Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

♦ A THRO PA FFEWDTAL A'T II…

IY GYMANFA DDE-ORLLE WlNOL.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Y GYMANFA DDE-ORLLE WlNOL. Cynaliwyd y Gymanfa yn Rhydyeeisiaid, ar y Mercher a'r Tan, Mehefin 4/dd a'r 5ed. Y Gynadlodd a ddechreuodd am 11 n'r gloeh yn y capel. Dewiswyd Lewis, Brynberian, i lywyddu, a Jenkins, Cidweli; Prydderch y vVern, ac Evans, Hebron, i ysgrifenu. Gweddïodd y Parch E. Jones, Ffynonbedr. Wedi cael anerchiad gan y Cadeirydd ar Fagwraeth Grefyddol leuenctyd yr Eglwysi," eydunwyd 1. Fod Cymaufa 1885 i gael ei chynal yn y Towyn, Ceinewydd, Ceredigion. 2. Fod y Gynadledd Flynyddol hon o Annibyn- wyr siroedd Oam-fyiddin, Penfro, ae Aberteifi, yn cynrychioli 230 o eglwysi, 38,834 o aelodau, a 33,433 o wrandawyr, yn dymuno datgan ein hym- lyniad parhaus wrth y Gwir Anrhydeddus W. E. Gladstone a Llywodraeth ei Mawrhydi, HC hefyd eu condemniad diganisynied a chwerw o gynllun- iau anwladgavol a hunaageisiol yr Wrthblaid yn Nau Dy y Senedd. '3. Fod copi o'r penderfyuiad uchod, wedi ei ar- wyddo gan y Cadeirydd, i gael ei ddanfon i'r Prif Weinidog ac i'r Aelodau Seneddol dros y hit, sir a'u bwrdeisdrefi. 4. Ein bod yn dymuno cofnodi yn alarus farw- olaeth annysgwyliadwy ein hybarch gyfaill y Parcli W. Morgan, athraw duwinyddolyn N gholeg Presbyteraidd Caerfyrddin. Bu yn aelod ffyddlon a gwerthfawr o'r Gymanfa hon o'i urddiad yn Union-street, Caerfyrddin, IIydref 13eg, 1847, hyd ei farwolaeth, Ebrill 25ain, 1884. Yr ydym yn cydymdeimlo a'i blant a/i ger:unt yn eu gaiar, ac yn dymuDo i'r eglwys fn dan ei ofal yn wcithgar a llwyddianus i gael eto un with fodd calon Duw i'w bugeilio, ac yr ydym yn teimlo yn byderus y gwna y Bwrdd Presbyteraidd ddwyn yn mlaen y Coleg eto yn y dyfodol, a hyny yn Nghaerfyrddin, fel a* i barhau yr un manteision i'r eglwysi An- nibyuol, ac i sicihau eu hymddiried a'u cefnog. aeth fel yn amser cysylltiad Proffeswr Morgan a'r Athrofa. 5. Ein bod yn hyderu y llwydda Mr DHlwyn i gael dadl a rhaniad ar ei gynygiad, ac yn dymuno ar hon aelodau-Seneddol y tair sir i'w gofnogi. 6. Ein bod yn diolch i'r Cadeirydd am ei was- anaeth yn y gadair, a'r anerchiad pwrpasol a roddodd at' Fagwraeth Plant yr ac y carem iklo roddi yr anerchiad i'w ayhoeddi gyda hanesi v Gvmanfa. (Gweler yr anerchiad ar y diwedd.) Rhoddwyd derbyniad gwresog i'r Parch Morris Philiips, cenadwr yn India er's 23 mlynedd—un genedigoi o ardal Rlivdyceisiaid. Dywedodd ei fod ef yn thorough Welshman, a rhoddodd anerchiad byr a gwresog yn Saesoneg yn cymhell pobl ieuainc o Gymru llawn o dan Duw a'r tan Cymreig i ddyfod allan i'r India a China yn genadgn. Terfynodd Mr Evans, Aberaeron, trwy weddi. Y MODDION CYIIOEDDUS. Am 2 o'r gloch ar y cae, gweddïodd Williams, Llechryd, a phregethodd Richards, Myddfai, oddiar Heb. i. 1 Morris Aberteifi, oddiar 1 Cor i. 22, 23, a Davies, Bethlehem, oddm? Luc xii. 47. Am 6, yn y capel, gweddiodd Jones, Cci" newydd, a phregethodd Thomas, Capel Isaac, oddiar Zechariah xii. 10 Prydderch, Wern, oddiar Dat. v. 9, 10. a Thomas, LI an fair, oddiar Actau xii. 6, 7. Pregethid ar yr un amsep mewncapeli cymydogol. Am 7 boreu lau, dechrcuodd Griffiths, Alaen- ygroes, a phregethodd Thomas, Liangadog,. oddiar loan xiv. 8, 9 Thomas, Bethesda, oddiar Salm xxxvii. 37, a Thomas, Solfach, oddiar Luc i. 32, 33. Am 10, dechreuodd Davies, Moriafa, a phreg- ethodd M. D. Jones. Bala, oddiar loan ix. 39 T. Davies, Siloah, oddiar 1 Cor. xv. 35 43, a W. Evans, Aberaeron, oddiar Rhuf. iii. 25, 26. Am 2, dechreuodd S. Evans, Hebron, a phregethodd Jones, Pencader, oddiar Salm lxii. 12 Phillips, y cenadwr, oddiar loan x. 16, a Phillips, Horeb, oddiar Can. iv. 16. Cyhoedd- wyd i bregethu am 6, Owen, Glandwr Jones, Trewyddel, ac Evans, Pontardulais. Cafwyd hin hyfryd, croesaw serchus a helaeth cynullodd miloedd at eu gilydd, a hyderwn y dilynir y Gymanfa hon gan adfywiad grymus- fel yr hen Gymanfa yn 1823, am yr hon y cofia ychydig hen bobl. S. EVANS, Ysg.

CYMANFA EHYDYCEISIAID YN 1823v

MAGWBAETH GREFYDDOL IEUENCTYD…

YMYLON Y FFOEDD.