Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
ANERCHIAD AT YR YSGOL SABBOTHOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ANERCHIAD AT YR YSGOL SABBOTHOL. GAN Y CWMWL TYSTION." ANWYL FAM,—Y mae y derbyn:ad caredig a rodd- aist i'r ddau argraffiad cyntif o'r "Cwmwl Tystion," yn nghyda'r galwad parhaus sydd am dano, a minau heb yr un i ateb i'r gofyn (er fod y ddau argraffiad yn wyth mil o gopiau), yn fy nghymhell i'w argraffu y drydedd waith ac yr wyf wedi ychwanegu ato ha' es Caleb a Josua. Y mae holwyddoregau, ond eu defnyddio, y cyfryngau goreu i gyfranu gwybodaeth i'r ieuanc. Yr holwr, ao nid yr areithiwr, ydyw yr athraw goreu i hyfforddi ei ysgolheigion mewn gwybodaeth. Y mae yr holwr medrus yn gallu arwain ei ysgolheigion i esbonio eu hunain y rhan fyddo dan sylw, a hyny yn llawer mwy llwyddiarms na thrwy artifcliio iddynt. Hefyd, gall yr holwr da, wedi ymddarparu at ei waith, gadw sylw y Losbarth yn well at y wersna phe byddai yn areithio iddo. Gan mai holwyddoreg hanesyddol yoyw y "Owmwl Tystion," dylai yr holwr a'r atebwr ofalu am ddarllen yr hanes yn y Beibl yn flaenorol; ac y mae y cyfeiriadau sydd ynddo yn fanieisiol i hyny. Yr wyf fi yn tybied y byddai yn fuddiol fod mwy o holi ae ateb yn ein cyfarfodydd pen chwarter nag y sydd. Bu yr Ysgol Sabbothol, mewn rhai manau, yn diystyru holwyddoregau am eu bod yn waith dyn- ion-mwy dewisol ganddynt benodau o'r Beibl, a gadael y gofynion a'r atebion heb yr un ffurf neillduol 0 otynton ae atebion. Gall y cyfryw ddyweyd, Dyn- ion ydym ninau hefyd." Ond ymddengys wrth y galw sydd am holwyddoregau yn y dyddiau hyn fod yr hen ffordd dda" yn dyfod yn fwy cymeradwy. Yr wyf wrth gyfl-vyno i ti yr argraffiad hwn (ar ol edrych drosto yn fanwl, ac ychwanegu ato), yn dymuno myn- egi y gwnaf yr un defnydd eto o hanes y proffwydi, os byddaf byw ,.c iach. Y mae y gwasanaeth hwn wedi rhoddi i mi hyfrydwch mawr yn y gwaith, ac yr w)f yn dymuno ilesau ereill. Dywed Solomon wrthym oil, Nac ymad a cliyfraith dy fam."—Yr eiddot yn wir, Llangiwc, Brynaman, B.S.O. JOHN JONES.
DECHREUAD CODI DEGWM TRWY…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DECHREUAD CODI DEGWM TRWY RYM CYFRAITH. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDTGION,—Tybiwn y byddai yn fanteisiol ar yr adeg bresenol i'r hyn a ganlyn, a gymerwyd o Weithiau S.R., gael ymddanjros yn y TYST A'R DYDD. Bernir mai o gylch diwedd yr wytbfe i canrif y sefydlwyd y degwm fel treth ar y wlad—yn amser cyf- lawn rym y bwystfil seithben cornin2-yn amser cy- nhyrfiad effeithiolaf y dirgelwch uffernol—yn amser awdurdod eangaf y Babilon foethus—yn amser yrn- drwsiad gwaethaf y wraig borphoraidd—yn acrscr ffieiddiaf rWYSi y butain tawr—yn amser meddwdod gwaethaf y fam bvt, inaidd-yn amser enciliad p' llaf gogoniant y gwirione id-yn amser drygsawr tryinaf ffieidd-dra y dd lear-yn amser diddymiad llwyraf iawnderau dynoliaeth— yn amser tywyllwch duaf y dymhestlog nos-ac yn amser archollion dyfnaf Priod- asferch yr Oen, y dechreuwyd trais-godi y degwm trwy rym cyfraith ae ni ddycbymygir byth y filfed ran o'r drygau ofnadwy a achoswyd yn gaclynol i hyny. Agorwyd ar unwaith lifddorau eangaf yr anghyfiawn- der eonaf. Dychymygwyd yn ddicheilgar yr hudol- iaethau erchyllaf i dwyll-rwydo y cenedloedd. Dyrys- wyd holl Ewrop am oesoedd gan svvyngyfareddion y dezwm, a rhaid addef fod yr Ymherodraeth Frytan- aidd wedi cydgrymu i'r llwch dan orthrymder yr iau, a bod yr Eglwys Sefydledig wedi drachtio hyd feddwdod o gwpan y ffieidd-dra. Pabyddol a choelgrefyddol iawn yw yr hen ddeddfau ar y rhai yr honir fod v degwm yr, seiliedig. Rhoddii