Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

r>trv CYMANFA MON.

CYMANFA ANNIBYNWYR MEIRION.

ATHROFA FFRWDVAL A'I HANESION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

math o fesur neu quantity. Gair cysylltiadol mewn brawddeg yw, ac y mae yn gyfystyr i'r gair eithr, neu ond. Wel," meddai y Doctor, bethynychwaneg sydd genych o nowydd am y lie?" Dywedodd fod un o'r ysgolheigion, sef Mr David Davies, Bedyddiwr (wedi3 hyny y Parch D. Davies, Caebach, sir Faesvfed), wedi bod yn pregethu yno y Sul diweddaf, ac iddo gymeryd yn destyn y commission mawr (Matt, xxviii. 19, 20). Ewch gan hyny a dysgwch yr y I holl genedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glan." "A ddarfu iddo i bregethu yn rhesymol dda.?" Fe breg- ethodd yn bwyllog ac yn eghir, ond heb ddim enthusiasm ynddo, ar rai pethau oedd yn ei destyn. Ni ddywedodd ddim yn y byd ar fed ydd, yn ychwaneg nag amlygu fod digon wedi ei ddyweyd ar fedydd,.gan ei frodyr He ereill; ac nad oedd o ganlyniad yn meddwl dyweyd dim ar y mater yr amser hwnw. Triniodd yn helaeth ar y pwnc o ddysgu -dulliau dysgu, a'r amserau goreu i ddysgu, ac am ddysgu pawb heb un math o ragfarn tuag at neb. Mi ddi- flasais yn fawr arno," meddai y gwehydd, "am na ddywedodd ddim ar fedydd. Paham na fuasai yn dyweyd meddyliau Dr Gale, Steanett, Guyse, a Carson, ar fedydd ?" Pan fum yn ei fedydd ef yn 1838, dywedodd y Parch Timothy Jones, Salem, ei fod yn wr dysgedig iawn mewn Groeg a Lladin, a'i fod wedi astudio y pwnc o fedydd i'r manylrwydd mwyaf, a'i fod yn gwybod gwir ystyr bapto, haptizo, &c., i'r tipyn, a phe buasai pawb o'r dorf mor ddysgedig ag ef ar y pwnc, mai Bedyddioyr fuasent bob'un. Dynil damaid wrth fy modd, meddai'r gwehydd, ac aethym yn nerth y tamaid yna adref o lan afon y Camnant, Llansawel, fel yr hydd." Pa beth ydych yn feddwl am dano ?" meddai yr athraw, A wna efe y tro gyda chwi P" "N a wna, yr yclwyf yn ofni." "Paham hyny ?" Cyn y byddo neb yn gymhwys i fod gyda ni, rhaid iddo fod yn debyg i'r Parch John Williams, Aberduar, wrth fedyddio yn yr afon, a dyweyd mai dyna'r unig ffordd i'r nefoedd, a therfynu yn eofn trwy ddyweyd yn nghlyw y gwyddfodolion oil, Gwnaethpwyd, Arglwydd, fel y gorchymynaist, beth nad all un taenellwr ddyweyd yn un man o'r byd. Gwnaeth y Parch Timothy Jones yn ei fedydd ef drin y pwnc yn helaeth, gan ei olrhain trwy ei eiriau Groeg ac Hebraeg, ar lan afon y Cwmnant, ac ni chlywais erioed gymaint o Groeg yn cael ei siarad ar lan yr afon hono a'r diwrnod hwnw. Yr oedd phrases o Groeg, o Schleusner, Schrevelius, ae o Liddell a Scott, yn lluosog yn cael eu hadrodd ganddo. —