Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR 0 INDIA ODDIWRTH Y…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR 0 INDIA ODDIWRTH Y PARCH MORRIS THOMAS. (Parhad.) Gair am y gwaith a'r teithio y rhan olaf o'r flwyddyn ddiweddaf. Rhwng diwedd mis Ebrill a Rhagfyr, treuliais tua chwe' ugain (120) o ddyddiau oddicartref, yn teithio a phregethu o dref i dref, ac o bentref i bentref. Ymwelwyd A thua thriugain o bentrefi a threfi, heb gyfrif y rhai y pregethwyd ynddynt o fewn pam' milltir i dref Vizagapatam, a'r gwaith gyflawnwyd yn heolydd y dref. Ymwelwyd a'r mwyafrif o'r uchod ddwy, tair, a rhai bedair gwaith. Er i chwi gael amcaniaeth o'r teithio, nodaf rai o'r lleoedd, a'r pellder o Vizagapatam. Ymwelwyd A Nursa- patam, 50 milldir i'r deheu a Nakkapilli, 50 milldir i'r deheu-ddwyrain, ddwywaith Choda- varum, deheu-orllewin, 32 milltir, ddwywaith; Lakavarapakotta, 26 milltir, ddwywaith Sringa- vara-pakotta, 32 milltir i'r gorllewin, unwaith Anakapilli, 20 milltir i'r dehau, bedair gwaith; Chittivalsah, 20 milltir i'r gogledd, unwaith bob mis. Mae genyf ofal eglwys fechan yn y lie olaf, byddaf yno yn fiaol er mwyn y cymundeb. Gydag un neu ddwy o eithriadau, cawsom dderbyniad croesawgar, a ohafodd yr Efengyl wrandawiad siriol ac astud yn mhob man. Gwertbwyd llu o ranau o'r Ysgrythyrau Sanctaidd, a gwasgarwyd nifer fawr o tracts. Bwriwyd yr bad mewn llawer modd, ac ni a hyderwn y ceir ef eto cyn llawer o ddyddiaullar ei ganfed, ac y gwel yr Iesu o lafnr ei enaid, ac y ca ei ddiwallu. Yn mis Tachwedd, tra yn mbell oddicartref, daeth gwlaw trwm, a llif mawr yn yr afonydd. Math o shed aflan, heb ddrws na ffenestr, a'r- gwlaw yn d'od drwy y t6, oedd man ein trigfa am td'a naw diwrnod, a phob cysylltiad rhyngom a'r byd gwareiddiedig wedi ei dori gan y llifogydd o'r mynyddocdd o'u cwmpas. Y cyfle cyntaf gafwyd daethom hyd Jan yr afon, a chroeswyd fel hyn. Defnyddia y bobl yma math o dwbin (tub) round pres neu haiarn, a gwaelod llydan tebyg i'r twbin golchi sydd yna gyda chwi yn Nghymru, sef cask wedi ei thori yn y canol, at ferwi sudd wasgir o'r sugar-cane. Dygwyd y rhai hyn hyd lan yr afon, ac aeth tri ohonom-y Colporteur, y Catichist, a rbinau i mewn, nid oedd lie i ychwaneg ar waelod y twbin. Yna ymaflodd dau ddyn, agos noeth, un o bob ochr iddo, a'r amean wrth hyny oedd ei gadw a'r wyneb ddylai fod i fyny, a hyn oedd gobaith ein dyogelwch ni oddifewn. Pan yn barod gwthiwyd allan i'r Ilif gwyllt, a chariwyd ni gryn ffordd, hyd nes y cyffyrddodd traed y ddau oeddynt yn hongian wrth y twbin y tuallan y gwaelod, yna llusgent eu llwyth twbawl yn ol hyd y fan i lanio. Wedi hyny awd drosodd i gludo y ddau gert a'r pethan ynddynt. Gosodwyd un twba o dan y tu blaen, a'r llall o dan y tu ol i'r cart, a nofiwyd y ddwy drosodd yn ddyogel, gorfu i'r ychain nofio eu hunain drosodd. Talwyd rfpee iddynt am eu trafferth, ac ymddangosent yn falch o'r tal. "Angen yw mam dyfais," yw'r dywediad, onide ? Tybiaf y bydd engraifft neu ddwy i ddangos rhwystrau'r Efengyl yn dderbyniol. Y cyntaf oedd mewn lie tua 32 milltir oddiyma. Grwr) ieuanc dysgedig oedd, ond yn anffyddiwr. Anfonodd i Qfyn os gwnawn ganiatau iddo ef gael ymddyddan a mi. Gwahoddais ef, a daeth amryw ereill gydag ef. Gwadodd fodolaeth Duw, a bod- olaeth enaid mewn dyn, a sefyllfa a byd dyfodol. Honai, os oedd y fath bethau a Duw, enaid dynol, sefyllfa ddyfodol o wobr a chosb yn bod nas gallai ef farw yn bechadur condemniedig a choll- eqig, oherwydd y credai fod trallpdion a dyoddef- iadau y bywyd presenol, yn gyflawD..gosb- ac iawn