Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CARMEL, LLANLLECHID.-CynaUwyd cyfarfod blynyddol y lie hwn nos Fercher ac Ian Dyrchafael, fel arferol. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Parchn .1. Miles, Aberystwyth; D. Oliver, Treffynon; ac E. James, Nefyn. SALEM, LLANBEDR, DYFFRYN CONWY.— Mercher ae Iau, Mai 28iin a'r 29j,in, cynaliwyd cyfar- fod blynyddol yr eglwys hon, a gwasanaethwyd ynddo gan y Parchn T. Nicholson, Dinbych, a J. Miles, Aber- y stwytb. ELIM, TREDEGAE.—CynaHodd yr eglwys uchod ei gwyl flynyddol SuI, Mehefin 8fed, pryd y gweinydd- wyd gan y P irchn Joseph Evans, (T.C.), Park Place, Tredegar, a J. T. Evans, Bodringallt. Yr oedd yr oil o'r cyfarfodydd vn lluosog iawn, a'r tywydd yn ffafriol -y pregethwyr yn eu hwyliau goreu yn traethu y gwbioneddau. Cesglid ar ddiwedd pob oedfa at ddileu dyled y capel. TABERNACL, PENFRO. Cyualiwyd cyfarfod blyDyddol yr Ys!ol Sul mewn perthynas a'r eglwys uchod ar y Sal, Mehefi i 8fed. Pregethwyd yr yr ach- lysur gan y Parch T. Eynon Davies, Abertawy. Caf- wyd cynulledfaoedd ardderchog. Casglwyd tua X12 tuag at drysoifa yr YsgoJ Sul.-A.elod. BETHLEHEM, PENTYRCH.-Cynaliwyd cyfar- fodydd blynyddol y lie hwn eleni, fel arfer, ar y dydd- iau Sul a Lun, Mehefin laf a'r 2il. Pregethwyd gan y Parchn P. Howells, Ffestiniog J. Thomas, Merthyr a T. Eynon Davies, Abertawy. Yr oeid yr hen Efengyl yn cael ei pbreg;ethu gyda nerth a dylanwad, ac yn eglnrhad yr Ysbryd. Yr oedd yma gynulliadau da, a chafwyd casg'iad go lew ar y cjfan.—Garthfab. TIER'S CROSS.—CynaUwyd cyfarfo lydd blyn- yddol y capel uchod Mehefin laf. Pregethodd y Parch T. Davies, Llanelli, am 10 a 6, a'r Parch J. Benson Evans, Haverfordwest, am 2 o'r gloch. Cafwyd gwledd ode a theisen brydnawn ddvdd Llun, a chyngerdd yn yr hwyr. Daeth tyrfaoedd lluosog yn nghyd y Sul a'r Linn, a phasioddpobpeth wrth ein bodd. Bendith y Nefoedd a ddilyno ymdrechiou y Parch Mr Evans yn y lie.—Goheb. TABOR, TRESIENCYN, GER MAESTEG.—Y Solgwyn a'r Llun,cynaliodd yr eglwys ucliod ei chyf- arfodydd blynyddol, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn D. Cadvan Jones, Priordy, Caerfyrddin, a T. C. Evans, Garth, Llarigynwyd- Yr oedd y cynnlliadau a'r, asgliadau yn dda. PENUEL, LLANFYNYDD.—Cynaliodd yr egIwys uchod ei cbyfa-fod blynyddol eleni ar y Sabboth a'r Llun, Mehefin 8fed a'r 9fed,pryd y swasaanethwyd gan y Parchn Witliam Wittiams (W.), Tryddyn; R. Roberts, Rhosllatiercbrugo^: a J. Myrddin Thomas, Pwllglas, Wyddsrug. Cafwyd preorethau nerthol, gwrandawiad astud, a chynulleidfaoedd rhagorol. Diolch i Dduw am arddel ei weision.—P M. BRYNTROEDGAM —Cvnaliodd yr ealwys Anni- bynol yn v lie uchod ei chyfarfodydd blynyddol ar yr 8fed a'r 9fed cyfisol, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn T. Rees, D.D., Abertawy; T. Selby Jones T. H. Thomas, Taibach; ac Edwards (M.), Cwma'on. Cafwyd pregethau nerthol, tyw, dd braf, a chasgliadau canmoladwy. BETHANY, KERRY -Mehefin 8fed, cynaliodd yr eglwys Seisonig uchod ei chyfarfod blynyddol, pryd y pregethwyd dair gwaith yn effeithiol gan y Parch E. Roberts, Cefnyfaenor. Hefyd, vn yr hwyr, pregethodd y Parch R. Powell, y gweinidog, gyda Mr Roberts Yr oedd y cynnlliadau a'r casjliadau yn foddhaol iiwn. Dysgwyliwn ffrwyth toreithiog yn ganlyniad i'r wyl flynyddol hon- PISGAH, ARFON.