Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Am chwecheiniog ceisiwch becin o Diamond Dyos gan eich ff >ryliyild. Mactit yu ilivvio umhyw beth yu y mudd goreu a mwyaf cyfieus. Edrychwch.
Llawer Mewn Yehydig.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Llawer Mewn Yehydig. Yn Portskewet cafodd plentyn ei fogi gan gath, yr hon a aeth i'r ystafell lie yr oedd y plentyn yn cysgu. 2 Dywedir fod un o lofruddion Arglwydd Mount- morres, wedi troi yn hysbyswr. Mae rhybndd wedi cael ei ddodi i fyny ar:byd Rwsia gan y Nihilistiaid yn condemnio y Czar i farw. Y mae tua 30,000 o blant yn byw mewn badau ar y camlasau yn Lloegr. Bwriedir cauad yr Arddangosfa Bysgod ar y 31ain o'r mis hwn. Meddylir defnyddio yr elw i sefydlu tai amddifaid i blant pysgodwyr sydd wedi marw. Mse rate marwolaethau Llnndain yr wythnos ddi- weddaf wedi gostwng i 16 yn mhob 1,000 o'r boblog- aetb. Y mae dros 74,000 o bersonau yn cael en cyflogi i atal, chwilio ;llan, neu gosbi troseddwyr cyfreithiau yn Lloegr, Ysgotland, a Chymru. Rhif poblogaeth tramorol a ehartrefol yr Ymherod- raeth Brydeinig. ydyw 315 o filiynau, ac y mae yn cynyddu ddwy filiwn a haner bob blwyddyn. Mae y Dundee University College wedi cael ei hagor. Sefydlwyd hi gan Miss Baxter, a chostiodd JB140 000 iddi. Rhoddodd gwraig i labrwr yn Blackburn enedigaeth i bedwar o blant yr wythnos ddiweddaf-dau faehgen a dwy ferch. Bu farw 60 o blant, a llawer o bersonan mewn oed- ran, oddiwrth dati a gymerodd le mewn chwareudy yn Yokohama. Cymerodd priodas ryfedd le yn ddiweddar yn Port- sea. Yr oedd y priodfab a'r briodasferch yn fud a byddar, ac yr oedd yr oil o'r cyfeillion oedd yn y briodaa yn fud a byddar. Pe bai i ryfel dori allan rhwng Germani a Ffrainc, gall Germani ddodi ar y maea 38,000 o swyddogion, 1,450 000 o ddynion, 27,000 o physigwyr a swyddogiou ereill, a 300.000 o geffylau. Boddwyd dw.y fenyw pan yn croesi pont dros afon chwyddedig yn yr Ysgotland. Yr oeddent yn myned i'r eglwys yn DUDS, ac wedi cerdded rhan go dda o'n ffordd-tua deg milltir. Mae canoedd o ddarlnniau o Marwood y crogwr, wodi eu gwerthu oddiar ddydd ei farwolaeth. Mae 21 o raff in, a naw set o straps wedi eu cael oddiwrth ei we Hw, ac wedi eu hanfon i Lundain, lie y byddant yn cael eu cynyg ar werth. Mae amryw geisiadau wedi cael eu gwneyd am rywbeth oedd yn pertbyn i Marwood pan yn fyw. Mae ei weddw erbyn hyn wedi marw. Cyflymwyd ei marwolaeth trwy yfed i or- modedd. Dygwyd test case o flaen Ustusiaid Bradford yr wythnos ddiweddaf, er mwvn penderfynu a oes hawl gan Ysgolfeistrjaid i roddi home lessons i'r plant. Dywedodd bargyfreithiwr nad oedd ganddynt hawl; a phan y enrwyd nc y caiwyd i mewn fachgen gan un o ysgolfeistri y Bwrdd am ballu gwneyd ei home lessons, dygwyd ef o flaen y llya gan ei rieni am ei gnro. Dywododd y fainc, fod ei gadw ef i mewn ar ol oriau yr ysgol yn angbyfreithlon, ac fod y curD yn aggrava- ted assault. Gollyngwyd yr ysgolfeistr yn rhydd gan yr Ustusiaid, ond rhoddwyd caniatad i'r rhieni gymeryd yr achos i lys uwch am ei fod yn achos pwysig.
