Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
LLANELLI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANELLI. UNDEB YR ANNTBYNWYK CYMREIG. Mae tri chant a phymtheg wedi anfon eu henwau, a pharhau y nraent i ddyfod i mewn. Mae genym ddigon o ddarpariadau ar gyfer pawb, ac ymdrechwn wneyd pawb yn gysurus. Dymunir ar yr ymwelwyr o'r Gogledd i ymholi yn ngorsafoedd y reilffyrdd am y cheap returns fwriedir roddi dydd Sadwrn, Gorphenaf 26ain, i'r Deheubarth. Yr ydym yn ofni na cheir returns dydd Llun, yr 28ain cyfisol, Mae y Great Western Railway yn bwriadu rhoddi cheap return tickets dyddiol i Lanelli dyddiau yr Undeb o Merthyr, Aberdar, Hirwaun, Glyn nedd, Castellnedd, Port Talbot, Whitland, St. Clears, Llanymddyfri, Llangadog, Llandilo, Brynaman, a Chaerfyrddin. Myner gweled y bills yn y stations am y manylion. Metbasom a chael dim gwell. Rhai anhawdd i'w gymud yw cwmDiau mawrion y reilffyrdd yn N ghymru. Gobeithio y rhydd cyfeillion yr Undeb bob cyhoeddusrwydd am y trains rhad hyn ag a allont. Pe byddai llawer yn gwybod am y cyfleusdra dalient arno, er mwyn gwrando Mr HENRY RICHARD, A.S., yn traddodi araeth, yn nghyda mwynhau hufen doniau Gogledd a Dehau. Clywsom fod araeth ardderchog i gael ei thraddodi o Gadair yr Undeb. Bydd pregethu dydd Mercher, Gorphenaf 30ain, drwy y dydd yn y capeli. Dysgwylir gweinidogion o'r Gogledd ac o Loegr i breg- ethu. Gobeithio y cawn bresenoldeb yr Ar- glwydd gyda'r gweision, er toddi calonau celyd pechaduriaid, ac adfywio yr eglwysi. YR YSGRLFENYDDION.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
SING WELL! SPEAK WELL — Doughty s Voice Lozenge has been gratefully appreciated by thousands of clerical, musical, and other celebrities for nearly 40 years. It imparts to th« voice clearness of sound and brilliancy of tone. Jenny Lind.—" 1 have much pleasure in confirming, as far as my experience extends, the testimony already so general in favour of the Lozeiisres prepared by you (Miles Douuhty). (id, ls.2sed.ss, and lis—post free, 7d, Is 2d, &e. Ask yoiir cheniistforthem.-F. NEW BEltY and SONS, 1, King Edward- street, London, EU. Established A.D. 17.H;. "Jim, a iyldi di yn chwyrnu pan y byddi yn cysgu ? "Ni fyddal bytb, canys arosais i fyny yn effro un noson e." mwyn i mi gael gwybod hyny!
YR ARGLfYDDI A'R W L A D.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR ARGLfYDDI A'R W L A D. MAE yn eglur fod y pendefigion a'r bobl wedi dyfod i wrthdarawiad ac nid oes neb a all ddyweyd pa le y bydd i bethau der- fynu. Nid yw yn ymddangos fod yr Ar- glwyddi yn deall teimlad y wlad yn y mater yma., ac y maent yn g'wenieitbio iddynt eu hunain nad yw Ty y Cyffredin yn cynrych- ioli yn deg faro yr etholwyr- arno. Ond hwynt-hwy yn uuig sydd heb ddeall, a rhaid fod eu dallineb yn fawr, os nad ydynt yn gweled i ba le y mae eu cyndynrwydd yn eu harwain yn anocheladwy. Mae teimlad y wlad wedi codi yn uchel iawn, a'i llais i'w glywed mor eglur fel nas gellir camsynied ei ystyr. Mae eisoes luaws o fanau wedi pasio penderfyniadau cryfion yn condemnio gwaith yr Arglwyddi yn gwrthod mesur sydd yn perthyn yn uniongyrchol i Dy y Cyffredin, a hyny ar ol i'r Ty hwnw am fis- oedd ei ddadleu, a'i basio gyda mwyafrif mawr; ac y mae parotondau ar droed i gynal cyfarfodydd mawrion ereill, er rhoddi cyfie i'r bobl ddatgan eu barn a chyn yr a pythefnos arall heibio, bydd yr boll wlad wedi ei cbynhyrfu drwyddi; ac nid y cwest- iwn bellach ydyw, a ydyw mesur