Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
HAWLIAU HYNAFIAETHOL Y CYMRY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HAWLIAU HYNAFIAETHOL Y CYMRY. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION, — Synwyd fi yn ddirfawr gan gy- nwysiad ysgrif Prcswylydd y Gareg," ar y testyn uchod yn eich rhifyn am Medi 28ain. Ni ddywedaf ddim am ei syniadau am Ardalydd Bute, ac am y diweddar Carnhuanawc. Dymunwn alw ei sylw at ei eiriau am Iwl Cesar. Fel y canlyn y dywed, Ysgrif- enodd lyfr ar banes ei ymweliadau ft Chymru sydd yn agos o ran maintioli i'r eiddo Carnhuanawc." Diau fod y wybodaeth hon yn newydd i'r rhan fwyaf o'ch darllenwyr. A wnaiff "Prcswylydd" ddywedyd, pa bryd y bu Iwl Cesar yn Nghymru, pa leoedd yr ym- welodd a hwynt yno, a pha le y ceir y llyfr y sonia am dano ? Byddai d'od o hyd i'r llyfr hwn yn ychwanegiad pwysig at hanes ein gwlad, yn enwedig pan y mae def- nyddiau mor brin am y eyfnod pell hwnw y traetha am dano. GELYNOS.
GWAITH BARDDONOL IIWFA MON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWAITH BARDDONOL IIWFA MON. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,— Byddaf ddiolchns i chwi, os cania- tewch i mi gywiro y gwallau a ymddangosasant yn y dyfyniadau a wnaed o'r g iaith uchod yn adolygiad Dewi Ogwen yn y TYST A'R DYDD diweddaf. Yn Ho Wrth elfen yr awen sydd," Darllener Wrth olfen yr awen rydd. Yn lIe Tctuyrcha darllener Tewycha. Yn llo Dana yn glivys," Darllener Deua yn ghvs. Yn lie A ffroenia for," Darllener A ffroenia far. Y n lIe grncldia," darllener gruddiau. H. M.
Y GWIE AM Y P E T H.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y GWIE AM Y P E T H. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGTON,—Gwelais yn y TYST A'R DYDD am yr wyth!!os ddiweddaf nodiad yn mysg y manylion am y dygwyddiadau i'r omnibus yn y dref hon, March, swydd Gaergrawnt. Dylai haneswyr ofalu dyweyd y gwir am ddygwyddiadau. Nid brawychu wnaeth y ceffyl. Yr oedd yr omnibus yn galw am deithwyr i fyned i'r orsaf, ac yu sefyll yn y Nene Parade, ar lan yr afon Neue sydd yn rhedeg trwy ganol y dref. Yn y man hwnw nid oedd railings, na mur, yn amddiffynfa rhag y bane serth sydd yn myned i'r afon. Gan fod y man yn gul i'r cerbyd a'r ceffyl droi, disgynodd y cer- bydwr, ac ymaflodd yn mhen yr anifail, yr hwn ryw- fodd a aeth yn rhy a,-ol i'r dibyn, ac a lithrodd. Nid oedd bosibl iddo sefyll wedi dechreu llithro, gan fod yr omnibus yn drwm, tair boneddiges oddifewn a luggage ar y pen. Aeth yr oil i'r afon, y ceffyl yn isaf a'r cerbyd arno. Yr oedd lua phum' troodfedd o ddwfr yn yr afon ar y pryd. Pe dygwyddasai y dvdd o'r blaen, yr oedd saith troedfedd o ddwfr yn yr afon. Yr oedd y cerbyd wYlJeb i waered yn yr afon, a'r tair bonedd- iges ynddo, ac mewn pcrygl o foddi. Aeth gwr ieuanc i mewn i'r dwl'r, ac aeth dan y dwfr, ac agorodd y drws, a chymerodd un o'r boneddigesau ar ei gefn.trwy y dwfr, i'r Jan, a'r ail yr un modd yn ddyogel. Aeth un arall i mewn a chymerodd y foneddiges henaf o'r tair ar ei gefn, gan ei bod hi yn drwm a'r dwfr yn ddwfn. Bu agos iddynt foddi, ond cyrhaeddasant y Ian trwy gymhorth ereill. Boddodd y ceffyl. CLWYDWENFRO.
