Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFOD CHWARTEROL MEIEION.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD CHWARTEROL MEIEION. V Cynaliwyd y Cyfarfod Chwarterol yn Towyn, nry dyddiau Mawrth a Mercher, Medi 25ain ty'r 26ain. Y Gynadledd am 2 o'r gloch y dydd cyntaf, o dan lywyddiaeth y Parch Z. Mather, Abermaw, y eadeirydd am y flwyddyn. Yr oedd yn bresenol y gweinidogion oanlynol:- Howells, Arthog; Williams, Maentwrog; Roberts, Tanygrisiau; Pritchard, Cynwyd; Owens, Corwen; Thomas a Roberts, Towyn; Mather, Abermaw; Charles, Croesoswallt; Howell a Davies, Ffestiniog; Owens, LIan- egryn; Thomas, Abergynolwyn; Jones, Corris; Perkins, Penlan; Walters, Brithdir; Davies, Abercynffig; Jones, Cefncoedycymer; a Mr C. Wynn Roberts, myfyriwr, Diaconiaid a chenadon—Mri Jones, Aberdyfi Lloyd, Y.H., Plasmeini; Lloyd, Pant; Llewelyn, Brithdir; Morgan, Bryncrug; R. Griffith, Ffestiniog; D, Jones, G. Jones, ac Evans, Towyn; ac ereill na chafwyd eq henwau., Deehreuwyd y Gynadledd trwy weddi gan y Parch W. Williams, Maentwrog. "1. Cadarnbawyd penderfyniadau y cyfarfod blaenorol. 2. Dewiswyd y Parch John Pritchard, Cynwyd, i fod yn Ysgrifenydd y Cyfarfod Chwarterol yn lie Mr Charles, yr hwn.sydd wedi symud i Groes- oswallt. 3. Rhoddwyd derbyniad cynes a chroesawgar i'r Parch O. J. Owens, Corwen, i blith y frawdol- iaeth, gyda'r dymtiniadau goreu am ei lwyddiant a'i gysur. 4. Y peth nesaf oedd dewis rhai i fyned allan drwy y sir ar ran Cymdeithas Genadol Llundain, a barnwyd y byddai dau yn well nag un mewn trefn i wneyd y gwaith yn llwyrach ac yn fwy gffeitbiol, a phasiwyd y penderfyniad canlynol gydag unfrydedd mawr—" Pod dau yn cael eu penodi i weithredu dros y Gymdeithas Genadol yn y eir hon, ac i weithredu am ddwy flynedd; un i gacl ei ethol bob blwyddyn, ac na byddo neb yn agored i'w ail ethol o leiaf am ddwy flynedd wedi jddo wasanaethu ei dymhor." Ac yna dewiswyd trwy y tugel y Parcbn T. R. Davies, Ffestiniog, a J. Pritchard, Cynwyd, i fod yn ymwelwyr ar ran y Genadaeth. 5. Pasiwyd y penderfyniad canlynol o gydym- deimlad A Dr Rees, Abertawy, yn ei gystudd blin: "iFod y Gynadledd hon yn dymuno dangos ei chydymdeimlad dwys yn herwydd afiechyd di. weddar y Parch T. Rees, D.D., Abertawy, ac yn mawr lawenhau ei fod yn gwella mor dda fel ag i $lu bod yn bresenol yn yr addoliad gyda phobl ei p.fal y Sabboth diweddaf." Cynygiwyd yr uchod gan Mr J. Hughes Jones, Aberdyfi, ac eiliwyd ef gan Mr D. LI. Lloyd, Plasmeini. 6. Fod yr Ysgrifenydd i ohebu o berthynas i le y cyfarfod nesaf. 7. Pasiwyd fod eglwys Glyndyfrdwy i gael y rhodd arferol o drysorfa yr achosion gweiniaid. .,8. Gwnaed yn hyabys fod yr holl, eglwysi oddi eithr un wedi gwneyd yn bysbys eu bod yn derbyn amodau rbodd Trysorfa y Jubili, a dymnnwyd ar yr Ysgrifenydd ohebu a'r un oedd heb ateb., 9. Bhoddwyd rhybudd gan y Parch T. R. Davies, Ffestiniog, y byddai yn dwyn ger bron y qytarfod nesaf y u Priodoldeb o geisio ychwanegu £ 60 ereill fit rodd y Jubilee Fund, er ei gwneyd y Fod jy cyfarfod hwn, wedi clywed gyda gofid dwys am farwolaeth y Parch W. R. Williams, fclanelltyd, yn dyrpuno datgan ei gydymdeimlad &g eglwysi y; ymadawedig yn wyneb eu