Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

YMYLON Y FFORDD.

ATHROFA FFRWDVAL A'I HANESION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ATHROFA FFRWDVAL A'I HANESION. GAN SILURYDD. PENOD VIII. YR oedd dau wr medrus a difyr i adrodd ystor- 'ian yn arfer galw yn yr Athrofa i ymddyddan yohydig n'r Doctor pan fyddent yn mynpd heibio, sef Mr William Evans, y Poli, a Mr Timothy Thomas, gwehydd o Lansawel. Darrfu i'r gwehydd alw i mewn un diwrnod, gan ofyn i'r Doctor, pa fodd yr oedd, a beth oedd yr achos na ddelai yn amlach i bregethu tua Llanaawel, a bod ei eisieu yn fawr yno, oblegid fod pechaduriaid enbyd yn y lie, ac eisieu eu hargyhoeddi. Atebodd yntau fod gormod o alwadau ganddo yn bresenol i fanau ereill, a'i fod yn meddwl fod Llansawel yn well-stocked o bregethwyr. Pa newydd sydd genych am y lie i'w hysbysu, frawd," meddai. Wei," meddai y gwehydd, bu ffair moch rhyfeddol o wych yn Llansawel yr wythnos flaenorol, a a yr oedd y moch yn gwerthu yn uchel iawn, o chweugain i bymtheg swllt y rnocbyn yn uwch eu prisoedd na'r amserau gynt, a bod y ffarmwrs yn llawen iawn yn y ffair, yn sengid megys ar flaenion eu traed." Yr oedd yn arferiad genym i gadw cwrdd gweddi yn y capel, neu mewn ty anedd, ar rioson pob ffair yn Llansawel, i gael gweled grym crefydd yr aelodau, &c., ac ar noson v ffair moch yna gwnaed yr un peth. Mi a es i'r cwrdd rywfaint yn rhy gynar, ac ar ol i mi i fyned i mewn i'r ty, nid oedd yno siarad am ddim ond am y moch a'u prisoedd, ac na fu y fath ffair yn nghof neb yn Llansawel i werthu moch fel y ffair hono. Yr oedd y tafarnwyr, y siopwyr, a gwyr y bara can yn canmol y ffair jyi fawr, ac yn dyweyd fod yr arian yn tumblo i Lansawel y diwrnod hwnw. Yr oeddwn yn ystyried siarad o'r fath yn anweddus iawn o flaeri y cwrdd, ond nid agorais fy ngenau, rhag ofn i mi gael y gwaethaf. Daeth Shiams y Rhyglin i mewn. a dywedodd ei bod yn amser i ddechreu y cwrdd, a cheisiodd gan \vr ieuanc i ddarllen penod. Ar ol i hwnw droi dalenau y Beibl yn ol ac yn mlaen, darllenodd yr wythfed benod o Matthew allan, sef penod y moch, a bum yn dysgwyl iddynt dalu diolch am gael y fath ffair, ond ni wnaeth neb o'r brodyr hyn. Darfu i un ohonynt ar ei liniau, ddyweyd fod daear rnacldeu dan ei draed, a gofynodd hefyd gan yr Arglwydd am roi namyn offydd i bob un ohonynt. Yr ydwyf am gael gwybod genych chwi, a yw ymadroddion fel hyn yn gydweddol a'r Beibl, ac a synwyr cyffredin." Atebodd y Doctor ef trwy ddyweyd nad oedd yn hoffi beirniadu geiriau gweddi neb ei fod yn tybied mai geiriau anmhriodol dynion anwybodus oedd y rhai yna, a gwallus iawn. Duw yn unig fedd awdurdod i faddeu pechod, ac nid y ddaear, Nid yw y gair nam.yn yn golygu un