helaethiad y bleidlais i basio, onda ydyw Ty yr Ar- glwyddi i gael ei oddef yn hwy i fod ar ffordd deddfwriaetb ymarferol ac angen- rheddiol ar y wlad ? Nid yw yr Arglwyddi eu bunain yn proffesu bod yn erbyn y mesur —er fod yn eglur wrth areitbiau llawer ohonynt, nad ydynt yn eu calon yn ei gymeradwyo-ond ni feiddiant addef eu bod yn ei erbyn ac nid yw y bleidlais a gar- iwyd ganddynt yn uniongyrchol yn wrthod- iad ohono, er ei bod felly hefyd i bob amcan ymarferol; ond yr hyn y llechant yn ei gysgod ydyw y dylai ad-drefniad yr eistedd- leoedd ddyfod i mewn yn gyfamserol, ac na ddylid penderfynu y naill heb wybod dar- bodion y liall, fel y ceir yr byn a alwant yn fesur cyflawn, Gvvyr pawb nad ydyw dadleu felly yn ddim ond ystryw er troi y mesur o'r neilldu. Mae eu cynddaredd yn lawr na buasai Mr GLADSTONE yn tori y Senedd i fyny, ac yn apelio at y wlad, ac y mae clyw- ed Arglwydd SALISBURY yn son am apelio at y bobl yn un o'r pethau mwyaf chwertb- ingar ond fel y dywedodd Mr GLADSTONE yn briodol iawn, nid oes hawl gan y Ty Uchaf i ofyn i gynrychiolwyr y bobl apelio at y wlad. Pe buasai y mesur wedi ei wrthod gan Dy y Cyffredin, buasai raid ar uuwaith ofyn barn yr etholwyr ond y mae yr etholwyr trwy eu cynrychiolwyr wedi datgan eu barn, a pha hawl sydd gan Dy yr Arglwyddi, na ddewiswyd gan y bobl, ac nad ydyw mewn un modd yn gyfrifol iddynt i ofyn datodiad y Senedd ac apeliad at y wlad. Gwnaeth Mr GLADSTONE fynegiad llawn, mewn araeth ailuog o'r cwrs a fwriada ei gymeryd. Gwnaeth hyny yn gyntaf i gynulliad lluosog o'i blaid ei hun, y rhai a'i derbyniasant gyda'r brwdfrydedd mwyaf, ac a'i eefnogasant yn ei holl gynlluniau a'u holl galon; a gwnaeth hyn wedi hyny ar gyfarfyddiad y Senedd y noson hono. Mae yn peuderfynu rhoddi i fyny yr holl fesurau mawrion y meddylid unwaith am eu pasio y Senedd-dymhor presenol, oddieithr y peth- au hyny y mae yn rbaid eu gwneyd er cario z;1 y llywodraeth yn mlaen. Dirwynir y Senedd bresenol i fyny yn fuan, a gelwir hi yn nghyd eto yn yr Hydref i ail basio mesur yr etholfraint, a'i anfon i fyny etc i Dy yr Arglwyddi, er rhoddi ail gynyg iddynt; a dysgwylir y byddant wedi deall teimlad y wlad erbyn byny, fel na feiddiant ei droi heibio. Yr ydym yn teimlo yn ofidus fod hyn wedi peri i rai mesurau pwysig gael eu taflu o'r neilldu, ac yn mysg ereill mesur Addysg Ganolraddol i Gymry ond nid oes help, yr oedd ein Llywodraeth wedi eu gwasgu i'r lath sefyllfa nad oedd dim arall i'w wneyd, ond fel y dywedodd ein cyd- wladwr parchus Mr HENRY RICHARD, yn ngbyfarfod MR GLADSTONE a'i blaid, mai yr unig beth a all gymodi meddwl Cymru a'r anffawd, ydyw y gobaith y bydd hyn yn achlysur i ddwyn Ty yr Arglwyddi i ryw drefn fel na byddo yn bosibl i'r fath Dy angbyfrifol, yn yr hwn y mae y rban fwyaf yn aelodau trwy etifeddiaeth, ac nid trwy deilyngdod, i rwystro deddfwriaeth fuddiol ac angenrheidiol i'r wlad. Traddododd yr hen arwr JOHN BRIGHT araeth yn y cyfarfod dan sylw, yr hon oedd yn deilwng ohono yn nyddiau ei nerth, a dangosodd nad yw ei syniadau wedi newid dim am Dý y Bendefigaeth rhagor yr hyn ydoedd ddeugain mlynedd yn ol. Ofnus iawn oedd Mr GOSCHEN, a glasdwraidd iawn ydyw fel Rhyddfrydwr. Cynghorai bawb i ymbwyllo, a pbeidio dyweyd geiriau caledion am y pendefigion. a gobeithiai ua byddai iddynt edrych yn mhellach na'r weithred yma o'u heiddo. Dywedai Mr BRIGHT, ei fod yntau yn gobeithio y byddai iddynt oil ymddwyn yn anrhydeddus, ond nad oedd yn dysgwyl 11 ai