—Cynaliwyd cyfarfod blynyddol yr eglwys uchod Sul a Llun y SuJgwyn. Gwasanaeth- wvd gan y Parcbn D. Roberts, Wrexbam R. S. Williams, Bethesda; E. James, Nefyn a T. E. Thomao, Abergyn >lwyn. Tystiolaetli gyffreflinol y gwahanol enwadau fu yn bresenol ydyw, fod yr enein- iad sanctaidd ar y cyfan. Yr oedd y canu mor ragorol nes dwyn y geiriau hyny i'n cof,' Mawl a'th erys di yn Seion, 0 Dduw.' Dygwyd y rhanau arweyniol yn mlaen gai> y gwe:nidog, Parchn J. D. Hughes (B.), Talysarn E. James a J. fL Davies, Talysarn. Yr oedd yn bresenol hefyd y Parchn H. Davies, Rhos- tryfan, a J. C. Jones, Penygroes. PENTREGETHIN.—Yn Mhentregetliin y cychwyn- wyd yr Ysjol Sabbothol sydd yn awr yn Nghwmbwrla. Pan gymerodd perchenog y tir feddiant o'r lie, adeil- adwyd ysgoldy yn Ngluvmbwrla gan eglwys Ebenezar, Abertawy. Mae y trigolion wedi amlhau yn ddir/'awr oddiar hyny, fel y bernid fod eisieu yssol eto yn Mhentregethin. Deehreu yr haf diweddaf agorodd cyfeitlionyrachoseutai yn galonog i'w derbyn ac yn fuan gwelwyd fod yr ys ;ol wedi myned yn rhy fstwr i letya, a bod yn rhaid iddi gael ty i fdi ei hun. Mae ysgoldy ardderchog wedi ei adeiladu yno erbyn byn i gynal cangen o Ysgol Sabbothol yn nglyn a. Chwmbwrla. Mesura 52 troedfedd wrth 22. ac yn wertb .£250. Cynaliwyd cyfarfodydd agoriado! nosLun, Mehefin 9fed a'r lOfed. Pregethwyd nos Lun gan y Parch F. Samuel, a nos Fawrth gan y Parch T. Reas, D.D., Abertawy. Cafwyd gwenau neillduol yr Ar- glwydd yn y ddau gyfarfo I. M^e y gangen hon yn cychwyn o dan amgylchiadau ffafriol iawn. Mae eisies yn rhifo 150, Mae y fam a'r ferch yn rhifo dros 400. Mae getiym achos diolch i Dduw a chymoryd cysur. HEBRON, CYMER, GER MAESTEG.-Mchefin 8fed a'r 9fed, cynalio id yr eglwys hon ei chyfarfodydd blynyddol. Y gwshoddedigion eleni oeddynt y Parchn C. Tawelfryn Thomas, Groeswen Jones, Tynewydd, Treherbert; a Prosser, Silob, Maesteg. Cymerwyd rhan yn y moddion rhagarweiniol gan y Parchn J. M. Henry, Cymer Morris, Dyffryn; Jones (B.), Tre- siencyn a Jones (B.), Glyncorwg. Cyfanswmy casgl- iadau oedd X-4 Is 71c. Yr oedd dysgwyliad llawer o bobl am gael c, bopddiad y jubili. Cyrhaeddwyd yr amcan, sef dileu X30 dyled oedd arno. Felly y mae Hebron (A.), Cymer, vn rhy dd, drwy i ddeg o ddynion i ymrwymo i gasglu t2 yr un. Coronwyd yr amcan â llwyddiant. MYNYDDBACH.— Sul a LInn, y 7fed a'r 8fed cyfisol, cynaliodd y fam-eglwys uchod ei ehvfarfod blynyddol. Pregethwyd gan y Parchn Davies, Llanon, a Jcnes. Pant-teg, Ystal)fera. Cafwyd cyrddau hwylus. Cyfranwyd yn screens, gydag awgrym fod yn mwriad y rhan fwyaf glirio y ddyled sydd ar y capel ddiweid y flwyddyn, ac wedi hyny talu am eu hysaol- dai. Awgrymodd y gweinidog ar y diwedd fod angeti i'r cyrddau gyrhaedd amcan uwch na chyfranu arian- eisieu codi y meddwl.