am bechod, ac yn sail ei gyflawnhad gan Dduw, ao felly sicrhau iddo heddwch a dedwyddwch tragywyddol. Nis gallaf fanylu ar y ddadl yn awr, ond ceisiais, drwy gymhorth Dnw, wasgn at ei enaid Efengyl syml yr Iesu bendigedig. Wedi tua thair awr o ddadleu ac ymresymu ymadawodd yn ol pob amlygiad, yn anghredwr fel o'r blaen. Anfonodd am ganiatad i dd'od eto yr ail ddiwrnod; gwahoddais ef a daeth gyda chwmni fel o'r blaen. Gofynodd os oedd genyf bregeth ys- grifenedig wrth law a roddwn iddo ef i'w darllen. Daliais ar y cyfle i amheu ei hawl i freintiau ddar- perid ar gyfer rhai yn credu fod Duw, fod enaid dynol, a chyflwr dyfodol. Mai peth i bobl o'r fath oedd pregeth, a chan nad oedd ef yn credu yn modolaeth y pethau hyn, y byddai yr un peth gosod pregeth o flaen buffalo ag o'i flaen yntau. Cafodd yr ymosodiad o'r tu cefn arno ei effaith a'i ddylanwad, ac ar ol hyqy daeth yn fwy naturiol a rhesymol. Buom wrthi y prydnawn hwn eto tua thair awr, Gwrthododd er taer erfyn arno, i brynu Testament, dywedodd fod un gan gyfaill iddo. Ya mheu rhai misoedd ar ol hyny, ymwelwyd dracbefn a'r lie, a chefais ei fod erbyn byn wedi darllen y Beibl, ac. wedi newid ei plygiadau a'i farn am Dduw, ac am dano ei bun. Yn awr yn lie ein gwrthwynebu, fel y dysgwyliem, cynorth- wyodd ni mewn dadl a nifer o Frahminiaid, a thrwy gymhell ei gyfeillion i brynu Beiblau, gallem feddwl ei fod o fewn i ychydig i fod yn Gristion. Mewn lie arall cyfarfyddais Ag un oedd yn gwybod yr Ysgrythyr i raddau, yn credu ac yn ewyllysio proffesu Crist, ond heb ffydd ddigon cref a gwrol i dori drwy'r rhwystrau. Cynygiodd gynllun fel byn er d'od drwy yr anhawsderau. Twyllai ei wraig, yr bon oedd yn erbyn iddo dd'od yn Gristion, i dd'od i Vizagapatam am dro, er mwyn cael gafael yn ei meddianau, ei gemau, &c., ac wedi cyrhaedd yno, cymerai ef ei fedyddio, a byddai yn rhaid iddi hithau wneyd hyny, neu ddychwelyd gartref heb ei gwr, ac heb ei medd- ianau. Gwrthodais ganiatau dim o'r fath, am fod hyny yn anghyson A'r Efengyl. Dywedodd y byddai iddo siarad a'i wraig dranoeth, a cheisio ei deau i dd'od. Gwelais iddo wneyd hyny, oblegid nos dranoetb, cymerodd fi liw nos at ymyl ei dý, er mwyn i'w wraig gael fy ngweled, a chredu ei air ef ein bod yno. Ymwelodd A ni bob dydd tra yn y lie. Bu arfwriadcymeryd eifedyddio o'r blaen, ond er ei rwystro gyrodd ei berthynasau ef a'i deulu i'r lie anghysbell hwn. Ond cyfarfydd- odd a'r un brofedigaeth yma eto drwy ein myned- iad ni yno i bregethu yr un Efengyl a glywodd o'r blaen. Daeth ei berthynasau yma eto i wybod ei fwriad, methodd yntau fod yn wrol i wynebu'r storm oedd yn bygwth arno, a'r canlyniad fu iddo dynu yn ol gan addaw d'od ryw ddjwrnod arall. Mewn lie arall, cyfarfyddais ag un glywodd am yr Iesu, a gredodd ynddo, a chafodd ddigon o wroldeb ffydd i oresgyn y rhwystrau ac i orchfygu ei holl elynion. Prydnawn y 18fed o Ragfyr diweddaf, dygwyddodd i ni, sef yn yr beol o flaen drws Gwniah i bregethu. Darllenais Ddameg y Mab Afradlon (yn Telugu), ac eglurais hi. Tra yn siarad, tynodd y won siriol ac ysgydwad y pen gan Gwniah ein sylw. Wedi gorphen siarad, tro- wyd ato, a dywedodd mai gwirioneddau melus oeddynt-Duw fel tad yn caru ei blant afradlon a phechadurus, a'i fod. yntau wedi darllen y cyfryw mewn llyfr bychan." Profodd ei fod wrth i mi <i holi. Efengyl Luc oedd y llyfr bychan," a gafodd gan y Parch H. Goffin oedd wedi pasio drwy, a phregethu yn yr un lie ychydig fiaoedd cyn byny. Gwahoddasom ef i'r camp tua 10 o'r gloch boreu tranoeth wedi i ni ddychwelyd o bregethu mewn pentref arall. Ond