Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD SILOH, PENTRE,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD SILOH, PENTRE, RHONDDA. LLUN Y PASG, EBRILL 14EG, 1884. BEIRNTADAETH AB Y CYFANSODDIADAU RHYDD. IEirHOL A BA-RDDONOIi, GAN CAERONWY. Traethawd-" Dadgysylltiad yr Eglwys a'r Llyw- odraeth yn Nghymru." TEIMLWN fod Pwyllgor Eisteddfod Flynyddol SHoh, Pentre, Rhondda, yn deilwng o barch y genedl Gymreig am eu gwaith yn cynyg gwobr am draethawd ar destyn sydd mor amsero I, ac ar destyn mor boblog- aidd a Dadgysylltiad yr Eglwys Wla 101 yn Nghymru. Addefir gan lawer fod angen goleuo y werin mewn psrthynas i'r Eglwys a'i chysylltiad a'r Llywodraeth, tr budd y Rhyddfrydwyr, y Ceidwadwyr, a pbob Cristion gwirioneddol drwy boll gyrau Gwyllt Walia. Amlwg- yw fod brwydr fawr Armagedon Eglwys Loegr yn Nghymru ger Haw, a dylai y cleddyfau fod yn finiogar gyfer yr ymdreehfa. Cenedlo Angbydlfurfwyr i'r carn yw cenedi y Cymry, ac anhegwch beiddgar ac hollol yw gorfodi y genedl i dalu at gynal offeiriaid ac eglwysi ar eu traed pan na thywyllant ddrws yr eglwys o Galan i Galan. Pregethwyd yr efengyl yn mro ardderchos a barddonol Morganwg yn foreu iawn. Dywed rhai i Paul fod yn ardal St. Donat's a Llan- illtyd Fawr yn pregethu tua'r adear pan oedd Caradog, brenin Siluria, yn garcharor yn Rhufain, a Claudia, y Gymraes, ei ferch, gydag ef. Brytanaidd oedd yr Eglwys y pryd hwnw-yr oe id yn ei phurdeb dihalog. Yn ol fel y gwelir yn y Liber Laudavensis ac awdur- dodau ereill, rhoddwyd tiroedd ac arian gan hen dywysogion dewrion Cymru i'r Eglwys Frytanaidd. Ar ol hyny daeth Augustine yma o Rufain. Gwelwodd Eglwys y Cymry o dan anadl wenwynig Pabyddiaeth, ac ysbeiliwyd hi o'r gwaddoliadau a gafodd. Pan esgynoftd Harri VIII., mab y Cvmro Harri Tudar, orsedd Lloegr, ffraeodd a'r Pab o Rufain, a gwnaeth ei hunan yn Bab bychan ac yn ben yr Eglwys" yn Lloegr a Chymru, ac wrth reswm lladrataodd yntau yr eiddo tirol a'r arian oddiar y Pabyddion, gan dynu yr hen fynachlogyd cedyrn ac oesol i'r llawr yn garneddau. Adeiladodd Harri ei Eglwys ar sylfaen a gochwyd gan waed ei wragedd! A ellir dysgwyl i Eglwys felly lwyddo P Mae gan y Wladwriaeth hawl bendant i'w dad- sefydlu a'i dadwaddoli, ac yna defnyddio yr arian at achosion teilwng-hyrwyddo cerbyd addysg yn mlaen, gwneuthnr gwelliantau gwladol, neu unrhyw beth y gwel y Llywodraeth a'r bobl yn dda a doeth eu gwnenthur a'r cyfryw eiddo enfawr. Mae gan yr Eglwys Wladol ddieon o gyfoethogion, gallem feddwl, yn ei mynychn i'w chadw rhag marw o newyn. Tyner y props sydd yn ei dal i fyny ymaith, a gadawer i'r Lady geisio cerdded ei hnnan Cofier, nid yw yr Anghydffurfwyr yn meddu ar deimlad. digofns