HYN A'R LLALL O'R EFAILWEN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HYN A'R LLALL O'R EFAILWEN. Post Office.—Mae y lie yma yn sefyll oddeutu dwy filldir o orsaf Login, ar Linell y Whitland & Cardigan, heb fod yn mhell o bentref Goodwinrow. Deng mlynedd yn ol, yehydig iawn o bwys oedd yn nglyn a'r lie, ond erbyn beddyw mae masnach a chelfyddyd wedi stampio eu traedyno, nes mewn gwirionedd mae pob peth o'r newydd braidd yn hollol. Yn ddiweddar sefydlwyd yno Post Office dan lywyddiaeth Mr W. Lewis, yr hwn sydd ac wedi llanw ei swydd yn hynod o ddoeth, er mawr glod iddo a braint i'r gymydogaetb, Y Biban Glas.-Mae corau y parth hwn yn cael eu baddysgu yn bresenol gan y cerddor medrus Mr Lewis, y postfeistr, er cael gorymdaith gerdd- orol yn Whitland, ar y 23ain o'r mis Ihwn, pryd y dysgwylir Plenydd i draddodi darlith ar y testyn uchod yn y prydnawn yu yr awyr agored. Hefyd, yn yr hwyr, ceir anerchiad ganddo i'r bobl ieuainc. Credir y bydd yn bresenol ar yr amgylchiad 600, o leiaf, o ddirwestwyr! Bu Plenydd yn dra llwyddianus yn ei deithiau trwy y gymydogaeth; 1 cafwyd ganddo dameidiau nad ant yn anghof gan lawer. Yn mhlith ereill ag sydd wedi cymeryd yr ardystiad, mae enw Mr D. Davies, masnachydd, Maengwyn House. Gobeithio y bydd iddo ddef- nyddio ei alluoedd ardderchog trwy draddodi cyf- res o ddarlithiau, ae y bydd yn offeryn yn llaw Duw i ddwyn ycbwaneg o dan iau caethiwed i ryddid gogoneddus y Riban Glas. Arwerthiad Llwynyrebol.—Da genyf hysbysu fod yr arwerthia.d hwn wedi bod yn hynod o Iwydd- ianus mewn ystyr arianol-Syr John wedi gyru y rhan fwyaf o'r prynwyr i ysbryd y gwaith J Gwerthwyd y gwartheg yno yn amrywio o ddeu- naw i bump-ar-hugain o bunoedd, a'r petbau I ereill hefyd yn myned yn dda. Teilynga Mrs John barch ncillduol am ei bod wedi darparu hefyd bethau anfeddwol gyferbyn a'r dirwestwyr. CLEDDAUFAB.
Newyddion o Ogledd Cymru.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Newyddion o Ogledd Cymru. Tanysgrifiodd Mr Assheton Smith X200 tuag at drysorfa y Carrarvon Institute, yr hwn a sefydlwyd gan Alderman Lewis. Cynaliwyd cyfarfod sefydliad y Parch D. Burford Hooke, Llnndain, yn weinidog ar Eglwys Gynulleidfaol Seisonig Rhyl, y Sabboth cyn y diweddaf. Yr un dydd, dechreuodd Mr D. B, Hughes, o Goleg y Bala, ar ei ddylo^swyddau gweinidogaethol yn eglwysi Seisonig Connah's Q:¡ay a Northop. Bu Iarll Granville ar ymweliad a Mr Gladstone yn Nghastell Penarldg am amryw ddyddiau yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd Mri John Owen, M.A-, a W. J. Williams, Caernarfon, ar Lyn Superior pan giyfcrtiivyd oddiwrth- ynt ddiweddaf. Mae y Col. West, Castell Rhuthyn, ar gymeryd tilth hirfaith i'r America gyda'i frawd-yn-nghyfraith. Da genvm ddeall fod yn mryd y Parch E. Herber Evans i ail ymaflyd yn ei waith fel Gol. y Dysgedydd ar ddechreu y flwyddyn newydd. Enillodd y Rhyddfrydwr un-ar-hugain o bleldleisiau yn glir yn y llya cofrestriadol yn Ffestiniog yr wythnos ddiweddaf. Dywedir mai