Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

YMYLON Y FFORDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMYLON Y FFORDD. Nos Sadwrn, MeJiefin 21ain. MAE cynifer o betbau wedi dyfod o dan fy sylw uniongyrchol yr wythnos hon fel nas gwn yn iawn pa beth i'w grybwyll gyntaf, ac yr wyf yn gweled i mi gymeryd cymaint 0 le yn y TYST diweddaf, fel y mae yn rbaid i mi heno ddyweyd gair yn fyr, fyr," ar rai petbau y buasai yn dda genyf ymhelaethu arnynt. Mae y tymhor yma o'r flwyddyn yn nod- edig am yr hyn a elwir treats yr Ysgolion Sabbothol. Nid wyf yn awr am roddi nnrhyw farn arnynt ynddynt eu hunain, ond y maent wedi dyfod bellach yn rhywfath o I angenrbeidiau, a'r unig beth ellir wneyd ydyw cadw gwyliadwraeth fanwl drostynt nad elont dros derfynau gweddusder, ac, felly, gynyrchu mwy o ddrwg nag o dda. Yr wyf wedi dilyn ymweliadau fel byn yn lied gyson am fwy na phum' mlynedd ar hugain, ac nid wyf erioed wedi gweled un- rbyw anweddusder yn nglyn a hwy, ac yr y t, wyf yn priodoli hyny i'r ffaith fod dynion oedranus a phrofedig yr Ysgol a'r eglwys yn myned gyda bwy, ac yn cadw gwyliad- wraeth drostynt, ac nid eu gadael yn gwbl i'r ieuanc a'r dibrofiad, yr hyn sydd yn rhwym o arwain i brofedigaeth. Bu Ysgol- ion Grove Street, Park Road, a'r Tabernael "dros yr afon," fel y dywedir, yr wythnos bon-y ddwy flaenaf yn Eastbam, y naill ddydd Mawrtb a'r Hall ddydd Mercber, a'r olaf yn New Ferry ddydd Mercber. Cafwyd y tywydd mwyaf hyfryd a allesid ddymuno, ac yr oedd y nifer oedd gyda phob un o'r Ysgolion yn lluosocach nag y gwelwyd hwy un flwyddyn o'r blaen, a dycbwelodd y cwbl beb i ddim blin ddygwydd. Rhwng y gangen yn Anfield Road, yr oedd y nifer oedd gyda y Tabernacl yn agos i 400. Yr wyf yn meddwl fod Ysgolion Sabbothol yr Annibynwyr Cymreig yn Liverpool ar hyn o bryd mewn gwell sefyllfa nag y gwelwyd hwy erioed o'r blaen. Mae yma dipyn o wrthdarawiad wedi bod rhwng aelodau PWYLLGOR YR EISTEDDFOD yn ddiweddar; ond dim ychwaith i beri un- rhyw ddrwgdeimlad; ac y mae pob peth wedi ei benderfyliu, a chymeriad yr Eistedd- fod wedi ei ddyogelu. Daeth cynygiad oddiwrth berchenog un o'r chwareudai yma Z, y rhoddai wobr o bum' gini ar bugain am y chwareugerdd oreu ar yr hyn a elwir, The Babes in the Wood." Daeth y peth ger bron y pwyllgor yn lied annysgwyliadwy, ac, meddir, heb rybudd rheolaidd; ac er i'r Parch W. Nicholson, ac ereill, wrthwynebu derbyn y cynygiad, eto cariodd y mwyafrif i wneyd hyny, a blin genyf ychwanegu, yr oedd llawer o grefyddwyr (Methodistiaid yn benaf) yn cefnogi byny. Daeth y sibrwd allan hefyd, ar ol y pwyllgor hwnw, fod bwriad i ddwyn diodydd meddwol i'r refresh- ment stall yn ngtyn a'r Eisteddfod. Erbyn y pwyllgor dilynol, yr hwn a gynaliwyd nos Lun diweddaf, yr oedd y Parch G. Ellis, M.A., Bootle, wedi rhoddi rhybudd y byddai iddo ef gynyg fod y penderfyniad i dderbyn y cynygiad am y chwareugerdd i gael ei I ddadwneyd, a rhybudd hefyd y byddai iddo gynyg nad oedd dim meddwol i gael ei werthu yn ngtyn a'r Eisteddfod. Parodd y rhybuddion hyn dipyn o gynhwrf, a daeth cryn lawer yn nghyd. Dadleuodd Mr Ellis ei achos yn alluog, a dangosodd y fath warth a fyddai fod cynygiad percbenog chwareudy o wobr am