Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

. CYMANFA MORGAN WG.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

CYMANFA MORGAN WG. Cynaliwyd y Gymanfa uchod yn Waunar- lwydd, dyddiau Mercher a Iau, MehefiD iydd a'r 5ed. Nos Fawrth, Mehefin 3ydd, am 6 o'r gloch, cyfarfu Pwyllgor y Gymanfa yn Sardis, Waunarlwydd, er gwneyd y trefniadau angen- rheidiol ar gyfer. y Cynadleddau dranoeth. Cymerwyd y gadair gan y Parch J. Jones, Maesteg, yn absenoldeb y Parch D. Eichards, Caerphili, cadeirydd y Gymanfa. Cyrhaeddodd Mr Richards y lie cyn diwedd y cyfarfod. Y trYNADLEDD GYNTAF. Boreu dydd Mercher, am 11 o'r gloch, cymerodd Mr Eichards y gadair, ac wedi rhoddi emyn allan i ganu, galwodd ar y Parch J. Jones, Llangiwc, i ddechreu trwy weddi. Wedi dewis y Parch T. D. Jones, Plasmarl, i ysgrifenu gweithrediadau y Cynadleddau i'r South Wales Daily News, darllen wyd a chadarnhawyd cofnodion y Gymanfa flaenorol. Yn nesaf, galwodd y Parch Dr Roes a'r Cadeirydd sylw y Gynadledd at ein cydwladwr y Parch W. Griffiths, cenadwr o Ganolbarti) Aflrica, yr hwn sydd ar ymweliad a. gwlad ei enedigaeth. Cydnabyddodd ytttau y sylw caredig wnaed ohono mewn ychydig eiriau pwrpasol. Penderfynwyd:— 1. Cynygiwyd gan Dr Jttees, ac eniwyd gan Mr J. Roberts, Pontypridd—" That this Conference, while objecting to the existence of all national religious establishment, especially objects to the establishment of the Church of England in Wales, inasmuch as that Church has failed to fulfil its professed object as a means of promoting the religious interests of the Welsh people, and ministers to only a small minority of the population, it is therefore of opinion that its continuance as an Established Church in the Principality is an acomally, and an injustice which ought no longer to exist, and fircnly believes that the time has arrived when its Disestablishment and Disendowment should be insisted upon; and in order to speedily attain this object, it sincerely hopes that Mr Dillwyn's motion to that effect will be strongly supported both in and out of Parliament. That copies of the foregoing resolution be forwarded to Mr Gladstone, Mr Dillwyn, and the Members for the county." 2. Cynygiwyd gan y Parch F. Samuel, Aber- tawy, ac eiliwyd gan y Parch W. G. Evans, Coity —"Fod deiseb i gael ei hanfon o'r Gynadledd i'r Senedd yn mhlaid can y tafarndai ar y Sabboth trwy yr hon deyrnas." 3. Cynygiwyd gan y Parch J. Stephen, Brynteg, ac eiliwyd gan y Parch J. Davies, Cadle —" Ein bod fel Cynadledd, tra yn cydnabod effeithiau daioiius y ddeddf er Cau y Tafarndai ar y Sabboth trwy Gymru yn gyffredinol, yn barnu y byddai yn welliant pwysig pe diddymid adran y bonâ fide traveller, a phe cymerid mesurau i osod i lawr y clytiau yfawl sydd yn Iluosog mewn rhai manau yn y Dywyscgaeth." 4. Cynygiwyd gan y Parch W. Emlyn Jones, Treforris, eiliwyd gan Mr W. Williams, Wern, Glandwr, a chefnogwyd gan Mr Powell, Waun- arlwydd House—" That this Conference expresses its continued and unswerving confidence in the Right Hon. W. E. Gladstone, M.P., and in the policy and administration of Her Majesty's Government, and sincerely hopes that they will not permit the persistent obstruction of the Opposition and the unfaithfulness of some dis- affected Liberals to thwart their laudable efforts to pass into law the Franchise and other Bills promised in the Queen's Speech." 