Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
YR UNDEB CYNULLEIDFAOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR UNDEB CYNULLEIDFAOL. MEGYS y crybwyllasom yn ein Rhifyn diweddaf, cynaliwyd cyfarfod Hydrefol Undeb Cynalleidfaol Lloegr a Chymru yn Sheffield yr wythnos ddiweddaf, ac yr oedd y cyfarfodydd oil o nos Lun hyd nos Wener yn llwyddiant hollol. Llanwyd yr Albert Hall, yn y rhan fwyaf o'r cyfarfodydd, er ei bod yn ddigon eang i gynwys o 1,500 i 2,000 o bobl, heblaw lluaws o gyfarfodydd ereill a gynaliwyd yn y dref a'r amgylch- oedd. Ymddengys fod yr Undeb yn casglu mwyfwy o nerth o flwyddyn i flwyddyn, a'i berygl yn awr ydyw myned yn rhy fawr i ond ychydig leoedd allu ei dderbyn; ac y mae anfantais arall yn ngl^n a lluosogrwydd y cynulliadau, ei bod yn onnod i fod yn gynadleddau i ymgynghori, ac felly yn rhwym o fyned, mewn rhan fawr, yn gyfar- fodydd cyhocddus, lie na cheir ond auerch. iadau darparedig. Rhoddodd Anerchiad y CADEIRYDD fodd- lonrwydd cyffredinol. Ei destyu oedd, Cristionogaeth a'r Oes," ac yr oedd ei ym. driniad ag ef yn eang a chwmpasog, ac yn dangos cydnabyddiaeth helaeth, nid yn unig a neillduolion Cristionogaeth, ond hefyd ag augenion yr oes. Nid oedd dim o'r arwy- nebolrwydd hwnw yn Anercbiad Doctor FAIEBUBN a geir yn ami yn y rhan fwyaf o'r anerchiadau a'r traethodau sydd yn ar- weddu ar yr un mater, ac nid ar hyd hen dir wedi ei gochi gan 61 traed y rhai a fu
Cynwysiad. I
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Cynwysiad. I Hysbysiadan 2 Ymylon y Ffordd g Cyfarfod Chwarterol Maldwyn 4 Newyddion Cyffredinol, &o 5 Llythyr o India oddiwrth y Parch Morris Thomas 6 O Ororan'r Eryri 7 At ein Gohebwyr—Yr Wythnos 8 Yr TJndeb Cynnlleidfaol n. 9 Cyfarfod Chwarterol Meirion 10 A dolygiati y Wasg-Gohebiaethan 11 Y Wers Rhyngwladwriaethol 12 Hysbysiadau 13,14, 15, 16
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. 8" Rhaid i ni eto ddymnno ar fed i bob gohebiaeth, a hysbysiad, a hanes cyfarfod gaol en hanfon i'r Swyddfa, ac nid i Liverpool. Nid yw en hanfon yno yn gwneyd dim ond peri oediad a chost (Hansen- rhaid, ac yn ami yn peri fod yr byn a anfonir yn myned ar goll. Wedi yr hysbysiad yma, ni bydd gan neb le i gwyno os na ei eiddo wedi ymddangos. 1' Swyddfa 1/ mae pob gohebiaeth, a hanes, a hysbysiad i'w hanfon. Egltvys Annibynol Llanboidy.—Yn ein nesaf. Mewn Llaw.—Brynmawr—-Llandybie—Bryn—Helynt- ioo y Byd-Un o'r Undeb-Tk fy Nhad yn dy Marcbnad—Rhiw—'Rhen O'—Taith o Landain i China-Bethel, Arfon-Taith o Liverpool i'r Mynyddoedd Creigiog-S. Tndor—Caredigfab— Talogfryn-Un yn teimlo, &c., &c. T)ARLLENW CH — Chwi ddyoddefwyr oddiwrth besU'eh t, y Hy'liyr canlynol oddiwrth y Parch Horacc Roberts, W 1 ?4IJf ^ynyldau yn ol anfonais lythyr atoch >n Cftnmol eieh hen feddygmiaeth enwoff rliaj* pesweh.ac ar oI 1,n .°n el effeithiolrwydd yn rhasori ar unrliyw ddarpariaeth arall hyd yma, teiralwyf mai fy nyledswydd a'r cyhoedd yw sier- han, fel proflad fy nheulu a'm cyfeillion. y gwerth sydd yn y MaUam of Aniseed fel T feddyginiaeth rataf a'r oreu rhatr pesweh X? eidd°«», yn Hyddlawn, H. ROBERTS, Olney, Bucks. Blackfriars-road, Lliindain." TDOW kLL S BALSAM OF ANISEED.—Mae cymeriad yr hen K.v™ri nyn fel meddytriniaeth rliag anhwylderau yr ysgyfaint ft r gwddl yn cael ei gadarnhau yn barhaus gan v llythyrau bodd- fawredd oddiwrth y rhai sydd wec.i profl ei werth- "DOWELL'S BALSAM OF ANISEED a werthir trail Fferyli- L *'yr parchns trwr y byd am Is XJe a 2s 3e y botel. l)ylal ? r3r5^^rT^?l?4,fod y T^A,"E MARK, •• LLEW, ltllWTD, A jo-a gerflo ar Stamp y Llywodraeth. CARDIFF GRAMMAR SCHOOL. A BOARDING AND DAY SCHOOL. DUTIES will be resumed on MONDAY, JULY 30th, 1883. For Terms, &c., apply to the Head Master, R. G. LBVI, 13, Fitzalan Place, Cardiff. TTN EISIBU. ORIBWR, un a hoffai ymberffeithio yn y gwaith N-i (meroh nea fachgen). Lie godidog. Cyfeirier- Mrs E. DAVIES, Porth Factory, Llansawel, near Llandilo, Carmarthenshire.