colled, ac hefyd A i iieni yn eu profedigaeth chwerw. Yr oedd i Mr Williams air da yn yr holl eglwysi fel gweinidog da a ffyddlawn i Iesu Grist, a llafuriodd yu egniol iawn yn nghanol 1¡1awer iawn o wendid corfforol. Wedi terfynu gwaith y Gynadledd, cafwyd gair cynes a brawdol gan amryw o'r brodyr, sef |l. Griffith a Howell, Ffestiniog; Davies, Aber- cynffig; Jones, Cefneoedycymer; Walters, brithdir; Charles, Croesoswallt; Pritchard, Cynwyd; Mr J. H. Hughes, Aberdyfi, ac qreill. Cafwyd Cynadledd unol, frawdol, a chynes, ac yna terfynwyd trwy weddi. Pregethwyd yn Bryncrug y noswailli gyntaf gan y Parchn J. Walters, Brithdir, a LI. B. Roberts, Tanygrisiau. Yn Towyn, dechreuwyd y noswaith gyntaf gan y Parch W. C. Jones, Corris a phregeth- wyd gan y Parchn T. R. Davies a P. Howell, Ffestiniog. Am wyth o'r gloch, dydd Mercher, cafwyd cyfeillach grefyddol o dan lywyddiaeth y Parch J. Owen, Llanegryn, Pwnc y gyfeillach oedd, Cyfrifoldeb yr Eglwys i Grist," a chafwyd ymddyddan buddiol ar y mater gan y brodyr Williams, Maentwrog; Pritchard, Cynwyd; Davies, Abercynffig; Jones, Cefncoedymer; a Perkins, Penal. Cafwyd cyfeillach fuddiol ac adeiladol. Terfynwyd trwy weddi gan y llywydd. Am ddeg, dechreuwyd gan y Parch Z. Mather, Abermaw; a phregethwyd gan y Parchn Charles, Croesoswallt, a Roberts, Tan- ygrisiau. Am ddau, yr oedd cyfarfod sefydliad Mr Roberts yn weinidog ar eglwysi Towyn a Bryncrug. Cymerwyd y gadair gan Mr D. L1. Lloyd, ,Plasmeini, a dechreuwyd trwy weddi gan Mr Perkins, Penal, Cafwyd anerchiad ar Natttn Eghvys gan Proff. Lewis, B.A., Bala. Yna gair gan un o ddiaconiaid Mr Roberts yn Ffestiniog, sef Mr Griffiths. Wedi hyny, cafwyd hanes yr achos yn y lie gan y diweddar weinidog, Mr Thomas, yr hwn oedd yn hynod ddyddorol. Yna anerchiad gan Mr Howell, Ffestiniog, ar Waith y Weinidogaeth, ac ar V Ddyledswydd yr eglwysi i gynorthwyo y Weinidogaeth gan Mr Roberts, Tanygrisiau. Dywedodd y Parch J. H. Symons (T.C.) ychydig o eiriau tyner a thoddedig, a chafwyd anerchiad melus gan Mr Griffith, Dolgellau, ar Y pwysigrwydd o feithrin ysbryd cenadol yn yr eglwysi." Wedi ychydig eiriau gan Mr Owen, Llanegryn, terfynodd y cyfarfod trwy weddi. Yr oedd yn gyfarfod gwresog a chynes —pawb o'r brodyr yn siarad i bwrpas. Pregethwyd am chwech, yn nghapel y Methodistiaid, gan y Parchn Proff. Lewis. B.A., Bala, a D. Griffith, Dolgellau, i gynulleidfa Inosog a pharchus. Hefyd, mewn cysylltiad a'r Cyfarfod Chwarterol, cafwyd cyfarfod dirwestol nos Lun. Cymerwyd y gadair gan y Parch G. Evans, Cynfal, a chafwyd areithiau a hir gofir gan y brodyr Thomas, Abergynolwyn; T. R. Davies, Ffestiniog; a Mather, Abermaw. Da genym weled Mr Roberts yn dechreu ar ei weinidogaeth yn Towyn a Bryncrug o dan amgylchiadau mor hapus a dedwydd. Dy. munem iddo flynyddau lawer i wasanaethu ei genedlaeth yn Efengyl Iesu Grist. Rhoddodd yr eglwys yn Towyn dderbyniad serchus a charedig i'r Cyfarfod Chwarterol, ac yr oedd ysbryd brawdgarweh a chariad yn teyrnasu yn helaeth, a phawb yn barod i ddyweyd, Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr yn nghyd." Druid, Corwen. J. Pbitchahd, Ysg.

PENILLION COFFADWRIAETHOL

MI DDEUA'N FACHGEN MAWR.

YSTALYFERA. -