Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

MERTHYR TYDFIL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MERTHYR TYDFIL. OTPAKV'OD YMADAWOL Y PARCH THOMAS K VANS, HOPE CHAPEL. Hysbyswyd yd ein colofnau ychydig arnser yn ol, fod y Parch lilhordas Evans, Hope Chapel, wedi derbyn galwad oddiwrth Eglwys Seisonig Annibynol yn Preston, Lancashire, a'i fod yntau wedi ei hateb yn gadarnhaol. Nos Sul, Mehefin 8fed, traddododd Mr Evans ei bregeth ymadawol i gynulleidfa na welwyd eu lluosocachtu fewn capel Hope o'r blaen. Prydnawn dydd Lluu canlynol ymgynullodd aelodau Cymdeithas Ddirwestol Merthyr yn nghyd yn y Neuadd Ddirwestol i yfed cwpanaid o de gyda Mr Evans am y tro olaf fel aelod o'r Gym- deithas. Yn yr hwyr cynaliodd yr un Gymdeitbas Gyfarfod Ymadawol Cyhoeddus, er anrhegu Mr Evans ag anerchiad bardd. Cymerwyd y gadair gan y Parch D. G. Williams, Salem, llywydd y gymdeithas am y flwyddyn hon. Yr oedd hefyd ar yr esgynlawr y Parchn D. C. Jones, Bethesda J. Morris, Ebbw Vale B. Thomas, Tabernacl J. Thomas, Soar a'r Mri T. Williams, Y.H., W. L, Daniel, David Evans, Joseph Williams, J. Morgan, Morgan Morgan, a John Bowen. Ar ol darllen llythyr qddiwrth y Parch J. Pugh, Ponty- pridd, yn esgusodi ei absenoldeb, anerchwyd y gynulleidfa yn Gymraeg gan y Cadeirydd, a'r Meistriaid Rees Lewis, J. Morgan, a M. Morgan. Galwyd ar Mr DAVID EVANS, income tax collector, yr hwn sydd yn Eglwyswr, a dywedodd ei fod wedi dyfod yno i ddatgan ei ofid oddiar esgynlawr dirwest, i fod Mr Evans yn gadael Merthyr. Nid oedd ef (y siaradwr) a Mr Evans yr un farn ar y cwestiynau (cyhoeddus, ond am ddirwest yr oeddynt yr un ■, tfeddwl am hyny. Os oedd Mr Evans wedi gwneyd teamsynied erioed yn ei fywyd, y camsynied hwnw tQ)Qdd iddo ddewis yr esgynlawr yr oedd ef (y siaradwr) yn gwahaniaethu oddiwrtho (chwer- thiniad). Nid oedd neb erioed wedi dangos mwy A) wroldeb wrth ddangos allan egwyddoiion dir- -west na Mr Evans. Nid oedd dim yn yr Anerch- iad oedd i gael ei gyflwyno iddo, nad oedd yn deil- ■\ vag ohonynit, a ^i^eithid' y buasai Prestou yn c. tel yr un budd oddiwrth wasanaetb Mr Evans fel' yr oedd Merthyr wedi ei gael am yr wyth rol) nsedd diweddaf (cym.). Y Piirch D. C. JONES, Bethesda, oedd y nesaf i anerc '.it J cyfarfod, a gwnaeth hyny yn Gymraeg .4 mewn arateth byawdl iawn. Yn nesaf galwyd ar Mr JFOTTN BOWEN, Ysgrifenydd y Gymdeithas Ddirw stJl, i ddarllen yr Anerchiad, yr hwn oedd fel yc iMyn:— To the Rev Thomas Evans, Hope Chapel, Merthyr Tydffl, on fche occasion of his leaving for Preston, Lane ashire. REV A Nl) DEAR SIB,—The pleasure we feel in giving you this: Address is marred only by the recollection that it is occasioned by your departure. Although we rejoice at your prospects of extended usefulness, we cannot but regard your removal from amongst us with very deep regret, and we are unwilling to let you go without marking our appreciation of your character. During your stay ot eight years amonast us, you have laboured earnestly in all good works, you have shown a noble-minded interest in every worthy cause; yet brilliant as your achievements have been in every other direction, we, the Merthyr Temperance Society, ap- proach