Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

--..-DEHEUBARTII SWYDD FFLINT.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DEHEUBARTII SWYDD FFLINT. Yr Anrhydeddus William Ewart Gladstone, yw y dyn mwyaf poblogaidd yn yr boll fyd heddyw. Ymdyra miloedd lawer o bob cwr o'r byd bob wytbnos i Hawardon, i gael cipolwg ar Brif Wein- idog Prydain Fawr, a'i glywed yn darllen y Ilitb- iau yn yr Eglwys, lie mae ei fab Stephan yn beriglor. Cerdda o'r Castell i'r Eglwys bob boreu i'r gwasanaeth crefyddol erbyn wyth o'r glocb, ac wedi hyny ymneilldua am ryw ysbaid i'w fyfyr- gi-ill, lie y cyfarwydda ei brif-ysgrifenydd gyda golwg ar waith y dydd, a pha fodd i ateb y can- oedd llythyrau sydd wedi d'od i law y boreu hwnw. Wedi gorphen bynyna o waitb, a allan yn nghwmni ei feibion,snou ryw foueddigion ereill, i ymdairyru ei him trwy gymeryd gafael yn ei fwyell ardderchog i syrthio un o'r hen dderw mwyaf ar y pare, neu trwy ymrodio yn ol ac yn mlaen rhwng y coed gwyrcld-ddeiliog tewfrig a chadarn ag sydd yn amgylchynu hen Gastell hen- afol Hawarden. Dichon nad ydyw Cymru ddim yn gwybod mai uu o ferched swydd Fliint ydyw MRS. GLADSTONE. Boneddiges yn ngwir ystyr y gair ydyw. Haedda barch dau-ddyblyg. Nid ydyw arwr y bobl byth yn myned i St Stephan nad ydyw hi wedi darparu pob peth iddo cyn eyehwyn. Eiddunaf iddi lawer o flynyddoedd eto i wasanaethu ei gwlad yn ei dull hi o wneyd hyny.-Y moe llawer iawn o FARWOLAETHAU wedi bod yn y parth hwn o'r byd er pan yegrifen- ais ddiweddaf i'r TYST A'R DYDD, a'r wythnos ddiweddaf bu farw yr hen frawd Thomas Williams, Caergwrle, yr hwn oedd yn adnabyddus iawn i lawer o genadon hedd enwocaf y Gogledd. Syrthiodd i'r bedd mewn oedran teg, yn 75 mlwydd oed. Gwiriwyd y geiriau byny yn y cyfiawn hwn, Ti a ddeui mewn henaint i'r bedd, fel y cyfyd ysgafn o ýd yn ei amser." G weithiodd yn ddifefl yn ngwinllan ei Arglwydd, bywyd o weithgarweh oedd yr eiddo ef fel Paul a'i Waredwr. Nid oedd dim a'i blinai yn fwy na gweled aelodau musgrell gyda chrefydd. Yn anaml y gwelid ei le yn wag yn y moddion wythnosol. Yr oedd y cyfarfod gweddi cenadol hefyd yn agos iawn at ei galon, 11 byddai bob amser yn rhagddarparu ar ei gyfer; pe gelwid arno i ddechreu, darllenai benod fyddai yn dal perthynas a llwyddiant teyrnas yr Emmanuel. Yr oedd ganddo emynau detholedig i'r amgylch- iad. a phan yn anerch gorsedd gras, yr oedd ei eiriau bob amser yn gyfaddas a chymeradwy. Nid oedd dim a'i gwnai yn fwy anesmwyth no. gweled hen grefyddwyr, ac yn neillduol aelodau ieuainc gyda chre"fydd yn d'od i'r gyfeillach gref- yddol, y cyfarfod gwe'ldi, nen unrbyw foddion o ras arall yn anmharod. Nid oedd dim a'i blinai yn fwy na gweled aelodau yn d'od yn mlaen i'r set fawr i ddechreu'r moddion yn anmharod