brodor o Lanbrynmair ydyw y Parch Thomas Morris Hughes, y curid a gyhuddwyd yr wythnos ddiweddaf yn Birmingham o amlwreiciaetb. Tra yn sillrad rnewn cyfarfad politicaidd yD Cefn, sir Ddinbych, nos Lun yr wythnos ddiweddaf, rhy- buddiai MrOsbornc Morgan, A.S., y Rhyddfrydwyr i ochelyd ymgeiswyr annibynol. Pasiwyd pon(ferfyniad gan ffermwyr Mon, mewn oyfarfod yn L'angefni, y dydd o'r blaen, yn ffafr gwneyd ymdrech i sicrban yr Arddangosfa Amaefch- yddol Freninol i Gaer yn 1885. Mae ffair anifeiliaid Dinasmawddwy wedi ei newid o'r 22ain i'r 23ain (dydd Mawrth) o Hydrel; oblegid foJ ffeiriau Machynlleth a Cynwyd yn dygwydd ar yr un dydd. Fel yr oedd masnachwr glo o Ysbytty, yn agos i Bettws-y-coed, yn cerdded i lawr i Gorwen, yn hwyr nos Lun diweddaf, ymosodwyd arno a Hadratawyd y swm 0.£53 oddiarno. Claddwyd un o frodyr lleygol Coleg y J esuitiaid, Aberdvfi, yn Cemetery Aberystwyth, prydnawn ddydd Mawrtb, Hydref 9fed. Dyma y farwolaeth gyntaf a gymerodd le yn y coleg er ei agoriad. Gwnaed ymgais—ond yn ffodus trodd yn aflwydd- ianus—yr wythnos ddiweddaf i roddi y Swan Hotel, Bettws-y-coed, ar dan. Y mae y lie wedi bod yn wag er'a tro. a dydd Ian canfyddwyd fod rhywun wedi tori i fewn drwy y cefn, ac wedi ceisio gosod yr adeilad ar dan. Hydref 3vdrl a'r 4ydd, cynaliwyd cyfarfod pregethu blynyddol Eijlwys Gynulleidfaol Gymreig Dolgellau. Y pregethwyr eleni oeddynt y Parchn O. Jones, Pwll- heli T. Nicholson, Dinbych a R. Thomas, Glandwr. Cafwyd cynulleidfaoedd llnosog, a phregethau grymus a galluog. Mae y boneddigion canlynol wedi en hapwyntio yn Ynadon Heddwch dros sir Gaornarfon :—Mr Thomas Lewis, Gartherwan, Bangor Mr Sydney Platt, Bryn- y-neuadd, Llanfairfechan Dr John Richards, Bangor; Dr Hughes, Bangor; Mr William Pugbe, National Provincial Bank, Bangor a C. Hordern, Llanrwst. Bwriada Canghellydd y Trysorlys (Mr Ciiilders) dalu ymweliad a sir Gaernarfon am ryw bedwar diwrnod yn ystod y mis hwn, sef o'r 18fed hyd yr 22ain. Bydd yn aros gyda Mr W. Rathbone, A.S., yn Glan- y.weddw, Pwllheli. Ymddiswjddodd y Parch J. Sydney Boucher, M.A., o'i swydJ fel prifathraw Coleg Athrawol Caernarfon, yn ddiweddar, ac y mae y Parch — Fairchild, is- athraw Coleg Athrawol York, we,ii ei etholyn olynydd iddo. Yn arddangosfa amaethyddol ddiweddaf Llanrwst, dyfarnwyd y brif wobr am y fferm oreu i Mr Robort Morris, Nantmawr, Llangernyw. Derbyniodd Mr Morris felly y brif wobr bedair gwaith, yr ail unwaith, a'r drydedd unwaith. Yn ystod y cyfarfodydd diolchgarwch a gynaliwyd yn Caeathraw, ger Caernarfon, dydd Llun yr wythnos ddiweddaf, rboddes y cor ddatganiad campus o ddwy o ddnau newyddion o eiddo Mr William Owen, Prysgol, yrhai a gyfansoddwyd yn arbenig ar gyfer gwyl y cyrihauaf. Adroddir am ferch ieuanc yn P-, yr hon oedd ar fedr myned i gylch y fodrwy gyda llencyn oedd yn bur ddelicate ei iechyd. Dywedai cyfeilles wrthi, I ba beth y priodi gydag nn fel yna, Gwen ? Byddi yn wraig weddw yn union deg." Hwyrach hyny," ebai h<thau, "ond gwell