you chiefly as a temperance man. The temperance cause has always been dear to you, and your best powers have been cheerfully taxed for the furtherance of it. We have witnessed with pleasure and thankfulness the success which has attended your career as a temperance advocate, and it is but fair to put on record that amongst the many sons of Cambria who have befriended this cause there is no one more eminent than yourself. We who are acquainted with your exceptional tact to manage public audiences, your passion for the elevation of your fellow-creatures from the paths of strong drink, and the diversity of talents which you have brought to bear on this work, do not wonder that nearly all your countryme » have, in their turn, chosen to be instructed by your advice, amused by your humour, stirred by your eloquence, and ronsed by your earnestness You will be long and lovingly remembered by them on account of the zeal with which you have laboured, the new cheer which you have thrown into many a blighted life, and the happiness which you have brought into many a poverty stricken home. Amongst the various towns of the Principality not one has shared more largely of your-help than our own. You have not hesitated to associate yourself with every form the temperance cause has taken here during your stay in the town. Always to the fore, in pulpit or on platform, we recognize your readiness not less than your ability, and your connection with our various tempeiance societies will be always gratefully remem- bered. Your labours on behalf of temperance have not boea confined to Wales, but your services have been much coveted and always appreciated in England and Scot- land also, and the account of your successes was always received with gladness at home. It gives us great satisfaction to note a'so that tem- perance people in Wales have not been slow in selecting you out for positions of honour amon st them. You have been president of several associations, and during the year 1883 held the responsible pos;tion of G.W.C.T. of the English Grand Lodge of Good Templars in Wales. The position was well merited by you and its dignity fully sustained. Rev. and Dear Sir,—In bidding you good bye on your departure, we assure you that our best wishes will follow you to your new sphere of labour, and that it is our prayer that your labours may, in future, be crowned with a larger measure of success even than in the past. Signed on behalf of the Merthyr Temperance Society. D. G. WILLIAMS, President. THOS. WILLIAMS, Treasurer. June 9th, 1884. JOHN BowEN, Secretary. Mr W. L, DANIEL, wrth gyflwyno yr Anerchiad i Mr Evans, a ddywedodd, mai rhyw 53 mlynedd yn ol y cyfarfyddodd rhyw ychydig o ddynion gostyngedig a gonest yn uhref Preston er dadleu ac ystyried sefyllfa y wlad hon oberwydd ei meddwdod, ac nid oeddynt yn hir cyn penderfynu na fuasent byth yn gwneyd un defnydd o'r diod- ydd meddwol, a chyahwynasant gymdeithas. Y peth nesaf y' clywyd am danynt oedd, eu bod yn myned trwy y gwahanol gymydogaethau i geisio gwneyd daioni, a'u bod yn cael eu herlid gymaint nes y gorfuliddynt apelio at yr ynadon am amddi- ffyn4 ifelly yr oedd rhai o ddynion