Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
--..-DEHEUBARTII SWYDD FFLINT.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DEHEUBARTII SWYDD FFLINT. Yr Anrhydeddus William Ewart Gladstone, yw y dyn mwyaf poblogaidd yn yr boll fyd heddyw. Ymdyra miloedd lawer o bob cwr o'r byd bob wytbnos i Hawardon, i gael cipolwg ar Brif Wein- idog Prydain Fawr, a'i glywed yn darllen y Ilitb- iau yn yr Eglwys, lie mae ei fab Stephan yn beriglor. Cerdda o'r Castell i'r Eglwys bob boreu i'r gwasanaeth crefyddol erbyn wyth o'r glocb, ac wedi hyny ymneilldua am ryw ysbaid i'w fyfyr- gi-ill, lie y cyfarwydda ei brif-ysgrifenydd gyda golwg ar waith y dydd, a pha fodd i ateb y can- oedd llythyrau sydd wedi d'od i law y boreu hwnw. Wedi gorphen bynyna o waitb, a allan yn nghwmni ei feibion,snou ryw foueddigion ereill, i ymdairyru ei him trwy gymeryd gafael yn ei fwyell ardderchog i syrthio un o'r hen dderw mwyaf ar y pare, neu trwy ymrodio yn ol ac yn mlaen rhwng y coed gwyrcld-ddeiliog tewfrig a chadarn ag sydd yn amgylchynu hen Gastell hen- afol Hawarden. Dichon nad ydyw Cymru ddim yn gwybod mai uu o ferched swydd Fliint ydyw MRS. GLADSTONE. Boneddiges yn ngwir ystyr y gair ydyw. Haedda barch dau-ddyblyg. Nid ydyw arwr y bobl byth yn myned i St Stephan nad ydyw hi wedi darparu pob peth iddo cyn eyehwyn. Eiddunaf iddi lawer o flynyddoedd eto i wasanaethu ei gwlad yn ei dull hi o wneyd hyny.-Y moe llawer iawn o FARWOLAETHAU wedi bod yn y parth hwn o'r byd er pan yegrifen- ais ddiweddaf i'r TYST A'R DYDD, a'r wythnos ddiweddaf bu farw yr hen frawd Thomas Williams, Caergwrle, yr hwn oedd yn adnabyddus iawn i lawer o genadon hedd enwocaf y Gogledd. Syrthiodd i'r bedd mewn oedran teg, yn 75 mlwydd oed. Gwiriwyd y geiriau byny yn y cyfiawn hwn, Ti a ddeui mewn henaint i'r bedd, fel y cyfyd ysgafn o ýd yn ei amser." G weithiodd yn ddifefl yn ngwinllan ei Arglwydd, bywyd o weithgarweh oedd yr eiddo ef fel Paul a'i Waredwr. Nid oedd dim a'i blinai yn fwy na gweled aelodau musgrell gyda chrefydd. Yn anaml y gwelid ei le yn wag yn y moddion wythnosol. Yr oedd y cyfarfod gweddi cenadol hefyd yn agos iawn at ei galon, 11 byddai bob amser yn rhagddarparu ar ei gyfer; pe gelwid arno i ddechreu, darllenai benod fyddai yn dal perthynas a llwyddiant teyrnas yr Emmanuel. Yr oedd ganddo emynau detholedig i'r amgylch- iad. a phan yn anerch gorsedd gras, yr oedd ei eiriau bob amser yn gyfaddas a chymeradwy. Nid oedd dim a'i gwnai yn fwy anesmwyth no. gweled hen grefyddwyr, ac yn neillduol aelodau ieuainc gyda chre"fydd yn d'od i'r gyfeillach gref- yddol, y cyfarfod gwe'ldi, nen unrbyw foddion o ras arall yn anmharod. Nid oedd dim a'i blinai yn fwy na gweled aelodau yn d'od yn mlaen i'r set fawr i ddechreu'r moddion yn anmharod hollol gan droi tudalenau'r Beibl yn ol ac yn mlaen am l'hyw bum' mynyd, ac ar ol yr holl yrndroi yn darllen penod hollol anaddas i'r cyfarfod gweddi cenadol, gan roddi emyn angladdol allan i ganu, a chodi oddiar eu gliniau beb gofio am y cenadon ua'r Efengyl. Teimlai bryder mawr gyda golwg ar ieuenctyd crefyddol yr ardal. Ymofidiai wrth weled cynifer ar ol darfod a'u gorchwylion beu- nyddiol yn rhedeg i chwareu'r bel droed, ac eis- tedd yn nghwmni'r annuwiol, a gwario eu hamser bob ymbarotoi dim ar gyfer y wers Sabbothol. Credai y gallasai y dynion ieuaine i dreulio eu hamser yn