at yr Eglwys, ond y maent am iddi gael chwareu teg i fyw yn anrhydeddns ar ei thranl ei hun. Eglwys y lleiafrif o ddigon yw yn Nghymrn, beth bynag am Loegr, ond iddi hi y perthyna y cyfoethogion, a dylent daln eu hoffeiriaid, eu hesgobion, a'u harchesgobion OU llogellau en hunain, ac Did marchogaeth ar sefn y wlad. Cynhyrfer Cymru o Gaergybi i Gaerdydd, o flwyddyn i flwyddyn, hyd nes y tarawo gordd y Dad- gysylltiad yr ergyd a wna lesiant cenedlaethol iddi, ac na etholer yr nn aelod i'r Senedd o Gymru heb ei fod yn bleidiol i hyn, ac yna rhaid cael y cwlwm wedi ei dori. Derbyniwyd tri thraethawd ar Ddadgysylltiad yr Eglwys a'r Llywodraeth yn Nghymru," yn dw,} n yr enwau "Mordecai," "Brysiog," ac "Iconoclast." Dechreuwn gydag Iconoclast.-Cyfansoddiad yn meddu ar gryn lawer o allu. wedi ei ysgrifenu mewn dull celfydd, clasurol, a da. Nid yw yr awdwr wedi cymeryd llawer o bwyll ac arfer amynedd mewn chwilio allan hanfodion y testyn. llhy w hit or miss yw hi gydag ef nid oes ganddo drefn ar ei draethawd-ysg-rifenai y cyfan fel y denai pethau i'w ben, heb aros i fesur a phwyso ei waith, a dwyn barn i fuddngoliaetb. 0 ran hyd, byr ydyw-23 tudalen o note-paper, Pe na buasai ei well yn y jrystadlenaeth, ni pbetrnswn gyflwyno iddo y wobr er hyny. Traetha yn rymus yn erbyn haeriadau pleidwyr y cysylltiad Eglwysig am hynafiieth yr Eglwys, gan chwalu eu gan resymau i'r pedwar gwynt; a difyr yw ei ddesgriliad o rieni yn gwneyd eu plentyn yn offeiriad," beb fod yn y bachgen dueddiad crefyddol nagogwyddiad athrylith at y gyfryw swydd. Efallai y gwnaethai grydd neu deiliwr da. Amcan y tad yw dyrchafn y bachgen, a thrwy hyny ddyrchafu ei ban. Mae ganddo hanesyn dyddorol mewn cysylltiad a It-gvyueyd 'ffeir'sid." Dywedai y diweddar Ddoctor Llewelyn, Prif-atbraw Coleg Llanbedr, iddo unwaith ar ddiwrnod marchnad gyfartbd a nermwraig olygns, ac wedi moessyfarch iddo, a ofynodd pa fodd yr oedd Thomas William Jones yn dyfod yn y blaen yn y coleg. "0, campus," atebai'r Doctor. AIae'n dda genyf glywed," meddai'r wraig. Wedi iddo ef dd'od allan, cewch yr ail fachgen, ac yna yr ieuengaf." "0, yn wir," ebe'r Doctor; oni roddwch un i'r Methodist- iaid ? Wei, na, welwch ch'i," meddai'r wrai?, tydi nhw ddim yn talu, ac ni ddeuant 'chwa th a gwyr i'r merched. Mae geuyf dair ohonyiit, a merched pert ydynt hefyd, yn chwareu'r piano a phobpeth. Gwnant wragedd 'ffeir'adon cavital, welwch ch'i." Man llawer o wir yn y sylw. Cyhoedded" Iconoclast" ei draethawd. Mae yn werth ei ddarllen, yn enwedig yn y crisis presenol, pan y mae bywyd yr Eglwya yn y dafo] I Brysiog.