Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
FFORESTFACH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
FFORESTFACH. Y Cyfarfod Chwarterol.-Cynaliodd y gwahanol ysgolion a berthynant i Bethlehem, Cadle, eu gwyl chwarterol dydd Sul, y 6ed o Orphenaf, pryd y cymerwyd rhan gan luaws o adroddwyr a chan- torion. Canodd Parti Cadle, o dan arweiniad y brawd William Davies, Weig, bedair o d6nau o Odlau'r Efengyl" yn swynol iawn, ac hefyd Cor yr Ystrad, dan arweiniad y brawd W. Jones, ieu., Mynyddbach. Darllenwyd i glywedigaeth cyn- ulleidfa luosog yn yr hwyr draethawd buddugol D. Glanyrafon Charles ar Gydraddoldeb Cref- yddol." Y traethawd hwn oedd y goreu allan o dri yn Eisteddfod y Llungwyn diweddaf. Byddai yn dda genym ei weled yn dyfod ag ef allan drwy y wasg mewn rhyw ffordd neu gilydd. Allan ag ef, frawd. Cawsom gyfarfod dymunol iawn, ond nid oedd y llafur gymaint ag yr arferai fod. Ysgol Cadle ddaeth allan gryfaf y tro hwn. Ym- drechwch ati bawb ohonoch. Yn absenoldeb y gweinidog, y Parch J. Davies, cymerwyd i fyny yr arweinyddiaeth gan ein hanwyl frawd ieuanc W. Silas Charles, yr hwn sydd gyda ni yma am dro yn awr o Aberystwyth, a gwnaeth ei waith yn ganmoladwy dros ben. Llwyddiant iddo. M ULTUM IN PARVO. —4.
CAPEL-Y-WIG A'R CRUGIAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CAPEL-Y-WIG A'R CRUGIAU. Cynaliwyd cyfarfodydd i neillduo Mr John Hope Evans, o Goleg Aberhonddu, i gyflawn waith y weinidogaeth yn y lleoedd uchod, Mehefin 24ain a'r 25ain. Dechreuodd y cyfarfodydd yn y Crng- iau am 2 a 6 y dydd cyntaf, ac ar yr ail ddydd yn y Wig am 9.30, 2, a 6. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parchn W. Evans, Aberaeron O. Thomas, Beulah; R. Thomas, Penrhiwgaled; T. Jones, Cilcenin Proff. Rowlands, Aberhonddu; Job Miles, Aberystwyth; D. Adams, B,A., Hawen O. M. Jenkins, America; W. P. Huws, B.D., Beulah; E. C. Davies, Llanon T. Johns, Cil- cenin H. H. Williams, Llechryd; WI. Jones (M.C.), Pontsaeson; a E. Evans (M.C.), Pen- nant. Yr oedd hefyd yn bresenol y Parchn J. M. Prydderch, Wern W. A. Lloyd, Cwmbran, Mynwy; W. Griffiths, Maenygroes J. Griffiths, B.D., rheithor Llangranog E. R. James (W.), America; D. Hughes, Gwndwn; — Roderick (B.), Ceinewydd, &c. Cafwyd cyfarfodydd hynod o luosog a llewyrchus. Hyderwn y bydd eu dylanwad yn aros er da- ioni i'r eglwysi a'r ardal yn gyifredinol. THOS. EVANS, Ysg.
CAEEPYEDDIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CAEEPYEDDIN. Llwyddiant Athrofaol.- Y mae yn dda genym allu cofnodi fod ysgol y Parch J. Cerridfryn Thomas wedi bod yn llwyddianus iawn yn ar- holiad diweddaf ymgeiswyr i Athrofa Caerfyrddin. Yroedd Mr Michael E. Thomas, o eglwys Trelech, a Mr D. M. Davies, o eglwys Siloam, yn mhlith yr wyth a dderbyniwyd i'r coleg allan o un-ar-hugain o ymgeiswyr. Mae hyn yn adlewyrchu clod ar yr ysgol a'r athraw, Mr Thomas.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Canwch YN DDA! Siakadwch YN DDA!- Mae Doughty's Voice Lozenge wedi cael ei Vorthfawrofi yn fawr gan glerigwyr, cantorion, ac enwogion eroill am yn agos i 40ain mlynedd. Kliydd glirder a gloewder i'r Uais. Jenny Lind.—" Y mae yn bleser mawr genyf, mor bellagy mae fy mhrobad yn myned, i gadarnhau y dystiolaeth sydd mor gy- ftredmol yii ffair y Lozenges a barotoir genych chwi" (Miles Doughty). 6c, Is, 2s 0c, 5s. a .Hs,-vn rliydd fcrwy y llythyrdy, 7c, Is 2c, &c. Goiynwch l'cli Cyfferydd am danynt—NEYV15ERY a'i FEIBION' 1, King Edward-street, Llundaiii, E,C. Sefydlwyd vu v uwyddyn 174(i
COF-LINELLAU
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
COF-LINELLAU Am y diweddar Mary Lewis, I'dtntygarn, Llanglyd- tven, sir Gaerfyrddin, chwaer h !11Wf yr ysgrifenydd. Bu farw Mawrth 7fed, 1883, yn 71 mlwydd oed, a chladdwyd hi yn mynwent Hebron, ar saflc yr hen gapel, yn ol ei dymuniad. YN ngweryd dae'r,—dyna 'nglired i,-ni ro'ed 'R un hoffach na Mari; 0 chwaer fach, chwerw i fi, Y gallaf un, dy golli. 0, fy chwaer fy chwaer anwylaf, P'odd y lluniaf alar-gan ? Iuc a dagrau gydgymysgaf Ar y papyr-leni glan. Cryn .'m llaw iii rth geisio llunio Llythyrenau 'i henw hi; Mari 0, y swyn sydd ynddo, Ddena fy serchiadau i. Hwn yw'r enw goreu garaf, Ar y ddaear-d, na p'am Dyma enw fy chwaer liynaf, Dyma hefyd enw mum Yr un enw a'r un anian, Yn eu bywyd oediynt hwy 0 'r gorfoledd oedd yn Nghanaan, Pan y cyd-gyfarfu'r ddwy Hir y cofiaf am y ddyrnod, Gefais gan y llythyr du Am yr ingoedJ a'r brawychdod Barodd angeu fy chwaer gu Methwn dori'r set gan bryder, Bu y ilythyr ar y bwrdd Heb ei agor am beth amser, Methwn yru'r ofnau i ffwrdd. Ofer chwilio'r fro a'r moelydd, Na'r Garnwen am dani mwy; Ofer holi yn Llwynymynydd, Ofer troi i gonglau'r plwy'; 0 fewn muriau yr hen gapel, Tawel huno mae mewn hedd A thynghedu wnaf yr awel Fod yn dyner iawn o'i bedd. 0, fy chwaer aeth drwy dymhcstloedd Geirwon ar y fordaith bell; Ond mae heddyw uwch dryghinoedd, Yn ardaloedd y wlad well," Ce sio dysgu rhai o nodau, 'R anthem yma y bu Mair Ond mae'r bysedd heddyw'n chwareu Ar hyd dauau'r delyn aur 0, fy chwaer ni ddeuwn ninau Ar dy ol o un i un Yn y teulu gwneir adwyau, 0, mor frau yvr einioes dyn Er fod rhai yti awr ar wasgar Yma a thraw ar led y byd, A rhai'n huno yn y ddaear, Udgorn Duw a'u geilw'n nghyd Llynlleifiad. CARNALAW.
