Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

YR YSGOL SABBGTHOL.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

YR YSGOL SABBGTHOL. Y WERS RHYNGWLADWRIAETHOL. (International lesson.) GAN Y PARCH. D. OLIVER, TREFFYNON. GORPHENAF 20fed. — Cyfamod Duw a Dafydd. — 2 Sam. vii. 1-16. Y TESTYN EURAIDD. A'th dy di a sicrheir, a'th freniniaeth, yn dragywydd o'th flaeu di: dy oisedd- fainc a sicrheir byth."—Adnod 16. RHAGARWEINIOL. YR oedd gofal Dafydd am yr arch yn fawr iawn. Weai ei dwyn i fewn i Jerusalem, yn nghanol rhwysg a llilwenydd, y mae yn ei gosod yn ei lie yn n^hauo! y b.bell, yr hon a osodas.ii Dafydd iddi (pen. vi. 17). Ond nid oedd yn foddlon ar babell i fod yn breswylfa i arch Dnw, ewyllysiai adeiladu teml, neu dy parhaus iddi. Yr oedd wedi adeiladu palas iddo ei hun, a dinas i'w weision, ac ni theimlai yn foddl,niwn adael arch Duw mewn pabell. Ymgynghorodd & Nathan, ac e. Inroad iddo ei fwriad. Ymddengys ei fwriad yn ganmoladwy i Nathan, ac y mae yn eymeradwyo y brenin. Ond y noson hone hysb/sodd vr Arylwydd Nathan nad oedd Dafydd i fyned yn rrslaen gyi'a'i fwriad i adeiladu ty iddo, ac y mae yn cael gorchymyn i hysbysu hvny i'r brenin. Y mae yr Arglwydd yn canmol amcan Dafydd 110 yn sicrbau iddo y byddai i'w fab adeiladu ty. Gwel 1 Bren. viii. 18,19. Y mae gwaith arall wedi ei ben- derfynu i Dafydd ei wneyd, yr hwn y rhaid iddo ei wneyd yn flaenaf. Y mae yn rh) felwr, a rhaid iddo ef helaethn terfynau Israel, trwy ddwyn yn mlaen eu buddugoliaethau. Y mae yn Salmydd peraidd, a rbaid iddo ef barotoi Salmau er gwasanaeth y deml, a threfnu cylchddyddiau y Lefiaid ond bydd cywreinrwydd ei fab yn fwy addas er adeiladu y it, a bydd ganddo ef drysor gwell er dwyn ei draul. Megys y derbyniodd pob un ddawn, felly gweinydded." Bwriadodd Dafydd adeiladu ty i Dduw, ac yn daledigaeth am ei fwriad, y mae Duw yn addaw adeiladu Iy iddo ef, ac y sicrheir ei had ef ar ei ol. Pa beth bynag yr ydym yn wneyd dros Dduw, nen yn ddiffuant yn fwriadu wneuthur, er fod rhagluniaeth yn rhwystro ein gwneuthuriad ohono, ni chawn mewn un modd golli ein gwobr. ESBONIADOL. Adnod 1.—" A pban eisteddodd y brenin yn ei dy, a rhodJi o'r Arglwydd lonydd iddo ef rhag ei holl elyn- ion oddiamgylcb." Ni ellir penderfynu i sicrwydd pa mor fuan ar ol dyfodiad yr arch i Jerusalem y pender- fynodd Dafydd adeiladu ty iddi. Tyhia rhai mai yn mhen tua blwyddyn. A phan eisteddodd-trigo neu breswylio yn ei dy—sef y palasdy yr oedd wedi adeil. adu iddo ei hun. A rhoddi o'r Arglwydd lonydd iddo ef, te. Ar ol y rhyfeloedd a gofnodir yn penod viii. Yr oedd teulu Saul a'r Philistiaid wedi eu gortb- rechu. Nid ydyw trefniad yr banes yn y Ilyfr wedi ei roddi i lawr yn amseryddol. Rhoddir hanes bwri d Dafydd ar ol hanes dyfodiad yr arch fynydd Seion. Wedi i Dafydd gael llonyddwch oddiwrth ei elyn ion, y mae yn dechreu meddwi am ei rwymedigaeth i Dduw. Tybir fod Salm cxxxii. yn arddangos ei deimlad yr adeg yma. Adnod 2.—" Yna y dywedodrl y brenin wrth Nathan y proffwyd, Wele yn awr, fi yn preswylio mewn ty 0 gedrwydd, ac arch Dnw yn aros o fewn y cortynau Nathan y proffwyd. Gelwir ef y proffwyd i'w wahan- iaethu oddiwrth Gad y gwyliedydd. Dytid cofio hefyd nad yr un ydyw a jNathan mab Dafydd. Dyma'r eyf. eiriad cyntaf sydd genym at Nathan. 