well, a byw yn fwy i bwrpas. Ymby. frydai mewn gwaith. Carai son am dano ei hun ac ereill yn cerdded am filldiroedd lawer i gyfar- fodydd gweddio pan nad oedd yr un capel yn yr ardaloedd. Yr oedd nid yn unig yn planu eglwysi ond yn eu dyfrhau hefyd. Derbyniwyd ef yn aelod crefyddol pan yn 20 mlwydd ocd gan yr an- farwol Williams o'r Wern, yn Mhenystryd, rai misoedd cyn adeiladu Penuel, yn mhlwyf Estyn. Bu yn cerdded am rai blynyddoedd o ardal Penuel i Gaergwrle (pellder o dair milldir) i gynal cyfarfodydd gweddio, a sefydlu Yagol Sab- bothol, pan nad oedd yr an capel i'w gael. Wedi llaf urio yn galed am flynyddoedd, codwyd capel yn Nghaergwrle, yr hwn le erbyn beddyw sydd yn bur flodeuog. Er's yn agoa i bedair blynedd yn ol, daeth i'r penderfyniad o ymneillduo o'r fferm Penyparlr, a myned yn agos i Bontybodkin i fyw at ei fab Robert, fel y gallasai gael mwy o dawel- wch yn ei hen ddyddiau, ac felly ymaelododd ei hun yn Ngbaergwrle, lie bu hyd ddydd ei t'arwol. aeth. Gweithiodd hefyd yn galed iawn o blaid y symudiad dirwestol, pan oedd cymdeithas yn edrych i lawr gyda dirmyg ar ddirwest. Yr oedd yn hen veteran yn myddin dirwest. Yr oedd yn ddirwestwr er's dros 52 mlynedd. Yn y cyfar- fodydd diwygiadol dirwestol a gynaliwyd yn mhlith y gwahanol onwadau crefyddol yma'r gauaf diweddaf, cymerodd y diweddar Thomas Williams ran bron yn mhob un ohonynt. Ond efe a fu farw. Hunodd yn yr lesu prydnawn dydd Mawrth, yr 2il o'r mis hwn, a'i ddiwedd oedd tangnefedd. Cafodd gystudd trwm, ond byr. Claddwyd ef y Sadwrn canlynol yn mynwent Estyn, o dan y ddeddf newydd, pryd y gwainydd. wyd with y ty cyn cychwyn gan y Parch R. C. Jones (C.M.), Caergwrle, ac yn y fynwent ar lan y bedd gan y Parchn J. Morgan Jones, Caergwrle; J. Myrddin Thomas, Wyddgrug a J. Grierson (B.), Buckley. Cafodd ei gladduynanrhydeddus. Heddwch i'w lwcb. Yr Arglwydd a nertho ei blant a'i wyrion i rodio llwybrau crefydd. Y nos Sabbpth canlynol, traddododd y Parch J. Myrddin Thomas (fel ei ben weinidog), bregeth angladdol ar ol yr ymadawedig, oddiwrth y geiriau sydd i'w gweled yn 1 Cor. xv. 58. GOHEBYDD.
LLANELLL
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANELLL Capel Als.-Nos Lun cyny diweddaf, ar ddiwedd y cyfarfod gweddi cenadol, darllenoddy gweinidog bapyr ar y "Beibl Cymraeg," yn rhoddi hanes y cyfieithiad, gyda braslinelliad o fywyd y cyfieithwyr a'u cynorthwywyr yn y gwaitb, a des- grifiad o sefyllfa dywyll y genedl Gymreig cyn cael Gair Duw yn eu hiaitb. Wedi gorphen y darlleniad, canodd y gynulleidfa gyda hwyl- Am Efengyl gras a'i breintiau Rhoddwn ddiolch byth i ti, Caffer ffrwythan iachawdwriaeth Yn lluosog arnom ni: I'r gwirionedd, &c., Gwna ni'n ffyddlon tra bo'm byw. Yr oedd yn amlwg wrth y canu fod y papyr a ddarllenwyd wedi cyffwrdd a chalon y gynulleidfa luosog ddaethai yn nghyd. Siaradwyd ar gynwys- iad y papyr gan Mri Henry Thomas, Station Road J. Bevan, Brynrbos House; Joseph Rees, Paddock-street; Jas. Marks, Wenlle; James Thomas, Ann-street; J. Davies, Llygadyrych, &c. Penderfynwyd fod cyfarfod o'r fath i gael ei gynal yn fisol drwy y gauaf er addysg y bobl ieuainc. Amlygwyd dymuniad taer ar fod i'r papyr gael oi argraffu a'i wasgaru yn mysg yr aelodau a'r gyn- ulleidfa, ac addawodd yr awdwr gydsynio i'w gy- hoeddi yn batnphledyn. Cafwyd un o'r cyfarfod- ydd mwyaf dedwydd.—O'r South Wales Press.
