Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

EGLWYS GYNULLEIDFAOL GREAT…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EGLW GYNULLEIDFAOL GREAT BOUGHTON, CAEB. CTFAEFOD SEFYDLIAD. Cymerodd cyfarfodydd sefydliad y Parch T. Phillips (gynt o Builth Wells), ac hefyd gyfar- fodydd blynyddol yr eglwys uchod le Medi 31ain ac Hydref 3ydd. Pregetbodd y gweinidog ei hun y Sabboth blaenorol i gyculleidfaoedd lluosog. Dydd Mercher (yn y prydnawn) pregethodd y Parchl1 D. Avan Griffiths, Troedrhiwdalar a J. Mihvyn Jenkins, PH.D., M.A., Builth Wells. Ym- neillduodd y gynulleidfa ar ddiwedd yr oedfa. i ystafell eang a berthyn i'r capel, pa un oedd wedi ei haddnrno a blodau, banerau, ac arwyddeiriau. Cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr hwyr er cyflawn roesawu y gweinidog newydd. Cymerwyd y gadair gan y Parch F. Barnes, B.A., gweinidog Northgate-street, i eglwys pa un y pertbyn Mr Hudson, y cyfranwr haelionus. Wedi i'r Cadeir- ydd draddodi ei anercbiad agoriadol, darllenodd Mr W. Brown, ysgrifenydd Gobeitblu y lie, anerchiad ar ran pwyllgor dirwestol yr eglwys a'r ddinas, yn croesawu Mr Phillips i'w plith, gan ddymuno ei gydymdeimlad a'i gynorthwy gyda'r achos da yn y dyfodol, a'i lwyddiant yn ein plith. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan y Parchn H. Ward Price, Queen-street Paul Price (B.), T. Williams (P.), City-road; H. Elvet Lewis, Buckley D. Avan Griffiths, a J. MUwyn Jenkins, PH.D., M.A., a T. Phillips. Dechreuwyd yr oed- faon gan y Parchn J. Thomas, Euncorn a D. J. w Beynon, Buabon. Yr oedd yn bresenol heblaw a onwyd, y Parchn G. Hecs, Ffiint; Roberts, Waverton, ac ereill. Canodd cor y lie ddwy anthem yn ystod y cyfarfod hwyrol. Er mai cyfa,rfod Saesoneg oedd, eto yr oedd yr elfen Geltaidd yn gryf ar y platfform, a'r rhan fwyaf ohonynt, fel y dywedodd un brawd yn hwntwsiaid o ddechreuad, ac amlwg oedd fod plant Hengist yn mwynhau y tan Cymreig, er mewn diwyg Saesoneg. Bydd yn lion gan gyfeilliou Mr Phillips, ac ereill, glywed ei fod wedi cael croes- awiad serchog yn Cller, a'i fod yn dechreu ar ei weinidogaeth yno dan amgylchiadau addawol iawn. O.Y.-Methodd Dr Rees a bod yn bresenol oherwydd gwendid a nychdod. TJN OEDD YNO,

CAERDYDD.

CASTELLNEWYDD-EMLYN.

Family Notices

YR UNDEB CYNULLEIDFAOL.