y pwys mwyaf gan ddegymwyr ar yr hen charter can- lynol o eiildo Ethelwulph y Samson Yn gymaint ag i ni weed yn ein hamser losgi¡¡,uau rhyfeloedd, difrod- iad ein ¡:rolud, ac anrheithiad ein tir ac yn gymaint ag i ni oddef y gorthrymderau erchyllaf oddiwrth eenedl- oedd barbaraidd, fel cosb am ein bai, nes bron ein difethfa,ac am fod amseroe Id enbydus yn awr yn crogi uwch ein pen, yr wyf fi, Ethelwulph, Brenin y Sacsoniaid Gorllewinol, yn ol cynghor fy esgobion a gwyr raawr fy rheyrnas, yn penderfynu ar un f nldyg- iniaeth o rinwedd cyffredinol, sef ar i mi offrymu i Dduw, ac i'r fendigedig Forwyn, a'r holl saint, ryw gyfran o'm teyrnas, sef y dclegfed ran, trwy ddeddf dragywyddol, ac i'r rhan hono fod yn rhydd bvth oddi- wrth bob gwasanaeth, treth, a theyrnged, er iechyd fy enaid, a maddeuant fy mhechodau.Sefydlwyd hyn yn eglwys Sant Pedr, yn Winchester, ger bron yr Allor Faw,ynynwyddyn 855 o ymgnawdoliarl ein Har- glwydd, er anrhydedd Sant Mair, yr ogoneddus For- wyn, Mam Duw a Sant Michael yr archangel; a'r bendiijedig Pedr, tywysog yr Apostolion yn nghyda'n beudigaid Dad, y Pab Gregory a'r holl Saint." D-D. O-N.
CYMDEITHAS DDARBODOL GWEINIDOGION…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMDEITHAS DDARBODOL GWEINIDOGION YR ANNIBYNWYR YN NGHYMRU. At Olygivyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,-Oaniate r.h i mi alw sylw y rhai y perthyn iddynt at y fymudiad uchod. Mae cynllun a rheolau y Gymdeithas fwtiededig yn nwylaw ein gwein- idogion er's amryw fisoedd bellach, ac y mae amryw weJi ysgrifenu i gymeradwyo yr amcan mewn golwg, a lluaws mawr yn datgan eu parodrwydd i ymuno, os eir yn mlaen. Mae y cyfarfod i benderfynu hyny i'w gynal, ftl y gwelir oddiwrth y circular, yn Ysgoldy Soar, Merthyr, am ddatt o'r gloch prydnawn dydd Gioener, Gorphenof25ain. Meddyliwyd unwaith am ei gynal me.'n man cariolog rhwng y De a'r Gogledd, gan y bwriedir i'r gymdeithas gynwys y ddwy dalaeth ond barnwy 1 y byddai y drilul i gyrhaedd y cyfryw le gymaint, fel na ellid dysgwyl ond nifer fechan yn nghyd, ac y byddid yn debycach o gael cyfarfod cryf a chynulliad lluosog mewn man canolog yn y Deheudir. Credwn y cydnebydd pawb fod Merthyr yn un o'r manau mwyaf canolog i nifer luosog allu ei gyrhaedd yn y De. Pendeifynwyd drachefn ar y dyddiad uchod er rhoddi mantais i frodyr o'r Gogledd, a fyddai eisoes yn dyfo.1 i lawr at y Sabboth o flaen cyfarfodydd yr Undeb yn Llanelli, i allu bod yn bresenol. A chymer- yd pob peth i ystyriaeth, gwelir, ond odid, fod y lie a'r aieg yn d:a manteisiol er sicrhau cyfarfod cryf a dylanwado'. Deal!er yn glir, a chofier gan bawb nad yw y cyn- llun a'r rheolau a ddanfonwyd allan ond darbodol (provisional), ac mai yn Merthyr y penderfynir yn derfynol ar yr oll. Y mae yn bwysig iawn, gan hyny, i bawb o'r brodyr sydd yn teiisilo dyddordeb yn y symudiad, ac a allo ei gwneyd yn gyfleus, i fod yno. Diau fod llawer fuasai yn caru bod yn bresenol, ac yn awyddus am i rywbeth gael ei wneyd yn y cyfeiriad hwn, ond nas gallant ei gwncyd yn gyfleus i ddyfod. A gaf fi ddymuno ar y cyfryw i ysgrifenu ychydig o'u m' ddyHaa ar y mater o hyn i hyny ? Yn awr yw yr adeg i siarad ac ysjrifenu, oblegid bydd yn rhaid i'r cyfeillion a ymgyferfydd yn Merthyr ddyfod i ryw benderfyniad terfynoi ar y symudiad. Fel yr awgrvmais yn barod, y mae yn dda genyf allu hysbysu fod ugeiniau rai wedi datgan eu parodrwydd i ymuno, ac y mae swn torf yn dyfod. Gadewch i ni wneyd ymdreeb deg ac egniol am unwaith eto i fforfio cymdeithas all ddyfod yn ffynonell cysur i ni a'n teuluoedd mewn tywydd garw. Glandwr. R. THOMAS, Ysg. pro tem.
