Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
CAERLLEON A'R CYFFINIAI7.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CAERLLEON A'R CYFFINIAI7. Dydd Gwener, y 6ed cyfisol, tra yr oeddtren rhad o Bolton yn aros am ychydig fynydau yn ngorsaf Treffynon, disgynodd un o'r enw John Dwyer, 45 mlwydd oed, ac wedi hyuy llithrodd o dan y cer- byd, ac anafwyd ef mor ddychrynllyd fel y bu farw yn union wedi y dygwyddiad. Cymerodd damwain alarus le yn Llandudno yr un dydd trwy i dri o ymwelwyr a'r lie foddi, yn herwydd dymchweliad bad yn yr hwn yr oeddynt wedi myned allan ynddo i'r mor i ymbleseru. Buwyd yn dadorchuddio ffenestr goffadwriaeth- ol o'r diweddar Miss Marie Nesta Williams Wynn, merch ieuengaf Syr Watcyn Wynn, yn eglwys y plwyf, Rhiwabon, dydd Sadwrn, y 7ed cyfisol. Yn Crewe, yr un dydd, cymerodd hen wraig o'r enw Eliza Edwards ddogn o nitro-acid, a bu farw mewn poenau dirdynol. Hefyd, yn yr un lie, yn hwyr yr un dydd, yi* grogodd George Grindley mewn cellar. Dydd Llun, y 9fed cyfisol, dedfrydwyd Mary Evans, Wrexham, i naw mis o garchariad am ladrata dillad o siop yn y dref. Yr un dydd, yn y New Ferry Hotel, Bebington, cynaliwyd trengholiad ar gorff Charles Parry, 56 mlwydd oed, brodor o Pwllheli, yr hwn a ddisgyn- odd yn farw yn sydyn ar fwrdd llong yn yr afon Mersey, a dygwyd rbeitbfarn fod byny wedi d'od oddiamgylch trwy achosion naturiol. Hwyr yr un dydd, derbyniodd dau fachgen o'r enwau John Thomas Dodd a Robert Parry, niwed pwysig yn Moss, ger Wrexham, drwy iddynt gael eu lluchio o wagen ar yr incline perthynol i gwmni y rhoilffordd. Dydd Mawrth, y lOEed cyfisol, dygwyd Peter a Mary O'Brien, gwr a gwraig, o flaen yr Ynadon yn y ddinas :hon, ar y cyhuddiad o ymladd a'u gilydd ar yr heol. Yr oedd y ddau yn adnabyddus i'r heddgeidwaid, ac yr oedd y blaenaf wedi gwneyd ei ymddangosiad ger bron y faine 34 o weithiau yn flaenorol. Y tro hwn rhwymwyd ef i gadw yr heddwch am y dyfodol yn y swm o £10, ;a rhyddhawyd y wraig. 0 flaen Ynadon Llanrwat, yr un dydd, dedfryd- wyd Albert Mead, i bedwar mis o garchariad am ladrata dwy oriawr aur a chadwen. Mae gwraig briod o'r enw Jessie Cooper, 16 rniwydd oed, o Crewe, mewn dalfa am ladrata Y,5 oddiar ei brawd. GOHEBYDD.
NODION O'R GOGLEDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION O'R GOGLEDD. DWY AWR UYDA'R PRIF WEIN1DOU. Il;, ddarllenydd, dyna'r anrhydedd a gefais yn nghwmni cyfaill prydnawn Gwener, Mehefin 6ed. Aethom i Benarlag gyda'r unig neges o weled y Grand Old Man. yn taflu coeden fawr i'r llawr. Wedi i ni aros oddeutu baner awr, daeth atom detective, gan ddymuno arnom symud ycbydig oddiar y llwybr cyfrinachol. Gyda hyn, wele detective arall yn gwneyd ei ymddangosiad, ac yn dilyn hwn y mae y Gwir Anrhydeddus William Ewart Gladstone a'i dri mab, yn nghyda pherson arall, yr hwn oedd yn cludo gydag ef bedair bwyell. Waeth i ni gyfaddef y gwir, nid oeddwn am dynu ein llygaid oddiar William. Mae wedi ymwisgo mewn dill ad goleu, a ffon gyffredin yn ei law aswy cerdda. yn unionsyth