Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
HYN A'R LLALL 0 AMERICA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HYN A'R LLALL 0 AMERICA. GAN Y PARCH B. DAVIES, TREO'RTTF, Perthyna i bob gwlad ryw bethau, lleoedd, a phersonau, nad all yrnwelydd a'r cyfryw fforddio bod heb eu gweled, ac yn fynych y mae y'mwel- wyr yn gwybod mwy am ryfeddodau lleoedd na'r rhai a fyddo yn byw yn y cyfryw. Teimlais n'ad allaswn ymadael a dinas New York heb weled li phrif ryfeddodau, os yn bosibl, ac un o fy nymun- iadau penaf oedd cael gweled a chlywed y Parch Henry Ward Beedher, a phenderfynais gael OEDFA YN NGHAPEL BEECHER. Cyrhaeddais Plymouth Church yn nghwmni y iboneddwr caredig Mr S. R. Jones haner awr cyn :amser dechreu yr oedfa. Bum yn chwilio goreu igallwn am le cysurus i weled a chlywed y cyfan. 'Ond yr oeddwn yno yn rhy gynar i gael y fraint ihono, y rhai a ddelai i fewn ar ol i'r lleoedd lanw a safai y fantais oreu am hyny. Cyn i'r amser ddyfod i ben, daeth Mr Beecher i fewn, ac yr oedd yn hawdd ei adnabod wrth ei ddarlun. Dywedwyf wrtbyf i mi fod mor ffodus a, bod yn bresenol ar y Sabboth hynotaf yn y flwyddyn. Yr oedd yn gymundeb yno, ac yntau yn derbyn 83 i gyflawn aelodaeth, ac yn bedyddio 11 ohonynt., Yr oedd yn olygfa swynol iawn. Dechreuwyd y gwasanaeth drwy i'r cor ganu anthem, a'r peth a dynodd fy sylw fwyaf oedd gweled y cor mor gryno ar foreg Sabboth. Pe buasai chwi, Mri Gol., neu Dr Rees, Abertawy, yno, diamheu mae yr organ ysblenydd a welsech y peth cyntaf. Pe na = buaswn yn rhyfygu, dywedwn i mi glytved gwell canu gan gor — lawer gwaith. Nis gallaf lai na mieddwl y byddai yn dreat i gerddorion sydd wedi 'eu magu i fyny o'u cryd i ddysgu cerddoriaetb, i iglywed rhai o gorau Cymru yn canu, rhai beb. 'erioed gael amser a manteision i ddysgu, ond! lllafur 'oriau ladratawyd 'oddiar amser gorphwys.. i Yr oedd y gweddill o'r canu yn gynulleidfaol, ac; yr oadd golwg hyfryd ar y gynulleidfa luosog pan ya ca«u mawl i Dduw. OfJrymwyd gweddi. | afaelgar at Dduw, a chafwyd pregeth ragorol ar' | 1 Pedr ii. 25. Dywodai un o'i wrandawyr cyson. jj nad oedd i fyny ag ef ei hun y boreu hwnw. Yr a oedd y bregeth yn fwy o ddatganiad o'i gredo,. I nag o egluro a chymhell. Dywedodd bethau godidog. Yr oedd y platform yr hwn sydd yn. a fawr iawn, wedi ei orchuddio & blodau, ac ar ddiwedd y gwasanaefch estynai Mr Beecher bouquet i bob un a dderbyniodd y boreu hwnw. Cefais yehydig o eiriau ag ef ar y di wedd, a dywedodd wrthyf fod yn dda ganddo bob amser weled Cymro. Mae dau reswm am hyn, meddir 1. Mae j Cymry wedi sefyll yn ffyddloniddoyn eidywydd garw. 2. Dywed fod gwaed Cymreig yn lhedeg drwy ei wythienau. Er nad oedd y gwasanaeth i fyny a fy nysgwyliad yn mhob peth, bydd genyf adgofion cynes am yr ymweliad a Plymouth Church. Treuliais dair wythnos yn agos i efengylu i'm