Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFOD CHWARTEROL LLEYN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD CHWARTEROL LLEYN AC EIFIONYDD. Cynaliwyd y cyfarfod diweddaf yn Morfa- bychan ar y dyddiau Llun a Mawrth, Mehefin 23ain a'r 24ain. Y Gynadledd am 2 o'r gloch y dydd cyntaf. Daeth nifer dda o frodyr yn nghyd ag ystyried fod y Gymanfa a'r Cyfarfod Chwarterol mor agos i'w gilydd. Cymerwyd y gadair gan y Parch W. B. Marks, Cricieth, y Cadeirydd am y flwyddyn. Decbreuwyd trwy ddarlien a gweddio gan Mr McLean, Porth- madog. Wedi darlieri cofaodion y cyfarfod blaenorol a'u cadarnhau— 1. Penderfynwyd i'r cyfarfod nesaf fod yn Moeltryfan, yn ol y gylchres. 2. Fod pob eglwys sydd yn bwriadu gwneyd cais am gynortbwy o Drysorfa. Jubili y Cy fun deb, i anfoa eu cais i law yr ysgrifenydd, y Parch O. Jones, Pwllheli, cyn neu ar y dydd olaf yn Gorphenaf. 3. Yr Achosion G-weiniaid. Eiu bod yn llawen- hau fel Cynadledd fod yr eglwysi o'r diwedd yn deffro i ant'on eu casgliadau at yr achos teilwng yma; fod y drysorfa ar hyn o bryd mewn sefyllfa addawol. 4. Fod y Gymanfa sirol y tro nesaf i'w ebynal yn Porthmadog. Aed trwy y materion amgylchiadol yn bur rwydd, a throwyd y Gynadledd i ymdrin a phethau mwy ysbrydol crefydd. Siaradwyd ar wahanol agweddau yr achos yn ein mysg yn dda ac i hwrpas gan Mr J. Jones, Braichysaint, Porthmadog; Mr R. Griffith. Fourcrosses; y Parch D. Jones, Capelhelyg. ac ereill. Terfyn. wyd y Gynadledd ddymunol hon trwy weddi gan y Parch T. Jones, Tabor. Swm casgliad yr eglwysi at Drysorfa yr Un- deb ydoedd £2 16s 6c casgliad yr eglwys yn Morrabychan ddydd y cyfarfod, ti Os 7}o cyfanswm, L3 178 l|c. 2

Y MODDION CYHOEDDU3.

CYFUNDEB DWYREIIf "(tOT.,…

ATHROFA FFRWDYAL All HANESION.