AT EGLWYSI ANNIBYNOL RHYMNI…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EGLWYSI ANNIBYNOL RHYMNI A TH REDE GAR. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,—Crefaf am ran fechan o gonal y TYST A'R DYDD, i draethu fy marn mewn cysylltiad Ú chael Cymanfa GcrddoroL Gwelsom gymanfaoedd rhagorol cyn hyn yn y ddau le uchod, y rhai nad n'n anghof tra byddwn byw, a gobeithiaf y bydd eu dylan- wadau i aros arnom hyd nes eawn fyned i'r gymanfa fawr sydd yn aros pobl Dduw yn y nef. Yr ydym yn cofio yn dda am ddwy, sef yr un a gynaliwyd ar ddydd Nadolig yn Moriah, Rhymni, a hyny trwy lafur y ddau frawd talentog, y Parch D. Silyn Evans, a Mr J. Cledan Williams, er fod ereill yn gweithio gyda hwynt yn rhagorol. Nid anghofiwn sylwadau Ciedan ar y don Catherine," a'i sylwadau rhagorol ar y penillion. yr oedd rhyw naws nefol drwy yr holl gyfarfod. Y gymanfa ddiweddaf a gawsom oedd yn Saron, Trede- gar, dan arweiniad Tanymarian. Cawsom hon yn llawn o'r nefol dan. Yr ydym yn methu gadael hon dros gof. Yr oedd Tanymarian wedi blino yn lan pan y galwodd ar Cledan Williams i arwain yn ei le, ond nid hir yr eisteddodd pan oedd yr hwyliau yn codi nad ymunodd & hwy. Yr oedd yr hen Handel a Tany- maiian wedi lIwyr ymgolli yn hon. Yn awr, anwyl gyfeillion, le, a brodyr crefyddol yn benaf, a oes dim modd cael eu cyffelyb eto. Beth a ddywed yjgweinid- ogion, y cerddorion, a'r cantorion, a'r eglwysi P A oea dim posibl a chael y fath eto tua dechreu yr haf dyfod- ol, os nad yn gynt. Yr wyf yn gweled y Nadolig yn llawn yn y ddau gt\ m yn parotoi gyferbyn ag Eistedd- fodau Tredegar. Yr wyf yn credu fod yr Eisteddfod yn dechreu cael y sylw blaenaf eto. Yr ydym yn gweled rbai gweinidogion braidd yn fwy llafurus yn y cyfeiriad hwn na cbyda'r pwlpud. Terfynaf, gan ddysgwyl cael cymanfa gerddorol eto. Traethwch eich barn. UN O'R UNDEB.
MORDAITH 0 LUNDAIN I CHINA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MORDAITH 0 LUNDAIN I CHINA. GAN Y PAKCH. W. HOPKIN REES. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,-Nid wyf yn gwybod pa un a gaw. soch y pwt o lythyr a anfonais o Portsmouth ai peidio, gan nad wyf wedi cael y pleser o ddarllen y TYST, na'r un papyr Cymraeg arall, er pan ysgrifenais atoch. Fel pob dyn mawr arall, yr wyf finau yn cadw Dyddlyfr, ac y mae genyf rywbeth ar gyfer pob dydd bron. Yr wyf yn anfon y nodiadan i chwi, ar eich cais chwi a lluaws mawr o hen gyfeillion yn Nghymrn, a chymer. wch hwy am eu gwerth. Dealled eich darllenwyr fy mod yn ysgrifenu darn yn awr, a darn bryd arall, ac y mae'r Gwbl yn gymysgedd didrefn, ond fel y maent, wele hwy i chwi. Yr ydym erbyn heddyw wedi myned trwy y Suez Canal, ac yn angori wrth enau y Mor Coch, man y carasai llawer hen Gymro duwiol ei weled. Yr wyf yn gweled Mynydd Sinai, a Rwlad yr Aipht o'r fan hon. Yr ydym yn hollol wrth ein bodd, ac y mae fy anwyl wraig, a'n Myfanwy hoff, yn gystal a minau, yn mwynhau iechyd rhagorol, ac yn hollol galonog gyda golwg ar y dyfodol. Rhanwch filoedd o gofion cynhesaf cydrhwng y ceraint yn Llechryd, Cwmafon, Coedpoeth, &c., &c. Yr eiddoch yn yr Efensryl, W. HOPKIN REES. S. S. Qlenfruin wrth enau y Môr Coch, Medi 20fed, 1883. R H I F II. lIIedi 4ydd.