" DYDDIADUR YR ANNIBYNWYR."
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DYDDIADUR YR ANNIBYNWYR." At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION ,-Mae Mr David Davies, ysgrifenydd yr eglwys Annibynol yn Witton Park, wedi anfon ataf yn swyddogol i fyneji fod Mr Joseph Jones yn breg- ethwr cynorthwyol yn yr eglwys hono, ac yn dymuno arnaf osod ei enw yn y "D vddiadur" nesaf. Bwr- iadaf wneyd hyny pan ddaw yr adeg. Gan y bwriada Mr Jones dalu ymweliad a rhai rhanau o Gymru yn fuan, dymunir arnaf wneyd yn hysbvs yn y dystiolaeth uchod ei fod yn bregethwr rheolaidd, fel na byddo i neb dynu camgasgliad am nad yw ei enw yn y "Dyddiadur." B. WILLIAMS.
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
Genedigaethau, Priodasau, &c. BALIKU SYLW.—Ein telerau am cyhoeddi Barddoniaeth yn sysylltiedisf a iiancs Genedigaeth, t'riodas, neu Farwolaeth yw tair ceiniog y llinell. PRIODASAU. MORRIS-WILLIAMS.—Gorphenaf 12fed, yn Hireb, Llwydcoed, gan y Parch W. S. Davies, gweinidog, Mr Daniel Morris, Llwydcoed, a Miss Mary Anne Williams, Aberaman. Gan mai hon oedd y briodas gyntaf yn y capel, cyflwynwyd i'r par ieuanc Feibl hardd gan Mr Morris Phillips, ar r.n yr eglwys. Gwnaeth hefyd anerchiad tra phriodol wrth ei gyflwyno. MARWOLAETHAU. HUGHES.—Gorphenaf 13eg, ar ol hir nychdod, yn mlodau ei dyddiau, Miss Elenora Hughes, Plas Newydd, Llanarmon-yn lal. Hi ydoedd plentyn ieuengaf Huah a Louisa Hughes, y rhai svdd yn y bedd er's blynyddoedd. Chwaer iddi ydyw Mrs Mary Roberts, National School, Llanddulas. Cladd- wyd hi yn mynwent eg-lwys y pUyf, Llandegla. SMITH.—Gorphenaf 3ydd, ar ol pedwar mis o gystudd trwm, Miss Marv Jane Smith, merch Mr a Mrs Smith, Wallace Newydd, ger Wenvoe. Yn gyntaf cafodd y tyhoid fever, a thrwy nad oedd yn meddn cyfanso ldiajJ cryf, darfu i hwnw droi yn ddarfodedig- aetb. Bu meddygon goreu Caerdydd yn gweini arni, sef Dr Edwards a Dr Price, ac ni chafodd neb erioei well nurse. Yr oedd ei mam yn ei hymyl ddydd a nos yn ceisio ysgafnhau ei dolnr a lleddfu ei phoenau, a pha beth bynag ei chalon yr oedd yn ei gael. Ni chafodd angeu erioed fwy o wrthwynebiad i tryflawni ei ddinystr, ond er y cwbl efeaorchfygodd. Yr oedd fel pe byddai yn herio pob medr a gofal. Yr oedd Miss Smith yn un o'r mercbed mwyaf tyner, anwyl, a charedigr; hoffil a cherid hi gan bawb, ac i mi bydd y Wallace yn wag iawn hebddi. Yr oedd ei chymeriad yn ddiargyhoedd, ac yr oedd ei ffyddlon- deb a'i hnfudd dod i'w rhieni yn ei gwneyd yn anwyl iawn ganddynt, ac ergyd trwm iddynt oedd ei cholii; ond yr oedd yn gysur mawr iddyntei chlywed yn dywedyd mor gryf cyn marw ei bod yn credu yn Nghrist, ac yn ymddiried yn Nuw. Yr hwn sydd yn credu yi of fi ni ddemnir." Gall y cyfeillion yma ddywedyd, "Ton ar don sydd yn ein cnro." Nid oes ond blwyddyn a naw mis er pan bn farw yr anwyl Mrs Thomas, eu merch hen tf. Nid oedd hi ond 32 oe), a dyma Mary Jdne wedi ei chymeryd