cydgenedl yn nyffryn y Wyoming—Cwm Rhon- dda, America-a gwelais yno luoedd, nas gallwn eu i rhifo braidd, o ben lowyr Morganwg. Gan fy tmod wedi byw yn mhlith glowyr Morganwg, ac wedi bod yn dyst o gynifer yn ymfudo allan ou Ifwiad, a'r rhan fwyaf i'r parthau yma, yr oeddwn yn telmlo cryn ddyddordeb yn fy ymweliad a'r lleoedd yma. Pan ddaethum i fewn i Scranton, gwelais rai ar y platform ag oeddwn yn eu had- nabod. Hefyd, y mae yn anhawdd disgyn mewn un man yn America na welir dynion Anon yno, fel y gelwir hwy. Maent yn troi yn mhob rhan o fasnach braidd, a dywedir bod enwau Cymreig ar lawer ohonynt, disgynyddion y caethion. Fe fedr rhai ohonynt siarad Cymraeg. Safai un ohonynt unwaith, meddir, ar blatform Station Scranton pan y deuai nifer o ymfudwyr i mewn o New York gyda'r tren. Gwelsant y dyn du ar un- waitb, a dichon bod hwnw yn dduach na'r cyffredin ohonynt. Tynodd sylw yr ymfudwyr, a dylaswn ddyweyd mai Cymry oeddynt. Nesaodd y dyn du atynt, a. deallodd hwynt yn siarad, a I gofynodd, "O'Berdar, ie fe, fecbgyn ?" "Ie," meddent hwythau yn ofnus. 0 ba le yr ydych chwi wedi dyfod," gofynent hwythau. "O'Ber- dar," meddai yntau. II Wel, sut mae y lliw yna arnoch chwi ?" "-0, yr wyf fi yma er's 15 mlyn- edd," meddai ef. Gyda hyny penderfynasant droi yn ol tuag adref, a chyrhaeddasant C--ch yn ddyogel. Na ddigied Gohebydd Aberdar wrtbyf am yr hanes hwn felly y cefais i ef. Mae inasnach yn araf iawn yn bresenol yn y gweithfeydd glo, er byny, dywed y glowyr eu bod yn enill mwy nag a enillent yn Nghymru, felly mae y fantais yn fawr, gweithio llai ac enill mwy. Er hyny, yn sefyllfa bresenol y gweithfaoedd, ni chynghorwn neb i ddyfod allan yma. Ymddengys fod y flwyddyn hoa yn waeth, oherwydd ei bod yn flwyddyn etholiad yr Arlywydd, ond oddieithr bod masnach wedi gwaethygu llawer yn Nghymru y misoedd diweddaf, cynghorwn bawb iaros yna hyd nes y setlo pethau yma. SEFYLLFA CRBPTDD. Gwelir yn amlwg yma bod llawer mwy o aa- hawsderau gan yr eglwysi Americanaidd i ym- wneyd a hwy nag sydd gan eglwysi yn Nghymru. Alae y Cymry yn wasgarog iawn yma, ac y mae y ddwy iaith yn ymrafaelio a'u gilydd. Yehydig j awn o fanau sydd nad yw yr eglwysi Cymreig yn I d^'oddef i raddau oddiwrth y Saesoneg. Mae y gwtUnidogion mewn llawer man yn gorfod parotoi yn y' ddwy iaith. Mae hyn o angenrheidrwydd yn lle^teirio gweithrediadau yr eglwysi, yn gystal a mwyhJiu lIafur y weinidogaeth. Mae yma lawer i hen veteran yn yr eglwysi, wedi bod yn amlwg yna yn ei ifyddlondeb i achos Crist. Nid cea dim yn fwy pwydferth ni, gweled dyn yn cario ei egwyddorion sanctaidd i ganol anfanteision bywyd, ac yno yn sefyll yn ddiymod i'r gwirion- edd. Marwaîdd ar y cyfan yw yr achos—pe gwnelai pawb sydd ar enw crefydd, sydd yn ym- fudo, weithio allan gymeriad Cristionogol pur, newidid gwedd cymdeitbas yn fnan. Mae an- ffyddlondeb rhai felly yn digaloni y rhai sydd yn meddwl am ei enw Ef."
PETHAU NAS GrWTR PAWJB.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PETHAU NAS GrWTR PAWJB. Marwolaeth M. Tissot. — Bu farw yn ei dy ei hun yn Rue Journon, boreu dydd Mereher, Gorphenaf 2il, 1884, o'r liver complaint. Ganwyd ef Awst 28ain, H828, a gorphenodd ei yrfa yn 56 mlwydd oe £ Yr oedd yn ysgolhaig campus, wedi treulio boreu-ddydd ei fywyd mewn diplomatic service. Penodwyd ef yn Secretary of the French Embassy in London, yn 1869 ac yn French Ambassadorjyn Constantinople, yn 1880; ac wedi iayn daeth i Lundain yn yr un capacity, ac yn ddi- weddaf oil aeth i'r byd arall ar hyd ffordd yr ikoll ddaear," wedi ymddiosg o'i honours i gyd. A dyna ddiwedd pob dyn J/Jv, General Todleben farw. Ymladdodd frwydrau poethion yn ei oes, ond y gelyn diweddaf" a'i gorekfygodd yn dragywydd. Yr oedd yn lied ganolig o iechyd er's cryn amser. Aeth i Soden, ger Wiesbaden, gan feddwl enill nerth wrth ym- drochi yn nyfroedd iachusol y lie, ond yr oedd angeu yn y crochan golchi!" Mai 20fed, 1818, y daeth,ef i'r byd, a Gorphenaf, 1884, yr ymadaw- odd ohono, newydd orphen ei 68 mlwydd oed. Cyrhaeddodd enw mawr yn mysg milwyr, ond Duw a wyr faint o werth oedd ei enw yn annibyn- ol ar y got goch." Os yn filwr da i lesu Grist, gwyn ei fyd ef. Tyfodd ei enwogrwydd milwrol fel mushrooms o'i gwmpas. Yn ystod y Crimean War, cafodd glod mawr fel amddiSynydd Sebas- topol, a dyrchafwyd ef cya pen blwyddyn o fodyn Gadben i Major-General. Ac yn mrwydr 1877, gosododd, warchae ar Plevna, am yr hyn y cafodd y teitl o Count r £ iG(fle,«aen. Apwyntiwyd ef wedi hyn yn Governor of Odessa, gydag awdurdod gaethaf y Czar i wasgu aa1 wynt ffroenau y Nihilists. Ac yn Mai, 1883, gwnaed ef yn Go- vernor of Wilna in Lithmania. Erbyn beddywmae wedi gadael y byd yma, heb fod neb o'i fewn yn gwybod pa dderbyniad gafodd gyda Duw. Y mae mater pwysicaf pob dyn tuhwnt i guess pob dewin. y' Oholera yn Ffrainc. — Y mae echo y gair cholera yn dychrynu cyfandir Ewrop, a doctoriaid a phapyrau newyddion yn cynghori a rhybuddio pawb i ochelyd y manau lie mae. Yn Marseilles a Toulon, y mae ef yn gwneyd yr havoc waethaf. A dywed Dr Bronardeb, penaeth yr Health Commission," mai yr Asiatic cholera ydyw, a'i fod yn fwy peryglus, ac yn waeth am ledu na cholera 1865. Rhyw ddau bob dydd oedd yn meirw ar y cyntaf, yna wyth, ac wedi hyny pump ar-hngain! Gwneir pob ymdrech i'w ddofi yn y lleoedd uchod, a phob darpariaeth i'w ragflaenu mewn lleoedd newyddion, ond ilio y mae, a myn ei ffordd er gwaethaf Iluaws tref. Aeth i mewn i Valette, tua phum' milltir o Toulon, a man ben- trefi ereill, ac nid oes neb ond Dl1 w a wyr faint o'r Ffrancod sethrir o dan garnau y march barnol. Y mae chwythiad ei ffroenau, a rhoch ei weryr- iad yn arwyddo ei fod yn ffyrnigo, ae na fyn ei droi yn ol er neb. A beth pe mytiai ddyfod trosodd i Loegr, a sangu a'i garnau baraol ar dir Cymry; at bwy yr aem am ymwared? Onid a'i Duw yr ymofyn pobl ?" Mae ar bawb ofn y Cholera.