Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y DIWEDDAR DR DAVIES, ,FFRWDVAL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DIWEDDAR DR DAVIES, FFRWDVAL. Yr wyf wedi darllen gyda dyddordeb mawr yr holl ysgrifau ar yr uchod. Maey cofnodion yn ddyddorol a gwerthfawr. Yr oeddwn yn yr Athrofa yn N ghaerfyrddin pan ddaeth efe yn athraw yn nechreu Hydref, 1856. Dysgai ni mewn Matlwmatics, Geography, English History Chemistry, Natural Philosophy, Hebrew, Syriac, a Chaldee, ac yr oedd yn feistr ar y pynciau uchod. Gwnai i ni adrodd y verbs neu'r paradigms yn yr Hebraeg, y Syriaeg, a'r Galdaeg, nes y gallem eu hadrodd oddiar gof mor rhwydd a'r multiplication table. Un diwrnod, pan oedd rhywun yn y dosbarth dipyn yn anhyddysg yn y wers Hebraeg, ac yn ymddangos allan o'i elfen gyda hi, dywedodd y Doctor yn ddifyrus fod capel yn Llundain dro yn ol a wine vaults odditauo, ac i rywun wneyd penill i'r ddau fel hyn— There's a spirit above and a spirit below A spirit of love and a spirit of woe The spirit above is a spirit dirine, But the spirit below is a spirit of wine. Yna, er budd y dosbarth, gwnaeth y Doctor baraphrase, neu aralieiriad ohono- There's a Hebrew above and a Hebrew below, A Hebrew of lore and a Hebrew of woe The Hebrew above is a Hebrew divine, But the Hebrew below is of Palestine. Adroddodd ef gyda hwyl, a gwenai fel un wedi gwneyd gorchest. Un diwrnod, yn fuan wedi dechreu efrydu Physical Geography gydag ef, gofynodd i ni a oedd mapiau genym. Atebwyd nad oedd. Dywedodd fod yn well i ni gael mapiau da ar unwaith, a bod ganddo rai ar werth os leiciem eu prynu. Daeth a hwynt gydag ef dranoeth, a'u pris oedd swllt yr un. Yr oeddem wedi clywed mai un rhyfedd oedd y Doctor am werihu llyfrau ail-law, a phethau o'r fath i'r myfyrwyr, a phenderfynasom yrnuuo i roddi terfyn ar yr oruchwyliaeth hono ar unwaith, gan y gallem gael y pethau hyn oil yn rhatach na chydag ef. Dywedasom nad oedd arian genym ar y pryd. Atebodd yntau yn garedig iawn nad oedd wahaniaeth am hyny, y cawsem y mapiau a thalu pan yn gyfleus. Dyna ni wedi ein dal. Cymerodd pob un map neu ddau. Aeth wythnos heibio heb son am dalu. Taflodd awgrym yn awr ac eilwaith yr ail wythnos i'n hadgofio am y mapiau, ond nid 1 oedd neb yn ei chymeryd. Y drydedd wythnos i adgofiodd ni am danyDt. Dywedasom ein bod wedi aaghofio, ond y cawsai yr arian un o'r dyddiau nesaf. Cadwasom ef fel hyn am amryw wythnosau, nes yr ymddangosai yn hynod ddigalon ac allan o hwyl. Adgofiodd ni yn foneddigaidd yr ail waith, yna talwyd iddo.. Bu yr oruchwyliaeth yn llwvddianus, canya ni chvnygiodd ddim i ni ar werth ar ol hyny. Pan ddaeth yn athraw i Gaerfyrddin, yr oedd ar y cyntaf yn rhy feistrolgar, ac fel pe am ddwyn ysbryd yr ysgolfeistr yn ormodol i mewn, gan anghofio mai nid yn Ffrwdval neu'r Derlwyn yr oedd, ac heb ystyried na wnai myfyrwyr athrofa fel Caerfyrddin gymeryci em trafod fel myfyrwyr ysgol ramadegol. Dyweciai ambell air insulting wrth fyfyriwr os na boaisjaa yn hollol feistr ar ei wers, megys, Yr ydychi fel ceffyl dall yn stumblo ar y ffordd." Yr- ydych chwi yn dyfod o ardal onidi ydych P gan enwi ardal nad oedd ei brodoriom yn cael eu hystyried