synwyd ni i'w weled yn ein hymyl yn y pentref hwnw. Wedi gorphen ein gwaith yno, tra yn cerdded yn ham- ddenol yn dychwelyd i'r camp, tua dwy filltir o'r pentref, cawsom gyfle hapus i egluro iddo ffordd iechydwriaeth, drwy ffydd yn Iesu Grist. Dangos- wyd iddo hefyd fod erledigaeth yn ei aros os oedd am dd'od yn Gristion, ond fod mwy o'i du nac yn ei erbyn. Adroddodd yntau i ni helynt ei fywyd. Dywedodd ei fod er's blynyddau yn chwilio am ffordd gwaredigaeth oddiwrth bechod. Meddyl- iodd unwaith i roddi fyny bob peth i fyn'd yn Biragi (religious mendicant), cardotyn crefyddol. Treuliodd y dydd gyda ni yn y camp.yn darllen, a clmel ffordd y bywyd trwy'r Iesu yn cael ei heg- luro. Taer erfyniodd arnaf ei fedyddio cyn ymadael A'r lie. Penderfynwyd gwneyd hyny. Y prydnawn y bwriadem wneyd aeth y peth yn hys- bys, a daeth torf fawr o bobl o bob caste i fyny er ceisio ein rbwystro, ac yna eglurwyd yr amcan wrth ei fedyddio, a cheisiwyd eu hymresymu i foddloni yn dawel, ond gwrthod wnaethant. Pan fethodd pob dylanwad, hyd yn nod dylanwad y Brahminiaid, i'w ddenu i'n gadael, ymaflodd nifer ohonynt ynddo i'w gario ymaith, ond cefais ef yn rhydd. Gwnawd ymgais deg eto i'w gael, ond methwyd yna gorthrechwyd ef y drydedd waith gan nifer ohonynt. Cafwyd ef yn rhydd eto. Penderfynais yn awr, wedi cael prawf teg o'i ben- derfyniad i ganlyn yr Iesu, a'i ffydd ynddo fel Gwaredwr yn eu gwydd oil, i weinyddu yr ordin- had o fedydd iddo. Esgynais foncyff pren yn yr ymyl, a'r Testament yn fy llaw yn barod i ddar- llen, a'r Catichist yn sefyll yn yr ymyl a'r basin dwfr, a dyn yn sefyll ar y Haw arall. Pan oedd pob peth yn barod, gwnawd ymosodiad ffyrnig arall arno ef, a'i wraig a'i fodryb yn arwain yr ymosodwyr, ond methwyd a'i gael yn rbydd y tro hwn. Cariwyd ef adref, a chauwyd ef yn eidy am rai dyddiau. Siomwyd ni, ond credem fod a fyno Iesu a'i galon, ac y deuai er pob rhwystr. Wedi dychwelyd i Vizagapatam yn mhen rhai dyddiau anfonais ddyn a llythyr a'r pedair Efengyl iddo, am y gwyddwn iddo golli y rhai roddwyd iddo o'r blaen yn yr ymdrechfa. Rhaid oedd teithio tua 32 o filltiroedd cyn cyrhaedd y dyn, ac aethant ill dau i allt o goed gerllaw'r pentref i'w ddarllen. Yr o.edd yn awr yn cael ci wylio gan ei bobl. Pan yn parotoi i ateb y llythyr rhuthrasant arno, a darniwyd ei ddefnyddiau ysgrifenu. Pan welodd hyn gorchymynodd i'r dyn ddychwelyd, a dyweyd wrthyf ei fod ef yn canlyn. Cerddodd yr holl ffordd heb damaid na llymaid, a chafodd ei fed- yddio yma yn mhen rhai dyddiau ar ol hyny, gan y Parch R. W. Thompson, ysgrifenydd y Gym deithas. Wedi hyny dychwelodd i'r pentref at ei wraig, ond cafodd ei wrthod ganddi a'i droi allan heb fwyd, ac heb le i orphwys. Gadawodd y lie, a chafodd waith yn Chittivalsah—saer yw wrth ei grefft. Wedi iddo adael ganwyd plentyn i'r wraig, ac wedi iddi wella, penderfynodd hithau o wirfodd calon-adael ei phobla'i chaste, a myned at ei phriod, a cbefais y pleser y Sabboth cymundeb. diweddaf y bllm yn Chittivalsab, o fedyddio ei wraig a'i blentyn. Galwodd y plentyn yn Abraham. Pwy yna fyddai yn barod i ddyoddef cymaint er mwyn canlyn yr lesu. Nid hawdd Re, esmwyth yw i Hindw wneyd proffes gyhoeddus o'r Iesu. Maent yn awr fel teulu yn hapus a ded- wydd iawn. "A pbob un a'r adawo dai, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y can cymaint, a bywyd tragywyddol a etifedda efe (Matthew xii. 29). Terfynaf bellach, gyda chofion fyrdd at bawb cyfeillion. Yr eiddoch yn rhwymau'r Efengyl, Vizagapatam. MORRIS THOMAS.

CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH…