Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
RtJl'TUItKS."—WHITE'S MOC-MAJN LEVEK TRuss is the most effective invention for the treatment o1'llcniia. Tlie use of a steel spring, so hurtful in its effect, is avoided, alsoft bandage being worn round the body, while the requisite resisting power is sup- plied by the Moc-fllain Pad and Patent- Lever, fitting with so much case and closeness that it cannot be detected. Send for descriptive circular, with testimonials and prices, to AVIn'te and Co. (Lim ited) 228, Piccadilly, London. Do not buy of Chemists, who oten sell an IJUTATION of our Moc-Main. J. Whitei and Co., have not any Agents.
0 ORORAU'R ERYRI. -;....-,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
0 ORORAU'R ERYRI. Ymweliad Syr Stafford Nortbeote a Mr H. C. Raikes, yr A.S. dros Preston, a Chaernarfon yr wytbnos nesaf, ydyw prif destyn siarad yr ardal- oedd y dyddiau hyn. Mae'r .Ceidwadwyr yn par- otoi i gael arddangosiad mawreddog ar yr achlysur. Credaf y ca Syr Stafford dderbyniad brwdfrydig gan bawb yn gyffredinol heb wahaniaeth plaid. # • Nis gwn pa fodd mae cyfrif am y ffaith fod y Ceidwadwyr yn trechu yn y revision courts yn y sir hon eleni. Gresyn na chaem ni ein eynrychioli yn amgenach yn y llysoedd crybwylledig. # # » Wythnos i'r Sul diweddaf, cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol Undeb Ysgolion Dosbarth Bethel yn Ebenezer. Nid oedd nemawr ddim i'r cynrychiol- wyr i wneyd yno. Caed anerchiadau hwyliog ar faterion dyddorol gan rai o'r cenadau. Yr oed4 61 llafur yli ngl;tn dg addysgiant y plant yn y lie; ond wrth ystyried nerth a rbif yr eglwys a'r gyn- ulleidfa sydd dan ofal y Parch R. Prydderch Williams, y mae yr Ysgol Sul mewn cyflwr cywil- yddus. 0, am ddiwygiad yn nglyn &'r Ysgolion Sul yn ein Henwad. t # « Mae rhyw sibrwd fod gweinidog ieuanc addawol o sir Frycheiniog i gael galwad o eglwys barchus yn Mon. # • Yn Nghymdeithas Lenyddol Salem, Caernarfon, nosFercher cyn y diweddaf, dan lywyddiaeth y gweinidog, y Parch E. Herber Evans, buwyd yn dadlEm-u A ydyw dull Byddin Iachawdwriaeth p ddiwygio y byd yn deilwng o gefnogaeth." Mr Robert Hughes, Shireball-street, a ddadleuai Q blaid a Mr E. Williams, Gwalia, yn nacaol. Yr oedd y cynulliad yn lluosog, a chaed cyfarfod hwyliog—y cyntaf am y tymhor hwn. # # • 1 Aeth boneddwr allan mewn bad bychan o Griccietb, ddydd Iau wytbnos i'r diweddaf, ac nj ddychwelodd. Ofnir ei fod wedi boddi. Yr oedd ihialtwch a miri anghyffredin yn N gbaernarfon ddydd lau, ar yr achlysur o briodasj Mr C. A. Jones, cyfreitbiwr, & Miss Jones, Old Vicarage. ■. Heddyw (ddydd LIull), mae yr holl enwadau a'r Eglwys yn Nghaernarfon yn cynal eu cyrddau diolchgarwch am y cynhauaf. Yn Eglwys Crist y pregthwr ydyw Dyfrig, .periglor Aberdyfi. Per- fformir cantawd dies. Sterndale Bennett, c1 Woman of Samaria." .• # # • 1 Mae cryn siarad fod tebygolrwydd i gwmni y Midland agor llinell o'r Amwythig ar diaws j Borthdinllaen, ger Nefyn. Ardderchog o beth fyddai. 4f: # Deallaf fod y Parch R. Owen (M.C.), y preg- ethwr diwygiadol hynod, yn cynal oedfaon nod- edig yn Lleyn. Mae y dychweledigion yn llaos- og. Aed y gwaith rhagddo. 0 it 0 Rhoddodd Mr H. Robertson, A.S.t' wledd de i holl blant Ffestiniog, yn rhifo tua 3,000, ddydd Gwen-er, ar yr achlyswr o agoriad y rheilffordd newydd (Great Western). Dranoeth, yroedd cin- iaw ardderchog yn cael ei roddi ganddo i tua tri chant o foneddigion. 41< It Mri Gol.,—Os derbyniol, anfonaf ychydig nod- ion tebyg i'r uchod ar adegau. LLENOR. [Bydd yn hyfrydwch genym gyhoeddi ysgrifau o'r fath uchod oddiwrth Lienor.—GOL.]
.RHOS A'R CYLCHOEDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
RHOS A'R CYLCHOEDD. Masnach yn Gwel"-Da iawn genym hysbysn fod arwyddion o fywyd trwy holl weithfaoedd y cylchoedd hyn. Mae y dynion yn cael gweithio yn llawn, a'r cyflogau dipyn yn uwch nag y buont. Melus yw ychydig fywyd ar ol blynyddau q far- weidd-dra. Colli Diacon da.- Yr wythnos ddiweddaf collodd eglwys y PoDkey un o'i diaconiaid ffyddlonaf. Bu farw yn dra sydyn, yn 57 oed. Claddwyd ef yn mynwent y Ponkey, pryd y gweinyddwyd gan y gweinidog. Gwaith Plwm Minera.—Drwg genym hysbysn mai marwaidd iawn yw pethau yma yn awr. Cyf- logau yn isel, a llawer o'r dynion wedi eu talu allan. Dysgwylir yn bryderus am amser gwell. Yr Achos Goreu.—Nid oes arwyddion neillduol o fywyd yn y parthau byn. Nid yw yr Arglwydd wedi ein gadael yn bollol. Mae ambell i un, fel lloffion grawnwin, yn cael eu casglu i ddiddos- rwydd; ond y mae arnom wir a wydd am y tywallt- iad nerthol hwnw a wnelo ein heglwysi yn foddfa, ac a ddygo filoedd ein gwrandawyr o fewn i'r noddfa.
CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
slai Mr Jones unwaitb, cai fyned yno wed'yn. Daeth i'r cyfarfod y noson hono i roddi welcome home i Mr Jones. Yn Arfon yr oedd ei gartref ef, er na byddent ill dau yn yr un Cyfundeb, ond byddent megys drws ty nesaf." Nid oedd yn hoffi.v symudiadau gwastadol yma, fel pe buasent ar olwynion. Symudiadau Griffith,' Caergybi; James, Capel Ma.wr j Griffith,, Bethel a lluaws ereill, yr ooddef yn hoffi, sef eu .symud i'r nefoedd. Y Parch W. Davies, Seion, a ddywedai mai dyma yr ail gyfarfod ymadawol iddo gael gyda Mr Jones-y cyntaf yn y Bala, ar ei ymadawiad o'r cQIeg i Gana. Yr oedd hwnw yn un o'r cyf- arfodydd mwyaf hiraethus a gynaliwyd ganddynt fel myfyrwyr tra y bu efe yno. Cyfrifid Mr Jones yn y coleg fel concordance-yn Ysgrytbyrwr cadarn. Yr oedd yn dda ganddo ddeall mai pobl garedig oedd yn Cana, yn eyfrif y gweinidog yn aelod o'r teulu. Y Parch J. S. Evans, Bofledern, a ddywedai y dylai cyfarfod o'r natur yma fod yn symbyliad i ni oil benderfynu codi i gylch uwch o ddefnydd- ioldeb. Yr oedd yn dda ganddo weled yr hiraeth ar ol Mr Jones. Y mae hyn yn beth gwerthfawr, ac yn beth prin iawn y dyddiau hyn. Y mae yn gysur iddynt goflo yn Nghana fod ganddynt ddyn gwerth edrych i fyny ato. Cafodd ef bob amser "yn barod i wneyd ei hun yn bobpeth i bawb." Yna galwodd y Cadeirydd ar Mr W. Williams, Tyddyn Llywarch, ysgrifenydd yr eglwys, i wneyd prif waith y cyfarfod, sef cyflwyno i Mr Jones Anerchiad, wedi ei wneuthur a'i osod yn brydferth a destlus gan Mr E. Williams, Caer- narfon. Darllenodd Mr Williams ef i'r cyfarfod. Anerchiad i'r Parch Dyvid S. Jones, Cana, Mon, ar ei ymadawiad i gymeryd gofal eglwysi A'nnibynol Ghtvilog ac Abererch. ANWYL' A PHAHCHEDIG SYK,—Dymnra eich cyfeillion fuont dan eich gofal gweinidogaethol am ysbaid pedair blynedd a haner o iafur cymeradwy a ffrwythlawn o'ch eiddo yn Llanddaniel, gyflwyno i chwi yr Anerchiad hon, yn nghyda phwrs yn c> nwya swm o aur, fel datganiad cynes o'u hedmygedd ohonoch fel dyn, Criation, a gweinidog da i lesu Grist. Teimlem bob amser fod eich cymeriad gloew a'ch rhodiad pnr yn addurn i'r cylch pwy&ig a Jenwid genych i foddlonrwydd mor ftyffredinol yn ein plitb, a mawr