PENILLION DIRWESTOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PENILLION DIRWESTOL. FE wawriodd dydd ar Gymru, Do fe ddo, do fe ddo, Daeth" gwanwyn teg i wenu, Do fe ddo. Mae'r haul yn gwych gynesu, Y blodau sydd yn gwenn, A'r adar wnaethant ganu, Do fe ddo, &c.; A'r moddwon wnaethant sobri, Do fe ddo. Ca'dd pleidwyr dewrion sobrwydd Do fe ddo, &c., Dros gadw dydd yr Arglwydd, Do fe ddo, Y goncwest ar y gelyn Yn wrol gwnaethant erfyn, Daeth iddynt glod diderfyn, Do fe ddo, &e. Cawd achos canu'r delyn, Do fe ddo. Hen Bacchus gadd ei glwyfo, Do fe ddo, &c., A gorlu iddo gilio, Do fe ddo. Bydd ef cyn hir fel Arbri, Oherwydd ei ddrvgioni, Mewn carchar yn ymboeni, Dyma'r gwir, &c.; A Seion fydd yn canu, Dyma'r gwir. Mae'r faner fach i fyny, Riban glas, &c. A'r fyddin sy'n cynyddu, Ar y maes. De'wch unwch, wyr a gwragedd, A phawb sy'n cam rhinwedd, Heb ble trwy'r De a'r Gogledd, Deuwch oil, &c.; Gwnewch uno mewn gorfoledd, Deuwch oil. De'wch chwithau sydd yn meddwi, Dewch i gyd, &c., Yn dyrfa fawr heb oedi, Dewch i yyd; Gadewch y moch a'r cibau, A phob rhyw wag bleserau, Cewch roesaw hwyr a boreu, De'wch i gyd, &c. Ffarweliwch a'r tafarnau, De'wch i gyd. HEN Ddirwkstvvk.
MERTHYE TYDFIL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MERTHYE TYDFIL. YSffol Sul Yitysgau.—Prydnawn dydd Llun cyn y diweddaf, cafodd y plant sydd yn dal perthynas a'r Ysgol uchod eu treat blynyddol. Yr oeddis wedi penderfynu eu bod i gael eu cludo gyda'r ger- bydres i Pontsarn, ac yno i gael gwledd o de a bara brith. Golwg lied ddilJlllon oedd y brodyr yn welad ar y tywydd yn y boreu i gymeryd y plant i'r wlad, ac o ganlyniad trefnasantyn ddoeth i gynal y to yn y capel; ond gan i'r gwlaw gilio tua haner dydd, a bod y plant a'u bryd ar Pont- sarn, cariwyd y penderfyniad cyntaf allan, a chafodd tua 155 o blant brydnawn o fwyniant a'u gwala odea bara brith. Cyfranogodd lluaws o aelodau yr Ysgol ac ereill hefyd o'r danteithion. Gweithiodd y boneddigesau oedd wrth y byrddau ac yn gofalu am y dwfr yn galed iawn, a haedd- ant ddiolchgarwch gwresog am eu ffyddlondeb. Bu rhai brodyr ohonom hefyd yn ddiwyd yn nghyflawniad o'u dyledswyddau. Dychwelodd pawb yn weddus tuag adref wedi treulio pryd- nawn hyfryd. Y Bwrdd Ysgol.—Cynaliwyd cyfarfod pythef- nosol y bwrdd dydd Gwener diweddaf, o dan lyw- yddiaeth Mr W. L. Daniel. Un o faterion pwys- icaf y cyfarfod oedd penodi ar aelod yn He Mr Thomas Evans, Treharris. Mae iechyd Mr Evans wedi bod mor wael yn ystod y flwyddyn ddiweddaf -fel yr analluogwyd ef i bresenoli ei hun ond yn anaml iawn yn nghyfarfodydd y bwrdd ac er fod oi iechyd gryn dipyn yn well yr wythnosau di- weddaf, eto i gyd teimlai mai doethineb fuasai iddo roddi ei sedd i fyny, gan nad oedd fawr gobaith iddo allu cymeryd ei ran o waith y bwrdd am lawer o amser eto. Felly derbyniwyd ei ym- ddiswyddiad gyda theimlad gofidus mai afiechyd oedd yn peri hyny. Penderfynwyd yn unfrydol ar Mr Henry