Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

YMYLON Y FFORDD. -

ATHROFA FFRWDYAL All HANESION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ATHROFA FFRWDYAL All HANESION. GAN SILCRYDD. PENOD XI. FE fa yn arferiad gati bregethwyr yr Athrofa hon, i gynal cymanfa flynyddol yn yr eglwysi Annibynol yn y gymydogaeth hon a'r rhai cylchynol, sef yn Crugybar, Hermon, Llansad- wrn, Salem, Capel Isaac, Abergorlech, a Ffald- ybrenin. Amcan arbenig y cymanfaoedd hyn oedd argyhoeddi pechaduriaid, bywhau cref- yddwyr, ac i roddi mantais i'r pregethwyr ieu- aine i arferyd eu doniau, i glywed eu gilydd, ac i roddi hyfforddiadau llesiol i'w gilydd ar gyfer y dyfodol, os byddai lie i wneyd hyny. Gwnaeth y cyfarfodydd hyn les mawr i'r pregethwyr i gynyddu eu gwybodaeth mewn duwinyddiaeth, i fod yn fwy coetk a chyflawn eu hiaith, yn fwy hyf i lefaru y gwirionedd, ac yn fwy selog yn eu gwaith, ac yn fwy adnabyddus o'u gwran- dawyr. Cyn myned i'r cyfarfodydd hyn yr oeddynt am wythnos wedi taflu ymaith eu Horace, Virgil, Cicero, Homer, a Demosthenes, a myned yn awyddus i ddarllen gweithiau y prif feistri mewn duwinyddiaeth, megys eiddo John Calfin, Dr J. Owen, President Edwards, o'r America; Andrew Fuller, W. Paley, Joseph Butler, Dr James M'Cosh, Dr Edward Williams, Matthew Henry, Geiriaduron Ys- grythyrol Calmet, Kitto, a rhai duwinyddol Buck, W. Jones, Penybont, &c., &c. Yr oedd yma lafario tuhwnt i'r cyfFredin i ddarllen, ac i gael gafael mewn drychfeddyliau gwerthfawr ar gyfer y dyfodol oedd yn dyriesu atynt. Byddai amryw ohonynt a letyai yn Gwarygorof, yn pregethu yn uchel a doniol ar Jiyd glanau yr afonydd, a'r cymydd, megys ar lanau afonydd