0 fewn y cor- tynau-neu y lleni. Yr oedd Duw weii addaw dewis lie iddo ei hun, lie y gelwid ar ei enw, pan fyddai ei bobl wedi ymaefydlu yn Nhir vr Addewid a meldyl- i Ii Dafvdd fod yr amser hwnw wedi dyfod am hyny, efe a fwriadodd adeiladu teml i'r Arglwydd, onddewis- ai ymgynghori a Nathan yn gyntaf. Adnod 3 A Nathan a d^ywedodd wrth y brenin, Dos, gwna yr hyn oil sydd yn dy galon canys yr Arglwydd sydJ gyda thi." Dos. Yn gyfystyr a da iawn, neu eithaf da. Gwna, yr hyn oil sydd yn dy galon. Y mae y proffwyd yn llefaru ei deimlad personol, ac nid yn ol cyfarwyddyd. Yr oedd y peth yn ymddangos mor briodol, fel y dywed y proffwyd, Canys yr Arglwydd sydd gyda thi." Adnod 4. A bn y noson hono i air yr Arglwydd ddyfod at Nathan, gan ddyweJyd." Y noson hono, sef y noson y dydd y bu y brenin yn ymddyddan a'r proffwyd. Daeth gair yr Arglwydd i. Nathan mewn gweledigaeth (17). Yr un liosvaith, fel.na fyddai i Nathan barhau ya bir mewn camsynied, nac i Dafydd lanw ei feddwl a chynlluniau na chai byth en dwyn i ben. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng syniad personol Nathan a'r gair yr oedd i'w draethu i'r brenin oddi- wrth yr Arglwydd. Gallasai Duw ddywedyd hyn wrth Dafydd yn uniongyrchol, ond dewisodd ei anfon trwy Nathan, er cynal anrhydedd ei broffwydi, a chadw Dafydd mewn parch iddynt." Adnod 5—"Dos, a dywed wrth fy ngwas Dafydd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ai iydi a adeilei i mi dy, lie y cyfaneddwyf fi P" Y mae y genadwri yn cael ei hanfon me, n ffurf o ofyniad, ond yn cynwys gwa- harddiad. Yn 1 Chron. xvii. 4, darllenir, Nid aieil- edi di i mi dy i breswylio ynddo." Adnod 6.—" Canys ni t arosais mewn ty, er y dydd yr arweiniais Mitnt Israel o'r Aipht hyd y dydd hwn, eithr bum yn rbodio mewn pabell ac mown tabernacl." Ceir yma, y rbesymau paham na chawsai Dafydd adeiladu ty. Nid oedd dim yn neillduol yn galw am i dy gael ei adeiladu. Nid oedd crefydd yn dibynu ar demlqu. Y one Duw yn gallu amlygu ei nerth a'i ogoniant heb gvnortliwyon o'r natur yma. Yr oedd pabell wedi gwasanaethu hyd yn hyn, ac yn ystod yr adeg yna yr oedd Duw mewn modd neillduol wedi am- lvgu ei hun i'w bobl. Yn rhodio, yn cyfeirio at sy- mudiad mynvch yr arch yn nyddiau y Barnwyr. Pabell, yn golygu y lleni, neu y crwyn oedd yn gor- chuddio yr arch. Tabernacl, yn dynodi yr ategwaith (framework) o goeJ a bariau. Adnod 7.—" Yn mha le bynag y rhodiais gyda holl feibion Israel, a yngenais i air wrth un o lwythau Israel, i'r rhai y gorchymynais borthi fy mhobl Israel, gan ddywedyd. Paham nad adeiladasoch i rai dy o gedrwydd P" Ni ddylai gwaith mor fawr gael ei wneyd heb orchymyn pendant oddiwrth Duw. Nid oedd Daw wedi rhoddi gorchymyn. Ffrwyth teimlad per. sonol oedd, a eallai yr awydd am anrhydedd fod yn gryfach na'r teimlad i ogoneddu Duw. Un o hvythau Israel, sef un o'r Barnwyr. Dy o gedrwlIdd-ty drud/awr. Nid ydym i feddwl fo<i yr Arglwydd yn beio Dafydd yn y rhesymau hyn. Adnod 8.—" Ac yn awr fel hyn y dywedi wrth fy ngwas Dafydd Fel hyn y dywed Arglwydd y llnoedd, Myfi a'th gymerais di o'r gorlan, oddiar ol y praidd, i fod yn flaenor ar ty mhobl, ar Israel." Yr oedd bywyd Dafydd mewn modd neillduol hyd yn hyn, wedi bod dan arweiniad Duw. Yr oedd wedi ei godi o fod yn fugail i fod yn flaenor ar Israel. Y r oedd hyny yn sicrwydd iddo o fodcilonrwvdd Duw, ac y gallasai ym- ddiried ynddo am y dyfodol. Er na chafodd ei ddy- muniad y mae Duw yn sicrhau iddo ei foddlonrwydd. Adnod 9.