ac yn gyflym. Erbyn hyn, mae wedi cyrhaedd y pren oedd wedi ei faroio, yr hwn oedd er hyny yn wir gadarn, Wedi i William edrych i fyny ac oddiamgylch y pren, mae yn taflu y ffon o'i law, yna ei het, yna yrnddiosgaeigota/i vest; ond cyn. eu taflu ar lawr, mae yn chwilio yn ofalus y pocedi, rbag ofn fod dim yn cael ei golli. Wedi gwneyd hyn, mae yn taflu ei hwylraffau dros ei ysgwyddau, gan ddangos fod gwaith i'w wneyd. Ymafla yn ei fwyeI1 (paid dychrynu, ddarllenydd), o-hoi a .swing, a dyna ergyd nes mae pob deilen ar y pren mawr fel yn ymwybodol fod min y fwyell yn oqyffwrdd ei chalon. Dyna ergyd drom eto, ac un arall; wele ysglodyn yndyrchafu i'r awyr mewn dychryn, ac yn disgyn i'r llawr yn hollol ddiymadferth. Erbyn hyn, y mae William wedi bod yn curo am oddeutu chwarter awr, a theimla ei hunan yn cynesu braidd i ormodedd; eistedda i lawr, gan sychu a'i lawes y chwys sydd yn berwi allan o'r pen rhyfeddaf yn y byd. Tra byddo William yn gwneyd hyn, yr ydym fel edrychwyr yn uno a'n gilydd, ac yn wir, yr oeddwn fel yn teimlo fod holl ddail y coed oddiamgylch yn cyduno er cheerio yr ymosodydd gwrol. Wedi ychydig eiliadau, mae yn codi eilwaith, o-hoi ac ergydio eto, yna seibiant a churo ar yr ail. Yna mae yn gorchymyn i'r tri mab gymeryd gafael yn y rhaff; mae hwythau yn ufuddhau, ac Û. pltll hard together a thra oeddynt yn tynu, mae William fel yn ymdaflu yn fwy llwyr i'r gwaitb o ergydio, nes zll I mae y pren oedd yn y boreu yn sefydlog a chadarn erbyn. hyn fel pechadur yn ymostwng i ddwylaw y gallu sydd wedi ei gymeryd yn garcbaror. Pwy yw y foneddigea ddirodres acw a welwn yn myned heibio i'r detective ? Neb llai, ddarllenydd, na Mrs Gladstone. Mae hi o bell wedi canfod fod y pren yn ymysgwyd, a William wrth ei fon yn dal i ergydio ac er rhybudd, mae Mrs Gladstone, mewn llais teilwng oangyleswarcheidiol, yn dyweyd, "Take care, William, take care." Ac ar hyny, dyma y pren mawr yn ymestyn fel plentyn ar ei hyd ar lawr. Dyna hi yn cheers, acyn "Hurrah, hurrah, hurrah! Well done, Willam, well done!" Dod y fwyell ddur o'r neilldu, dod dy got a'th vest am danat, cymer ofal o'th lungs, ded dy het ar dy ben-nid oes genyt ryw lawer 0 wallt arno, ond mae ei gynwys mewnol yn werth cymeryd gofal ohono; rhwym dy gadachau, ac ymwregysa yn ofalus; paid a sefyllian llawer, yr wyt wedi chwysu, ac mae y gwynt yn fain iawn cymer dy ffon, a cherdda yn lled gyflym trwy y pare i'r ty, ac yna ymorphwysa. Dacw fe yn myned-mae yn hen ond yn ieuanc, mae yn ieuanc ond hefyd yn hen. Mae yr adar fel yn prancio oddiar gangen i gangen, gan ei ddifyru a'u peroriaeth swynol. Mae yn ei ddilyn detectives daearol, oes, ac y mae yna rai nefol hefyd. Dymani yn cjdgyfarfod wrth y gate fach, ac wedi moesgyfarcbn, yr ydym yn estyn llaw i gyfarfod Haw (ond 'does llaw neb fel eiddo William), a chyda gwen foddbaus mae yn gofyn, "How do you do?" Gydag ysgydfa llaw gynes, a Good afternoon," ymadawsom hwyrach am y tro diweddaf. Dymunwn Dduw yn rhwydd i William Ewart Gladstone. AMBROSE.