Preston, wedi gorfod ymladd dros ddirwest pan yr oedd hyny yn anmhoblogaidd (cym.). Yr oedd y dynion hyny yn ffyddlon i'w hegwyddorion, a chawsant fyw yn ddigon hir i weled fod y wlad yn dechreu sylweddoli y ffaitb, os ydyw Lloegr i fod yn wlad sobr, y buasai yn rhaid i'w phobl wneyd i ffwrdd a'r diodydd meddwol. Y dynion yma oedd ar- loeswyr (pioneers) yr achos, dirwestol yu y wlad hon, ac yr oedd ganddynt hwy, fel dynion da ereill, eu canlynwyr (cym.), ac yr oedd Mr Evans yn un o'r rhai hyny. Nid oedd ef (y siaradwr) yn synu yn y byd fod y Prestoniaid, y rhai oedd wedi eu dwyn i fyny o'u mebyd yn egwyddorion dir- west, ac wedi darllen ilenyddiaeth ddirwestol, wedi rhoddi galwad i ddyn o stamp Mr Evans, yr hwn oedd wedi gwneyd enw iddo ei hun fel dar- lithiwr a phregethwr, i'w bugeilio. Ar ol gwneyd ychydig sylwadau ar yr Anerchiad yr oedd ar gyflwyno iddo ar ran y Gymdeithas Ddirwestol, sylwodd ei fod wedi aduabod Mr Evans am flyn- yddau cyn iddo ddyfod i Ferthyr, ac nad oedd un tipyn yn fwy annibynol heno nag oedd y pryd hyjoy. Yr oedd wedi bod yn Annibynwr yn ystyr uehaf y gair trwy ei holl fywyd (cym). Mewn gwirionedd, pe na buasai felly, nid y Parch Thomas Evans fuasai yn awr (cym. a chwerthin), ac os oeddynt yn meddwl ei fod yn cilio oddiwrth egwyddorion oedd yn anwyl gan y Methodistiaid Calfinaidd, yr oeddynt yn gwneyd un o'r camsyn- iadau mwyaf trist yn ei fywyd (elywch, clywch). Yr oedd yn edrych ar Mr Evans fel pregethwr annibynol o'r Efengyl (cym.). Wedi awgrymu am oddefgarwch Eglwys Hope yn gadael i'w gwein- idog fyned oddicartref am wythnosau, ac weithiau mor hir, fel yr oedd ef (y siaradwr) wedi gofyn iddo, pryd yr oedd yn dyfod gartref i newid yr awyr (chwerthin)—ac hefyd i hunan-aberth Mrs Evans yn ynfddwvn mor amyneddgar pan yr oedd ei gwr yn absenol oddiwrthi hi a'i theulu. Aeth Mr Daniel yn mlaen i ddyweyd nad oedd ef yn I gwybod am un dyn oedd wedi aberthu cymaint dros ddirwest yn y blynyddau diweddaf ag oedd Mr Evans, ac er fod digon o ffaeleddau yn perthyn iddo, yr oedd yn gallu dyweyd eu bod yn ei garu eto (clywch, a chwerthin) Pan yr elai ymaith, yr oedd ef (y siaradwr) yn sier y byddai pobl Merthyr yn gweddio drosto, ac yn dymuno yn dda iddo, a phryd bynag y buasai yn dyfod yn ol, y buasent yn ei dderbyn gyda breich- iau agored (cym.). Wrth derfynu, dywedodd Mr Daniel mai ychydig ddynion yn y Dywysogaeth oedd wedi eymeryd gyda hwy oddiwrth wlad eu tadau dysteb mor hardd ag yr oedd Mr Evans yn gael y noswaith hono. Yr oedd rhai wedi cael eu hanrhegu ag aur, rhai ereill ag arian, a rhaid oedd i rai ymfoddloni ar ddymuniadau da ynunig, ond yr oedd Mr Evans yn cymeryd gydag ef yr Anerchiad mwyaf hardd a drowyd allan o dref Merthyr erioed (cym.). Yr oedd yn teimlo ei fod yn anrhydedd i'w chyflwyno iddo. Yr oedd yn gobeithio y buasai Mr Evans yn ei chadw fel heirloom yn y teulu, ac y buasai ei blant yn gweled fod tad ganddynt ag oedd yn werth ei efelychu a'i garu—un y byddai Duw ar ddiwedd ei yrfa yn alw adref oddiwrth ei waith i'r orphwysfa dawel a bendigedigsydd yn aros i'r ffyddlon (uchel gym.). Yna darllenodd Mr DAVID JONES (Llwch-haiarn), englynion i Mr Evans. Y Parch J. MoRRis, Ebbw Vale, oedd y nesaf