—Traethawd galluog, wedi ei ddosranu yn drefnus. Maey cyfansoddiad hwn yn ffrwyth meddwl ymchwilgar. Dengys pa beth sydd i'w feddwl wrth Ddadgysyllta yr Eglwys oddiwrth y Llywodraeth— atal pob rhodd Seneddol tuag at gynaliaeth unrhyw blaid grefyddol, er ateb dybenion gwladol nea grefyddol; agor drysau ein Prifysgolion, ein colegan, &c. [yr hyn sydd wedi ei wneyd], i holl ddeilia;d Prydain, heb unrhyw bleidgarwch neu ffafr at unrhyw ddosbarth nen eglwys, beth bynag fyddo eu credo fod holl gyllidoedd presenol yr Eglwys Sefydledig a. gyfodant oddiar feddianan cenedlaethol, megys desyman, tiroedd esgobol, &c., i gael eu cymhwyso at unrhyw achosion a farno y Senedd yn oreu fod yr holl gyfreithiau Seneddol a ofynant danysgrifiad i unrhyw erthyglau ffydd, neu ardystiadau mewn perthynas i grediniaeth neu anghrediniaeth grefyddol, i gael en diddymu; fod y deddfan Seneddol a sefydlant frenin nen frenines yr unig ben gorachel ar y ddaear i Eglwys Loegr, a'r rhai a roddant bawl i'r esgobion eistedd yn Nhy yr Arglwyddi, i gael en diddymu; diddymu yr holl lysoedd Eglwystsr, y cyfreithiau canonaidd, a phob nchafiaeth deddfol arall. Dywed yr awdwr y dylai yr Eglwys gael ei Dadsefydlu yn- 1. Am nad yw Eglwys Sefydledig yn nnol a threfniad yr Eglwys Gyntefig. 2. Am ei bod yn anfanteisiol i'r y gweinidogion amddiffyn en hiawnderau. 3. Am ei bod 9 yn niweidiol i ddaioni cyffredinol y Llywodraeth. 4. Am ei bod yn niweidiol i un o brif elfenan cymdeithas, sef gwirfoddolrwydd. Ar ol ymdrin yn feistrolgar ar y penawdau crybwylledig, dengys y buddiant o'r Dad- sefydliad i'r oesau dyfodol. Crea fwy o awydd yn y wlad am wybodaeth sylweddol, diwyllir y wlad mewn moesau, dyrchefir y Llywodraeth i ogoniant dys§leir- iach, creir nefoedd a daear newydd," a'r rhai cyntaf ni chofir am danynt mwyach. Nid yw traethawd Brysiog mor gyflawn ag y dymunasem iddo fod. Dyna ei faL Mordecai.-Traethawd maith a llafurfawr, Ilawn o'r gallii ymresymiadol. Sylla yr awdwr ar ei destyn yn ei wahanol arweddion gyda llygad yr eryr. Arweinia y darllenydd mewn arddull hamddenol yn ol ar y dechreu i'r dechreu er dangos gan bwy, a than ba amgylchiad y cysylltwyd yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Cawn y Pub o Rufain yn ben yr Eglwys yn Lloegr yn yr nnfed ganrif ar bymtheg, ac Harri VIII. yn eistedd ar yr orsedd, ac yr) briod & Catherine o Arragon, gweddw ei frawd Arthur. Ei serch ati yn cael ei dreulio allan, a'i lygaid yn syrthio ar Anne Boleyn, a phenderfynodd ei chael yn wraig; ond ni wnai'r Pab ganiatau ysgariad. Torodd Harri y cysylltiad rhyngddo a Rhufain a Catherine, a sefydlodd Eglwys ei hun, a llofruddiodd ei wragedd Cymer Mordecai" yn ganiataol fod y Dadgysylltiad yn golygu Dadwaddoliad hefyd. Sylwa-l. Y profion o briodoldeb. ac angen- rheidrwydd y