Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
-Cynwysiad. I
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Cynwysiad. I Hysbysiadan 1,2 Ymylon y Ffordd 3 Newyddion CySrodinoI. 4 Cyfarfodydd-MarwoIaethau 5 Y Brifddinas—Llifch o America 6 Helyntion y Byd-Adolygiad y Wasg 7 Yr Wythnos 8 Estyniad y Bieidlais 9 Yr Aelodan dros Merthyr 9, 10 Gohebiaethau 11 Y Wers Rhyngwladwriaethol 12 Hysbysiadau 13, 14, 15, 16
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
CARDIFF GRAMMAR SCHOOL. A BOARDING AND DAY SCHOOL. DUTIES will be resumed on MONDAY, JULY JLJ' 30th, 1883. For Terms, &c., apply to the Head Master, R. G. LJlVI, 13, Fitzalan Place, Cardiff.
ADRODDIAD YR UNDEB AM 1883.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ADRODDIAD YR UNDEB AM 1883. Mae'r Adroddiad bellach yn barod, ac an- fonir ef i ffwrdd yn ddioed. Dysgwyliwn y bydd yn nwylaw yr holl danysgrifwyr o hyn i ddiwedd yr wythnos. Mae'n hyfrydwch genym grybwyll fod Mr Parry, yr ysgrifenydd, wedi llwyddo i gael arch- ebion am yr holl gopiau cyn fod y sheet olaf allan o'r wasg, ac erbyn hyn mae lluaws o arch- ebion wedi dyfod i law a dfm un copi ar eu eyfer -yr oil wedi eu gwerthu. Nid oes dim at guro'r haiarn tra y byddo ya boeth. YR ABGEAFJPYDD.
YE WYTHNOS. -
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YE WYTHNOS. Mae blynyddoedd lawer er pan welwyd yn Nghaerdydd ddim yn debyg i'r gorlifiad a gymerodd le yno nos Fercher, Hydref 17eg. Yr oedd dysgwyliad am i'r llanw fod yn eithriadol o uchel, gan fod y gwynt yn anarferol o gryf, eyflawnder o wlaw wedi disgyn am ddyddiau yn flaenorol, a'i bod hefyd yn spring tide. Yn gweled hyn oil, gwnaed pob darpariaeth a fernid yn angen- rheidiol i gyfarfod a'r amgylchiad, ond ni ddychymygodd neb y cawsid y fath olygfa pan ddaeth y llanw i fewn. Ymroliai y tonau fel mynyddau, gan ymluchio fel hyrddod rhyfel yn erbyn y mur cadarn oedd wedi ei godi ar draul fawr i wasanaethu fel gwrthglawdd. Yr oedd wedi dal llawer ystorm ac ymosodiad ffyrnig arno am lawer blwyddyn, ond nos Fercher dymchwelwyd ef ag un ergyd, a chyn nemawr fynydau yr oedd parthau isaf y dref, yn nghymydogaeth y dociau, wedi eu gorlifo Diangodd y preswylwyr oeddynt yn y tai i'r ystafelloedd uchaf, gan adael pobpeth yn y gwaelodion yn meddiant y dyfroedd. 0 linell y Great Western i'r mor gorchuddid yr holl wastad- edd gan ddwfr, a Grange Town, Uchaf ac Isaf, a ymddangosent fel ynysoedd yn nghanol y llyn. Ar y pryd yr oedd cyn- ulleidfa luosog yn yr Eglwys yn cynal cyfarfod diolchgarwch am y cynhauaf, a thra yr oedd y gwasanaeth yn myned yn mlaen, dyma ddyn yn rhuthro i fewn gan waeddi yn ffyrnigwyllt am ei blentyn oedd yn yr Eglwys, fod y m6r wedi tori i fewn, a bod yr holl le yn cael ei foddi. Tarawyd y gynulleidfa a dychryn, a bu cyffro y mae yn haws ei ddychymygu na'i ddarlunio. Ceisiai yr offeiriaid eu tawelu, nad oedd dim perygl, fod llawr yr eglwys yn uwch na'r heol, ond cyn i neb gael amser i ddianc yr oedd y llifeiriant wedi cymeryd meddiant o'r porth, a llawr yr Eglwys wedi ei orchuddio. Tra yr oedd rhai yn esgyn i ben y seddau, ereill a gymerasant eu safle yn y ganghell, ar fwrdd y cymun, ac yn yr areithfa. Yno y buont am oriau, hyd nes i'r dwfr ymgilio, ac i gerbydau ddyfod o'r dref i'w cludo ymaitb. Mae