—Nid oes na thlawd na chyfoethog, boneddig na gwreng, duwiol nac annuwiol, heb fod yn ddarostyn-gedig i ddychryn- fau rhagddo. Y mae mwy o'i ofn ar jganoedd nag sydd arnynt o ofn Duw. Yehydig o arwydd- ion ymostwng ger bron Duw sydd ar drigoliou Marseilles a Toulon maent yn dianc wrth yr ugeiniau rhag ofn yr epidemic, yn llosgi bonfires yn heolydd y dinasoedd, ac yn dyfeisio pob ystum i lonyddu cynddaredd gynddeiriog ei ysfau marw- ol. Oes rhywun yn ceisio Duw P Mae gwyr Marseilles wedi troi Pharo-Chateau yr Empress Eugenie yn Cholera Hospital, a chodi quarantine building yn ymyl Perpignau, i osod trafaelwyr dan brawf am saith niwrnod, heb fod dyfais yn mhen, na dychymyg yn nghalon neb ohonynt am adeil- adn ty, na synagog, na chathedral, na theml, i addoli "Duw yr holl ddaear," yr hwn sydd ag awdurdod ganddo i ladd a bywhau y neb a fyno. Ac nid yw teyrnasoedd ereill yn fymryn gwell na Ffrainc. Ni cbailf un Ffrancwr gerdded gwlad, na llong Ffrengig ddyfod i borthladd, heb yn gyutaf iod dan five, eight, or fifteen days quaran- tine. Neb yn gofyn, Pa le mae Duw y farn ?" Y DYN HYSBYS.
Cyfarfodydd, &c.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cyfarfodydd, &c. WATFORD.-Er's saith mlynedd yn ol, gwnawd cyfnewidiadau helaeth o swmpas, ac yn y capel uchod, fel y mae yn awr ju gyfieus a phrydferth. Costiodd y gwaith arnryw gamVedd o bunaa, ond trwy gyfraniadau cyson, a rhoddion blynyddol pob gwr ewyllysgar ei galon, y mae yr holl wedi eu talu yn dawel, ae heb gymborth na bazaar, nag eisteddfod, na the parti, na dim o'r eyfryw bethau, a nos Fawrth a dydd Mereher diweddaf cynaliwyd y Jubili, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn Dr Rees, Abertawy; M. Jones, Tynewydd; a T. Hhondda Williams, Dowlais. Cafwyd gwenau ncfoedd a daear. Y gweinidogion yn Ilefarn fawrion weithredoedd Daw," nid mewn geiriau dena o ddoeth- iueb dynol, ond yn eglurbad yr Ysbryd a nerth. Y mae yr achos yn y lie yn fwy lleivyrchus nag y mae wedi bod yn nghof yr hynaf, ac fel y sylwodd yr hybarch Ddoctor, ei fod ef yn gwybod am y lie er's yn agos i 50 mlynedd, ac nis gwelodd edoed gymaint o a wyddion bywyd a gwir gynydd, a dymunai o galon am i'r gogonia-nt Dwyfol i aros ac i fendithio ymdrech- ion yr eglwys a'r gweit)idog -Ioagi. PENYCOED, MALDWYN. Llawenydd genyrn hysbysu fod golwg lewyrchus ar yr achos yn v He uchod, dan weinidogaeth y Parch E. L. Mason. fen- derfynodd y bob! ieuaine yn y lie i gael offeryn cerdd i aynorthwyo y canu yn y lie, am eu bod yn credu, fel y Salmydd, y dylid cael offeryn cerdd teiWng yn y cysegr, a dydd Sul, Gorphenaf 6ed, agorwyd organ. harmonium hardd CC i CC, gyda 2 knee pedals, expression, a llawenydd genym'ddyweyd ei fod wedi troi allan yn llwyddiant perifaith. Cyn ei gael yr oeld rhai o'r hen frodyr ac yehydig ragfarn yn ei erbyn, ond nr 01 clywed ei seiniau soniarus, a'r cyfeillion ienainc yn cael y fath hwyl i ganu, fe ddarfu y rhagfarn i gyd. Pregethwyd yn hynod o efteithiol gan y gweinidog am 2 a 6 o'r gioch. Arweiniwyd y canu gan Mr Davies, Pant. BRYNSEION, TONMAWR.