YR WYTHNOS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR WYTHNOS. Mae y teimlad yn erbyn buch-frechu yn ymledu yn Ffrainc fel yn Lloegr. Y dydd o'r blaen anfonwyd llythyr oddiwrth yr Anti-Vaccination Congress at M. Jules Perry, i wrthdystio yn erbyn yr arferiad. Honant fod buch-frechu, nid yn unig yn aneffeithiol i atal y clefyd gwrthwynebus hwn, ond ei fod hefyd yn niweidiol i iechyd y rhai a fueh-frechir. Yn hyn, fel mewn pethau ereill, gwahaniaetha y meddygon yn eu barn, a pha beth sydd gan y bobl i'w wneyd ? Pwyll sydd well nag aur," mewn mwy nag un cysylltiad. Pe gwrandawsai ein Llywodraeth ar grochlefau y rhai a waedd- ent am ddial ar Ffrainc, am y cam a dder- byniodd y Cenadwr Shaw yn Tamatave, pan gyrhaeddodd y newydd y wlad hon, nid am fod mymryn o gydymdeimlad rhyngddynt a cbenadwr, fel y cyfryw, nag a. Chenadaeth y Efengylaidd ychwaith, ond am fod anrhyd- edd Lloegr wedi ei sarhau trwy garcharu deiliad Prydeinig, gallasai y ddwy wlad erbyn hyn fod wedi rhedeg i yddfau eu gilydd. Yn Ile hyny, trwy arfer pwyll ac arafwch, mae y Llywodraeth wedi cael gan Ffrainc i gydnabod mai cam a gafodd, a'u bod yn barod i roddi unrhyw iawn a fernir yn rhesymol. Nid yw y swm wedi ei benodi, ac nid oes brys ar Iarll Granville i'w ben- derfynu, gan fod M. Waddington yn bwr- iadu dyfod drosodd i Lundain yn fuan. Mae nifer y clybiau a'r cymdeithasau darbodol ar gyfer cystudd, henaint, ac angeu yn lleng yn y wlad hon, ac nis gellir eu cymhell yn rhy gryf i sylw dynion, yn neill- duol y rhai sydd a theuluoedd ganddynt. I gyfarfod ag amgylchiadau y werin ceir death clubs a chymdeithasau i yswirio by- wydau mewn symiau bychain, trwy dalu ychydig geiniogau yn wythnosol. Ond yn nglyn a'r rhai hyn y mae y peryglon mwyaf oddiwrth ddynion mor wancus am arian, fel mai nid gormod ganddynt ydyw llofruddio eu perthynasau agosaf er mwyn cyrhaedd ycbydig bunoedd. Yr ydys wedi cael engraifft nodedig o hyn yn marwolaeth dyn o'r enw Thomas Higgins yn Liverpool ar yr 2il o'r mis hwn. Yr oedd Higgins yn wr gweddw, a chanddo ferch fechan 10 mlwydd oed, ac yn lletya gydag un Mrs. Flannagan a'i chwaer. Yn mhen amser priododd y chwaer, ac yswiriodd Flannagan yr eneth mewn death club am ychydig bunoedd. Ychydig fisoedd ar ol hyny clafychodd yr eneth, a bu farw yn sydyn, ac wrth gwrs I cafodd Flannagan yr arian. Ymddengys ei bod wedi yswirio bywydau amryw ereill, ac J yn eu mysg Thomas Higgins, a hyny mewn gwahanol gymdeithasau, fel rhyngddynt oil • yr oedd y swm dros d £ 100. Medi 29ain clafychodd Higgins Hydref laf cyrchwyd meddyg ato, a dranoeth bu farw. Yn gweled cymaint brys i gladdu y marw, a'i fod wedi marw mewn ffordd mor debyg i'r eneth fach, drwgdybiodd brawd i Higgins, sef Patrick Higgins, nad oedd pob peth yn iawn. Aeth at yr awdurdodau a mynegodd ei ddrwgdybiaeth; a tbra yr oeddynt, y wraig Flannagan yn eu mysg, yn parotoi i gychwyn y gladdedigaetb, aeth ef a hedd- geidwad i fewn a rhwystrwyd y gladdedig- aetb. Tn gweled hyn, diangodd Flannagan, ac ni welwyd hi mwyach. Wrth wneyd ymchwiliad i'r corff, cafwyd fod arno olion gwenwyniad trwy arsenic. Cymerwyd gwraig