Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

I DADGYSYLLTIAD YR EGLWYS…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DADGYSYLLTIAD YR EGLWYS YN NGHYMRU. CYFARFOD YN LLWYNYPIA. Nos Fawrtb, Gorphenaf 8fed, yn addoldy y Methodistiaid Calfinaidd, cynaliwyd cyfarfod cy- hoeddus yn nglyn a'r ysgogiad hwn. Y prif siar- adwroedd y Paicb John Thomas, D.D., Liverpool. Cymerwyd y gadair gan Mr THOMAS WILLIAMS, Y.H., Gwaelod-y-garth, Merthyr Tydfil, yr hwn wrth agor y cyfarfod a draddododd araeth hynod frwdfrydig. Wedi sylwi ychydig ar syifac-aiad Cymdeitbas y Dadgysylltiad ddeugain mlynedd yn ol, dangosai fod cyeylltiad yr Eglwys a'r Wladwriaetb yn gwbl groes i'r Ysgrythyrau Sanctaidd. Yna dadleuai fod yr Eglwys wedi methu yn ei chenadaeth yn Nghymru, er iddi gael prawf o 350 mlynedd i hyny. Wedi mynegi ei gred fod teimlad y cyboedd yn N ghymru yn addfed i gael y cwestiwn yn bwnc ymdrafod, dat- ganai yn groew fod yn rhaid i'r Cyrnry oil gael eu gosod ar yr un platfform o ryddid crefyddol cyn y sicrheir cydweithrediad yn eu plith. Ni cheid gwared o ysbryd erledigaeth cyn y diddymid yn hollol bob uchafiaeth crefyddol. Dr THOMAS, wrth gyfodi, a ddywedai mai da oedd ganddo gael cyfle just am unwaith i ddwyn tystiolaeth o blaid yr amcan oedd ganddo mewn golwg. Yr oedd yn bwnc anhawdd, ac yr oedd eisieu ei gymeryd mewn pwyll, a'i ddeall yn drwyadl. Rhaid oedd wrth amynedd wrth bwyso y cwestiwn. Rhwng. dyfalbar had y Sais a than y Cymro llwyddid yn y diwedd. Cymerai olwg ar ddwy wedd y ewestiwn-y grefyddol a'r wleid- yddol. Ymddangosai y wedd grefyddol iddo ef yn glir iawn. Peth rhwng Duw a dyn ydoedd crefydd. Nid oedd dim hawl gan neb i fyned rhyngddynt. Amcan llywodraeth wladol ydoedd amddiffyn deiliaid-eu personau a'u meddianau, a dyogelu i bawb yr un hawliau gwladol. Beth ydoedd eglwys sefydledig, nis gallasai ddyweyd. Beth ydoedd Eglwys Crist, gallasai ddyweyd. Cynulleidfa o gledinwyr yn cyfarfod a'u gilydd yn yr un lie i gario achos Crist yn mlaen. Yr oedd dwy elfen yn hanfodol i gyfansoddiad eglwysig — rhyddid a hunan-lywodraeth. Nid oedd hunan-lywodraeth yn yr Eglwys. Yr oedd nawddogaeth yr Eglwys yn y Goroti—yr awdur- dod yn y Senedd. Nid oedd yr Eglwys Sefydledig ddim ond y Llywodraeth yn y wedd grefyddol arni. Y Llywodraeth oedd biau y meddianau. Yr oedd yr holl fywioliaethau a'r degymau yn eiddo iddi. Yr oedd dadl yn bod yn nghylch y gwadd- oliadau hynafol. Eu pwnc hwy, fel gwlad, oedd dwyn y Senedd yn addfed i'r gwaith, ac fe setla hithau pwy biau y meddianau. Yr oedd yr Eglwys yn Nghymru wedi profi yn fethiaut— tffaelu a sicrhau y bobl yn feddiant iddi. Dywedid fod yr Eglwys am gael y bobl yn ol. Ni fu y bobl erioed yn yr Eglwys casglwyd hwynt oddiallan iddi, oddiwrth ofergampau, &c. Am gan' mlyn- edd wedi y Diwygiad Protestanaidd, ni wnaeth yr Eglwys Sefydledig ddim i efengyleiddio y wlad. f. Yr oedd ystad Cymru yn grefyddol yn waeth nag oedd yn nechreu y Diwygiad. Yn y ganrif gan- lynol, ni wnaeth yr Eglwys odid ddim, dywedai fwy, ni wnaeth ddim y cwbl a wnaed, cafodd ei wneyd gan yr Ymneillduwyr, llawer o ba