Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Yn mhlith Rhyddfrydwyr sir Aberteifi, y mae cysylltiad yr Eglwys a'r Wladwriaeth yn peri cryn gyffro yn y dyddiau hyn. Ychydig amser yn ol, gwrthododd Mr Pugh yr aelod Seneddol dros y sir, addaw pleidio cynygiad Mr Dillwyn pan ddeuai ger bron Ty y Cyffredin, a pbasiodd y Pwyllgor Canolog benderfyniad i'r perwyl nad oedd neb yn ystyried unrhyw un yn gynrychiol- ydd boddhaol, oni byddai yn barod i gefnogi pob symudiad er perffeithio rhyddid crefyddol drwy y deyrnas. Teimlodd Mr Pugh yn ddwysoherwydd y penderfyniad hwnw, aufonodd y llythyr a gan- lyn at Ysgrifenydd Cymdeithas Ryddfrydig y sir: —" Wedi meddwl yn ofalus uwchben gweithred- iadau y Pwyllgor Canolog yn y cyfarfod dydd Mawrth diweddaf, a'r golygiadau a draethwyd ynddo, yr wyf wedi d'od i'r penderfyniad mai y cwrs priodol i mi ydyw rhoddi i fyny y sedd y meddaf yr anrbydedd o'i llenwi." Felly rhaid i sir Aberteifi edrych allan am gynrychiolydd newydd. Nis gallwn lai na cbanmol Mr Pugh am ei onestrwydd yn y mater. Gallasai ranu y blaid yn y sir, a thrwy hyny agor y drws i Geidwadwr fyned i mewn. Y mae ganddo ef fel pawb ereill, berffaith bawl i goleddu y syniadau a fyno ar bri- odoldeb y cysylltiad rhwng Crefydd a Llywodr- aeth, ond gan fod ei syniadau ef yn gwrthdaro gyda syniadau mwyafrif ei etholwyr, nis gallasai fel boneddwr lai nag ymneillduo o'r gynrych- iolaeth. Nid Mr Pugh yw yr unig un yn Aberteifi sydd wedi teimlo am fod Cynghor y blaid Ryddfrydig yn y sir wedi dadgan yn ffafr Dadgysylltiad. Ymddengys fod Syr M. Lloyd, Barwnig, wedi tramgwyddo yn aruthr. Yr oedd ef yn is-gadeir- ydd y Cynghor Rhyddfrydig, ond dengys y llythyr hwn a anfonodd at yr Ysgrifenydd nad yw yn bwtiadu dal y swydd hono rhagllaw:—"Gwelaf fod penderfyniad wedi ei gario gan y Cynghor i'r perwyl y rhaid i'r aelod dyfodol dros sir Aberteifi fyned i mewn o blaid Dadgysylltiad yr Eglwys. Ar y tir hwn dymunaf rbyddhau fy enw oddiwrtb is-gadeiryddiaeth yr Undeb Rhyddfrydig yn sir Aberteifi, am fy mod yn ystyried y eyfryw bender- fyniad yn anghyfansoddiadol, ac ni bydd i mi gefnogi yr ymgeisydd gyda fy mhleidlais os daw allan dros fesur o gymeriad mor ddialgar a din- ystriol." Wel, wel, dyna hi ar ben ar Ryddfryd- iaeth yn mhlith y Cardies. Colli gwr Bronwydd o fod yn Is-gadeirydd, a cholli ei bleidlais ar ddydd yr etholiad. Yn sicr dylasai y Pwyllgor ystyried cyn pasio penderfyniad mor chwildroadol. Ond hwyrach na bydd colli Syr 1\f: Lloyd ddim yn dryohineb mor alaethus ag a dybia ef, a siomir ni yn fawr os na ddychwelir aelod advanced dros hen sir Ymneillduol Aberteifi er gwaethaf y Barwnig o Bronwydd. Un peth sydd sicr, ni bydd Dad- gysylltiad yr Eglwys ddim un diwrnod yn nghynt nac yn ddiweddarach, pa un bynag a fydd ef o'i blaid neu yn ei erbyn. Digon tebygy bydd "Gwleidyddwr" yn rhoddi ger bron darllenwyr y TYST grynodeb o'r ddadl Seneddol yn ngbylch Dadgysylltu yr Eglwys yn Ysgotland. Yn anuniongyrchol y trodd y mater i fyny, oberwydd yr oedd Mr Dick Peddie wedi bod yn aflwyddianus i gael noson er dwyn ei gynygiad ger bron y Ty. Trodd y mater i fyny yn nglyn a Mesur Mr J. A. Campbell, yr aelod dros Brifysgol Glasgow, i wella deddf y Trethoedd Eglwysig. Yr oedd Me Peddie wedi rhoddi rhybudd o well- iant i'w gynyg ar yr ail ddarlleniad, ond blaenor- wyd ef gan Mr A. Elliot, yr aelod dros swydd Roxburghe. Ychydig o wahaniaeth oedd rhwng y ddau welliant, ond fod un Mr Peddie ychydig yn gryfach a mwy penodol. Dyma y gwelliant a gynygiwyd gan Mr Elliot—"Nad oesunmesur yn foddhaol a fyddo yn darpar i barbau yn mlaen unrhyw gyfundrefn o drethiant gorfodol cyffred- inol er mwyn cynal a chadw i fyny adeiladau eglwysig perthynol i un blaid grefyddol." Siaradwyd o blaid y mesur gan amryw o'r aelodau Seneddol, ac yn eu plith Syr John Hay, Mr A. J. Balfour (nai Ardalydd Salisbury), a Syr Stafford Northcote ac o blaid y gwelliant gan Mr Elliot, Mr Bruce, Mr Peddie, Arglwydd Colin Campbell (mab Due Argyll), a'r Arglwydd Ddadleuydd. Ar l'aniad y 'J'y, pleidleisiodd 103 dros yr ail ddarlleniad, a 160 yn erbyn ac o blaid y gwelliant. Nid oes modd camgymeryd llais y bleidlais. Y mae Ty y Cyffredin wedi datgan yn ddiamwys o blaid perffaith gydraddoldeb crefyddol yn Yfgot- land. NONCON. A

Advertising

[No title]