—Pwy- W ATFORD.-Llungwyn, cynaliwyd gwyl de flyn- yddol y lie uchod. Daeth ca-oedd )awer yn nghyd, a chafodd pawb eu diwallu. Nid oedd ond un farn am y lluniaeth a'r tê-ei fod yn flasusfwyd o'r fath a garai pawb. Yr oedd phnt yr Ysgol Sul oil yn ei gael yn rhad, a bu Mr J. Howard mor garedig a rhoi pwysi o gnau, &c., iddynt wedi hyny, yn nghyda sypynau o gardiau prydferth i'w rhanu rhyngddynt y Sabboth canlynol. Yn yr hwyr cynaliwyd cyfarfod i adrodd a chanu, dan lywyddiaeth Mr Rees, gweinidog y lie. Dysgwyd ac arweiniwyd y cor gan Mr Steven Davies, a gwnaeth waith da. Canwyd ac adrodd wyd darnau rhagorol mewn modd meistrolgar. Wedi talu y diolchiadau arferol, ac yn neillduol i Mr J. Howard, ymadawodd pawb yn gysurus o ran corff a meddwl.-G. SOAR, PENDERYN.-Llungwyn, ymgyfarfu tair Ya^ol Sabbothol yn y capel nchod er adrodd ac egluro rhanau o Air Duw. Yn nijhyfarfo i y prydnawn ad- roddodd Ysgol Hermon Rhuf. xii. Yna adrodd- odd Ysgol y Rhigos RhuK v. Holwyd hwynt gan y Parch D. Griffiths, Cwmdar. Yna dygwyd y cyfarfod derfynia l. Am 5, ymgyfarfuwyd drachefn. Adtodd odd yr Ysgol Luc xxi. Holwyd hwynt gan Mr J. Rees, a chafwyd atebion tra bpddhaol. Ni holwyd Ysgol Hermon, am fod rhai yn ab enol oherwydd am- gylchiadau teuluaidd. Canwyd amryw donau yn ystod y dydd o Lyfr Stephen a Jones, dan arweiniad Daniel Roderick, Hirwaun. Cafwyd bin hyfryd, cynnlliadau lluosog, adroddiad cywir a by wiog, ac esboniad tra eglnr. Bendithied yr Arglwydd y g-irioneddau. Tranoeth, aeth deiliaid yr Ysgol a rhai ereill am bleserdaith gyda'r train i Abertawy, er mwynhau awelon iach glan y m6r. Cyfranogwyd odea theisen yn ymyly mor, yna dychwelwyd adref wedi caeldiwm- od bapus.—Aelod.I o'r Ysgol. PENYGROES, PENFRO. Cynaliwyd Cymanfa Ysgolion yn y He uchod Llungwyn. Daeth yn ngbyd Ysgolion Fachendre, Tyrhos, Llwynyrhwrdd, Antioch, a Penygroes. Gan fod rhan neillduol o'r cyfarfod yn cael ei roi i holi pltnt yr holl ysgolion gyda'u gilydd, ac hefyd i gydganu, teimlid dyddordeb neillduol yn y cyfarfod am fod y dull yn ne vydd. Holwyd y plant yn Holwyddoreg Athrawiaethol' y Parch J. Jones, Llangiwc. Cymerwyd y tair penod ar ddeg cyntaf ohono. Gwnaeth y plant en rhan yn rhagorol iawn mewn ateb, ac hefyd canu. Cododd y teimlad yn uehel wrth glywed a gweled yr hyn gawsom. Teimlad cy- ffred n yw fo) yn rhaid i'r plant gael rhan amlwg yn y Gymanfa o hyn allan. Holwyd y gwahanol Ysgolion gan Mri Evans, Hebron; Stephens, Llwynyrhwrdd; a Richards; Penygroes, Hyderwn y bydd lies mawr o'r ymdrech i chwilio i mewn a chael meddwl Duw yn ei Air i fwy amlygrwydd. Da genym hysbysu fod golwg lewyrchus iawn ar y gwahanol Ysgolion, ac am- lygrwydd o lafur dyfalbarhaol yn cael ei ddangos. Bvdded amddifEyn y gogoniant dros yr oll.-J. N. Richards. TREFDRiETH, PENFRO.