Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

EGLWYSI GWEIGION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EGLWYSI GWEIGION. Dyma un o'r cwestiynau hyny y mae awdur- dodau y Daily Courier yn ei ystyried yn ddigon pwysig i gaell le amlwg yn ngholofnau y newydd- iadur hwnw. At "Eglwysi Sefydledig gweigion" y cyfeirir yn fwyaf neillduol, a'r rhai hyny yn Liverpool; ond wedi darllen y sylwadau, mae yn ddigon amI wg fod yr hyn sydd yn cael ei briodoli fel achos fod yr Eglwysi yn weigion yn Liverpool yn ffynu hefyd yn Nghymru. Dodwn i mewn yma fwyafrif y sylwadau a ymddangosodd yn y Courier am fis Awst. Eglwysi gweigion, a'r achos o hyny." Yn gyntaf, dywed un gohebydd yn debyg i hyn -Fod y tadau wedi adeiladu gormod o Eglwysi o gylch St. Luke. Eu bod wedi codi Eglwysi fel yr opdd, ac nid fel y byddai Liverpool. Fod y ddinas wedi ymledu yn ddirfawr, ac oherwydd hyny fod yn ofynol cael Eglwysi tuallan i'r dref; o gan- lyniad, fod Eglwysi sydd o gylch St. Luke yn colli gafael ar y gynulleidfa, am fod y diweddaf yn caru cyfleustra a newydd-deb. Yr ail achos a nodir ydyw, fod y canu yn failure yn rhai o'r Eglwysi, a bod y canlyniad yn amlwg, sef seti gweigion; ac os oeddynt am Eglwysi Ilawnion, cynghora hwynt i gael canu da, mae lie bynag y byddai y canu oreu, yno yr a y tyrfaoedd. Dywed un arall mai am fod dynion anghrefydd- ol, neu anysbrydoledig, sydd yn cario y gwas- anaeth yn mlaen; a chan nad oes ganddynt H ddawn yr Ysbryd," fod y Iluaws yn blino a'r ddysgeidiaeth ddynol, ac yn myned i le arall i geisio maeth ysbrydol. Yn nesaf, cawn fod yr achos yn cael ei briodoli i ddiffyg ymweliadau ar ran swyddogion yr Eglwysi; a chan fod y rhai sydd yn proffesu crefydd yn ddifater yn nghylch y rhai hyny sydd oddiallan. Fod llawer yn mynychu yr Eglwysi yn achlysurol, ond gan nad oes neb yn cymeryd y sylw lleiaf o'u habsenoldeb, eu bod yn crwydro, ac yn ami heb fyned i leoedd addoliad o gwbl, a bod tuedd yn y bobl i fyned lie y cymerir dyddordeb yn eu llwyddiant. Yn y fan yma y cyfyd math o ddadl ar Pwy sydd 1 ymweled ? Dywed un mai gwaith y swyddogion sydd yn gofalu am achosion allanol yr Eglwysi ydyw, tra y dadleua y Hall mai dyled- swydd y clerigwr ydyw yr ymweled, am fod ganddo fwy o amser na'r rhai hyny sydd bob dydd yma a thraw gyda'u gorchwylion. Yn ddiweddaf, daw gohebydd arall yn mlaen, a chyda dull boneddigaidd, dywed hwn fod perygl ynom y dyddiau hyn am fod yn orselog am gael Eglwysi llawnion, ac wrth ymdrechu yn ormodol am yr allanol, ein bod mewn perygl o esgeuluso y mewnol a'r ysbrydol. Fod diffyg cydweithrediad rhwng swyddogion Eglwysig, ac awgryma y priodoldeb ar i'r offeiriad a'r swyddogion ereilJ, a phob aelod gwirioneddol, fyned allan i'r heolydd ac i'r tai, a pbregethu y gwirionedd mewn didwylledd cariad ac ond i bob un gydweithio er Ilesoli y rhai sydd o'u cwmpas, y gwelir eto Eglwysi llawnion, ac y byddai i'r bobl weled fod rhyw werth mewn Cristionogaeth. Mae yn demtasiwn bod yn ddystaw yn wyneb y sylwadau uchod. Cofiwn fod y matsr o ymweled a'r absenolion wedi bod yn destyn sciat yn un o'r eglwysi cryfaf yn sir Fflint. DadIeuai rhai fod y bugail yn esgeuluso hyd yn nod yr aelodau -y gallent fod yn absenol am wythnosau, ac eto fod y gweinidog heb ymholi yn eu cylch. Yn sicr ddigon nid ar y bugail mae yr holl fai na byddai yr eglwysi yn ein gwlad yn llawnion. Na, na, mae lie i ofni fod llawer yn dysgwyl gormod wrth y bugail, pan mewn gwirionedd y dylai y swydd- ogion, yn nghyda'r holl aelodau, fod yn is- fugeiliaid, a chadw mewn golwg fod pob aelod o'r wir eglwys yn gyfrifol dros y rhai sydd yn esgeuluso moddion gras. Yr ydym yn cyflwyno y sylwadau uchod i ystyriaeth y darllcnydd am eu gwertb. AMBROSE. o

GWAELOD GWLAD MYRDDIN.

CEFNCOEDYCYMER.

Advertising

HAWLIAU HYNAFIAETHOL Y CYMRY.