mor gyflawn yn y pen ago ardalwyr yn gyffredin. Cododd un neu ddau y dywedodd felly wrthynt i adael yr ystafell. dywedodd felly wrthynt i adael yr ystafell. "I ba le yr ewchp" ebe y Doctor yn wyllt. I rywle lie na bydd insults yn cael eu rhoi," ebe'r myfyriwr. Dywedodd y Doctor nad oedd yn cyfeirio ato ef. Dychwelodd y myfyriwr- i'w eisteddle. Parodd hyn i'r Doctor weled nat wnai y dull hwnw y tro yn Nghaerfyrddin, a. bu mor gall a'i adael heibio yn llwyr, ac ni bu dim o'r fath drachefn tra y bu yn athraw. Yn y beirniadu ar bregethau y myfyrwyr, yr hyn oedd ran o waith dydd Gwener, pan ddarllenidi pregeth Saesoneg gan y myfyrwyr bob un yn eii dro, unwaith yr wythnos, yn nghlyw y tri athraw, pan fyddai Dr Lloyd yn y gadair, a'r Ileill un o bob tu iddo, yr oil ddywedai Dr Davies fynychaf oedd cyfeirio y myfyriwr at, wahanol awdwyr ar bwnc y bregeth, gan enwiV awduron goreu ar y naill ochr a'r llall. Yr oedd gartref gyda hyn o orchwyl. Ym- ddangosai fel yn gwybod am bob Ilafur a'r halk fanylion yn ei gylch. Treuliodd ei amser yn Nghaerfyrddin yn hynod dawel a dystaw. Yn gynar yn y flwyddyn 1858, gwaethygodd ei iechyd—eollodd rym ei aelodau yn raddol, nes y bu raid iddo o'r diwedd ddyfod o'i lety i'r coleg ar bwys ffyn. Arferai letya yn ngodreu Lamas-street, ger y Dark Gate, ond parodd ei waeledd iddo symud at Mr a Mrs Thomas, Green Post, yr ochr arall i Mr W. Spurrell, Heol-y-Brenin, lie buasai yr ysgrifenydd ac ereill yn lletya cyn hyny. Yr oedd wedi bod yn dy tafarn yn yr heu amser, a chadwodd yr enw wedi i'r fasnach ddarfod. Bu y myfyrwyr dan yr angenrheid- rwydd o fyned at y Doctor i'w lety yn nechreu haf 1859 i fyned dros y gwersi. Yr oedd yn gorfod aros mewn gwely godasid iddo ar y first floor, a gwrandawai ar y myfyrwyr yn ei eistedd yn y gwely. Dyna y tro olaf y gwelais ef, yn Mehefin, 1859. ychydig cyn yr arholiad. Gadewais yr Athrofa ar ol yr arholiad hwnw. Bu yntau farw cyn hir ar ol hyny. Dichon y gwna y rhai ydynt wedi ysgrifenu mor helaeth am dano ef a'r Athrofa yn Ffrwdval deimlo rhyw ddyddordeb i wybod fod yn fy meddiant Weddi yr Arglwydd wedi ei hysgrif- enu yn Hebraeg gan y Doctor, ac hefyd fod genyf photograplt lied dda ohoijo-dou, beth yr wyf yn werthfawrogi yn fawr. Os oes rhywrai am gopi o'r_photogPapli, gall ei gael ond talu y draul o'i dynu a'i drosglwyddo, yr hyn, dybiwn, na fyddai yn fwy na saith neu wyth ceiniog pe gwneid cais am ddwsin, dau ddwsin dichon a gostai swilt, neu rywbeth o'r fath. Heblaw hyny, mae yn meddiant y Parch O. R. Owen, Glandwr, swydd Benfro, hanes agoriad Athrofa y Derlwyn, yn nghyda chan y Doctor ar yr amgylchiad, a'r ddau anerchiad rhagorol a draddodwyd ar y pryd gan y Parchn J. Owen, Pencader, a N. Thomas, Heol y Prior, Caer- fyrddin. Argraffwyd hwynt yn draethodyn. Mae hanes yr agoriad ar gan hefyd mewn hen Ddiioyghor am y flwyddyn hono. Gellid ei rhoi yn y TYST A'R DYDD pe bai galw am hyny. Mae'r gan yn llawn synwyr ac yn bwrpasol, eitl.r nid yw yn debyg yr enillai Dr Davies Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoedd- odd amryw o bethau o bryd i bryd pan yn Ffrwdral, megys anerchion a chynghorion i'r

ATHROFAFFEWDYAL ■A'I HANESION...…