ABERDAR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ABERDAR. Dichon fod rhai o ddarllenwyr y TSST yn meddwl fy mod yn glaf, neu wedi ijuarw, neu ynte wedi myned gyda Mr Gol. i America, am fy mod wedi bod yn faith o'r golwg heb ysgrifenu dim; ond yr wyf, trwy drugaredd, yn fyw ac iach, ac wedi bod gyda rhyw bethau ereill yma a tbraw. Mae llawer yn byw yn agos i'r Wyddfa fawr ond heb erioed fod ar ei phen, a dynion wrth y canoedd o Llundain a Paris wedi bod yn dringo i'w chopa. Yr wyf yn cofio fy mod yn eysgodi cawod o wlaw dan un bwa sydd yn arwain i Buckingham Palace, Llundain, a daeth ataf, ddyn a'r olwg arno fel gweithiwr gonest cylch 40 mlwydd oed. Gofynais, wrth siarad ag ef, yn mha le y ganwyd ac y magwyd ef. "Wei," meddai, "cylch haner milltir o'r fan yma." Dy- wedais wrtho mai lleoedd prydferth ydoedd y Senedd-dai fy mod wedi bod ynddynt y diwrnbd blaenorol. le, mae'n debyg," meddai. "Bufy nhad yn gweithio blynyddoedd ynddynt. Saer coed ydyw ef, a dyna fy nghelfyddyd inau hefyd. Yr wyf wedi meddwl lawer gwaith i fyned i'w gweled, ond heb fyned eto." Mae yma rhwng Aberdar a Merthyr, yn mhlwyf Merthyr, hen le enwog o'r enw Cwmyglo. Mae hen adfeilion y capel yno i'w weled yn awr, a dynion o beth canoedd o filltiroedd o bellder wedi bod yn ei weled, a minau, yn ei ymyl, heb fod yn edrycb arno erioed; ond yn ddiweddar, wedi i mi ysgrifenu i'r TYST y tro diweddaf, aeth fy mhriod a minau i weled adfeilion cysegredig yr hen adeilad. Yr oedd hi wedi ei weled ugeiniau o weithiau pan yn eneth yn godro y gwartheg a feddianai ei mam, ac weithiau yn godro tufewn i'r hen furiau. Gwelir ei hanes yn hynod ddyddorol yn "Hanes Eglwysi Annibynol Cymru" gan y ddau Ddoctor, yn nglyn a hanes Ynysgau. Dyma ddechreuad eglwys henafol Ynysgau. Yr oedd yma eglwys yn ymgynull yn Blaencanaid— amaethdy mewn lie cryn ddirgel oedd hwnw—yn addoli yno mor foreu a'r flwyddyn 1620, a darfu iddynt nesu yn is i lawr i amaethdy o'r enw Cwm- yglo. Buont dan erledigaethau creulawn yno. Wedi cael nodded Deddf y Goddefiad, pender- fynasant ofyn am le i adeiladu capel. Pan yn ceisio dyfalu at bwy yr aent, dywedodd un o'r aelodau yr iii ef at Cadben David Jenkins, Hensol, gan mai ei frawd oedd butler y boneddwr, a chafodd atebiad siriol-" Os ydych chwi yn dewis addoli yn y lie a nodweh, ar lan yr afon fechan yn y man dirgel yna, chwi gewch dir; ond am y butler bach a minau, nid ydym yn gofalu am addoli dim ond ein boliau." Dyna lie yr adeilad- wyd capel Cwmyglo. Dywedir i un Edwards, oedd yn bregethwr yma, gael ei lofruddio yn agos i Gyfarthfa. Daeth yma un Major Carne a nifer o^filwyr gydag ef i ddal yr enwog Vavasor Powell, a dywedir i swyddog milwrol o'r enw Col. Morgan fyned unwaith at Gwmyglo a. milwyr gydag ef i'r amcao o gymeryd y pregethwr a'r gwrandawyr yn garcharorion, ond iddo, ar ol gwrando ychydig wrth y drws, gael ei doddi i'r fath raddau gan yr hyn a glywodd, fel iddo droi ymaith a dywedyd wrth ei filwyr, "Trueni yw gwneuthur dim i'r bobl." Dywedir yn "Hacesy Bedyddwyr," gan un Mr Thomas, i hen Gristion enwog o'r enw Saphin, neu Sephaniah, fyneti nnwaith yn nyfnder y nos tua Chwmyglo; ac wedi iddo fyned i mewn, i'r addolwyr mewn rhan arall o'r ty glywed trwst ei draed, ac iddynt ddychrynu rhag ofn mai erlidiwr oedd yno. Pan ddeallodd yntau eu bod wedi brawychu, gwaeddodd allan, "Paham yr ofnwch ? y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn." Yr oedd yn beryglus iddynt ddywedyd Amen yn uchel, rhag cael eu dal gan y gyfraith ar rai amserau; ond pe buasent yn