—Cymerwyd ar y bwrdd ddau torpedo boats,y rhai ydynt yn cael eu hanfon i Hong Kong, at wasanaeth y Ilywodraeth Brydeinig yno. Syniad dyeithr Cenadon hedd, ac arfan mwyaf dinystriol rhyfel, yn myned i China gyda'u gilydd. Y mae rhyw gymysgedd rhyfedd yn y byd yma. Buwyd ar y lan am rai oriau, a chawsom gipolwg ar y gweithfeydd an- ferthol i'r fyddin Brydeinig. Medi 5ed.—Cymerwyd i mewn fowls, defaid, gwar- theg, moch, &c., ar gyfer y fordaith. Gadawyd Ports- mouth am 1 o'r gloch. Collasom olwg ar y tir tua 5 o'r gloch. Diflanai Land's End yn raddol, yna yn llwyr o'r golwg. Ffarwel, hen wlad hoff. Bendithion goreu y nef fyddo yn rhan i dy breswylwyr, a thra bo'r tonau yn gwylied dy ymylon, boed heddwch o'th fewn, a llwyddiant ar grefydd y Groes fwyfwy o hyd. Ffar- wel Gawn ni eto gwrdd, tybed ? Diolch i Dduw fod lien y dyfodol yn rhy arwehus i ni weled trwyddo. Y mdr yn arw ac ystormus iawn, ac arwyddion fod rhai oiionom yn dechreu teimlo clefyd y mor. Ychydig cyn cychwyn allau, dygwyddais gyfarfod ag hen gyfaill hoff genyf, sef Mr D. S. Davies, mab John ac Eleanor Davies, Pwllhelyg, Llechryd. Yr oedd yn wir dda genyf ei weled yn edrych mor wych, a bydd yn dda gan ci rieni glywed ei fod mewn parch mawr. Llawer awr ddoniol a dreuliais yn nby ei dad a'i fam, yn enwedig pin fyddai ei fam mewn hwyl parablu, ac yr oedd bron bob amser. Bendith Duw arnyni hwy, ac ar yr holl garedigion yn Llechryd. Medi Ged.-Cyrhaeddasom y Bay of Biscay am 7 o'r gloch y boreu. Y mor yn arw iawn, a phawb ohonom a rhyfel cartrefol yn y cylla. Methwyd gweled yr haul heddyw, ac ni welwyd yr un llong ar hyd y daith. Darllemasom ychydig o bregethau Hughes (B.), Maesteg, ac ychydig Salmau, ac ar ol cadw dyledswydd deulnaidd yn ein caban-y wraij; a minau—ymor- phwysasom ar fynwes ein Duw. Tybiwyf nad oes dim fel y mor all greu mewn dyn syniadau parchus am Dduw, aruthredd a mawredd ei waitb, a dibyniaeth dynion arno. Medi 7ed. — Torodd gwawr hyfryd heddyw. Yr oedd y mor fel gwydr, a phe yn cysgu ar obenydd tawel, a phelydrau yr haul yn sirioli pawb a phob peth. Llwyddais i fwyta ychydig frecwast, ond methodd fy ngwraig. Myfanwy yn bollol dawel, ac yn bwyta yn dda. Gwelsom amryw longau heddyw. Pawb yn gwella. Meddwl a siarad llawer am hen wlad fy nhadan. Aethom allan o'r Bay of Biscay tua chanol nos, a cbafwyd cipolwg ar Cape Finisterre. Medi Sed-Tywydd ardderchog, a phawb yn iach. Teithio tua 300 milltir heddyw. Yr hwyliau i fyny, a'r gwynt o'n tn, a morio yn gysurus a chyflym yn Mor y Werydd. Ar ol drycin daw hindda." Moliauus fyddo Duw am ei wenau. Meistres wedi gwella yn dda, a Myfanwy yn peri difyrweh a dyddanwch mawr i ni. Llwyddo i ddysgu am bell air Chineaidd. Mr Gilmour yn rhoddi llawer iawn o waith i'n peirianau