FOD CHWAKTEEOL MALDWYN.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
MALDWYN. Cynaliwyd y cyfarfod diweddaf hwn yn Llan- silin, ar y dyddiau Iau a Gwener, Hydref 4ydd a'r 5ed. Daeth nifer da o'r frawdoliaeth yn nghyd i'r Gynadledd am 2 o'r gloch y dydd cyntaf, o dan lywyddiaeth y Parch T. J. Rees, Carno, y cadeirydd am y flwyddyn. Dechreu- wyd trwy weddi gan y Parch J. Charles, Croes- oswallt. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnod- ion y cyfarfod blaenorol. Darllenwyd llythyrau oddiwrth Mri Dillwyn, A.S., a Stuart Rendal, A.S., yn cydnabod yn ddiolchgar dderbyniad y penderfyniad a bag- iwyd yn Nghymanfa Carno, mewn perthynas i Ddadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru. Yua pender f'ynwyd— 1. Ein bod, wedi gwrando darlleniad llythyr cyflvvyniad i'r Parch J. Charles, Croesoswallt, o Gyfundeb Meirion, yn rboddi iddo y derbyniad mwyaf cynes fel aelod o'r Cyfundeb hwn, gan ddymuno ei gysur a'i lwyddiant yn uiaes newydd ei lafur. 2. Fod dymuniad ar yr eglwysi dyledog sydd yn ewyllysio cael cymhorth o Drysorfa y Jubili i an- fon eu ceisiadau, yn nghydag adroddiad o'r hyn y maent wedi ei gasglu o Mawrth, 1882, hyd Mawrth, 1883, i'r Ysgrifenydd, y Parch T. Hughes, Llan- santffraid, erbyn diwedd y mis hwn. 3. Fod y Purchu J. Jones, Machynlleth T. J. Rees, Carno T. Hughes, Llansantllraid; a Mr R. Jones, Y.H., Machynlleth, i gyurychioli y Cyfun- deb hwn yn y cyfarfod a gynelir yn Nghaernarfon yn nglyii a Dadgysylltiad yr Eglwys 'yn N gbymru. 4, Fod dymuniad ar y personau canlynol i ofalu am y casgliadau at Drysorfa y Sir eleni:— Parchn J. Silyn Jones, Llanidloes, yn nosbarth Llanbrynmair; T. J. Rees, Carno, yn nosbarth Machynlletb R. Powell, Drexnewydd, yn nos- barth Llanfair; ac E. Morris, Llanrhaiadr, yn nosbarth Llanfyllin. 5. Dygodd y Parch R. 0. Evans, Sammah, sy- mudiad y Parch 0. L. Roberts, Penarth, i Pen- tyrch, i sylw, a phasiwyd—" Ein bod yn teimlo yn flin oherwydd colli y Parch O. L. Roberts o'n Cyfundeb, ac yn dymuno ei gyflwyno trwy lythyr yn y modd cynesaf i Gyfundeb Dwyreiniol Morganwg." 6. Fod y cyfarfod nesaf i'w gynal, yn ol y gylch- res, yn Derwonlas-yr amser i'w nodi eto. 7. Fod y Parchn W. Roberts, Penybontfawr, a J. Charles, Groesoswallt, i bregethu yn y cyfarfod. nesaf ar y pynciau—y blaenaf ar Lywodraeth Duw dros y byd," a'r olaf ar bwnc a roddir iddo gan yr eglwys lie y cynelir y cyfarfod. Y MODDION CYHOEDDUS. Pregethwyd nos Iau, a thrwy y dydd dran- oeth, gan y Parchn O. L. Roberts, Penarth; J. Charles, Croeaoswallt; E. Roberts, Byrwydd W. R. Edwards, Sardis T. J. Rees, Carno R. Powell, Drefnewydd R. O. Evans, Sammah; a J. Jones, Llangiwc, Morganwg. Cafwyd cyf- arfod rhagorol iawn, Bendith yr Arglwydd fyddo yn aros arno byth. Penarth. O. L. ROBEBTS, Ysg. prp tem.
