Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYMANFA GERDDOROL LLANBEDR…

CYMANFA GERDDOROL LLANTRI,,V…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMANFA GERDDOROL LLANTRI- ,,V V SANT A'R CYLCH. Cynaliwyd y Gymanfa uchod yn Bethel, Llan. trisant, dydd Llun, Mehefin 16eg, odan arweiniad Hywel Cynon, Aberaman. Yr oedd yr ysgolion canlynol yn bresenol:—Bethel, Soar, a'r Junction, Llantrisant; Castellau, Maendy, Llanharri, a Oarmel, Tresimwn. Dechreuwyd y cyfarfodydd am ddau a chwech o'r gloch, y cyntaf drwy ddar- llen a gweddio, gan y Parch W. E. Evans, Car- mel; a'r olaf yr un modd gan Mr D. Walters, o Goleg Aberbonddu. Llywydd y cyfarfod cyntaf ydoedd y Parch W. C. Davies, Soar, a chan wyd yn hwn y tonau a ganlyn :-Navarre, Ramab, Turin, isalome, Dorcas, Salmdon, Munich, Beulah, Bedd. gelert, a'r anthem Eiddo yr Arglwydd y ddaear (Lowell Mason). Yn ystod y cyfarfod cafwyd anerchiad gan y Parch Levi Rees, Llanharan. Llywydd y cyfarfod bwyrol ydoedd y Parch W. E. Evans, Carmel, a chanwyd yn y cyfarfod hwn -Ireiddiol, Lyons, Penry, Hendre, St. Barnabas, Salmd6n, Glandwyryd, a Denton's Green. Rhodd- odd y Parch 'E. Griffiths (M.C.), Llantrisant, anerchiad sylweddol yn y cyfarfod hwn. Cafwyd Cymanfa dda iawn, cynulliadau da, a chanu da, a chyfrif ei fod braidd yn anmhosibl, oblegid y pellder sydd rhwng y gwahanol ysgol- ion, i gynal rehearsals. Anfantais fawr i'r canu ydyw nad yw yr ysgolion yn cael cyfleusdra i gyd- gyfarfod yn gryno felly ond ar ddydd y Gymanfa. Ond er yr anfantais hon, aeth pawb drwy eu gwaith yn ganmoladwy iawn-y corau, yr ar- weinydd, y Ilywyddion, ac yn olaf, ond nid y lleiaf, yr accompanyist, Miss M. A. Morgan, Maendy. Gobeithio y bydd ifrwyth lawer -yn dilyn y Gymanfa bon, ac y ca y gwahanol ysgolion beidio gadael i'r tonau newyddion y maent yn awr wedi eu dysgu rydu o ddiffyg ymarferiad. UN OEDD YNO.

CAETHWASIAETH.

CAERLLEON A'R CYFFINIAU