genyf fod yn wraig weddw na byw yn hen ferch." Pa,'m hyny P gofynai ei cbyfeilles. Atebai Gwen Wei, oni fydd y pregethwyr ynayn gweddio dros y gwragedd gweddwon, ond ni chlywais i neb erioed yn gweddio dros hen ferch." Yo y trengboliad yn Ngharno, y dydd o'r blaen, ar gorff Richard Evans, Ltueat, Carno, dychwelwyd 9 rheithfarn o Farwolaeth ddamweiniol." Gweithiai y trancedig ar y ffordd haiarn. Ymddengys ei fod wedi myned ar lorry, ac iddo syithio oddiarni, pan yr aeth olwynion un arall drosto. Mae yn gerfiedig ar gadair fawr yn yr Hengwrt, ger Dolgellan, ddyddiadau etboliadan Syr R. W. Vaughan, o Nannau, yn aelod Seneddol dros sir Feirionydd, y rhai ydvnt-1792, 1796, 1803, 1806, 1807, 1812, 1818, 1820,1826,1830,1831,1832, ac 1835. Mae dolenau yn y gadair er gosod ffyn trwyddynt i gario yr hen aelod ar ei etholiad. Nid yw pobl sir Fcirionydd mor was- aidd nac mor Doriaidd yn awr ag oeddynt yr amser hwaw.
[ Newyddion Cyffredinol.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Newyddion Cyffredinol. Mae Cetewayo, druan, wedi derbyn cenadwri oddi wrth Usihepu j'n gorchymyn iddo ymadael o'r reservo territory, ac i beidio dychwelyd i Zaluland. Aeth Hong o'r enw Ardnetinny allan o'r Clyde mis Mai diweddaf, yn llwythog o lo i Buncos Ayres, ac ni chaed son am dani byfch mwy. Ofnir y gwaethaf. Bn merch fechan, tair blwydd oed, farw yn Penarth mewn canlyniad i eisteid ar galch brwd, yr hwn a'i llosgodd odditani fel y bu farw. Mae Gweinyddiaeth Ysbacn mewn argyTwng, gau fod Senor Comacho yn gwrthod y swydd o Ganghgllydd y Trysorlys. Cynelir gwledd Doriaidd yn Mangor ar y 23ain cyf., ae y mae Syr Stafford Ncrthcoto wedi cydsynio ti gwahoddiad i fad yn bresenol. Ymddengys fod amryw foneddigion ar goll yn yr Iwerddon, a chynygir gwobr i'r rieb a roddo hysbys- rwydd lie y maont, neu am eu marwolaeth. Mae Mr Thomas Johns, o Goleg y Bala, wo li rhoddi atebiad cariarnhaol i eglwysi Cilcecin a Dihewyd, Ceredigion. HydJed bendith Duw yn canlyn yr undeb. Dydd Iau diweddaf, yn Rochford, yn credn mai nid da bod dyn ei hunan, cymerodd un o'r heddgeidwaid ato wraig. Ymddengys fod crydd o'r enw Gig-han a'i lygad a'i galon ar y ferch, a cliyn nos dialodd ar y priodfab trwy ei frathu yn dost. Rhoddir i Arglwydd Coleridge groesaw tywysngaidd yn mhob man yn America. Nos Iau diweddaf, rhodd- wyd gwledd o'r fath oreu mewn anrhydedd iddo yn New York. Yr oedd prif aelodau Ilysoedd y gyfraith yn bresenol. Mae y swyddfa Dramor wedi cael ar ddeall gan Lywodraeth Ffrainc ni fydd ganddynt wrthwynebiad i roddi iawn arianol cymedrol i'r cenadwr Shaw, am y driniaeth a dderbyniodd, a'r carchariad a ddyoddefodd ar fwrdd eu llong rhyfel hwynt ger Tamatave. Mae Mri Moody a Sankey y dyddiau hyn yn Limerick, Iwerddon, yn cynal gwasanaeth diwygiadol am wythnos. Rhag ofn i'r Pabyddion godi terfysg, y mae nifer o heddgeidwaid yn gwylio y chwareudy lie y cynelir y gwasanaeth. Eir i mewn trwy docynau, er mwyn sicrhan dyogelwch. Daeth strike y glowyr yn Staffordshire