— Llungwyn, cynal- iodd Ysgolion Sul Felindre, Gedeon, Brynberian, ac I Ebenezer, Trefdraeth, eu cymanfa flynyddol yn y lie uchod. Am 9.30, deehreuwyd y gymanfa yn bwrpis(I ac effeithiol iawn gan Mr Lewis, ysgolfeistr, Trewyddel. Yna canwyd yr hen Moriah gan y dorf yu gyffred- inol. Ysgol Felindre oedd yn dachreu, ac adroddodd y plaot eu holwyddoreg, yn cael eu holi gan Mr Lewis, gweinidog, a chanodd y cor yr anthem.' Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu,' dan arweiniad Mr W. Phillips, Glanduad. Yna adroddodd yr Ysgol ranau o Hol- wyddore-r Jones, Llangiwc, yn nghyda phrofion allan o'r Beibl yn ychwanegol at yr HOiwyddoreg. Yna canodd y cor anthem drachefn, Mawr yw'r Ar- glwydd.' Y nesaf i adrodd ydoedd Ysgol Gedeon, a chanodd y plant dÔn, Cadwn wyl.' Yna adroddodd yr Ysgol eu pwnc ar Weddi,' yn cael eu holi gan Mr Lewis, Trewyddel, a chanodd y cor anthem, Moliant i'r Iesu,' dan arweiniad Mr J. K. Jones, Trefdraeth. Yna cymerwyd lle y ddwv nchod gan Ysgol Brynber- ian, a chanodd y plant d6n, Myn'd yno i fyw,' dan arweiniad Mr George James, Trehaidd, ac adroddasant en holwyddoreg. Yna canodd y cor Dacw'r hafan,' allan o 'Mordalth Bywyd,' dan arweiniad Mr D. Rees, Pen'rallt, ac adroddodd yr Ysgol Lyfr Habacuc, yn ca leu holi gan Mr Lewis, gweinidog. Yna can- odd y cor ran o Weidi Habacuc' (J. Ambrose Lloyd). Ar eu hol hwy dechreuodd Ysgol Trefdraeth trwy i'r plant ganu ton ac adrodd eu holwyddoreg, a chanodd y. cor amryw ddarnau o 'Debora' (H. Davies, Garth, Rhiwabon), dan arweiniad Mr J. R. Jones, ac adrodd- odd yr Ysgol' Can Debora a Barac (Barn. v.), yn cael eu holi gan Mr J. G. Morris, gweinidog, yr hwn hefyd a derfyr odd y gymanfa trwy weddi. Yr oedd yr adrodd c\wir a'r canu da yn profi yn ddiamheuol fod yr Ysgolion wedi llafurio yn galed a diflino. Gobe:thio na bydd neb yn llacio oddiwrth yr Ys jol ar ol y Suljwyn, ond y bydd y llafur caled yneffeithioyn ddaionus er dwyn llawer o'r ncwydd i'r Ysgol Sab. bothol, ac i fod yn weithwyr ffyddlawn ynddi.-Ap Nun. EBENEZER, TRECYNON.—Llungwyn diweddaf, cynaliodd eglwys Ebenezer ei gwyl dê. Yr oedd y tê ar y byrddau am ddan o'r gloch. Ymgymerodd tyrfa- oedd ohono hyd oddeutu chwech o'r gloch. Am 7.30, cynaliwyd cyngerdd. Llywydd, Mr D. Jones, grocer. Chwareuwyd ar yr harmonium gan Mri L. Lewis a J. W. John. Canodd y Party o dan arweiniad Mr E. Thomas. Cymerwyd rhan hefyd mewn nnawdau gan Mri T. R. Garret, J Gwyune, D. Richards, E. Lewis, E. Thomas, E. Jones, a B. Lewis. Canodd Miss John, Cymer, hefyd; ac ni phetruswn ddyweyd ei fod yn real treat i'w gwrando. Hi oedd seren degy prydnawn. Canwyd denawd gan Misses Davies a John yn swynol. Chwareuwyd ar y crythau yn feistrolgar gan Mri W. Thomas ac E. Thomas, ac ar y flute gan Mr M. Rees. Yn wir, ni fydd cyngerddau ein hardal yn Uawn o hyn allan os na fydd Mr Rees yn clnvareu yno. Cafwyd dadl,1 Y boreu cyn y diluw,' gan Mr D. Evans a'i gyfeillion. Gwnaethant yn ganmoladwy iawn. Ym- ddiriedwyd trrfniadau y gvngerdd i ddwylaw Mr D. John, Harriet-street, a throdd allan yn llwyddiant perffaith yn ei ddwylaw. Clod i'r hwn y mae clod yn ddyledus." Mae yr eglwys a'r ardal mewn dwfn ddyled i'r beddychiavu Mr D. John. Yr elw at dcyied y cape] Ymwelydd »