Higgins a'i nith, sef merch Flan- nagan, i'r ddalfa, a gohiriodd y trengholydd y trengholiad hyd nes y gorpheno yr analyst ei ymchwiliad i gynwys y cylla, &c. Tra yr erys yn gyfreithlon i ddynion i yswirio bywydau heblaw yr eiddynt eu hunain, fe geir dynion yn ddigon drygionus i gyflawni gweithredoedd nad ydyw yn ddim amgen na masnachu mewn bywydau diniwed. Mae digon o ddynion a ant o dan archwiliad meddygol am ddeg swllt, heb ystyried eu bod wrth hyny yn derbyn marwolaeth o law y rhoddwr. Yn Nghymdeithasfa Metbodistiaid y Deheudir a Sir Fynwy, a gynaliwyd yr wythnos ddiweddaf yn Mhontfaen, pasiwyd dau benderfyniad mewn cysylltiad a Choleg y Brifysgol yn Ngbaerdydd, sydd yn debyg o dynu sylw cyffredinol, ac achosi beirniad- iadaeth anffafriol ar yr enwad parchus, fel sydd eisioes wedi dechreu. Cynygiwyd y blaenaf gan y Parch. T. Eees, Merthyr, cyfieithiad1 rhydd o'r hwn sydd fel y canlyn —" Fod Cymdeithasfa Methodistiaid Calfin- aidd Deheudir Cymru a Sir Fynwy, yn eu cyfarfod Hydrefol yn Mhontfaen, Hydref 8fed, 9fed, a'r lOfed, yn dymuno datgan gobaith y bydd Gynghorau y Colegau Cymreig gael eu cyfansoddi yn gyfryw ag a fyddant yn gynrychiolaeth drwyadl ac uniongyrchol o olygiadau y Cymry. Ein bod yn gofidio oherwydd fod y rheolaeth ymarferol yn nwylaw dynion a ymsefydlasant yn ddiweddar yn ein mysg, y rhai ydynt yn gymharol ddyeithriaid ac yn anadnabyddus i'r genedl, gan adael allan Gymry dysgedig a feddant y cydymdeimlad anghenrheidiol a'r, ac amgyffrediad am angenion y genedl." Cyfnewidiwyd y geiriau, "fod y rheolae:h ymarferol yn awr yn nwylaw dynion," am. fod y rheolaeth wedi llithro i ddwylaw dynion." Cynygiwyd yr. ail benderfyn. iad gan y Parch. W. James, Aberdar, yr hwn sydd fel hyn:—" Yn ngwyneb yr ymdrech a wneir yn bresenol dros gael addysg uwchraddol i Gymru, a'r apeliadau, befyd, am arian a thanysgrifiadau a wneir, y byddai yn nodedig o ddymunol i aelodau y Cyfundeb a'r rhai a ymlynant wrtho gyfranu eu rhoddion tuag at ffurfio ysgolor- iaethau i'w sefydlu gyda'r amcan o alluogi eu brodyr ieuengach i dderbyn y fantais o gyfleusterau cenedlaethol addysg, yr ysgolor- iaethau i fod yn hollol o dan reolaeth y Gymanfa neu y Gymdeithasfa Gyfundebol." Gadawn y ddau benderfyniad ar hyn o bryd i lefaru drostynt eu hunain, gyda dyweyd hyn, fod Cynghor Coleg Caerdydd yn gynwysedig o 41, ac yn cael ei wneyd i fyny o 28 o Ymneillduwyr a 13 o Eglwyswyr. Yn gwneyd i fyny yr 28 Ymneillduwyr y mae 8 Annibynwr, 5 Bedyddiwr, 5 Method- ist Wesleyaidd, 4 Methodist Calfinaidd, 3 Presbyteriad, 2 Undodwr, ac 1 Pabydd. Nid oes neb a amheua hawl y Methodistiaid i ffurfio ysgoloriaethau Methodistaidd, ac i ofalu na byddo i neb eu dal ond Methodist- iaid, a gall pob enwad arall arfer yr un bawl; ond peth arall yw a fyddai hyny yn ddoeth mewn sefydliad cenedlaethol ae anenwadol. Pe defnyddiai pob enwad arall ei hawl, y mae yn amheus a fyddai eu cydweithrediad a Chynghor y Coleg yn beth j ymarferol. Y mae'n bosibl y cyfodai an- hawsderau nad ydys eto wedi eu rhagweled pe gweithredai y Methodistiaid ar linellau y penderfyniad, a phe dilynid eu hesiampl gan yr enwadau ereill.