pob masnach- wr, fychan a mawr yn y rhan hono o'r dref, wedi cael colledion dirfawr, heb son am y niwed a wnaed i ddodrefn pob ty agos yn y gymydogaeth, i'r tai eu hunain, ac yn enwedig i furiau y gerddi. Fel yr oedd yn naturiol dysgwyl, mae yr amgylchiad wedi cynyrchu cydymdeimlad cyffredinol yn y dref, ac y mae ymgais ar droed i godi trysorfa i gynorthwyo y dyoddefwyr, yn neillduol y rhai a gawsant y colledion trymaf; ond byth y gtrneir i fyny golledion pawb, yn enwedig y dosbarth tlotaf. Y syndod yw, nad oes sicrwydd fod neb wedi colli ei fywyd, ond nis gall nad oes rbai wedi derbyn ysigiad i'w natur a arweinia yn y diwedd i'w hangeu. Nos Lun cyn y diweddaf, cyfarfu nifer luosog o gyfeillion Coleg Aberystwyth yn y dref hono, i gymeryd i ystyriaeth pa beth i'w wneyd yn ngwyneb y sefyllfa y mae y sefydliad wedi ei daflu iddo gan y Llywod- raeth trwy gymeryd y grant oddiarno a'i rhoddi i Goleg Bangor. Pasiwyd amryw benderfyniadau o blaid parhad y Coleg yn Aberystwytb, ac yn eu mysg un yn apelio at Gynghor y Coleg, yn ceisio ganddynt ei gynal yn mlaen hyd nes y ceid grant arall gan y Llywodraeth. Penodwyd dirprwyaeth i osod y mater ger bron y Cynghor, yr hwn oedd i gyfarfod dranoeth. Pan ddaeth yr adeg, cyflwynwyd y ddirprwyaeth gan Mr Love Jones-Parry, A.S. Ar ol i amryw siarad, atebodd y Cadeirydd, Arglwydd Aberdar. Aeth yn fras dros hanes yr ym- drech o blaid addysg uwchraddol yn Nghymru, a'r rhan a gymerodd efe ac ereill o aelodau y Cynghor ynddi. Er eu bod wedi gorfod myned yn erbyn buddianau union- gyrchol Coleg Aberystwyth, eu bod wedi eu rhwymo i hyny gan fuddianau y genedl yn gyffredinol. Ar yr un pryd, y gwnai efe eto bobpeth yn ei allu dros y Coleg, a phan y deuai y cwestiwn o grant iddo ger bron y Llywodraeth na fyddai ei oreu ef yn ol i geisio sicrhau hyny. Ail etholwyd ef yn Gadeirydd y Cynghor. Yn y prydnawn, cyfarfu Bwrdd y Llywodraethwyr (governors). Yn y eyfarfod hwnw, cynygiodd Mr D. Davies, A.S., Llandinam, ac eiliodd Mr L. Jones-Parry, A.S., fod Arglwydd Aberdar i fod yn Llywydd y Coleg. Pasiwyd ef yn unfrydol. Ar gynygiad diolchgarwch i Arglwydd Aberdar am ei wasanaeth blaen- orol, cododd Mr Gibson, Golygydd y Cambrian News, a gwnaeth sylwadau ar weithrediadau ei arglwyddiaeth mewn perthynas i'r Coleg a barodd gynhwrf mawr. Gwnaeth honiadau y rhai a wadai ei ar- glwyddiaeth fel anwiredd noeth. Pasiodd geiriau caledion rhwng Mr Gibson ac Arglwydd Aberdar; a therfynodd y cyfarfod mewn cryn derfysg. Ni chafwyd o'r blaen gyfarfod mor gyifrous yn nglyn a'r Coleg ZD hwn, a gresyn fod ei gefnogwyr yn cweryla a'u gilydd pan y mae mwyaf o angen am gydweithrediad o blaid y sefydliad. Nid yw Arglwydd Aberdar, ac ereill o aelodau y Cynghor a gydweithredent gydag ef, yn llai cyfeillion i Goleg Aberystwyth oblegid ddynt oddiar argyhoeddiad cydwybodol gymeradwyo i'r Llywodraeth sefydliad dau goleg—un yn y De, a'r Hall yn y Gogledd- am eu bod yn credu mai hyny fuasai oreu er lles y genedl yn gyffredinol. Parod ydynt, fel y dywedodd ei arglwyddiaeth, i gefnogi pob ymdrech i gael grant arall i Aberystwytb. Byddai cau y Coleg hwnw yn golled ac yn warth i Gymru. Goreu pa fwyaf o golegau fyddo yn ein gwlad, ac ni fyddai cael < £ 4,000 arall yn gosod Cymru ar yr un tir a'r Iwerddon ac Ysgotland.
