Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

TY YR ARGLWYDDI.

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG

I PRIORDY, CAERFYRDDIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I PRIORDY, CAERFYRDDIN. í Cymerodd drawing yr Art Union mewn cysylltiad a'r lie uchod le dydd Iau diweddaf yn mhresenol- deb Councillor Arthur, Caerfyrddin, a Mr John Bevan, Llanelli. Buwyd wrtho yn ddiwyd am dros haner diwrnod, a thystiolaeth yr arolygwyr yw, na chafodd dim erioed ei wneyd yn fwy didwyll. Gwnawd yn rhagorol dda ohono, ac mae y pwyll- gor a'r eglwys o dan rwymau dirfawr i'r cyhoedd am y gefnogaeth a gawsant. Ni bu erioed fwy o gydweithrediad yn ein mysg. Gwirfod ein hanwyl weinidog wedi bod ar y cyntaf yn lied anfoddlon, gan nad oedd yn hollol o'r un farn a ni mewn perthynas a byn; ond teg yw dyweyd na ddangos- odd unrhyw rwystr ar ein ffordd i gario ein ham- cmion allan. Yr ydym bellach wedi ein gwthio i olwg y diwedd, a bydd yn iechyd i'r wlad, ac yn fwy o ieebyd i ninau, pan welom y ddyled oil wedi ei thalu. Nid oes ond cant yn awr yn aros, ac y mae chwarat mawr ynom i ymddadwisgo a myned i'r maes yn erbyn y gweddill, fel y gallom swnio udgorn y jubili cyn diwedd y flwyddyn hon. Ni bu eglwys erioed, debygem ni, yn fwy iach- undeb a chydweithrediad, tangnefedd heb un gwreiddyn chwerw, a 11awn cymaint o ffyniant ag sydd i'w weled yn gyffredin y dyddiau marwaidd hyn. Diolch i bawb. MoRBis JONES (Trysorydd).

LLANELLI.

Advertising