chwerthin drwy ei arabedd a'i hanesion digrifol. Tua 4 o'r gloch gwelsom shark o faintioli cymedrol, ond ymddengys nad oedd ei gylla yn wag, onide buasai yn ein dilyn, yr hyn ni wnaeth. Pan oedd y nenfwd yn dechreu gwisgo ei dillad nos gwelsom Cape De Rocca, ac ynysoedd ereill. Teimlem yn ddiolchgar mai nid ac yr ydoedd hi yn nos ar y pryd, gan fod y fan yn beryglus, heb ond un goleud £ yn ganfyddadwy. Tybiem fod y gwyl- iedydd a drigianai yn y goteudy hwnw mor unig ag a fu loan yn Patmos, ac mae bywyd digysurydywbywyd y teulu sydd yno yn byw mewn nnigedd ar ddarn bychan o dir, yn nghanol twrf dibaid, a fflangelliad didor tonau y Werydd. Dyma le yn iawn, Mri. Gol., i anfon rhywrai sy'n poeni saint Duw yn Nghymrn. Diwrnod dymnnol iawn yn mhob ystyr, ac mewn teim- ladau diolchus am dano aethom i'n bunks dros y nos. Pasiwyd goleudy Lisbon tua 9 o'r gloch. Medi ged.-Dyma Sabboth aralll wedi gwawrio, ac 0 mor arddunol. Hyfryd yw y fan, a dedwydd yw y meddwl. Gwena yr haul ar wyneb y dyfroedd goleu- las, nid oes yr un ripple yn weledig ar ei wyneb, neu ei gefn Ilyfn, eithr clywir ef weithiau yn ymarfer ei lais, ac yn taro notes ei oratorio ef," tra mae'r llestr yn llithro yn mlaen ar ei hynt. Fry yn yr wybren lis nid oes yr un o gerbydan lor yn cymeryd di-ive-tyb. iem eu bod oil yn y coach-house, canai yr adar sydd yn y dining-room fel pe wedi gwJychn en pigan yn nghel- wrn cerddoriaeth, gan mor iwyn yr arllwysent allan en hodlau. Yn yr un ystafell eto, yr oedd gwenan blodau heirdd yn ein haroa, a diferion grisialaidd yn crogi ar eu hymylon, a'u barogl per ynswyno ein calon. Yma a thraw ar hyd y palmant dyfrllyd gwelid ambell long yn marchog yn orfoleddus ar y Werydd glas, a dacw Cape Saint Vincent yn y pellder draw, ond yn fnan collir golwg arno, ac yr ydym ninau yn cyflymn tua chulfor Gibralter. Ond er fod y pethau hyn oil mor ddymunol, eto teimlem mai Sabboth rhyfedd ydoedd i ni. Teimlwn yn rhyfedd am na fuaswn yn cael dyweyd Yn I., yn II., ac yn Olaf," fel arferol. Teimlad chwith i un fa yn pregethu bron bob Sabboth am y pum' mlynedd diweddaf, oedd bod yn fnd." Gwell bod ar sawd yr Hen Weinidogion na hyn, gan fod hono yn caniatau pregethu. Yr oedd fy enaid ar dan am gael pregethu. Meddyliwn am y cynulleidfaoedd llnosog oeddynt mewn gwres nefol yn eydaddoli mewn canoedd o demlau ydynt yn addurno bronan yr hen wlad, eithr nyni mewn unigedd o ryw fath ar fynwes wleb y ddr, ond yn ein hunigedd buom yn ceisio addoli yr un Duw a chwitbau yn Nghymru. Darllenwyd yr un hen Feibl anwylgu a swynai eich calon chwithau, sef yr hen Feibl Cymraeg, a chanasom rai o gerddi Seion-buom bron dyweyd fod yr adar yma yn deall Cymraeg, gan iddynt gydganu a ni. Cawsom gyfarfodydd yn yr iaith Saesoreg. Pregethodd Mr Gilmour yn y boreu oddiar y geiriau, Felly y carodd Duw," &c. Yn y prydnawn siaradwyd gan Dr Barcbet a'r ysyrifenydd. Ellmyn yw y Doctor, ac y mae yn siarad Saesoneg yn Ellmynaidd iawn, fel nad oedd yn hawdd ei ddeall. Cenadwr