Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

U ' M li L Y i) It U JM IA…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

U M li L Y i) It U JM IA JLi. • MAE dau lyfr wedi ein cyrhaedd yn ddiweddar y carem alw sylw darllenwyr y TYST atynt, gan y credwn y byddai darlleniad manwl ohonynt yn sicr o ychwanegu eu gwybodaeth Feiblaidd, ac yr ydym yn cyfeirio atynt gyda mwy o ddy- ddordeb am eu bod o ran eu prisoedd o fewn cyrhaedd y rhan luosocaf o ddarllenwyr y TYST. Mae y gyfrol ar y Rhagarweiniad i'r Testament Newydd wedi ei ysgrifenu gan Dr Plumtre, Deon Wells, a cheir rhagymadrodd i'r gyfrol gan yr Esgob Ellicott. Ceir yn y gyfrol hon benodau ar Lyfrau y Testament N ewydd-Text y Testament N ewydd-Cyfieithiadau Seisonig y Testament Newydd—Ffynonell y tair Efengyl cyntaf — Cysondeb yr Efengylau Cysondeb Amseryddol yr Efengylau. Byddai darlleniad manwl ohono yn sier o oleuo ein pobl ieuaine ar faterion oeddynt yn dywyll hollol iddynt o'r blaen—cwestiynau y mae yn rhaid i'r to sydd yn codi eu deall, onide byddant yn chwerthin- iad yn ngolwg gwadwyr y grefydd ddatgudd- iedig. Mae y gyfrol arall yn yr un gyfres gan Mri Cassell, sef Esboniad ar Titus, Philemon, Heb- reaid, a Iago. Fe ddealla y darllenydd mai yr un esboniad ydyw hwn mown man gyfrolau a'r New Testament Commentary for English Readers," gyhoeddwyd rai blynyddau yn ot dan olygiaeth Esgob Ellicott. Mantais y gyfres hon, a elwir The Commentary for Schools," dan yr un olygiaeth, ydyw hyn, y gellir cael y gwahanol efengylau neu epistolau, gan mwyaf, ar eu penau eu hunain am bris rhesymol. Yn y gyfrol o'n blaen cawn esboniad ar Titus, gan y Parch H. D. M. Spence, M.A., ficer St. Pancras Philemon, gan y Parch Alfred Barry, D.D., Prifathraw King's College, Llundain, a Chanon Westminster; Hebreaid, gan Dr W. F. Moulton, Prifathraw Coleg y Wesleyaid yn Nghaergrawnt. Iago, gan y Parch E. G., Punchard, M.A. Mae yr enwau uchod yn ddigon o warantiad am esboniad cywir, beth bynag, ar yr epistolau yr ymdrinir a hwy. Mae enw Dr Moulton yn adnabyddus fel un sydd yn sefyll yn y rhestr fl.aenaf yn mysg beirniaid Ysgrythyrol, ac y mae y ffaith fod y fath awd- urdodau uchel ag Esgob Lightfoot a Dr Westcott yn crybwyll ei enw gyda'r fath barch, ac yn cydnabod eu rhwymedigaethau parhaus iddo yn eu hymchwiliadau Beiblaidd,"yn myned yn mhell i brofi y safle uchel sydd iddo yn mhlith ysgolheigion Beiblaidd y deyrnas. Hy- derwn y myn ein darllenwyr rai o gyfrolau y gyfres hon yn eiddo iddynt eu hunain.

Family Notices

GWYLIAU YR IIYDREF. -