Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
TY YR ARGLWYDDI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY YR ARGLWYDDI. CYN y byddo y llinellau hyn o flaen llygaid y darllenydd bydd Mesur yr Etholfraint, yn ol yr arwyddion presenol, wedi ei daflu allan gan yr Arglwyddi. Gobeithid unwaith y buasai y gwyr urddasol yn ddoethach yn eu cenedlaeth, ac y gwnaethent basio mesur mor bwysig ac mor deg—mesur a fabwys- iadwyd gan Dy y Cyffredin gyda mwyafrif mor sylweddol, a mesur a hawlir gan y bobl fel un sydd yn rhoddi iddynt eu gwir hawl- fraint eu hunain; ond i'r gwrthwyneb y maent wedi penderfynu. Dydd Mawrth wythnos i'r diweddafrhoddwyd rhybndd gan IARLL CAIRNS y buasai, ar ail-ddarlleniad y mesur, yn 'cynyg gwelliant, sylwedd yr hwn yw taflu y mesur allan. Dyma brawf arall owinonedd yr ymadrodd "Nad yw gwyt mawrion ddoeth bob amser, na henafgwyr yn deall barn." Gwir nad yw y gwelliant yn myned yn uniongyrchol yn erbyn Mesur yr Etholfraint, ond yn hvtrach yn erbyn ei basio yn anni- 'bynol ar Fesur Ad-drefniad y Gynrychiol- aeth; ond gvvyr pawb sydd yn adnabod eu Harglwyddiaethau, a pheth yw mesur eu cydymdeimlad a iawnderau y bobl, mai. tipyn o gyfrwysdra oedd rhoddi i'r gwelliant y fath eiriad. Gobeithient wrth hyny, yn ddiau, dwyllo llaweroedd; ond, fel llawer o'u blaen, delir hwy yn eu cyfrwysdra, ac fel y creadur bychan hwnw y dywedir nad yw byth yn agor ei lygaid ond yn nhagfa ma^wolaeth—y bydd iddynt hwytbau, os nad ystyriant eu ffyrdd yn dra buan, a chyd- nabod hawliau y bobl. Bydd mabwysiadu y gwelliant yn cael ei ystyried gan y Wein- yddiaeth a Thy- y Cyffredin fel gwrthodiad o'r mesur, a dwg byn y ddau Dy i wrth- darawiad uniongyrchol a'u gilydd. Yn wir, nis gall cydgordiad fodoli rhwng y ddau D^ fel y maent yn bresenol o ran eu cyfansodd- iadau. Tra y mae mwyafrif mawr y Ty Isaf yn Rhyddfrydwyr, mae mwyafrif mawr y Ty Uchaf yn Doriaid, ac y mae yr olaf yn rhwystr mawr i weithrediadau y blaenaf. Cydweithredai y ddau Dy, yn ddiau, pe byddai y mwyafrif yn yr Isaf yn Doriaid; ond ni byddai y fath gydweithrediad yn fantais i'r cyboedd. Yn hytrach, cydweith- rediad a fyddai i ormesu y bobl, trwy gadw oddiwrthynt eu biawnderau. Dyna eu hanes yn y gorphenol. Nid ydym am weled y fath gydweithrediad eto, ac y mae digon o allu C5 yn y wlad i'w atal. Mae ffordd arall i sicr- hau cydweithrediad, sef trwy leihau rbif y Tofiaid yn y Ty Uchaf i'r fath raddau nes y byddo ei fwyafrif mewn cydymdeimlad a'r 'Ty Isaf. Gellir gwneyd h yn trwy greu (ligon o arglwyddi Rhyddfrydig i orbwyso y blaid Doriaidd. Ond ni byddai y fath symudiad chwildroadol ar lawer cyfrif yn ddymunol. Gwell fyddai ei wneyd fel y Ty Isaf, yn gorff cynrycbioledig, dibynol ar bleidlais y bobl; wrth hyny ceid y ddau Dy i gydweithredu mewn