Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

FFORESTFACH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FFORESTFACH. Y Cyfarfod Chwarterol.-Cynaliodd y gwahanol ysgolion a berthynant i Bethlehem, Cadle, eu gwyl chwarterol dydd Sul, y 6ed o Orphenaf, pryd y cymerwyd rhan gan luaws o adroddwyr a chan- torion. Canodd Parti Cadle, o dan arweiniad y brawd William Davies, Weig, bedair o d6nau o Odlau'r Efengyl" yn swynol iawn, ac hefyd Cor yr Ystrad, dan arweiniad y brawd W. Jones, ieu., Mynyddbach. Darllenwyd i glywedigaeth cyn- ulleidfa luosog yn yr hwyr draethawd buddugol D. Glanyrafon Charles ar Gydraddoldeb Cref- yddol." Y traethawd hwn oedd y goreu allan o dri yn Eisteddfod y Llungwyn diweddaf. Byddai yn dda genym ei weled yn dyfod ag ef allan drwy y wasg mewn rhyw ffordd neu gilydd. Allan ag ef, frawd. Cawsom gyfarfod dymunol iawn, ond nid oedd y llafur gymaint ag yr arferai fod. Ysgol Cadle ddaeth allan gryfaf y tro hwn. Ym- drechwch ati bawb ohonoch. Yn absenoldeb y gweinidog, y Parch J. Davies, cymerwyd i fyny yr arweinyddiaeth gan ein hanwyl frawd ieuanc W. Silas Charles, yr hwn sydd gyda ni yma am dro yn awr o Aberystwyth, a gwnaeth ei waith yn ganmoladwy dros ben. Llwyddiant iddo. M ULTUM IN PARVO. —4.

CAPEL-Y-WIG A'R CRUGIAU.

CAEEPYEDDIN.

Advertising

COF-LINELLAU

PENILLION DIRWESTOL.

MERTHYE TYDFIL.

SIRHOWI.