Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

ATHROFA FFRWDVAL A'I HANESIONI.

CYMANFA MALDWYN.

YMYLON Y FFORDD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

fa ei ddylanwad ar gredo yr Enwad. Ond efe a fu farw Chwith iawn genyf feddwl fod Raleigh, a Mellor, a Baldwin Brown, y rhai yr ydwyf mor dda yn cofio eu cychwyn- iad allan yn ddynion ieuainc, erbyn hyn wedi myned, ac nid oes ond nifer fechan o'u cyfoed yn aros. Mae gan Dr Hannay lythyr yn y Noncon- formist and Independent am yr wythnos hon yn ei berthynas a'r PARCH J. WOOD A'R (TNDEB CYNTTLLEIDFAOL, ac nid yw wedi ei gyhoeddi ddiwrnod yn rhy fuan. Y Joseph Wood yma oedd wein- idog yr eglwys Gynulleidfaol yn Leicester, ac yr oedd yn un o'r rhai blaenaf yn ngl^n a'r hyn a adnabyddid fel y Leicester Con- ference. Mae yn awr wedi derbyn galwad oddiwrth eglwys Undodaidd yn Birming- ham, ac felly wedi myned i'w le ei hun, er y dywed ef nad yw yn gwneyd dim ond myned o un eglwys rydd i eglwys rydd arall, ac ychwanega fod yrhollTJndeb Cynnlleidfaol yn awr er's un mlynedd ar ddeg yn gwybod nad ydyw efe yn Drindodwr ac yn wir, ei fod mewn llawer ystyr yn llai uniongred na llawer o Undodwyr." Mae Dr Hannay yn ei gynieryd i fyny am hyny, ac yn dyweyd na wyddai yr Undeb Cynulleidfaol, fel y cyfryw, mo hyny, ac na bu golygiadau duw- inyddol Mr Wood erioed o flaen yr Undeb ac ychwanega nad oedd wedi deall fod 11 u- aws aelodau yr Undeb yn gwybod nad oedd yn Drindodwr." Gwyddent fod Mr Wood yn perthyn i ysgol sydd yn arfer siarad yn ysgafn am athrawiaeth a chredo, ond y mae lluaws o'r cyfryw yn adnabyddus fel rhai yn dal allan briodol Dduwdod Crist ac athrawiaeth y Drindod; a buont yn ddigon rhyddfrydig i gredu hyny am Mr Wood, a'i oddef mewn Undeb a ddatganodd yn eglur chwe' blynedd yn 01 mai un o'i amcanion ydyw dal i fyny a belaethu cref- ydd efengylaidd," a'i fod wedi ardystio ei ymlyn ad wrth "ffeithiau ac athrawiaethau y ffydd efengylaidd ac yn mysg yr ath- rawiaethau hyn y mae cnawdoliaeth ac aberth iawnol yr Arglwydd Iesu Grist; ac eto bu Mr Wood yn ddigon diegwyddor i aros yn yr Undeb sydd yn seiliedig ar y gwirioneddau yna, ac yntau er's un flynedd ar ddeg heb fod yn Drindodwr," ac mewn llawer ystyr yn llai uniongred na llawer o Undodwyr." Dyma y bobl sydd yn son am onestrwydd, a thrwyy blynyddau yn hwylio o dan liwiau twyllodrus. Os oes rhagor o'r fath i'w cael yn yr Enwad, goreu pa gyntaf iddynt fyned yr un ffordd. LLADMERYBJ). i