meddygol yn Mingpo, China, ydyw, dan nawdd cymdeithas Americanaidd, ac y mae yn perthyn i'r enwad sy'n hoffi'r Iorddonen mor fawr. Er fod swn dyfroedd lawer o'i gwmpas yn ami, eto y mae yn ddyn rhagorol yn mhob ystyr, ac yn garuaidd i bawb. Bum am beth amser yn byw dan yr un to a gweinidog Bedyddiadol, a bfim am fisoedd lawer yn yr un ysgol ag ef, fel ag yr wyf yn hollol gyfarwydd i "dwndwr ei afonydd," ac yr wyf heb droi fy nghefn eto ar yr ordinhad o fedydd, trwy gael fy nhrochi Dywedais inau dipyn goreu medrwn yn yr iaith fain, ac yr oedd yn feinach nag arferol o enau Cymro fel eich ufudd was. Daeth amryw o'r teithwyr a'r dwy- law yn nghyd, ac ymddangosai rhai ohonynt fel pe yn mwynhau yr oedfaon. Gobeithio fod lies wedi ei wneyd. Pawb heddyw yn hollol iach, ac yn llwyddo i osod o'r golwg swm parchus o'r bwydydd amrytath a blasus. Yn wir, nid wyf yn cofio fy mod erioed wedi gallu bwyta mor dda. Efallai mai y swpar ar ol yr arholiad blynyddol yn y B31a, pan oedd pawb yn canu ar ol y frwydr oedd yr ag-osaf ato. Mae pawb heddyw ar yr upper deck. Erbyn i frenin y dydd fyned i'w orphwysfa a thynn y lleni drosto, dringai brenines y nos i'w gorsedd, a chanfyddid miloedd o'r plant dys- glaer hefyd. Noson ardderchog. Canwyd rhai emynan tuallan a'r "Iloer yn arianu'r Hi" yn ein hymyl. Diolch am Sabboth mor ddymunol. (1'10 barhau.)
"TY FY NHAD YN DY MARCHNAD."…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"TY FY NHAD YN DY MARCHNAD." At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,—Yr wyf yn gobeithio rhyw bedwar o bethau, o leiaf. Yn laf, y bydd i chwi yn garedig adael i'r ysgrif ymddangos. Yn 2il, y bydd i'r rhai y perthyn yr ysgrif iddynt, ei gweled a'i darllen. Yn 3ydd, y bydd iddi fod yn foddion i'w eywilyddio, a'u hargyhoeddi, a'u diwygio ac yn 4ydd, bodyn rhybudd prydlawn i ereill i ochel yr hyn a gondemnir ganddi. Yr arfenad ddirmygus o deithio trwy yr eglwysi dan gysgod pregethu yr Efengyl, i werthu llyfrau • dyna yr arferiad y gosodwn ein hwyneb yn ei herbyn' Cof genym weled yserrifau llymion oddiwrth rai o* ddynion goreu ein Henwad er's blynyddau yn ol yn condemnio hyn yn y modd mwyaf diarbed ond hyd yn hyn mae y drwg yn parhau, er mawr waradwydd i Giistionogaeth; ac anfoddlonrwydd, ni a gredwn, i'r
YR AELODAU DROS MERTHYR
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Parch T. W. George, High-street, a Dr J. W. James. Ein bod fel cyfarfod yn dymuno cyflwyno ein diolch- garwch cynesaf i Mr Henry Richard, A.S., a Mr Charles Herbert James, A.S., am eu gwasanaeth ffydd- lawn yn ystod y ddau Senedd dymhor diweddaf. Ein bod hefyd yn cymeradwyo yn y modd Ilwyraf y sref- nogaeth gyson a roddasant i'r Weinyddiaeth i basio cynifer o tesurau pwysig ac yn mhellacb, ein bod yn dadgan ein hymddiriedaeth Iwyraf ynddynt fel rhai yn moddu cymhwysderaa arbenigol i gynrychioli y fwr- deisdref yma. Cynygiwyd diolchgarwch i'r Cadeirydd gan y Parch Rees Evans, ac eiliwyd of gan Mr David Davies, Glebeland.