Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Y MODDION CYHOEDDUS.

HENLLAN AMGOED.

[No title]

'','LLANDILO.

CYFUNDEB SEISONIG PEHFEO.

Advertising

BALA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BALA. CYJ'ABi'OD SEFYDLU. Ar y dyddiau Mehefin 24ain a'r 25ain, yn yr eglwys Annibynol yn y lle uchod, cynaliwyd cyf- arfodydd sefydliad y Parch T. Talwyn Phillips, B. D., yn olynydd ir onwog Hybarcb R. Thomas (Ap Vychan). Pregethwyd y noson gyntaf gan y Parchn W, Nicholson, Liverpool, ac li. P. Jones, Pencader. Yr un adeg yn Ty'nybont, gan y Parchn O. Evans, Llundain, a T. Davies, Llanelli. Tranoeth trwy y dydd pregethwyd gan y Parchn 0. Evans, T. Davies, W. Nicholson, ac E. P. Jones. Dechreu- wyd y gwahanol oedfaon gan y Parchn D. L. Jones, America; J. P. Evans, Henryd D. C. Edwards, M.A. (M.C.); a W. D. Thomas, Llangwm. Yr oedd yn bresenol hefyd y Parchn O. J. Owen, Cor- wen; J. Pritchard, Cynwyd; D. Roberts, Llan- uwchllyn; W. R. Roberts, Llanfachretb; E. Peters, Bala; T. Lewis, B.A., M. D. Jones, D. C. Jones, yn nghydag amryw fyfyrwyr y gwahanol golegau. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol o'r dechreu i'r diwedd. Yr oedd y cynulliadau yn hynod luosog, y pregethau yn rymus, ac arwyddion amlwg fod gwirioneddau yr Efeugyl yn cael lie dwfn yn meddyliau y gwrandawyr. Da genym weled Mr Phillips, fel dyn ieuanc talentog a gweithgar, yn dechreu ar ei faes newydd a phwysig dan amgylchiadau mor ffafriol. Mae y llwyddiant &ydd wedi dilyn diwydrwydd a llafur Mr Phillips yn y gorphenol yn peri i ni edrych yn mlaen mewn hyder cryf y cawn glywed pethau mawrion am dano eto yn y dyfodol. Dymunwn iddo bir oes i wasanaelhu ei Arglwydd, ac i droi lluoedd o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw, fel y derbyniont faddeuant pechodau a chyfran yn mysg y rhai a sancteiddiwyd." YSBIWB,

CYMANFA MALDWYN.