hollol gan droi tudalenau'r Beibl yn ol ac yn mlaen am l'hyw bum' mynyd, ac ar ol yr holl yrndroi yn darllen penod hollol anaddas i'r cyfarfod gweddi cenadol, gan roddi emyn angladdol allan i ganu, a chodi oddiar eu gliniau beb gofio am y cenadon ua'r Efengyl. Teimlai bryder mawr gyda golwg ar ieuenctyd crefyddol yr ardal. Ymofidiai wrth weled cynifer ar ol darfod a'u gorchwylion beu- nyddiol yn rhedeg i chwareu'r bel droed, ac eis- tedd yn nghwmni'r annuwiol, a gwario eu hamser bob ymbarotoi dim ar gyfer y wers Sabbothol. Credai y gallasai y dynion ieuaine i dreulio eu hamser yn well, a byw yn fwy i bwrpas. Ymby. frydai mewn gwaith. Carai son am dano ei hun ac ereill yn cerdded am filldiroedd lawer i gyfar- fodydd gweddio pan nad oedd yr un capel yn yr ardaloedd. Yr oedd nid yn unig yn planu eglwysi ond yn eu dyfrhau hefyd. Derbyniwyd ef yn aelod crefyddol pan yn 20 mlwydd ocd gan yr an- farwol Williams o'r Wern, yn Mhenystryd, rai misoedd cyn adeiladu Penuel, yn mhlwyf Estyn. Bu yn cerdded am rai blynyddoedd o ardal Penuel i Gaergwrle (pellder o dair milldir) i gynal cyfarfodydd gweddio, a sefydlu Yagol Sab- bothol, pan nad oedd yr an capel i'w gael. Wedi llaf urio yn galed am flynyddoedd, codwyd capel yn Nghaergwrle, yr hwn le erbyn beddyw sydd yn bur flodeuog. Er's yn agoa i bedair blynedd yn ol, daeth i'r penderfyniad o ymneillduo o'r fferm Penyparlr, a myned yn agos i Bontybodkin i fyw at ei fab Robert, fel y gallasai gael mwy o dawel- wch yn ei hen ddyddiau, ac felly ymaelododd ei hun yn Ngbaergwrle, lie bu hyd ddydd ei t'arwol. aeth. Gweithiodd hefyd yn galed iawn o blaid y symudiad dirwestol, pan oedd cymdeithas yn edrych i lawr gyda dirmyg ar ddirwest. Yr oedd yn hen veteran yn myddin dirwest. Yr oedd yn ddirwestwr er's dros 52 mlynedd. Yn y cyfar- fodydd diwygiadol dirwestol a gynaliwyd yn mhlith y gwahanol onwadau crefyddol yma'r gauaf diweddaf, cymerodd y diweddar Thomas Williams ran bron yn mhob un ohonynt. Ond efe a fu farw. Hunodd yn yr lesu prydnawn dydd Mawrth, yr 2il o'r mis hwn, a'i ddiwedd oedd tangnefedd. Cafodd gystudd trwm, ond byr. Claddwyd ef y Sadwrn canlynol yn mynwent Estyn, o dan y ddeddf newydd, pryd y gwainydd. wyd with y ty cyn cychwyn gan y Parch R. C. Jones (C.M.), Caergwrle, ac yn y fynwent ar lan y bedd gan y Parchn J. Morgan Jones, Caergwrle; J. Myrddin Thomas, Wyddgrug a J. Grierson (B.), Buckley. Cafodd ei gladduynanrhydeddus. Heddwch i'w lwcb. Yr Arglwydd a nertho ei blant a'i wyrion i rodio llwybrau crefydd. Y nos Sabbpth canlynol, traddododd y Parch J. Myrddin Thomas (fel ei ben weinidog), bregeth angladdol ar ol yr ymadawedig, oddiwrth y geiriau sydd i'w gweled yn 1 Cor. xv. 58. GOHEBYDD.

LLANELLL

FOD CHWAKTEEOL MALDWYN.

RHYL.

YMYLON Y FFORDD. -