addoli fel yn yr oes hon, ni fuasai yr un perygl iddynt o ran Amen. Gwir fy mod wedi crwydro i raddau, ond nid yn mhell iawn, gan fod hen furiau capel Cwmyglo yn cael eu dal gan iorwg, a hyny o fewn llai na milldir o blwyf Aberdar. Buasai yn dda genyf pe bai yr hen feini o'r mur yn gallu adrodd wrthyf banes ein tadau yn addoli er's dros ddau can' mlynedd yn ol-eu sel, eu dagrau, eu gweddlau, en pregethu, eu cymuno, a'u canu. Nib gallaswn ddal yr hanes yn ddiau heb doddi mewn dagrau. Mae yma lawer o bethau ereill y buasai yn dda genyf eu cofnodi, a gymerasant le yn Aberdar, y rhai y pallai amser i mi eu crybwyll. Bu Mr William Lewis a'i briod yn ffodus nos lau, Mehefin 19eg. Cawsant eu hanrhega a'u lluniau mewn fframiau ardderchog. Blaenor cor Brynseion, Cwmbach, ydyw ef. Mae wedi dyfod yn enwog fel canwr, a'r eglwys yn dewis dangos eu parch iddo ef a'i briod. Rhoddodd y glee party metronome ardderchog iddo, er nad oedd ei angen arno i gadw amser tra byddo ei freichiau wrth ei gorff. Llywyddwyd gan y Parch J. Morgan, a chafwyd anerchiadau gan Mri J. Rees, Co- operative Stores, a T. Jenkins, Torfol, Penderyn. Cyflwynwyd yr anrhegion i'r blaenor gan Mri J. Morris a D. Davies, ac i'w briod gan Mrs George Davies a Mrs T. Selby, a'r metronome gan Mri T. ac L. Evans. Canwyd amryw donau yn ar- dderchog gan Mri Tom Bowen, J. E. James, G. Lloyd, J. Daniel, J. Llewelyn, E. Williams, a Glee Party Cwmbach. Blin i eglwys Annibynol Cwmbach befyd golli dau o'i diaconiaid mwyaf ffyddlon-John Selby, un o'r aelodau henaf a mwyaf cywir a gonest yn yr eglwys. Efe oedd ganwyll yn goleuo a Uosgi. Y diacon arall oedd Henry Davies, un o'r dynion mwyaf mwyn, tyner, au amyneddgar, ffyddlon a hawdd ei drin, ac yn trin ereill gyda thynerweh mawr. Gadawodd blant ar ei ol, a John Selby weddw a phlant, ond fod plant y ddau wedi tyfu i fyny. Colled ddirfawr i'r eglwys ydyw. Cyfoded Duw eto rai gwerthfawr yn eu lie, a tbeimled ieuenctyd yr eglwys i gyfodi fel un gwr i lanw eu lie: Mae y Parch W. Edwards, Ebenezer, oddicartref or mwyn ei iechyd; y Parch D. Griffiths, Cwmdar, yn well-fe ddaw ar ol y ffynonau yma. feddyliaf; a'r Parch T. Llewelyn, Mountain Ash, yn pregethu yr Efetigyl. GOHEBYDD. «
LLANELLI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANELLI. Y Bwrdd Ysgul. — Yn ddiweddar daeth ysgol Park-street, o'r dref hon, yn wag drwy gystudd frwrn a marwolaeth yr ysgolfeistr, Mr W. Pedley. Hon yw yr ysgol fwyaf o dan y Bwrdd Ysgol. Gall yr adeilad gynwys 394 o fechgyn, ac mae y rhif ar y register yn 392. Yr oedd Mr Pedley yn ysgolfeistr galluog, ac yn cael edrych i fyny arno gan ei frodyr o'r un alwedigaeth gyfrifol. Meddai gymeriad pur, ac yr oedd yn wr crefyddol a duw- iol, fel y credwn. Eglwyswr ydoedd. Gadawodd yr Ysgol Genedlaethol yn y Dafen ychydig flyn- yddoedd yn ol er mwyn dyfod dan y Bwrdd Ysgol, am ei fod yn fwy diddig iddo na'r cylch lie yr oedd. Mae yn ffaith awgrymiadol fod llawer o'r ysgolfeistri yn yr Ysgolion Cenedlaethol yn ewyllysio bod dan y Byrddau Ysgolion. Nid oedd dim Ilai na 90 o ymgeiswyr am yr ysgol. Dewis- wyd Mr John Rees, athraw yr ysgol yn Llwyn- hendy dan y Bwrdd Ysgol hwn, Y mae Mr Rees wedi arfer bod ar y blaen hyd y tro diweddaf yn yr arholiad blynyddol. Cafodd Mr A. B. Richard, Pumpheol, ei godi i ysgol Llwynhendy. Cyflog Mr Rees fydd £106, ac un ran o bedair o'r grant, a chyflog Mr Richard yn Llwynbendy fydd £110, ac un ran o bedair o'r grant. Cafodd Mr Pedley angladd barchus. Daethai llu mawr o blant yr ysgol i ddilyn ei elor i fynwent Dafen.