5. Galwodd y Parch B. Williams, Canaan, sylw y Gynadledd at y cynllun sydd o dan ystyriaeth Pwyllgor Coleg Aberbonddu i anfon y myfyrwyr am y blynyddoedd cyntaf i golegau y Prifysgolion yn Nghymru, a chynygiodd benderfyniad yn cynlevadwyo egwyddor y cynllun. Wedi peth ymddyddan ar y cwestiwn, pasiwyd y pender- fyniad canlynol, yr hwn hefyd a dderbyniwyd gan Mr Williams. Cynygiwyd ga.n y Parch J. Davies, Cadle, ac eiliwyd gan Mr J. Roberts, Pontypridd —"Ein bod yn cymeradwyo i'n myfyrwyr gool cwrs o addysg mewn arts yn un o golegau y Brifysgol, ar gynllun cyffelyb i'r hwn sydd ynawr o dan ystyriaeth Pwyllgor Coleg Aberhonddu." 6. Yr oedd dau le yn ceisio y Gymanfa. am y flwyddyn nesaf, sef Llansantffraid-ar-lai air Coity. Penderfynwyd iddi fyned i'r Coity. Diweddwyd y Gynadledd trwy weddi gan Griffiths, Affrica. Dechreuwyd Cynadledd y prydnawn trwy weddi gan y Parch H. A. Davies, Moriah, Am an. 7. Cynygiwyd gan y Parch J. Davies, Taihirion, ac eiliwyd gan y Parch J. LI. Jones, Penclawdd- "Fod y Gynadledd hon, wrth gydnabod llaw ddaionus yr Arglwydd tuag atom fel Enwad yn y sir yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, yn teimlo yn alarus oherwydd colli o'n mysg ein hanwyl frodyr a thadau, y Parehn Griffith Jones, gynt o Gefncribwr, ac Isaac Jones, Drefnewydd, y rhai a gymerwyd ymaith oddiwrthym mewn oedran teg, wedi tyrnhor maith o wasanaeth ffyddlon yn ngwinllan eu Harglwydd; ac hefyd y Parch J. Waite, B.A., Charles-street, Caerdydd, haul yr hwn a fachludodd tra yr oedd hi eto yn ddydd, yr hwn, er ei fod yn hanedig o genedl arall, oedd yn teimlo y dyddordeb mwyaf yn ein llwyddiant fel cenedl mewn addysg a chrefydd a'n bod yn dymuno datgan ein cydymdeimlad å'n perthynasau a'r eglwysi fu o dan eu gofal. 8. Darllenwyd y cyfrifon gan Mr Roberts, Pontypridd, ac ar gynygiad y Parch J. Stephen, Brynteg-, mabwysiadwyd hwy. H. Dewis swyddogion y Gymanfa am yflwyddya ddyfodol: Cadeirydd, y Parch J. Jones, Llangiwc. Archwiliwyd y pleidleisiau gan y Parchn E. Richards, Tonypandy, ac S. Jones, Treoes. Trysorydd, Mr J. Roberts, Bridge House, Ponty- pridd. Ysgrifenyddion, y Parchn W. I. Morris, Pontypridd, a J. Roberts, Castellnedd. Pwyllgor, Swyddogion y Gymanfa; Ysgrifenyddion y Cyf- undebau; Parchn S. Jones, Treoes; E. Davies, Abercynllig; J. Jones, Maesteg; W. O. Owen, Penybont; J. Davies, Taihirion J. Foulkes a J. G. Evans, Aberafon a J. Bevan, Waunallwydd. 10. Cynygiwyd gan Dr Rees, ac eiliwyd gan y Parch J. Thomas, Bryn—"Fod yr Ysgrifenyddion i ffurfio penderfyniad yn galw am ddiddymiad trwyddedau y grocers i werthu diodydd, a'i anfon i Mr Gladstone. 11. Galwodd y Parchn D. Jones, Cwmbwrla, a W. I. Morris. Pontypridd, sylw y Gynadlodd at y Fudd Gymdeithas sydd ar gael ei sefydlu yn mysg y gweinidogion. Da. fyddai i'r rhai fwriadant ymuno a hi anfon eu henwau mor fuan ag y byddo modd i Mr Jones, neu i Mr Thomas, Glandwr. Ymddengys ei bod yn derbyu cefnog- aeth galogol iawn.

CYMANFA ANNIBYNWYR MEIRION.