eto pan nad oedd ond 21 oed. Gallasai y ddwy gyda phriodoldeb weddio gweddi y Salmydd, 0 Ddnw. na chymer fi ymaith yn nghanol fy nyddiau." Mae rh igluniaeth y Nefoedd yn dywyll iawn i ni. Ai nid mwy priodol fyddai cymervd ymaith rhyw hen geubren sydd yn diffrwytho y tir, na chymoryd ymaith y ddau flodeuyn prydferth a dymunol hyn ? "Yr hyn yr wyf fi yn ei wneuthur yr awr hon ni wyddoch chwi, eithr chwi a gewch wybod ar ol hyn." Cofied y cyfeillion mai y neb y mae yr Arglwydd yn ei garu y mae yn ei geryddu. Claddwyd hi y dydd Mawrth caiilydol wrth gapel Carmel, Tresimwn. Cafodd un o'r angladdau mwyaf lluosog a pharchus a we'som erioed. Yr oedd ynddo 45 o gerbydau, ao amryw yn marchogaeth, a liu mawr ar draed yn en cwrdd wrth Carmel. Yr oedd yn gysur mawr i'r teulu weled y fath barch a chydymdeiu lad yn cael ei ddan^os tuag atynt. Yr oed I yr arch wedi ei gorchuddio a wreaths ardderchog, pa rai oeddent wedi eu gwneyd gan gyfeillesau yr ymadawedig. Yn y ty cyn cychwyn, darllen *yd a gweddiwyd gan y Parch D. G. Rees, Eulwysnewydd, ac yn y capel gan y Parch J. Davies, Taihirion. Dywedodd yr ysgrifenydd ychydig oddiwrth y yeiriau, Aethum yn fud, ac nid agorais fy ngenau: cynys ti a wnai thost hyn." Ar Jàn y bedd, siaradodd y Parch W. I Morns, Pontypridd, a gwe loïodd y Parch W. C. Davies, Llantrisant. Hefyd, gwelsom yno y Parch W. Jenkins (M.C.), Tyddewi, a Caplan Tloty Caerdydd Mri Stone, cyn-faer Caerdydd Howells.. Jenkins, &c., &c. Huned btllach yn dawel hyd foreu caniad yr udgorn Ni ddaw hi atom ni mwyacb, ond nyni a awn ati hi.—W. E. Evans.
" PECHADURIAID PREGETHWROL…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
gwelir eu gwyneban siriol hwy yno. Bydd y gynadl. edd yn dechteu am ddeg o'r gloch yn y boreu, neu ddau o'r gloch prydnawn deuant hwythau yno erbyn y cwrdd dilynol. Dian mai nid ofn y gynadledd, h.y., ofn nad allant hwy ddim shinio' mewn gwybodaeth, hyfforddiant, na wit yw yr achos na byddan t hwy yno. Ef .llai mai heb gredu yn lies ymavferol y dull presenol o gynal eynadledd y maent, ie, efallai mai wrth edrych ar y dull baldorddus, cwmpasog, a dibwynt o siarad sydd ynddynt; edrych ar y rifres penderfyniadau piff a wreir ynddynt, a'r sy!w p'ffiach a roddir gan fyd ac eglwys iddynt drachefn, ar ol yr holl sway efallai mai rhywbeth fel yna yw y rheswm am eu habsenoldeb yma; ond boed hyny y peth y bo, ystyrir y rhai hyn yn un o ddosbarthiadau pechaduriaid y Cwrdd Chwarterol. 2. Yr Hunandrefnivyr, h.y., y rhai sydd yn dyweyd pryd y gallant ae y gwnant hwy bregethu yno. Trefn y Cwrdd Chwarterol yw, fod gwei idog y lie y cynelir ef i benodi pwy a pha bryd y mae pob un i bregethu ac oherwydd hyn gwelir yr hnnandrêfnwr a'r trefnwr awdurdodedig yn myned i wrthdarawiad â'u gilydd, ac felly pethau chwithig yn cymeryd lie. Ar ol eynadledd y boreu clywir gweinidog y lie yn dyweyd fod Mr —, a Mr —, a Mr —, i brelethu am ddau o'r gloch ond erbyn dau o'r gloch nid yr oil o'r personau a gyhoeddwyd a welir ger bron y gynulleidfa yn myned i lefaru nid personau llai de' byniol, dichon, ond efallai persouau mwy derbyniol. Wei, pa fodd y bu y cyf- newidiad hwn ? Yn fuan ar ol i'r meistnaid cyntaf glywed eu henwau yn cael eu cyhoeddi, aeth mi ohon- ynt at y gweinidog; siaradodd yn gyfeillgar, dengar, a phruddaidd wrtho, a cheisiai ganddo newid d amser ef ibregethu. 