deddfu er mantais y bobl. Mae yn amlwg bellach fod yn rhaid wrth ddiwygiad yn ngbyfansoddiad y Ty Uchaf. Mae y wlad wedi dechreu cynhyrfu. Gofynir y cwestiwn yn amI, "Pa beth a wneir i'r Arglwyddi ? Ac os na chymerant hwy ofal i ddiwygio eu hunain mewn pryd, cymer -ereill y mater mewn Haw, a gwneir y gwaith yn effeithiol. Cant deimlo fod gallu sydd yn gryfach na hwy. Tebyg y bydd iddynt gael ail gynyg ar ¡ basio Mesur yr Etholfraint, canys y farn ydyw y gelwir y Senedd i gyfarfod eto tua'r wythnos olaf yn Hydref, er pasio y mesur drachefn. Anfonir efi fyny, mae'n bosibl, i Dy yr Arglwyddi gyda mwyafrif cynyddol. Os ei daflu allan a wna y Ty hwnw yr ail waith, apelir at y wlad mewn Etboliad Cyffredinol, a gofynir, Pwy sydd i lywod- raethu ? pa un ai yr Arglwyddi gormesol ac anghyfrifol, ynte y bobl ? a chaiff y mawr- ion wybod nad ydoedd rbagfynegiadau Mr GLADSTONE o ddifrifoldeb y canlyniadau ddim yn eithafol. Cant wers nad aughofir hi yn fuan ganddynt. Nis gallant lwyddo yn eu hymdrechion i atal i'r bobl eu hiawn- derau. Os na wnant gydweithredu a'r Tk Isaf i ddeddfu yu ol gofynion yr oes a'r wlad, gorfoder hwy i gilio o'r ffordd, gan roddi lie i'w gwell. Tybiodd CANUTE, brenin Lloegr a Den- mark, unwaith fod yn ei feddiant ddigon o allu i atal llanw y mor yn ei ymdaith, ac wele ef ryw ddiwrnod yn sefyll ar y traeth gan orchymyn i'r tonau ymgadw draw ond nid adwaenasant hwy ei lais, ac ni cbydna- byddasant ei awdurdod; ymddyrchafasant yn eu nerth, aethant rhag eu blaen yn ol eu harfer, a bu dda ganddo yntau ddychwelyd a'i fywyd yn ysglyfaeth yn ddoethach a mwy gostyngedig gwr. Mae ein Harglwyddi wedi ymgymeryd a'r gorchwyl hunan-ddinystriolo wrthwynebu barn a hawliau y cyhoedd, gan feddwl fod ganddynt ddigon o allu i lwyddo yn eu hamcan; ond mae y llanw yn dechreu ymgodi-mae y tonau yn brochi, gan ganlyn eu gilydd,. a chyn hir gwelir Arglwydd SALISBURY a'i ganlynwyr yn ymgilio o flaen llanw grymus barn y cyboedd i chwilio am ryw gilfach a glan i ymlechu ynddi, yn ddoethach a mwy gostyngedig gwyr. Cyfarfu 20,000 o lowyr swydd Durham ddydd Sadwrn diweddaf, a datganasant eu barn yn ddifloesgui o blaid Mesur yr Ethol- fraint, ac yn erbyn traws lywodraeth yr Ar- glwyddi, a chlywid yr ymadrodd yn ami, I lawr a'r Arglwyddi." Iddynt eu hunain mae yr Arglwyddi i ddiolch am y fath ysbryd a'r fath ymadroddion. Cynaliwyd cyfarfod cyffelyb, ar yr un dydd, yn agos i Bolton, swydd Lancaster; a chyn yr Hydref tebyg na fydd gweithwyr Morganwg a Mynwy, chwarelwyr Arfon a Meirionydd, yn gystal a boll Gymru, ar ol o ddyrchafu eu lief o blaid eu hiawnderau, nes gwueyd i'n mawrion Ceidwadol deimlo nerth y geir- iau, Trech gwlad nac arglwydd." ♦
UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG Diamheu fod cyfeillion yr Undeb yn awyddus i wybod pob peth ellir am gyfleusderau rhad i deithio gyda'r tr6n. Yr ydym wedi gwneyd ein goreu i gael trains rhad. Mae y London and North Western Railway yn gomedd rhoddi eyfleuaderau neillduol i'r Undeb eieni. Nid ydym yn sicr er hyny na bydd cheap returns yn cael eu rhoddi gan y llinell uchod yr amser hwnw. Mae y Great Western Company wedi addaw cheap returns ar ddydd Sadwrn, Gorphenaf 26ain (ac yr ydym wedi taer ddy- muno am iddynt eu rhoddi ddydd Llun hefyd) i'r Deheubarth. Gan fod llinell y London and North Western yn fwy cyfleus i rai fydd yn dyfod na'r Great Western, troisom i Tourist Arrangements y London and North Western Hail/way i weled y prisoedd o wahanol leoedd o'r Gogledd i Lanelli. Rhoddir Two Months Tourist Tickets i SWANSEA o Gaernarfon am 23s 6c; o Bangor, 23s; o Chester, 21s; o Liverpool a Birkenhead, 23s; o Lundain, 31s 6c; o Shrewsbury, 15s 6c; o Manchester, 25s; o Holyhead, 24s; o Welshpool, 17s. Mae rhyddid i ddisgyn wrth fyned a dychwelyd yn Ffynonau Llaudrindod, Llanfairmuallt, a Llan- wrtyd, a bydd hyny yn hollol gyfleus, gan fod y tren yn rbedeg drwyddynt. Yn lie myned yn y blaen i Abertawy, disgyned pobl yr Undeb fyddo yn teithio o'r Gogledd yn Junction Pontardulais, saith milldir o Lanelli. Ceir tren i Lanelli oddiyno. Bydd yn ofynol i'r teithwyr fyddo yn dyfod i fewn i Pontardulais gyda'r tren tri y prydnavon holi a fydd tren Llanelli wedi gadael cyn iddynt gyrhaedd, canys mae yn chwareu eastiau felly yn ami. Os ceir ei fod, cynghorwn iddynt fyned yn y blaen i Gower Road gyda'r un tocyn, disgyn yno, a holi am linell y Great Western sydd o fewn ergyd careg, codi tocyn chivecheiniog am Lanelli, a dyfod yn y blaen gyda'r tren sydd yn gadael oddeutu pedwar o'r gloch yna gallant yn mhen oddeutu haner awr fod wrth y bwrdd te yn Ysgoldy y Tabernacl. Os yn rhy flinedig neu stiff i gerdded o'r orsaf, cant tramcar wrth yr orsaf i'w cymeryd i'r Greenfields, ger Haw y. Tabernacl, neu 'bus i'w cario bob cam at yr Ysgoldy. Ceiniog yw pris y tramcar. Mae genym gyflawnder o letyau wedi eu parotoi, a'r nifer luosocaf yn hollol gyfleus. xmdrechwn drefnu i wneyd pawb yn gysurus. Mae parotoadau mawrion yn cael eu gwneyd ar gyfer yr Undeb. Khed. dysgwyliadau y bobl yn uchel. Gobeithio y deuwch, frodyr, gyda chyflawnder bendith i'n plith.—Yr eiddoch, &c., JBEEMUH WILLIAMS,") -F „ DAVID WILLIAMS, I Y sgnfenyddion THOMAS JOHNS, ) HLEOL