Evans, Plymouth, i fod yn aelod yn lie Mr Thomas Evans. Nid yn hawdd y gallasai y bwrdd wneyd dewisiad mwy boddhaus gan y trethdalwyr. Mae Mr Henry Evans wedi bod yn aelod o'r bwrdd o'r blaen, ac yr oedd yn un o'r aelodau mwyaf gweithgar a defnyddiol, a diau y bydd yn gaffaeliad nid bychan i'r bwrdd i gael ei wasanaeth eto fel yn y gorphenol. Gwrthododd y bwrdd ganiatau benthyg ei Ysgoldy yn Merthyr Vale i gynal gwasanaeth crefyddol ar y Sabboth i gangen (split) aeth allan o eglwys y Bedyddwyr yn Aberfan. Mr Thomas Williams, o Ysgol Uwchraddol Ystradyfodwg, fcddewiswyd o blith amryw ereill i fod yn feistr cynorthwyol yn Ysgol Abermorlais. Mae holl ysgolion y bwrdd yn tori i fyny am eu holidays diwedd yr wythnos hon. Bydd y cyfryw i barhau am fis. Cyfarfod Blynyddol Salem.—Cynaliwyd hwn y Sabboth diweddaf. Pregethwyd boreu, prydnawn, a'r hwyr gan y Parch W. I. Morris, Pontypridd. Pregeth tvyd hefyd yn y prydaawn gan y Parch Henry Richard (B.), Capel Isaf, Merthyr. Cafwyd pregethau rhagorol a chynulleidfaoedd lluosog. Gwibdeithiau.-Yr ydym yn nghanol adeg yr excursions. Cychwynodd tair oddiyma dydd Sadwrn diweddaf-dwy yn y boreu, y naill i Gaer- dydd a'r llall i Abertawy a rhwng y ddwy ymad- awodd rhai miloedd o bersonau o'r dref am y dydd. Gweithwyr Plymouth a'u teuluoedd oedd yn gwneyd i fyny y nifer luosocaf o'r eyfryw. Da genym iddynt fyn'd a d'od heb i un ddamwain ddygwydd iddynt, fel y mae yn dygwydd yn ami y dyddiau hyn. Cychwynodd ezcursion hefyd am Lundain am 11 o'r gloch nos Sadwrn, i ddychwelyd boreu Mawrth. Gwyliau Te Blynyddol yr Ysgolion Sabbothol.- Mae y rhai hyn yn flodeuog iawn ar yr adeg yma o'r flwyddyn. Dydd Llun diweddaf, bu ysgolion Salem (A.) a Bethel (B.) yn Pontsarn—cyrchfan boblogaidd iawn yn yr haf. Bu Ysgol y Taber- nacl (B ) ar yr un amser yn mwynhau eu hunain yn Penydarren Park. Yr oedd yn ddiwrnod hafaidd rhagorol, a deallwn fod yr holl ysgolion wedi treulio diwrnod hapus iawn.
SIRHOWI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
dim arno yn fwy na'r gorphenol, ei fod ef wedi ymserchu ac ymgylymu a'r eglwys nas gallai feddwl am ei gadael. Gallwn dystio yn wyneb araeth Mr Rees ei fod yn dyweyd ei brofiad gwir- ioneddol a diragfarn, am y gwyddom ei fod wedi ei demtio droion i ymadael a'r eglwys am eglwysi 11 el ereill, ond yma mae ei galon, ac yma y dymunwn ninau iddo dreulio ei oes, a gobeithio y caiff oes bir. Nid ydyw Mr Rees ond dyn ieuanc eto, ac y mae yn un o'r pregethwyr blaenaf a feddwn yn y cymydogaethau hyn. Nid oes nemawr o'n cyfar- fodydd casglu ni yn myned heibio heb ei fod yn gweinyddu ar yr achlysur. Y mae yr eglwys, er yr holl symud a'r ymfudiaeth, yn rhifo 350 o aelodau, heblaw y canoedd gwrandawyr. Y mae yn hyfrydwch i weled esgynlawr yr eglwys hon ar nos Sul, pan y mae yr holl ugeiniau o fechgyn a merched ieuainc y lie yn casglu ateu gilydd mor lluosog. Dymunaf bob llwyddiant i'n parchus weinidog a'r frawdoliaeth yn y dyfodol. Faenolog.