'Ynwir,'meddai,'fedraf fi ddim preg- ethu am ddau o'r gloch.' Yna mae y gweinidog wedi myned i benbleth i geisio meddwl am rywun arall, Ilai hunano', mwy go'itynged g, a mwy am bregethu Crist i'r bobl na phregethu ei hunan. Mae yn taro wrtho, yn gofyn iddo, a yn cael addewid ganddo yn y fan, er ei fod yn gwybod mai ymwrthodiad brawd aralt fu yn achlysnr iddo ef gael cynyg y tro hwnw. Dichon fod dau o'r gloch yn drymaidd ond ymresymir, os yw felly i un, y mae felly i bob un; ac felly y daw yr hunandrefnwyr hyn ar eu hamser i bregethu yn un dosbarth o bechaduriaid y Cwrdd Chwarterol. 3. Y Cynar-fynedwyr, sef y rhai a ymadawant yn mhell cyn y bydd y cwrdd drosodd. Wedi i'r cwrdd deg o'r gloch fyned drosodd, gwelir eeffylau a traps llawer ohonynt yn cael eu p Irotoi fel yr elont hwy ymaitli. Nid oes dim awydd arnynt hwy, fel oedd ar Pedr gynt, am gael' gweled y diwerld.' Ni welir yn y cwrdd dau and digon i'w gynal ef a'r chwech ae ni welir yn y cwrdd chwerh ond digon i'w gynal ef yn unig, oddieithr rhai troion eithriadol. Aeth rhai adref ar ol y cwrdd boreu gallasent fyne adref yn ddy- munol ar ol y cwrdd dau. Aeth rhai adref ar ol y cwrdd dau yr oedd rhai mor belled a hwythau yn myned adret ar ol y cwrdd chwech. Gallasent hwythau fyned pe buasai taro mawr. Rhaid ystyiied y cyfryw yn ddiamheu, Did yn unig yn bechaduriaid yn erbyn gweddeidd-dra cymdeithasol, ond hefyd yn erbyn dylanwad crefyddol ac ysbrydol y cyfarfodydd. Teimla llawer yn y gynulleidfa fel hyn :-Os yw y pregethwyr yn cael mwyfihad ysbrydol mewn addoli Duw yn gyhoeddus, er mwyn Duw ei hun, ei waith, cymdeithas y frawdoliaeth, a lies ereill, peth ihyfedd eu bod gymaint am fyned oddiyma pan y dibenant hwy a'u rhan gyhoeddus. Nid oes tuedd yn hyn i wneyd coelgrefyddwyr yn ddiamheu. A oes dim tuedd ynddo i wneyd anffyddwyr p Dywedwn am hyn fel y dywedwyd am fater arall, Darfydded y pechad- uriaid o'r t r.' "Y mae y diweddariaid yn pechu yn erbyn hwyijs. dod y gynadledd; mae yr hunandrefnwyr yn pechu yn erbyn gweinidog y He, yn fwyaf neillduol; y mae y cynar-ymadawyr yn pechu yn erbyn dylanwad ysbrydol y cyfarfod ar feddyliau y gynulleidfa. Os ;w y gy- nadledd yn gleberddog, &s,, gall wneyd daiotii i'r ieu- anc a'r hen er hyny Os yw y cwrdd dau o'r gloch yn drymaidd, gwell ymostwng i'r dynged yn 01 tiefniant gweinidog y lie. Os ywyn well gan ddyn gysgu gar- tref nos ddiweddaf y cwrdd, arosed yuo er mwyn y dylanwad ysbrydol all fod oddiwrth ei bresenoldeb a'i Amen.—Ydwyf, LLYGAD CLUST CALON."