werthfawiogwn y diwydrwydd diflino, yr unplygrwydd diwyrni, a nodweddent eich holl gyflawn- jadan yn gymdeithasol a chyhoeddns, a'r rhagoriaethan arbenig a berthyn i chwi fel cyfaill pnr, brawd anwyl, a bugail ffyddlawn. Yn eich aymudiad i eglwysi Abererch a Chwilog, cawn golled ddwys yn ein cyfarfodydd wythnosol, yn neilldnol y cyfarfod gw'eddi a'r gyfei))ach grefyddol, lie y llwyddech i enyn y fath frwdfrydedd tangnefeddns ac i feithrjn y fath gydweithrediad bywiog, a'r oil t1 mewn ysbryd addfwynder." Nid dibwys yn ein golwg oedd y gofal parbans a doeth a ddangosid genych am yr ieuainc, ac nid anghofir eich tiriondeb haelionns tnag- at yr oedranus a'r cystuddiol, yn nghyda'r medr hwnw a feddwch i gynhyrfu pobl eich gofal i'r uorhyw ysbryd, nea eu cabl i ymhelnethu yn nghyfoeth eu haelioni" tuag at achosion daionus theilwng, yr hyn a brofwyd wrth leihaa dyled addoldy Cana, &c. Yn eich dyfodiad atom O'T atbrofa, g*r ym- adroddus, cadarn yn yr Ysgrythyrau" a ddaeth i'n plith a mynych y bodaheid ni gan eich cynefindra A'r Beibl, a bhan Ysgrythyroldeb eich pregfthau hyawdl, Alch cynghorion doeth a gwerthfawr. Tra y parhai eich presenoldeb a'ch gwasanaeth mor gymeradwy gyda ni, boddhaus genym ddeall fod eich clod yn yr Efengyl trwy yr holl eglwysi," a bod Cyfundeb Mon yn manteisio oddiwrth eich parodrwydd goGhclgar mown cynghor, eich ysbryd syn: byliadol mewn mudiadan cyhoeddus, a'ch pryder gwastadol am gyflawni y cais, Cerwch y frawdoliaeth." Er yn teimlo yn ddwys oddiwrth yr ymadawiad, nis gallwn lai nag anfon ein dymnniadau goreu a gwresocaf gyda chwi, ia'n gweddïau i fyny i'r Nef drosoch ar iddi dyWallt ei bendithion cyfoethocaf ar eich bywyd i fod ynfywydcnydfawroddaioni i ddynion a moliant i Dduw. Arwyddwyd, dros yr eglwys a'r gynnlleidfa gan y Diaconiaid— THOMAS MARTIN, WILLTAM WILLIAMS, JOHN OWEN, OWEN WILLIAMS, JOHN LLOYD, OWEN GRIFFITHS, Trysorydd. WILLIAM WILLIAMS, Ysgrifenydd. Hydref laf, 1883. Yna galwodd y Cadeirydd ar Mr Owen Griffiths, trysorydd yr eglwys, yr hwn a ddywedodd ei bod yn ofid mawr ganddynt golli un oedd mor nodedig o ffyddlawn a gofalus am gyfarfodydd wythnosol yr eglwys; ac yr oedd ganddo yr hyfrydwch o roddi i Mr Jones yn ychwanegol at yr Anerchiad, dros yr eglwys a'r gynulleidfa yn Nghana, £ 10 10s. mewn pwrs hardd o waith Mrs Williams, Tyddyn Llywarch. Yna cafwyd gair toddedig mewn teimlad dwys a dwfn gan Mr Jones ei hun. Teimlai nad oedd mor hawdd siarad yno ag y dymunai. Daeth i 1. 1.. Gana bedair blynedd a saith mis yn ol, a chafodd ei fygytbio mai pobl anhydrin oedd yno; ond ei brofiad oedd fod yno y bobl garedicaf fu erioed. Cafodd bob .help i wneyd pobpeth a geisiodd ganddynt.: Dim yn fethiant yno. Yroeddyntyn y deall Annibyniaeth yno, ac yn cydweithio yn gysurus a llwyddianus, a byny yn berffaith unol fig egwyddorion Annibyniaeth. Y Parch E. C. Davies, Menai Bridge, a ddy- wedai y teimlai Mr Jones yn gryfach ar ol y cyfarfod hwn, ac y teimlent hwythau oil felly hefyd. Buasai yn dda ganddo gael cyfarfodydd o'r fath yma yn amlach. Yr oedd yn caru yr effaitb, ond nid yr achlysur. Yr oedd yn hoffi y cydymdeimlad & gwaith y weinidogaeth oedd yn rhedeg trwy y cyfarfod. Er fod Mr Jones yn eu gadael, yr oeddynt i gofio fod y Gair yn aros, ac yr oedd yn credu y gallai