion yn ngl^n a'r lie. Bu ROBERT HALL, tywysog pregeth- wyr Lloegr, yn ei oes yn llafurio yno. Oddiyno yr aeth WILLIAM CAREY, y cenadwr gwrol, anturiaethus, a llwyddianus allan; ac y mae JAMES MURSELL, yr hwn a lafur- iodd yno am oes hir, mar amvy] a phnrchus ag un ohonynt. Nid oes un lie yn Lloegr wedi hynodi ei bun yn fwy yn uglyu a phob cwestiwn eyboeddus yn arweddu ar ryddid gwladol a chrefyddol yn fwy na Leicester.