rai, oherwydd eu purdeb a'u hymlyniad wrth y gwir- ionedd, a drowyd allan o'r Eglwys, ac a erlidiwyd gan y cyfreithiau creulawn a basiwyd yn union- gyrchol i'w herbyn hwy. Yn y trydydd canrif, gan ddechreu gyda chyfodiad y Methodist'aid, gwnaed llawer o waith gan ddynion oedd yn dwyn cysylltiad a'r Eglwys, ond gwnaed ef yn groes i'w chyfreithiap, ac yn wyneb y dirmyg mwyaf oddi- wrth awdurdodau yr Eglwys. Ni chafodd y tadau Methodistaidd-Rowlands, Llangeitho, ac ereill, chwerwach gelynion na ehlerigwyr yr Eglwys Sefydledig. Haner can' mlynedd yn ol, wedi cael 300 mlynedd o brawF, nid oedd dim deg-ar- hugaino gynulleidfaoedd gan yr Eglwys yn holl Gymru yn rhifo cant ac uchod o bobl. Cydna- byddai yn galonog y cyfnewidiad mawr a fn ami yn ystod yr hauer can' mlynedd diweddaf, yn fwy neillduol, yn ystod y pum' mlynedd ar hugain di- weddaf. Deffroad damweiniol ydoedd h wn w. Nid cynyrch bywyd crefyddol yn yr Eglwys ydoedd, ond cynyreh symbyliad cydymdrech Ymneilldu- aeth. Yn y dyddiau hyn, He mae Ymneillduaeth fwyaf digynhwrf mae'r Eglwys fwyaf digyehwyn. Yr oedd yr Eglwys wedi methu dyogelu un- ffurfiaeth golygiadau ar wirioneddau yr Efengyl. Llenwid hi gan ymraniadau. Yr oedd llawer ilai o gvtundeb rhwng y pleidiau o'i mewn nag oedd rhwng y gwahanol gyfundebau Ymneillduol. Mewn un peth yr oedd undeb yn weladwy iawn ynddi-Pabyddiaeth mewn arferion defodol yn cydymagweddu a bi-,r Y fuwch hefyd a'r arth a borant yn nghyd." Yn boll hanes Ymneillduaetb Cymru, nis gwyddai efe ond am un gwr a ym- adawodd ac a aeth drosodd yn uniongyrcbol i Eglwys Rhufain. Dangosai fod yr Eglwys bob amser yn erbyn rhyddid y bobl. Yr oedd erledig- aetb yn gwbl gysonachrefydd sefydledig'. Tra y byddai crefydd sefydledig, nid oedd Ymneill- duaeth i fod. Fod y wlad yn graddol ymddatod oddiwrth lefifetheiriau yr ormes hon. Fod pedair stage i'r diwygiadau hyn. Fod yr ergyd i'r Eglwys Sefydledig a roddwyd trwy basio y deddfau goddefol i derfynn yn rbywlc-yr oedd y deddfau hyny yn addefiad fod y gefyllfa o'r blaen yn anheg. Fod eu brwydr ya sicr o droi o'u til yn hwyr neu hwyracb, oblegid wedi dyogelu rhyddid crefyddol, ni orpbwysid bellach nes enill yearn nesaf—cydraddoldeb, perffaith ryddid. Ymadawodd y Cadeirydd, gan fyned adref, cyn terfyn y cyfarfod, a chymerwyd ei le ga.n Mr J. GRIFFITH, Porth, yr hWD, wrtil ddwyn y cyfarfod i ben, a wnaeth rai sylwadau ar waith pwyllgor Dadgysylltiol y Rhondda. Gosododdgereinbron y ffugyrau a gasglwyd yn adeg y cyfrifiad crefyddol a wnaed ychydig amser yn ol ar gynull- eidfaoedd Cwm Rhondda. Nifery rhai Ymneill- duol foreu a hwyr y Sul hwnw ydoedd 55,661; nifer yr Eglwyswyr, 3,949. Yr oedd deiseb anferth o fawr i'w daafon o'r Rhondda. i'r Senedd i gynorthwyo cynygiad Mr Dillwyn. Mesurai ddeuddeg chain, a chynwysai 23,000 o enwau. Wedi i'r Cadeirydd gynyg diolchgarwch i'r Darlithydd, ac i'r Parch E. Richards, Tonypandy, ei eilio, a chyplysu enw y Cadeirydd yn y cynyg- iad, cariwydlef drwy i'r dorf godi ar eu traed a dangos unfrydedd calonog.

CEINEWYDD,

Advertising

TYWALLT GWAED YN NGHYMRU.

YR APOSTOL PAUL YN NGHYMRU!