—"A bum gyda thi yn mha le bynag y rhodiaist; torais ymaith hefyd dy holl elyniori di o'th flaen, a gwnaethnm enw mawr i ti, mpgys enw y rbai mwyaf ar y ddaear." A bum gyda thi, i'w amddiffyn pan yn cael ei prlid ac i'w lwyddo pan yn ymlid. Torais ymaith hefyd dy holl elynion, y rhai a safent ar ffotdd ei ddyrchafiad. Cyfeirir yn neillduol at Saul a'r rhai a gydymdeimlai ag ef. Gwnaethum enw mawr i ti. Cafodd ei goroni;ag anrhydedd neillduol, ac a dylanwad mawr yn mysg y cenedloedd oddi- amgylch. Adnod 10.— (" Gosodaf hefyd i'm pobl Israel le; a phlanaf ef, fel y trijjo efe yn ei le ei hun, ac na symudo mwyach a meibion anwiredd ni chwanegant ei gys- tuddio ef, megys gynt." Dylid darl en yr adnod hon yn yr amser mynedol, ac nid y dyfodol, gan ei bod yn cynwys adroddiad o'r hyn a wnaethai Dnw er Israel eisoes. Gosodaf hefyd i'm pobl Israel le, neu gosod- aist, sef gwlad Canaan. A phlanaf ef, tc., neu, a plilenais ef. Ac na symudo. Cadwodd Duw ei addewid tva parhaodd y genedl yn ffyddlon iddo. Ar ol hyny collasant eu rhajorfreintiau oherwydd eu han- ffydJlondeb. Megys gynt. Cyfeirio at eu caethiwed yn yr Aipht. Adnod 11.—"Sef er y dydd yr ordeiniais i farnwyr ar fy mhobl Israel, ac y rhoddais lonyddwch i ti oddi wrth dy holl elynion, a'r Arglwydd sydd yn mynegi i ti, y gwna efe dy i ti." Nid oes angen am y gair sef. Gynt, yn cyfeirio at ddechreuad hanes y genedl yn yr Aipht. Er y dydd, &c. Yn cyfeirio at y gorthrym- derau a brofasant yn nyddiau y Barnwyr hyd adeg Dafydd. Yu a, r, mewn cyferbyniad i'r adegau hyny, Rhoddais lonyddwch i ti oddiwrth dy holt elynion." A'r Arglivydd sydd yn mynegi, neu a fynegodd i ti -trwy y proffwyd Samuel. Tý, yn golygu ei awdurdod fel brenin yn Israel. Y mae yr Arglwydd yn cadarn- hau iddo lwyddiant a sefydlogrwydd fel brenin. Trwy hyn oil sicrha yr Arglwydd i Dafydd ei fod yn anwyl ganddo, er na chaffai adeiladu ty iddo, fel yr oedd yn dymuno. Adrod 12.—" A phan gyflawner dy ddyddiau di, a huno ohonot gyda'th dadau, mi a gyfodaf dy had di ar dy ol, yr h-n a ddiw allan o'th ymysgaroeid di, a mi a gadarnhaf ei freniniaeth ef." Wedi cyfeirio meddwl y brenin at y trngareddau a'r rhagorfreintiau yr oedd eisoes wedi eu mwynhau, y mae y proffwyd yn rhdg- hysbysu bendith neillduol iddo et He i'w had. Mi a gyfodaf dy had di ar dy ol di. Yn gyntaf Solomon, ac yua disgynyddion Dafvdd, ond yn benaf Crist, yn yr hwn. y mae y broffwydoliaeth yn cyrbaedd ei hystyr uchaf. Gwêl Luc i. 31-33; Actau ii. 29 31 xiii. 22,23. Adnod 13.—" Efe a adeilada dy i'm benw i minau a gadarnbaf orseddfiinc ei freniniaeth ef byth." Efe, sef Solomon mewn cyferbyniad i Dafydd. Yn ystod teyrnasiad Solomon, cafodd y genedl lonyddwch oddi- wrth ryfeloedd gwaedlyd. Am Dafydd dywedir, Gwaed lawer a dywelltaijt ti, a rhyfeloedd mawrion a wnaethost ti nid adeiledi di dy i'm henw i, canys," &c. 1 Chron. xxii. 8. I'm henw i. Y mae enw Duw yn g-olygu Dnw yn y datgudriiad y mae wedi ti roddi ohono ei hun. Ei freniniaeth ef byth. Y mae y gair byth yma, ac yn adnod 16, yn amlwg ddangos fod cyf- eiriad y broffwydoliaeth at freniniaeth yr Arglwydd Iesu AdnoJ 14. Vfyfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntan fydd i mi yn fab, Os trosedda efe, mi a'i ceryddaf a gwialen ddynol, ac a dyrnodiau meibion dynion." Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, &c. Hyn yn golygu ei gy- meryd i gyfamod mabwysiad. Perthynai y cytamod i Solomon, ac i ddisgynyddion Dafydd, y rhai a fyddent yn freninoedd, i'r Arglwydd Iesu mewn modd neill- duol, ae i bawb a dderbynient Grist tel y Messiah. Ac yntau a fydd i mi ynfab. Yn golygu ufudd-dod ac j ymostynjiad, yn gystal a chariad at Dduw fel tad. Y mae yr addewid yn llefaru megys wrth feibion, ohleorid y mae hefyd yn cynwys cprydd am anufudd-dod, ond ttwialen ddynol fuasai-y fath wiilen a arfera tad at ei blentyn, nid yw ddyfetha, ond gyd:i'r amean i'w wella. Adnod 15.—" Ond fy nhrugaredd nid ymedy aj of, naegys ag y tynais hi oddiwrth Saul, yr hwn a fwriais ymaith o'th flaen di." "Yr oedd gwrthgiliad y dear llwyth oddiwrth dy Dafydd, yn gerydd iddynt am ea hanwiredd, ond gwnaetb ymlyniad diysgog y ddan ereill wrth y teulu, barhau truaaredd Duw i had Dafydd, yn ol yr addewid hon. Yn y gwrtbryfelhwnw ni thorwyd ef ymai'h, megys y gwnawd i deulu Saul. Ni lywiodd un teulu arill erioed deyrnwialen Judah, ond teulu Dafydd." Wrth drugaredd yn y fan yma, golygir yn flaenaf etifeddiaeth meibion. Yr oedd y cytamod hwn yn gysgod o gyfamod y prynedigaeth a. gras. Adnod 16.—" A'th dy a sicrheir, a'th freniniaeth yn dragywydd o'th flaen di: dy orseddfainc a sicrheir byth." Y mae y geiriau hyn yn amlwg ddangos lod cyfeiriad eithaf y broffwydoliaeth at freniniaeth yr Arglwydd Iesu. Nis gellir, y mae yn wir, gymhwyso y dyb o wneuthur anwiredd at y Messiah ei hun, ond y mae yn gymhwysiadol at ei had ysbrydol. Cint en ceryddu, ond ni chant eu bwrw ymaith." Breniniaetb y Messiah yn unig sydd yn dragywyddol. GWERSI. Y mae Duw yn cymeradwyo pob awydd i'w ozou- eddu, er bwyrach na fydd yr amgylchiadau yn fanteis- iol i adwyn yr awydd i weifchrediad ymarferol. Rhpol Dnw i farnu nodwedd cymeriad dyn ydyw nid yn ol swm ei weithredoedd, ond yn ol egwyddorion ei galon, a'r duedd sydd yn llywodraethu ei feddwl. Bydd y Ctistion ynamt yn methu dwyn i weithred- iad ei fwriadau, ac yn ca.el ei siomi yn nghyflawniad ei waith, er hyny y mall yr ymdrech yn sicrhau iddo foddlonrwydd Duw a bendithion ysbrydol. Yr oedd y cyfamod a wnaeth Duw S, Dafydd ac &'i had yn aysgod o gyfamod y prynedigaeth yn Nirhrisfc lesu. "Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab." Y mae breniniaeth yr Arglwydd Iesu yn freniniaeth dragywyddol, a'i orseddfainc i'w sicihau byth. GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. Pa beth g-ymhellodd Dafydd i ewyllysio adeilada tf i'r Arglwydd ? 2. Pwy oedd Nathan, a pha fodd y mae ef ar y cyn- tat yn cymeradwyo bwriad Dafydd ? 3. Paham yr ataliwyd Dafydd i gario allan ei fwriad P 4. A oedd yr Arglwydd yn eymeradwyo bwriad Dafydd ? Pa fodd yr amlygodd hyny iddo ? 5. Beth ydyw ystyr y cyfamod a wnaeth Duw â. Dafydd, Be a'i had ? 6. Profwch ei fod yn cyfeirio at freniniaeth yr Arglwydd lesn. 7. Eglurwch y modd y mae y cyfamod hwn yn gys- god o gyfamod y prynedigaeth rhwng Duw a'i bobl yn Nghrist tesu.

Newyddion Cyffredinol.

Advertising