nag i'r wlad gyff- roi cryn lawer yn wyneb ymddygiad yr Arglwyddi, ac ychwanegai ei fod ef yn dys- gwyl iddynt edrych yn mhellach na'r weith- red yma, at gyfansoddiad y Ty oedd yn meddu y fath allu i ddrygu, ac atal deddf- wriaeth ymarferol. Cyfeiriodd at eu bym- ddygiad yn 1831 a 1832, ac wedi hyny yn 1866 a 1867, ond nas gallesid goddefyn hwy y fath ymyriad oddiwrth y fath gynull- eidfa. Mae yn eglur fod llawer o'r Arglwyddi wedi eu taflu i wewyr blin trwy yr amgylch- iad. Nid oedd y mwyafrif a gawsant yn erbyn y mesur y peth y dysgwylient a phleidleisiodd amryw o'u plaid eu hunain yn eu herbyn. Bu yr Esgobion am un- waith yn gall yn eu cenedlaeth. Ni phleid- leisiodd ond un yn ei erbyn ac yr oedd yn) amryw yn pleidleisio o'i blaid, er i nifer fwy gadw draw rhag pleidleisio o gwbl. Dichon eu bod yn ofui am eu lleoedd, a'u bod yn dechreu dysgu doethineb. Nid yw y drws wedi eu gau yn erbyn yr Arglwyddi fel nad allant eto ail ystyried yr hyn a wnaed ganddynt. Bu gohebiaeth rhwng arweinwyr y ddwy blaid ar yr awr olaf, yr bon a wnaed yn gyhoedd gan Mr GLADSTONE, a pharodd ei waith yn ei gwneyd yn gyhoedd gynhwrf mawr. Myneut hwy mai cyfrinacbol holiol ydoedd, a chy- buddent ef o ddatguddio cyfrinach ond dadleuai ef na ddeallodd ef o gwbl mat cyf- rinachol ydoedd. Mae yn sicr y buasai y canlyniad yn wahanol pe buasai cynwysiad yr ohebiaeth houo yn hysbys i'r holl Dk. Awgrymid i'r Arglwyddi i basio y mesur, ac i'r ddwy blaid ymuno i ofyn i'w MAWRHYDI i alw y Senedd yu nghyd i gymeryd ad- drefniad yr eisteddleoedd i fyny, fel y buasai pob sicrwydd am yr hyn a elwid yn fesur cyflawn. Nid yw yn rby ddiweddar hwyr- ach i hyn eto, ac y mae rhybudd o gynygiad i'r perwyl wedi ei roddi. Ond beth bynag' a ddaw o hyn, y mae sylw y wlad wedi ei alw at y gwrthuni o fod T £ yr Arglwyddi, nad oes gan y bobl na'u cynrychiolwyr un- rhyw lais yn ei ffurfiad, a Tby nad ydyw un amser mewn cydymdeimlad Tig angenion ac amgylchiadau y wlad, yn meddu hawl i J atal mesurau buddiol a phwysig, y rhai y mae cynrycbiolwyr y bobl wedi cytuno ar- nynt, a'r rhai y mae y bobl eu hunain am flynyddoedd wedi llafurio am danynt. Nis gall y fath Dy barbau yn hir yn mysg pobl C) oleuedig, mewn gwlad rydd heb fyned o dan gyfnewidiad trwyadl yn ei gyfansoddiad ac yn sicr yr ydym wedi gweled dechreuad y diwedd. -♦
YR WYTHNOS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mary Griffiths, wedi bod yn parotoi yn Caer- dydd. Mor bell ag y gallwn gofio yn awr, yr ydym yn meddwl yn sier mai hon yw y Gymraes gyntaf i matriculatio. Os nad ydym yn gywir, byddai yn dda genym gael gwybod yn amgen. Awgryma y llwyddiant hwn yn bur eglur fod cyfnod addysgol newydd wedi dyfod ar Gymru. Gwnaeth y colegau enwadol wasanaeth mawr, ond bellach bydd yn rhaid iddynt gyfyngu eu haddysg i dduwinyddiaeth, neu fethu yn eu gwasanaeth i'r genedl. Mae pob mantais gan y colegau uwchraddol, ac oddiyno mwyach y gellir dysgwyl am ein bysgolion Z) Z, mwyaf diwylliedig. Y cbydig iawn sydd wedi pasio yr arholiad hwn o ysgolion can- olraddol Cymru. Buout hwythau, ac, mewn llawer ardal, maent yn parhau owasanaeth ma-wr ond bydd yn rbaid iddynt hwythau, gan mwyaf, roddi ffordd i'r Middle Class Schools a sefydlir trwy fesur y Llywodraeth, a buasai hwnw yn dyfod yn ddeddf yn fuan oni buasai ystyfnigrwydd a melldith Ar- glwydd Salisbury. Pan orpbenir y cynllun addysgol i gyd, bydd Cymru yn gyfochrog i genedloedd ereill, ac yna ni fydd raid i ni ofni na chywilyddio.