Dadgysylltiad yn Nghymru. Niweidiao y cysylltiad. Niweidiodd, a niwieida Ymneillduwyr ac Ymneilldnaeth. Llanwydcarcharana throseddwyr o dan deyrnasiad Harri VIII., Iorwerth VI. a Mari Waedlyd, &c. Dyoddefodd y Cymro John Penry, o sir Frycheiniog, ferthyrdod ar lan y Tafwys, yn St. Thomas Waterings, Llundain, am 5 o'r gloch, ar y 29ain o Fai, 1593; diswyddwyd 1,500 o offeiriaid dnwiol yn amser Iago VI.; gorchymodd Siarl II. godi cortt Oliver Cromwell o'i fedd, a'i grogi yn Tyburn! Sonia am yr hyn sydd yn myned i gadw yr Hen Fam- pump i chwe' miliwn o bunau bob blwyddyn, a hyny oherwydd ei chysylltiad a'r Llywodraeth. Miloedd o bunan bob blwyddyn yn myned i gadw ei hesgobion— X4,200 yr un i Esgobion Llanelwy, Bangor, a Llandaf, a X4,500 i Esgob Tyddewi, il5,000 i Archesgob Canterbury, ^610,000 i Es^ob Llundain. Felly gwelir fod "y grejft offeiriadol" yn costio yn ddrud i logellau y Prydeiniaid. Gorfodir y ffermwr Cymreig tlawd i dalu yn flynyddol o X12 i i £ 15 am bob .£100 yn dal 'ffeir'ad! Niweidia y Llywodraeth-niweidia dd'ylanwad y Frenines Victoria, yr hon a ystyrir yn ben yr Eglwys. Ni chafodd ryddid i ddewis ei chrefydd erioed. Pe hoffai fyned i wrando Dr Parker, nen Spurgeon, neu rywan arall yn pregethu, nis gall tyned beb gael ei chyhuddo o fradwriaeth yn erbyn llwon ei choroniad Niweidia y cysylltiad yr Eglwys ei hun. Byddai yn beryglus i neb o'i mewn ddyweyd "Amen" heblaw y clochydd a'r offeiriad. Traetha Mordecai yn helaeth ar Groesineb y cysylltiad i sefyllfa dyn ac i Air Duw," "Gwendidau y profion a ddygir yn erbyn y Dadgysylltiad." 2. Ar yr effeithian daionus a ellir ddysgwyl o'i Dadgysylltiad. Rhyddid i'r Eglwys ei hun ac i'r Ymneillduwyr. Gwirfoddol- rwydd. Cydymfturfiaeth a rheolau Duw ac fig egwyddorion sylfaenol Cristionogaeth. Heddwch. 3. Sicrwydd y Dadgysylltiad. Can sicred a bod Tabor yn y mynyddoedd a Carmel yn y m6r," efe a ddaw, os nad yn oes Gladstone, yn oes Chamberlain, os caiff efe fyw. Traethawd gwir allnog yw eiddo Mordecai." Mae yn dihysbyddu ei destyn, yn chwilio i mewn i'w ansoddion yn fwy felly nag eiddo Brysiog," er cystal ei eiddo ef. Y mae traethawd "Mordecai" yn ddigon o werth gwobr o .£10 mewn Eisteddfod Genedlaethol. Hoffem weled eiddo Brysiog" allan o'r wasg, a chredwn y dylai Pwyllgor Eisteddfod Siloh, Pentre, gyhoeddi traethawd Mordecai" ar frys, nen ei gynyg i awdnrdodau y Liberation Society. Gwnai lea dirfawr i ben a chalon pob Cymro, yn enwedig yn swn taranan y Dadgysylltiad. Mordecai yw y goreu, a rhodder iddo y wobr. D. C. HARRIS (Caeronwy). Mumbles, Ebrill 4, 1884. "Mordeoai" ydoedd Mr E. H. JenkiDS (Ifan Afan), Rock, Cwmafon, Taibach. 1

TAITH 0 LUNDAIN T GANOLBARTH…

Advertising