RHYL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
RHYL. Yr Eglvnjs QynvMeidfaol Seisonig.-Mae yn wy- bodus i ddarllenwyr y TYST A'R DYDD, fod y Parch D. Burford Hooke, Yagrifenydd Trysorfa Jubili Undeb Annibynwyr Lloegr a Chymru, wedi cydsynio a gal wad gafodd ycbydig amser yn ol oddiwrth yr eglwys ucbod a gyferfydd yn Water- street, a'r Sabboth diweddaf y decbreuodd ar ei weinidogaeth yn y lie. Mae Mr Hooke yn weith- iwr diail, ac yr ydym yn dra sier y ceir eglwys lewyrchus dan ei weinidogaeth. Deallwn nad yw yn bwriadu ar byn o bryd i roddi fyny ei Ysgrif- enyddiaeth i Drysorfa y Jubili, yr hon erbyn hyn sydd wedi cyrhaedd y swm anrhydeddus o droa je280,000. ANNXBYNWR.
YMYLON Y FFORDD. -
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
waith godi yr ysbrydion hyn, ceir mai gorchwyI anhawdd ydyw eu rboddi i lawr, oblegid y mae pob un ohonynt yn dwyn gydag ef saith ysbryd ereill gwaeth nag ef ei hun; a bydd mwy o ddrwg wedi ei wneyd nag a ddychymygwyd gan neb ar y dechreu. Gwelaf nad oes gofod wedi ei adael i mi i ddyweyd gair ar gynygiad Mr James i wneyd yr YSGOLORIAETHAU YN ENWADOL. Mae ymgais ar droed i sefydlu nifer o ysgol- oriaethau yn nglyn a'r Coleg, a chymhellir gwahanol ardaloedd, ac enwadau, a dos- barthiadau i gydweithredu yn byn ond cynygiai Mr James fod pob arian a gyfodid gan y Metbodistiaid i gael eu rhoddi er sefydlu ysgoloriaeth gyfyngedig i'w plant hwy eu hunain. Peth pur naturiol ydyw i leoedd ac enwadau feddwl yn gyntaf am eu pobl eu hunain ond yn sicr i lwyddiant dyfodol y sefydliad, goreu pa fwyaf agored fyddo yr boll ysgoloriaethau. Mae gan y Cynghor eisoes 44 o ysgoloriaetbau ac ar- ddangosiadau sydd yn agored i'r holl fyd a diau cyn hir y byddant yn ddau cymaint, yn dwyn enwau yr ardaloedd neu y dos- barthiadau a'u sefydlodd ond ni byddai dim yn fwy andwyol yn y pen draw i'r Coleg na'u bod yn gyfyngedig i gylch neu ddos- barth. Os yw y Metbodistiaid yn myncd i sefydlu ysgoloriaetb a'i cbyfyngu i blant y Mothodistiaid yn unig, pa both sydd i'w ddywedyd yn erbyn yr Eglvvyswyr am sef- ydlu ysgoloriaetb i'w cbyfyngu i blant Eglwyswyr yn unig ? Os ydyw yn iawn i'r naill ei wneyd, y mae yn iawn i'r Hall ei wneyd hefyd ac beb geisio tynu dim oddi- wrth y ganmoliaeth a roddir gan Mr James i'r Metbodistiaid am y flaenoriaeth y maent wedi ei gymeryd gydag addyag yn Nghymru, yn sicr ni byddent ar eu benill pe gweith- redai pawb ar yr egwyddor o ysgoloriaetbau cyfyngedig. Gadawer i ni gael niaes rbydd --yr ysgoloriaetbau oil yn agored i'r boll genedl yn ddiwahaniaeth; ac nid rbaid i blant y Methodistiaid, na pblant Ymneill- duwyr Cymru, na pblant y gweitbwyr, ofni mewn cystadleuaeth deg, wedi y delo boll fanteision addysg i'w cyrhaedd, na chant eu llawn gyfran o'r gwobrau a gynygir. Esguaoder fi am gymeryd y mater yma i fyny heno, gan mai dyma y mater sydd yn peri mwyaf o siarad yn y cylch y bum ynddo ddoe a heddyw. LLADMERYDD. CYFAR CHWAKTEEOL