-Y Sabboth a'r Linn, Mehefin y 6fed a'r 7fed, cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfaffod blynyddol. Y pregethwyr eleni oeddynt y Parchn D. G D ivies, Glyn-nedd; D. Morgan, Resol. ven a W. Thomas, Rock. Cawsom gyfarfod neillduol o dda, cynuileidfaoedd lluosog, a phrejefchau rhagorol. Bendith yr Arglwydd a'idilyno J. D. EBEN EZ ER. TONYP AND Y.-C ynali wyd eyfarfod pre^ethu blynyddol yr eglwys hon ar y dyddiau Sul a Hun, Gorphenaf 6ed a'r 7ed. Y gweinidogion gwa- hoddedig oeridynt y Parchn J. Thomas, D.D., Liver- pool W. Davies, Llandilo; a J. Thomas, Merthyr. Y mae y cyfarfodydd arbenig hyn yn allu mawr er daioni yn yr eglwysi. Deffroant y nerthoedd sydd mewn cydweithrediad a haelioni; meithrinant y grag- usau sydd yn dwyn ymddiriedaeth a ehydoddefiad- grasusau sydd yn cryfhau brawdgarweh ac undeb e-flwysig. N'd hyny yn unig, y maent hefyd yn ach. lysuron grymus i dynu allan o'u hymneilldnaeth diofal yr esaeulus, y didglyd, a'r llesg o ysbryd sydd br n ymddatod o'u rhwymyn ejlwysig, i dderbyn cyffroad newydd. Y maent yn foddion cymhwys i gynal i fyny Giistionogaeth iach, gyhyrog, gydnertb, mewn golygiadau ac athrawiaethau, yn mysg ein cenedl. Y mae baich trwm o ddyled ar eglwys Eben- ezer. Ychwanegwyd ato yn ddiweddar drwy godi adeiladau newyddion cysylltiedig a'r addoldy. Y mae yr egiwys yn awr mewn sefyllfa dra chysnrus, yn dangos deffroad a chynydd. 'Amcan y frawdoliaeth bebach ydyw tyuu i lawr gymaint ag a fedront o'r baich selydlog, gan lwyr gredn eu bod yn ymgymeryd a dyledswydl sydd wedi cynefino yn rhy hir a s-yuion hwyrfrydigr^ydd. Darparwyd y cyfarfod i osod anog- aeth ar midfau haelfrydig vr aelodau. Y mae Mr Richards, y gweinidog, yn unol a'i ysbryd brwd a gweitbgar, wedi amlygu ymrod iad canmoladwy iawn yn na yn a'r ymdrech hon. Ymwelodd 4'r holl aelodau eglwysig, ac amryw o'r gwrandawyr yn eu cartrefi i gym he II arnynt y ddawn dda o haelioni. Cafodd addewidion am gyfraniadau rhagorol. Golygir i'r cyf- arfod jjynyrchu o lei if £ 100. Yn ystod y eyfarfodydd dyo elwyd tuag £88.. Felly, gellir ymddiried v cyf- lawnir ynpen yehydig ddyddiau, yr holl addunedau Hyrlerir ychwyddir y swmcyn y i £120. Yr oedd y cyfarfod o'i ddechreu i'w ddiwedd, mewn ma- terion, grym traddodiad, dylanwad, a bywyd, yn gwbl i fyny a'r amyiylchiad. Pregethodd Dr Thomas bum' gw iith, Mr Davies dcirgwaith, a Mr Thomas, Merthyr, ddwywaith. Cafwyd cynulliadau hynod dda, a thywydd ffafrio!.