orphen yr adnod, a hwn yw y gair a bregethwyd i chwi." Yr oedd ef wedi cael Mr Jones yn gyfaill pur a gweithiwr difefl a gwresog. Cofiai fod Mr Jones unwaith mewn Cyfarfod Chwarterol yn codi i gynyg rhyw benderfyniad, a dywedai, Yr wyf fj yn y modd gwresocaf;" a gofynai Mr Cadeirydd yma—efe oedd cadeirydd y Cyfarfod Chwarterol y pryd hwnw—" Pa bryd y byddwch chwi heb' fod felly P Y Parch J. Alun Roberts, B.D., Caergybi, a deimlai ychydig yn ddig wrth Mr Jones am fyned i ffordd o'r sir. Nid oedd neb yn dyfod yn amlach i Gaernarfon i'w gymhell ef i ddyfod i'r sir yma, a'r peth cyntaf a glywai wedi iddo ddyfod i Gaergybi oedd fod Mr Jones yn myned i ffordd. Yr oedd yn methu gweled cysondeb mewn peth felly. Gwyddai trwy brofiad diweddar mai peth ordeal iawn yw eyfarfod ymadawol, oddieithr fod dyn yn anfesurol o hunanol. Y mae yn iawn i weinidog gael clywed am ei ragoriaethau am unwaith; y mae yn cael clywed yn fynycb, ac weithiau ychydig dros ben am ei wendidau. Yr oedd yn hoffi gweled y gofid a'r hiraeth ar ol Mr Jones. Y mae hyn yn profi fod rbyw gysylltiad uniongyrchol rhwng gweinidog a'i bobI, ac yn mysg yr Annibynwyr y maQ pob mantais i ffurfio y cysylltiad hwn, oblegid nid yw yn gorphwys o gwbl ar na deddf, cylcb, na dylanwad oddiallan. Nid oedd arno ef ddim ofn cynulleidfa o bobl, ond iddo gael llonydd—na byddo neb arall yn ymyraeth o gwbl A hwy. Fod Mr Jones yn ddyn call; y mae lot o gyfrwystra o fewn terfynau priodol ynddo. Fod llawer o ddynion talentog, heb fod yn ddynion call, yn rhai, wedi iddynt orphen eu gwaith yn y pwlpud, y peth goreu i wneyd & hwy fuasai eu cadw o olwg eu cynulleidfa am y chwe' diwrnod dilynol; ond nid un felly oedd Mr Jones. Mwyaf yn y byd y troai efe yn mysg ei bobl, uchaf yn y byd fyddai eu barn am dano. Yr oedd ganddo benderfyniad meddwl cryf. Peth arall, cysylltodd Mr Jones ei bun a symud- iadau cyboeddus y wlad a'i Enwad. Teimlai ef (Mr Roberts) fod gan weinidogion hawl i gymeryd eu rhan mewn etboliadau, a phethau cyffelyb, fel rhywun arall o ddeiliaid y Llywpdiaeth; ac opi ddylai fod gan Gristionogaeth ei rban yn nyrchaf- iad gwlad ? Yr oedd gan Mr Jones allu i roddi defnyddiau ar yr allor, a than ynddynt wed'yn. Mai nid arwydd o wendid yw symudiadau gan weinidogion. Y Parch W. Lloyd, Caergybi, a ddywedai ei bod yn anhawdd gwybod beth i'w ddyweyd. Sefydl- ogrwydd oedd yn nodweddu Cynulleidfaoliaeth; peth newydd er's ychydig o ddegau o flynyddoedd yn ol oedd y symudiadau hyn. Mai jfel eglwysi glan a phur, yn gofalu am y ddysgyblaeth eglwysig, y gallent hwy fel Cynulleidfaolwyr gadw eu tir. Dymunai bob llwyddiant i Mr Jones. Heblaw y rhai a enwyd, cafwyd gair gan y Parchn R. Jones, Berea; W. P. Williams a Evans (B), Gaerwen a'r diaconiaid Mri T. Martin, W. Williams, J. Lloyd, a W. Thomas. Gwelsom hefyd yn bresenol Mri Roberts, Bryngwran ;• I Owen a Thomas, Llangefni; Jones, Caergybi; a Jones, Penygroes. Wedi talu diolchgarwch i'r llywydd, daeth un o'r cyfarfodydd goreu i derfyniad yn nghanol y dymuniadau goreu a'r teimladau cynesaf tuag at Mr Jones ar ei fynediad i faes newydd ei weinid- ogaeth. Y mae y cyfcillion yn y lie yn teilyngu diolcbgarwch mawr am y caredigrwydd a'r sirioldeb a ddangosasant i'r dyeithriaid. "Duw yr heddwch a fyddo gyda chwi oil."