Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

" PECHADURIAID PREGETHWROL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PECHADURIAID PREGETHWROL Y CWRDD CHWARTEROL. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,—Ymddangosodd yr hyn a ganlyn ar y penawd uchod yn un o'r pipyrau Cymreig yn agos i bedair blynedd ar ddeg yn ol. Byddaf fi ac ereill yn dra diolchgar i chwi am roddi goleuni dydd iddo nn- waith eto, ac yn sicr os dygwydd i Llygad Clust Calon weled yr ail argraffiad ohono yn eich papyr clodwiw, ni chynygir gwrthwynebiad ganddo. Hwyr- ach i'r ILth hwn ar ei ymddangosiad cyntaf wneuthur rhyw les gobeithio y bydd iddo wneuthur mwy y tro hwn. Mae y pechaduriaid a ddesgrifir yma yn ami iawn yn ein dyddiau ni. PECHADUR DrwrGiEDia. I. I Nid oes dyn cyfiawn ar y ddaear a wna ddaioni, ac ni phecha,' meddai y gwr doeth ac fe fydd hyn bellach yn gystal gwirionedd yn ngenau dyn ffol ag oedd gynt yn ngenau Solomon. Diau mai y dosbarth o bobl mwyaf pur eu moes, mwyaf hnnanymwadol eu teimlad, mwyaf duwiolfrydig eu hysbrydyn y byd, yw pregeth- wyr yr Efengyl. Y mae safon eu swydd, pe byddai dim arall, yn -en rhwymo i fod felly. Gall y cymeriad- au mwyaf anfoesot lenwi bron unrhyw gylch arall yn y byd yma. Gall y meddw, y godinebwr, y cablwr, y penrhydd, &c., fod yn tfarmwr, yn siopwr, yn saer, yn of, ie, hyd yn nod yn Seneddwr yn nghynghor y wlad, neu yn frenin ar ei gorsedd hi. Diau mai y pur a lan- wai y cylchoedd yno. oreu, ond fe oddefir y lleill i'w llenwi. Ond am breeethwr yr Efengyl, y mae yn rhaid iddo fod o gymeriad moesol diamheuol da. Ond nid amddiffyn cymeriad moesol pregethwyr yr Efengyl yw fy ngwaith i ynawr; 'does dim eisieu gwneyd hyny ac nid tynu eu cymeriad moesol ilawr fedrwn i ddim gwneyd hyny; ond nodi rhai o frychau eu cy. meriad swyddol yn ea perthynas &'r Cwrdd Chwar- terol. Y mae Cwrdd Chwarterol yn cael ei gynal gan vr AnnibynAyr yn mhob sir yn Nghymru dysgwylir presenoldeb holl weinidogion y sir yno yn ddieithriad (os bydd y sir i gyd yn yr Undeb), oddigerth fod rbyw rwystr neillduol ar eu ffordd. Dysgwylir hwy i fod yn glust a thafod yn y gynadledd, ac yn rhywbeth tebyg yn y cyfarfodydd pregethu dilynol. Ond with sylwi ac ymwrando yr ydym yn deall fod yma dri dosbarth o bechaduriaid ydynt yn rhwystr i bethau gael eu cario yn mlaen yn y modd mwyaf dymunol. A dyna sydd yn dra chwerthinus, y mae y naill a'r liall o'r pechad- uriaid yn synu at bechodau eu gilydd. yn fwy nag at eu pechodau eu hunain. Y mae un yn torsvthu, yn synu, yn teimlo yn ofidus uwchben ei frawd onerwydd ei an- ffyddlondeb yn y peth yma, a'r brawd hwn yn synu yn 01 ato yntau am anfFyddlondeb mewn rhywbeth arall. Cawn enwi y tri dosbarth pechaduriaid "1. FDiweddar-ddyfodiaid.—Bydd Iiawer o'r cwrdd, a rhanau pwysig o'r cwrdd wedi myned drosedd cya y

EISTEDDFOD SILOH, PENTRE,…