i derfyniad sydyn a boddhaol, dydd Ian diweddaf, trwy i'r ddwy blaid np-su at eu gilydd. Cytunwyd fo y gweithwyr i weithio am ddeg y cant o ostyn^iad am bythefnos, yna fod yr hen gyflog i gael ei dychwelyd. Parhaodd y strike am ddwy wythnos ar hugain. e Fel yr oedd bus yn llwythog o ddynion yn myned drwy yr beol yn March, y dydd arall, dychrynodd y ceffiyl, ac ymaith ag ef ar garlam i gyfeiriad yr afon ac i fewn iddi, gan dynu y bus ar ei ol. Yn ffodus, neidiodd dyn ger llaw i'r afon, ac agorodd ddrws y bus, ac felly y diangodd y teithwyr rhag- dyfrilyd feld. Cafwyd ffermwr y dydd arall wedi ei lofruddio yn ei ystafell wely, mown He o'r enw Lonton. Ar y treng- holiad, dygwyd y rheithfarn o lofruddiaeth wirfoddol yn erbyn ei nai, yr hwn yn unig oedd yn y ty ar noson y Ilofruddiaeth. Bu farw dyn yn ddiweddar yn Liverpool o dan amaylchiadau drwgrdybus, a mynodd ei frawd dreng- holiad ar y corff. Cafodd y rae ldyg olion gwenwyn yn y cylla. Ymddengys fod dynes wedi yswirio ei fywyd ef ac amryw ereill. Pan welodd hono fod trengholiad i'w gynal, (iiangodd, ac ni welwyd hi mwyach ond cymervs yd ei merch i'r ddalfa, a gwraig yr ymadawedig-, yr hon oedd ar dolerau eyfeillgar iawn a hi. Mae yr heddgeidwaid ar y look-out am dani. Yn nghyfarfod y Cyngrair Tirol a gynaliwyd yn swyddfa y gymdeithas yn Dublin, wythnos yn ol, mynegwyd fod or y cyfarfod blaenorol Y,1,000 wedi eu derbyn o Awstralia, £ 1,000 o America, a .£1,000 oddi wrth ferch i Orangeman, fel gwrthdystiad yn erbyn culni yr Orangemen yn ngogledd yr Iwerddon. Mae y lady principal, a saith o foneddigesau ereill i'r Maria Institute yn Warsaw, Rwsia, wedi eu cymeryd i'r ddalfa. Drwgdybir hwynt o fod mewn cysylltiad a'r Nihilistiaid. Yn ol pob tebygolrwyrld, cyflogir y bargyfreithiwr galluog Mr C. Russell, Q.C., i amddiffYll O'Donnell yn ei brawf am lofruddio James Carey. Dywed Mr Grey, ei eyfreithiwr, ei fod wedi derbyn eisoes o America £ 500 at draul yr amddiffyniad ond dywedir yn ddirgel fod digon chwech gwaith drosodd wedi dyfod oddiwlth Wyddelod America, a bod y tanysgrif- iadau yn dylifo i fewn yn feunyddiol. Os gall arian ei ryddhau, fc wneir hyny. Mae y cwbl yn dibynu ar pwy gred y rheithwyr, y llanc Carey ynte O'Donnell. Yr wythnos ddiweddaf cynaliwyd gwyl dair-blwyddol Leeds, o dan arweiniad Syr Arthur Sullivan, lVIus. Doc. Cymfrwyd rban ynddi gan Madlle. Yalleria, Misses A. Marriott ac Anna Williams Madame Patey, Misses Damian, a Hilda Wilson Mri Edward Lloyd a Joseph Maas Mri Blower, F. King, a C. Suntley cor o 813, a cherddorfa o 112 (yn cael ei arwain gan Mr J. T. Carrodus) a Dr Spark, Leeds, a Mr Walter Parratt, Mus. Bac. (organydd St. George's Chapel, Windsor), wrth yr orsfar. Perfformiwyd oratorio gan y diweddar Joachim Raff am y waith gyntaf yn Lloegr. Hefyd, perfformiwyd gweitliiau a gyfansoddwyJ yn arbenig i'r wyl gan Mri Cellier, Joseph Bamby, a Syr G. A. Macfarren, pa rai a ganmolir yn uchcl gan y Wasg, yn enwedig eiddo yr olaf—oratorio, "King David."