i anerch y cyfarfod mewn araeth ffraeth iawn. Tystiodd am ddefnyddioldeb a pharodrwydd Mr Evans wrth ddyfod i Ebbw Vale i ddarlithio ar ddirwest, ac er dangos eu hewyllys da tuag ato cyflwynodd weithiau Deon Stanley ar" His- tories of the Jewish and Eastern Churches," i Mr Evans dros ycbydig o gyfeillion yn Ebbw Vale. Yr oedd hefyd wedi dyfod ag inkstand hardd yn anrheg i Mrs Evans mewn cydnabyddiaeth o'r aberthau oedd hi wedi wneyd (cym.). Yna cyflwynwyd yr anrhegion. Yna cododd Mr EVANS i fyny i ddiolch, a chafodd ei dderbyn gyda chymeradwyaeth uchel. Dywedodd ei fod wedi clywed am gyfaill unwaith, yr hwn oedd yn myned i gyfarch cynulleidfa luosog, a'i fod yn teimlo yn lied grynedig. Dywedodd rhywun caredig wrtho am iddo gadw i fyny ei galon, Na," meddai, na, nid hyny yw'r mater, rhy uchel y mae yn awr" (chwerthin). Yr oedd ei galon ef (Mr E.) wedi bod yn ei wddf er's amser. Yr oedd yn diolch iddynt am eu presenoldeb. Yr oeddynt yn garedig iawn i ddangos en bod yn gwerthfawrogi gwasanaeth oedd wedi cael ei roddi yn ewyllysgar (cym.), Yr oeddyr achos dirwestol wedi bod yn un o'r cyfeillion goreu yr oedd Duw wedi roddi iddo ef. Pan yr oedd yn pregethu yr Efengyl yr oedd yn teimlo mai oherwydd ei fod yn llwyrymwrthodwr yr oedd yn bregethwr (cym). Yr oedd wedi derbyn 11awer iawn o garedigrwydd gyda phobl Merthyr yn ystod yr wyth mlynedd diweddaf. Nid oedd yn meddwl y gallasai byth gyfarfod a phobl mwy caredig. Os buasai pobl Preston mor garedig buasai yn dda ganddo. Yr oedd yn diolch i Mr Daniel am beth a ddywedodd am Eglwys Hope, yr oeddynt wedi dangos goddef- garwch mawr. Yr oedd yn diolch i Dduw am roddi iddo nerth i wneuthur ychydig o ddaioni yn mhlith ei frodyr. Buasai yn meddwl Ilawer am yr Anerchiad, ac yr oedd ef yn gobeithio fod y pethau oedd ynddi am dano yn wir (chwerthin). Nid oedd ef wedi dyfod o hyd iddynt eto. Diolchodd hefyd i Mr Morris am y rhodd llyfrau. Yr oedd yn hoffi yr Anerchiad, ond yr oedd yn hoffi y Ilyfrau yn fwy, oherwydd ei fod yn hoff iawn o lyfrau (clywch). Yr oedd yn diolch hefyd am y rhodd i'w wraig. Yr oedd yn dda ganddo weled rhoddion yn cael eu rhoddi i'w wraig, oher- wydd pa bethau bynag oedd yn dyfod i'r wraig, wrth gwrs, y gwr oedd eu perchen (chwerthin). Yr oedd yn chwith iawn ganddo i ymadael a Merthyr, oherwydd yr oedd wedi treulio wyth mlynedd mor hapus yma ag y gallasai unrhyw weinidog yr Efengyl wneyd, ac wrth roddi ffarwel iddynt, dywedodd na fuasai dim yn rhoddi mwy o bleser iddo na myned i'r booking-office yn Preston, a chodi tocyn am Merthyr Tydfil (clywch, clywch). Canlynwyd Mr Evans mewn araeth gynes iawn gan y Parch JOHN THOMAS, Soar, a therfynwyd y cyfarfod. Nos Fawrth cafwyd cyfarfod ffarwel yn nghapel Hope, pryd y cafwyd areithiau gan lawer o gyf- eillion i Mr Evans. Anrhegwyd Mrs Evans ag oriawr aur ysblenydd gan foneddigesau yr eglwys a'r gynulleidfa, a Mr Evans a timepiece. Darfu i Gyfrin-fa Hope of Merthyr," o'r Temlwyr Da, hefyd anrhegu Mr Evans & darlun (oil painting) ohono ei hun. Bellach mai Mr Evans wedi gadael Merthyr am Preston, a gobeithiwn y bydd yn foddion yno yn llaw ei Dad i droi llawer o gyfeil- iorni eu ffyrdd at y gwir a'r bywiol Dduw,"

[No title]