ITYDDEWI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I TYDDEWI. Ffair.—Y dydd Mawrth cyntaf yn Mehefin yr oedd y ffair. Nid oedd dim gwerth ar anifeiliaid corniog heb ostyngiad o ryw X4 y pen o'r hyn oeddynt y llynedd. Wyn tewion, o naw i ddeg ceiniog y pwys. Moch (slips) yn gwertbu am bris rbesjm )!. Dim haner digon o berchyll yn y ffair. Perchyll dau fis oed, 25s yr Uli. Achwyniad cyffredinol am brinder porfa—rhy sycb, ac nis gellir dj'sgwyl ond enwd ysgafn o wair hadau. Pwll y Ddowry ar sj chu, a dyna le am ddigon o lysywod i'r rhai sydd yn gallu eu blaseiddio. Trueni fod y gwabaddod yn blino Clwydwenfro befyd. Gallem dybio mai creadur estronol yw y wahaddoden yn swydd Caergrawnt. Pwy fu mor garedig (?) a c'bario un o'i hil i ardd Rose Cottage o Gymru. A fydd Clwydwenfro yn fodd- Ion i dalu train yr ysgrifenydd hwn am dd'od yna. a thrap ganddo i ddal y wahaddoden. UN FEDR EI DAL. Sulgwyn.-— Rhoddwyd treat i'r Ysgol Sul eleni fel arfer—-te a buns i'r corff, ac adroddiadau a. chanu rhagorol yn flasusfwyd i'r meddwl. Yr oedd yn amlwg ol llafur mawr. Ewch rhagoch. Damwain. — Wythnos cyn y diweddaf, aeth bacbgen o'r enw Hughes, 18 oed, gwas Mr Williams, merchant, yr hwn oedd yn gyflogedig ganddo, ar Ynys Dewi i chwilio, neu yn hytrach i ddringo neu i gripian ar y graig er ymofyn wyao adar gwylltion, pa rai sydd yn d'od o rywle i 9 greigiau yr Ynys bob haf i ddodwy. Ond collodd y bacbgen ei afael, a chwympodd i'r gwaelod, ryw 30 llath o- uchder. Dygwyddodd i'r llanw fod allan ar y pryd, a disgynodd y truan ar y ceryg Cariwyd ef adref i dy ei fam i Tregroes. Yr oedd archollion dwfn ar ei ben, fel ag yr oedd yn an- ymwybodol, a bu farw yn mben rhyw 48 o oriau. Ni cbafwyd gair oddiwrtho. Dyma rybudd dwys i ereill sydd yn mentro gormod. LLEYGWR. [Cyboeddir eich sylwadau ar fI Rhodiad pan yr anfonweh i ni hanes y Cyfarfod Agoriadol.- GOL ] »
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
SING WELL SPEAK WELL — Doughty s Voice Lozenge lias been gratefully at,predated by thousands of clerical, musical, and other celebrities for nearly 40 years. It imparts to the vojee clearness of sound and brilliancy of tone. JENNY LIND.— I have much pleasure in confirming1, as far as my experience extends, the testimony already so t'eneral in fa vonr of the liozeuses prepared by you (Miles i'oui.'hty). (id, Is, 2s Gd, 5s «ind lis—post free, 7d, Is 2d, iic. Ask your chemist for them.—NEWlJEltY and SONS, I, Kins'Kdwaril- street, London, stablished A.D. 1746.
AGERLONGAU CAERDYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AGERLONGAU CAERDYDD. Galawodd Gwenllian Thomas, s.s., Cette am Huelva, Mehefin 12 ed, 1884-. Gadawodd Iolo Mov- ganwg, s.s., Malta am Stockholm, Mehefin 7fed, 1884. Cyrh<eldodd Anne Thomas, s.s., Taganrog o Con- starftinople, Mehefin 6ed, 1884i. Cyrhaeddodd Kate Thomas, s.s Rotterdam o'r Azoff, Mehefin 12fed, 1884 Pasiodd Wynnstay, 8,S., Gibraltar am Rotter- dam, Mebefin 8fed, 1884. Mae Walter Thomas, s.s yn awr yn cael ei pharotoi allan yn Jarrow.