chwareugerdd i gael ei chwareu yn cael ei dderbyn gan bwyllgor yr oedd cynifer o weinidogion yr Efengyl, a chref- yddwyr ereill, yn ngtyn ag ef, y rhai nid oeddynt o gwbl yn credu yn y fath chwareu- on. Cefnogwyd ef gan amryw ereill, a llwyddwyd, trwy fwyafrif mawr, i droi yn ol y penderfyniad oedd wedi ei basio, a hefyd i gau allan yn hollol bob math o ddiodydd meddwol oddiar refreshment stall yr Eis- teddfod. Drwg genyf ddeall fod amryw grefyddwyr wedi pleidleisio gyda'r lleiafrif ar y ddau betb ond yr oedd cario y ddau gynygiad yn fuddugoliaeth ardderdhog i holl gyfeillion sobrwydd a uioesoldeb, ac yn brawf fod yr Eisteddfod yn raddol yn cael ei dwyn o ddwylaw y dynion y rhai y mae eu cysylltiad amlwg hwy a hi wedi peri i lawer o bobl oreu ein gwlad gadw oddiwrthi. Mae Mr Ellis a Mr Nicholson, ac ereill a gymerodd yr un ochr a hwy, yn cael eu gwawdio am ffug-sancteiddrwydd a rhith- grefyddolder, gan Olygwyr rhai o'r papyrau nad oes dim cydymdeimlad rhyngddvnt a chrefyd.d, a chan rai o fan ohebwyr didalent rhai o'n newyddiaduron Cymreig; ond y maent yn derbyn cymeradwyaetb y dynion goreu, ac, yn ddiau, wedi gwneyd y gwasan- aeth mwyaf i'r Eisteddfod. Mae y teimlad yn codi yn uchel, ac yn cryfhau bob dydd, yn erbyn penderfynia-d CYNGHOR COLEG BANGOR i wahodd cynrychiolwyr Coleg Eglwysig Llanbedr i gynadledd ar addysg ddyfodol Cymru, a chau allan brif-athrawon y coleg- au Ymneillduol. Mae amryw lythyrau wedi eu cyhoeddi ar y mater gan bersonau o ddy- lanwad, ac y mae y cyfundebau crefyddol wedi pasio penderfyniadau cryfion mewn gwrthdystiad, fel y mae y rbai oedd yn fwyaf blaenllaw yn y peth wedi dyfod i weled eu camgymeriad, fel y dengys llythyr o eiddo Mr Ratbbone yn y Mercury am ddoe er ei fod yn eglur nad yw eto wedi dyfod i ddeall y mater yn glir, ac mor gryf y mae Cymru yn teimlo arno. Diau mai "mewn amryfusedd y gwnaothant hyny, ond wedi dangos y peth iddynt, y maent yn anesgus- odol na buasent yn tynu yn ol ar unwaitb. Cyiialiwyd cyfarfod lluosog neithiwr yn Hackin's Hey, yn Liverpool, i wrtbdystio yn ei erbyn. Yr oedd cryn nifer o weinidogion pob enwad yn bresenol, a lluaws o'r lleyg- wyr mwyaf dylanwadol a jfedd y Cymry yn y ddinas, a'r rbai sydd bob amser wedi rhoddi y gefnogaetb fwyaf calonog i 'r aelodau Cymreig, ac yr oeddynt oil yn unllais yn y mater. Datganwyd yn gryf na byddai unrhyw Gynadledd a elwid i gymeryd addysg ddy- fodol Cymru dan sylw yn foddhaol, heb fod ynddi o leiaf ddau gynrychiulydd o holl golegau enwadol Cymru i gyfarfod ag wyth o bob un o'r tri Choleg Cenedlaetbol, a bod Coleg Eglwysig Llanbedr i fod yn bollol vn 1) 0 t, yr un safle yn y Gynadledd a'r colegau enwadol ereill. Diau y bydd gwingo mawr yn erbyn hyn, ond byddai caniatau dim arall yn sarhad arnom fel cenedl o Ym- neillduwyr. Rbaid i ni fynu gwrandawiad, a rhoddi ar ddeall i'n haelodau Seneddol nad ydym mewn un modd i gymeryd ein harwain heb ddeall yn eglur i ba le yr ydym yn myned. Os mewn anwybod y bu hyn o du mwyafrif Cynghor Bangor, gallwn eu besgusodi am yr amryfusedd a. fu, ond bellach nis gall fod mewn anwybod, wedi y mynegiad amlwg y mae y wlad wedi ei roddi o'i theimlad a'i barn. LLADMERYDD. +■

ATHROFA FFRWDVAL A'I HANESION.