I PRIORDY, CAERFYRDDIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I PRIORDY, CAERFYRDDIN. í Cymerodd drawing yr Art Union mewn cysylltiad a'r lie uchod le dydd Iau diweddaf yn mhresenol- deb Councillor Arthur, Caerfyrddin, a Mr John Bevan, Llanelli. Buwyd wrtho yn ddiwyd am dros haner diwrnod, a thystiolaeth yr arolygwyr yw, na chafodd dim erioed ei wneyd yn fwy didwyll. Gwnawd yn rhagorol dda ohono, ac mae y pwyll- gor a'r eglwys o dan rwymau dirfawr i'r cyhoedd am y gefnogaeth a gawsant. Ni bu erioed fwy o gydweithrediad yn ein mysg. Gwirfod ein hanwyl weinidog wedi bod ar y cyntaf yn lied anfoddlon, gan nad oedd yn hollol o'r un farn a ni mewn perthynas a byn; ond teg yw dyweyd na ddangos- odd unrhyw rwystr ar ein ffordd i gario ein ham- cmion allan. Yr ydym bellach wedi ein gwthio i olwg y diwedd, a bydd yn iechyd i'r wlad, ac yn fwy o ieebyd i ninau, pan welom y ddyled oil wedi ei thalu. Nid oes ond cant yn awr yn aros, ac y mae chwarat mawr ynom i ymddadwisgo a myned i'r maes yn erbyn y gweddill, fel y gallom swnio udgorn y jubili cyn diwedd y flwyddyn hon. Ni bu eglwys erioed, debygem ni, yn fwy iach- undeb a chydweithrediad, tangnefedd heb un gwreiddyn chwerw, a 11awn cymaint o ffyniant ag sydd i'w weled yn gyffredin y dyddiau marwaidd hyn. Diolch i bawb. MoRBis JONES (Trysorydd).
LLANELLI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANELLI. Tabernacl.~Ca.iodd plant y Gobeitblu perthynol i'r eglwys uchod durn out a the dydd Mawrth cyn y diweddaf, ac yr oedd yr olwg ar yr orymdaith yn hardd dros ben. Dilynwyd hyny gan chwareu yn y pare, a cbyfarfod adloniadol i I goroni y cwbl, dan lywyddiaeth Mr John Morris. Station-road. Dantwain.-Darfu i ddyn o'r drof hon o'r enw David Oliver gael niweidiau trymion gyda'r trea yn Ngorsaf Cocket. Disgynasai o'r tren, a phan aeth i fyned yn ol iddo, yr oedd wedi cychwyn. Rhoddodd ei droed ar y footboard, a chollodd ei afael, a syrthiodd rhwng y cerbyd a'r esgynlawr. Buasai wedi ei ladd oni bai i'r guard waeddi ar y gyriedydd, ac hefyd daflu olwynion trolley oedd ar yr esgynlawr rhwog y cerbyd a'r break-van, a thrwy hyvy atal y gerbydres ar darawiad. Trueni i'r guard gael ergyd ar ei wyneb gan splintyn o'r trolley, nes ei rwygo yn dost. Oni bai am yr byn a wnaeth, lladdesid Oliver yn ddiamheu. Mae yn obeithiol i dd'od, er yn lied wael. —
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
PELENAU TB YSGYFAINT A'R CYLLA.. Dr. King's Dandelion and Quinine Liver Pi'Ws.—Nid yw y l'elenau rhagorol liyn yn eynwys cymaint aj? ol Mercury, na dim o'r um- rywiol ddefnyddiau peryglus a geir yu ami mewn pelenau hygbys- iadol. Y mae y ifaitli lion yu parhau i gadw darganfyddiad euwoif: Dr lvitiK ar y blaen i'r holl belenau pa. bynag, fel y ieddyKinittetU ddyogelaf, orcu, sryllymaf, a IUWyQi eicr ac effeithiol ar gyfer anhwylderau yr Ysgyfaiiit a'r CyJla, pa uii bynaif ai yu y fturf o auhwylder Geriaida, Tyndra, Diffyy Treuliad, Gwyntogrwydd, Surni, Cur yn y Pen, I'oen yn yr 'isgwyddau, Twymyn daior- phwys yr lioll gorit', Dii'fyg Archwaetlt at fwyd, neu arwyddiou diffyg treuliad yn gyffredinol. Ar werth gan yr holi Gyfiyrw yr .I'j,