ESTYNIAD Y BLEIDLAIS. -
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ESTYNIAD Y BLEIDLAIS. MAE Cynadledd Leeds, at yr hon yr edrychid yn mlaen gyda'r fath bryder, yn awr wedi myned heibio, a'r cynulliad lluosog a dylanwadol hwnw o gynrychiolwyr mwy na phum' cant o gorfforaethau Rhydd- frydol wedi datgan eu barn mewn modd ddigamsynied ac y mae y penderfyniad y daethpwyd iddo yn rhwym o gymeradwyo ei hun i fwyafrif dirfawr Rhyddfrydwyr y deyrnas. Nid oes un ddadl nad oes diwygiad yn angenrheidiol yn rheolaeth amgylchiadau bwrdeisiol Llundain. Y mae y cydgasgliad dirfawr o yn agos i bum' miliwn o bobl sydd yno, a pha fodd i drefnu eu hachosion yn y modd doethaf, yn haeddu yr ystyriaeth fwyaf difrifol; a diau nad ydyw y modd y dygir petbau yn mlaen o dan hen arferion a deddfau o'r oesoedd gynt yn ateb i'w hangenion yn y dyddiau hyn. Mae rheolaeth sirol, a byrddau lleol trwy yr holl deyrnas, yn gwestiynau y teimla pawb ddylent gael sylw. Rhoddai eu sefydliad ymwared mawr i'r llywodraeth gyffredinol, a byddai yn foddlonrwydd i'r bobl i gael llaw mwy uniongyrchol yn nhrefniad eu holl amgylchiadau. Nid oedd y Gynadledd yn Leeds yn ddiystyr o'r pethau hyn, ac ni fynent eu hoedi ddiwrnod yn hwy nag yr oedd raid ond yr oedd y teimlad bron yn unfrydol y dylasai estyniad y bleidlais i'r siroedd, fel y mae yn awr yn y bwrdeisdrefi, gael y flaenoriaeth ar bobpeth arall. Mynai rhai adael i'r Weinyddiaeth i benderfynu pa beth oedd i dd'od yn gynta.f, a pha beth yn ail; ond barnai y rhan fwyat o lawer fod yn perthyn iddynt hwy ddatgan eu syniad ar y pwnc, a dwyn pob dylanwad teg a allent i weithio ar y Llywodraeth er cael ganddynt dderbyn yr hyn a gymeradwyent. Dyna oedd teimlad y Gynadledd, a dyna oedd teimlad y cyfarfod cyhoeddus, ac yr oedd Mr JOHN BRIGHT yn bollol gydolygu a hyny ac yn ddiau bydd y ffaith fod y fath gynulliad lluosog wedi cymeradwyo y fath gwrs yn rhwym o ddylanwadu ar y Weinyddiaeth, a bydd yn siomedigaeth ddirfawr oni bydd iddynt redeg ar y llinellau a osodwyd i lawr gan y Gynadledd. Nid ydym yn awgrymu mewn un modd fod y penderfyniad y deuwyd iddo wedi ei fwriadu i frawychu y Llywodraeth, ond yn awgrymu iddynt pa beth yw barn a theimlad y wlad ar y mater, ac y mae yn iawn i'n llywiawd- wyr gael gwybod hyny. Byddant hwy fel gwladweinwyr doeth yn llunio eu mesurau yn ol yr addfedrwydd a welant yn marn y wlad, ac os na allant wneyd yr oil a ddy- munent ar unwaith, nid oes ganddynt ond gwneyd yr hyn a allant, a gwneyd yn gyntaf yr byn y mae y wlad yn fwyaf parod iddo. Mae rboddi y bleidlais i'r siroedd fel i'r wlad yn hollol deg a rhesymol, ac y mae atal oddiwrth ddynion eu hawl i bleidleisio yn unig am eu bod yn y wlad y gwrthuni mwyaf. Er engraifft, mae un ochr i'r heol yn y dref, ond y mae yr oebr arall yri y wlad. Mae y tai yn hollol yr un fath, yr ardreth yr un, a'r un dosbarth o ddynion yn hollol yn byw ynddynt; ond y mae gan y bobl sydd ar un ochr i'r heol bleidlais am eu bod yn dygwydd bod oddifewn i derfynau y fwrdeisdref, ond ni fedd y bobl sydd yr ochr arall bleidlais yn unig am eu bod yn dygwydd bod y tuallan i'r terfynau. Y fath wrthuni. Mae gweithwyr Merthyr, ac Aberdar, a Chaerdydd, ac Abertawy yn meddu pleidlais oblegid eu bod o fewn